Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.
Cofnodion:
Cwestiwn Rhif 1
Derbyniwyd y cwestiwn dilynol gan y Cynghorydd Phil Edwards, Arweinydd y Gr?p Annibynnol Lleiafrifol, ac atebwyd gan y Cynghorydd Nigel Daniels, Arweinydd y Cyngor:
Cwestiwn:
Yn dilyn y datgeliad mewn cyfarfod diweddar y byddir yn gosod camerâu teledu CCTV yn yr Arcêd yn Abertyleri, a wnaiff yr Arweinydd esbonio o ble daeth y cyllid a phwy benderfynodd eu gosod yno?
Ymateb:
Mae’r camera CCTV yn Arcêd Abertyleri yn cymryd lle hen gamera nad oedd bellach yn gweithio a gafodd ei osod oherwydd lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y rhan honno o’r Arcêd dros nifer sylweddol o flynyddoedd. Yn anffodus, yn awr oherwydd bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau yn yr ardal gyfyngedig hon ac yn dilyn asesiad o effaith diogelu data, cafodd y broses benderfynu gan swyddogion ei seilio ar wybodaeth gref a gafwyd gan yr heddlu lleol, y gymuned a gwybodaeth a chwynion gan breswylwyr ynghyd ag Aelodau lleol Abertyleri. Gwnaeth hyn i swyddogion perthnasol y Cyngor i benderfynu er budd ac egwyddor y trefniadau camera CCTV fod angen camera newydd a daeth cyllid ar gyfer y camera hwn o’r tu fewn i gyllideb refeniw bresennol CCTV.
Cwestiwn Atodol:
Mae eiddo preifat yn yr Arcêd (yr ymddengys fod y Cyngor yn eu hategu) a chaiff clwydi’r Arcêd eu cau bob gyda’r nos ac felly gofynnodd yr Aelodau sut y gallai ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn parhau yn yr ardal hon.
Ymateb:
Y Cyngor sy’n gyfrifol am Arcêd Abertyleri ac mae gan y Cyngor ddyletswydd i’w lanhau a’i gynnal ac mae cyllideb fach ar gael ar gyfer y diben hwnnw. Er na fedrai’r Arweinydd ddatgelu manylion sut mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau er bod y clwydi yn cael eu cau bob nos gan swyddogion, rhoddodd sicrwydd fod yr heddlu yn cefnogi hyn yn llawn oherwydd y byddai’n eu galluogi i wybod pwy sy’n gyfrifol a chymryd camau priodol. Byddai’r llwybr gweithredu hwn hefyd yn diogelu eiddo’r Cyngor.
Cwestiwn Rhif 2
Derbyniwyd y cwestiwn dilynol gan y Cynghorydd Hedley McCarthy ac atebwyd gan y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithrediaeth Adfywio a Datblygu Economaidd:
Cwestiwn:
Yn dilyn adroddiadau anffafriol yn y wasg am Gapel y Drindod, sy’n dal i fod yn segur a gwag ar ôl chwe mlynedd, a fyddai’r Aelod Gweithrediaeth Adfywio yn esbonio i’r cyngor fod y prosiect ar impasse ac nad oeddem yn ddim nes at ei gwblhau nag oeddem ar ddechrau’r tymor hwn yn 2017?
Ymateb:
Dechreuodd Aelod Gweithredadiaeth Adfywio a Datblygu Economaidd drwy ddweud na fedrwyd cwblhau Capel y Drindod yn ystod ei gyfnod fel Aelod Gweithrediaeth.
Cyfeiriodd at ran gyntaf y cwestiwn sy’n dweud fod Capel y Drindod wedi sefyll yn segur ac yn wag am chwe mlynedd a dywedodd i’r adeilad ddod i ddwylo’r awdurdod lleol yn 2009/10, felly y bu’n segur a gwag am flynyddoedd lawer cyn 2017. Gwariwyd buddsoddiad o £1.2m ar y prosiect yn ystod 2015 a bryd hynny nid oedd wedi cynnwys ailwampio mewnol a dywedodd y cafodd yr adeilad ei adael yn y cyflwr hwn am gyfnod sylweddol.
Yn 2017 ymchwiliwyd ffyrdd o barhau i gyllido’r prosiect a bryd hynny dechreuwyd ar drafodaethau gyda thrydydd parti oedd yn barod i fuddsoddi swm sylweddol o arian i orffen yr adeilad. Roedd rhan o’r cytundeb hwn yn Drosglwyddiad Ased Cymunedol i drydydd parti ar ryw amser yn y dyfodol.
