Agenda item

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.

 

Cofnodion:

Gwrthdaro Wcráin/Rwsia:

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y sefyllfa echrydus bresennol yn Wcráin wrth i’r ymosodiad direswm o’r wlad barhau i waethygu, ac felly’r argyfwng dyngarol enbyd a olygodd fod bron filiwn o bobl wedi eu hadleoli yn y saith diwrnod cyntaf ac yn awr mae dwy filiwn o ffoaduriaid wedi ffoi o Wcráin ar ôl dwy wythnos ac yn anffodus rhagwelir y bydd y sefyllfa hon yn parhau cyhyd ag y bydd y rhyfel.

 

Aeth ymlaen drwy ddweud fod meddyliau gyda phawb y mae’r sefyllfa wedi effeithio arnynt a’r wythnos ddiwethaf cafodd adeilad y Swyddfa Gyffredinol ei oleuo yn lliwiau baner genedlaethol Wcráin i ddangos cefnogaeth y Fwrdeistref Sirol i bobl Wcráin.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn anodd ar y cam hwn rhagweld yn union beth fydd yn digwydd yn y cyfnod nesaf a sut y gall hyn effeithio ar y wlad ac yn wir gymunedau. Yn y dyddiau ac wythnosau i ddod, byddai gan bobl bryderon am effaith y rhyfel hon yn Wcráin a gartref a dywedodd y byddai’r Cyngor yn gwneud popeth a fedrai i gasglu a rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i breswylwyr.

 

Fel rhan o ymateb y gwasanaeth cyhoeddus roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) wedi cwrdd gyda Llywodraeth Cymru i ymchwilio opsiynau i sicrhau y gellid darparu cymorth yng Nghymru pan mae dinasyddion Wcráin yn dechrau cyrraedd. Ymhellach i hyn, mae arweinydd WLGA wedi ysgrifennu at Brif Weinidog  ac Ysgrifennydd Cartref y Deyrnas Unedig ar ran 22 awdurdod lleol Cymru yn mynegi pryder fod ymysg pethau eraill fod proses ailsefydlu ffoaduriaid yn y Deyrnas Unedig yn rhy gymhleth, cul a chyfyngol yn wahanol i wledydd cyfagos oedd wedi symud yn gyflym ac wedi symleiddio prosesau a llacio rheolau. Felly roedd Arweinydd WLGA wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried y sefyllfa bresennol a rhoddir gwybodaeth bellach maes o law pan fydd mwy o fanylion ar gael.

 

Roedd y Cynghorydd John Mason wedi galw cyfarfod, fel Cadeirydd y Gweithgor Ailsefydlu, ar 14 Mawrth i drafod y sefyllfa ddiweddaraf yng nghyswllt adsefydlu posibl pobl o Wcráin a threfniadau lleol, lle’r oedd yn sicr y byddai awgrymiadau am y paratoadau angenrheidiol pellach yn cael eu trafod a gobeithiai erbyn hynny y byddai mwy o wybodaeth wedi ei dderbyn gan WLGA. Yn ychwanegol, byddai’r Cyngor yn parhau i weithio’n agos gydag asiantaethau allweddol ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol i adolygu materion yn agos i sicrhau y gallai ymateb gystal ag y gallai i unrhyw oblygiadau sy’n codi ar gyfer cymunedau lleol.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y bu cyhoedd Cymru ac yn wir bobl a sefydliadau o fewn ei gymunedau ei hun yn hael iawn a diolchodd yn ddiffuant ar ran y Cyngor i bawb oedd wedi gwneud cyfraniad hyd yma. Bu pobl yn awyddus i gyfrannu a chefnogi pobl Wcráin, fodd bynnag roedd cyfrannu nwyddau yn achosi anawsterau logistaidd yma a thramor ac felly cafodd pobl oedd eisiau ac yn medru cyfrannu i wneud cyfraniad ariannol i apêl y Pwyllgor Argyfwng Trychineb ac mae’r Cyngor wedi cyhoeddi datganiad yn cyfleu’r neges hon a manylion perthnasol yr wythnos ddiwethaf.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau ei fod yn darparu £4m i gymorth dyngarol i Wcráin, a gyfrannwyd i’r Pwyllgor Argyfwng Trychineb, a gynrychiolodd 15 o elusennau mawr. Byddai dyrannu cyllid yn y ffordd hon yn sicrhau ei fod yn cyrraedd pawb sydd ei angen mor gyflym ac mor effeithiol ag sydd modd.

 

Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i ddynodi a chymryd camau ar unrhyw fuddsoddiadau a ddelir yn gysylltiedig gyda gwladwriaeth Rwsia. Yn nhermau Blaenau Gwent, nid oes gan y Cyngor unrhyw fuddsoddiadau uniongyrchol gyda busnesau neu sefydliadau ariannol Rwsia gan na fyddent ar hyn o bryd yn diwallu’r strategaeth osgoi risg o fuddsoddi mewn gwrth bartïon graddiad credyd uchel.

 

Yng nghyswllt Cronfa Pensiwn Gwent Fwyaf, ar sail cronfa (seiliedig ar brisiadau Ionawr 2022) mae agoredrwydd o tua 0.19% neu £7.14m ym marchnad Rwsia. Roedd Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi cyhoeddi datganiad cryf o fwriad i waredu’r Gronfa o’r buddsoddiadau hyn cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl.

 

Ar y pwynt hwn, dangosodd Aelodau a swyddogion mewn gweithred o gefnogaeth i Wcráin ac i bawb sy’n gysylltiedig â’r drychineb ofnadwy hwn ar ddwy ochr y gwrthdaro gyda munud o dawelwch.

 

Llongyfarchiadau:

 

Mynegwyd llongyfarchiadau i:

 

-       Mr a Mrs Annett o Waunlwyd oedd wedi dathlu 70fed pen-blwydd eu priodas ar 1 Mawrth.

 

Anfonwyd llythyr yn eu llongyfarchiadau.

 

-       Cynghorydd Clive Meredith sydd wedi cyfrannu ei 100fed peint o waed i Wasanaeth Gwaed Cymru.

 

Apêl y Cadeirydd – Banc Bwyd Blaenau Gwent:

 

Mynegodd y Cadeirydd ei gwerthfawrogiad i Aelodau a gyfrannodd i apêl Banc Bwyd Blaenau Gwent. Hyd yma codwyd dros £770 i gefnogi’r sefydliad a fu â rôl hanfodol ar draws y fwrdeistref i gefnogi pobl fregus drwy’r pandemig ac yn parhau i wneud hynny.