Er mwyn galluogi’r prosiect i symud ymlaen, cafodd cynlluniau ar gyfer defnydd yr adeilad eu gwneud mewn cysylltiad gyda’r trydydd parti a chynhaliwyd proses dendro i gwblhau’r ailwampio mewnol. Cymerodd y broses hon lawer yn hirach nag a ddisgwylid gan y bu’n gwneud llawer o ddiwydrwydd dyladwy bryd hynny, oedd yn hanfodol oherwydd faint o gyllid a wariwyd ar yr adeilad eisoes.
Yn fuan ar ôl i’r pandemig daro ar y gymuned, Prydain a’r byd ac roedd yn rhaid i flaenoriaethau newid i drin yr ymateb argyfwng. Cafodd gwaith ar brosiect Capel y Drindod a gwaith ar yr adeilad ei atal am dros 18 mis oherwydd y cyfnod clo. Yn ychwanegol, roedd costau adeiladu wedi cynyddu llawer yn ystod 2 flynedd y pandemig, felly pan ddaeth y cyfnod clo i ben ac yr ailddechreuodd trafodaethau gyda’r trydydd parti, roedd cynnydd sylweddol yng nghostau’r prosiect. Fel canlyniad, roedd trydydd parti wedi gofyn am aildendro a gwnaed hyn a chyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i gwblhau’r prosiect. Bu’r cais hwn am gyllid yn llwyddiannus a rhoddwyd cyllid y gellid ei ddefnyddio fel arian cyfatebol i gwblhau’r prosiect.
Aeth yr Aelod Gweithrediaeth ymlaen drwy ddweud y byddai felly’n dadlau y gosodiad na chafodd unrhyw waith ei wneud – cafodd cryn dipyn o waith ei wneud yn ystod yr amser oedd ar gael, fodd bynnag roedd yr oedi a’i wynebodd wedi bod yn sylweddol. Cyfeiriodd yr Aelod Gweithrediaeth at erthygl yn y wasg oedd wedi gwneud sylwadau am faint o arian a wariwyd ar Gapel y Drindod a dywedodd wrth edrych yn ôl y dylai’r prosiect fod wedi ei drin yn wahanol a dywedodd fod yr erthygl yn y wasg yn cyfeirio at amser cyn 2017.
Daeth yr Aelod Gweithrediaeth i ben drwy roi sicrwydd y byddai’r Cyngor yn ddarbodus yn nhermau unrhyw wariant pellach a ddefnyddid ar y prosiect a’i fod yn dal i fod yn obeithiol y medrir cwblhau Capel y Drindod ar ryw amser yn y dyfodol.
Cwestiwn Atodol:
Dywedodd yr Aelod, pe byddid wedi ei gwblhau, y gellid bod wedi defnyddio Capel y Drindod fel adnodd yn ystod y pandemig a dywedodd nad oedd unrhyw gyfleusterau bancio yn Abertyleri. Gofynnodd os y byddai’r Aelod Gweithrediaeth a’r Arweinydd yn cymryd cyfrifoldeb am y llanastr hwn?
Ymateb:
Dywedodd yr Aelod Gweithrediaeth y byddai’n sicr yn cymryd cyfrifoldeb ei fod wedi bod eisiau i’r prosiect cael ei gwblhau ond dywedodd fod cynlluniau ar gyfer yr adeilad yn dyddio’n ôl i 2013 cyn iddo fod yn gysylltiedig a bod y cynlluniau hyn yn cynnwys nifer o gynlluniau ar gyfer Abertyleri yn cynnwys prosiect Capel y Drindod, a bod yr Arweinydd bryd hynny wedi eu cymeradwyo.
Ychwanegodd fod un cynnig o’r fath yn cyfeirio at leoliad y llyfrgell presennol nad yw’n addas i’r diben a chynigiodd y dylid ei symud i ganol y dref i gynyddu nifer defnyddwyr. Cydnabu’r Aelod Gweithrediaeth y pwynt am drefniadau bancio a dywedodd, gan weithio ar y cyd gyda’r trydydd parti, ei fod wedi gobeithio y byddai gwasanaethau bancio ar gael yn y dref unwaith y cafodd yr adeilad ei gwblhau.