Agenda item

Cais: C/2021/0253 Premier Club, Stryd William, Cwm, Glynebwy

Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Rhoddodd y Rheolwr Tim Datblygu Rheoli drosolwg o’r adroddiad ac atgoffodd Aelodau y cafodd y cais ei ystyried yn y cyfarfod diwethaf. Roedd y Pwyllgor wedi penderfynu yn groes i argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais a chyfeiriodd y Rheolwr Tîm yr Aelodau at yr argymhelliad a’r amodau i’w gosod ar y datblygiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chynnwys yr amodau dilynol ar y caniatâd cynllunio a gyhoeddir ar gyfer y datblygiad:-

 

1.              Bod y datblygiad a gymeradwyir yma yn cael ei gyflawni gan gydymffurfio’n llawn gyda’r cynlluniau a’r manylion dilynol:

·       Cynllun lleoliad y safle (graddfa 1:1250) a dderbyniwyd 5 Awst 2021;

·       Drg cyf 21/AP/105 – Drychiadau arfaethedig a dderbyniwyd ar 5 Awst 2021;

·       Drg cyf 21/AP-104 – Gosodiadau cynllun llawr arfaethedig a dderbyniwyd ar 5 Awst 2021;

·       Drg cyf 21/AP/103 – Cynllun lleoliad safle arfaethedig (graddfa 1:125) derbyniwyd 5 Awst 2021;

·       Drg cyf  21/AP/106 – Llocau sbwriel arfaethedig a derbyniwyd 22 Mehefin 2021.

 

Os na fanylir fel arall gan amodau 2 i 7 uchod.

 

RHESWM: I ddiffinio cwmpas y caniatâd hwn yn glir. 

 

2.       Ni fydd unrhyw ddatblygu yn digwydd cyn cyflwyno manylion y mesurau risg llifogydd i’w cynnwys o fewn yr anheddau a gymeradwyir drwy hyn ac iddynt gael eu cymeradwyo mewn ysgrifen gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Caiff mesurau o’r fath y gellir eu cymeradwyo eu gweithredu yn llawn cyn i’r anheddau gael eu defnyddio.

 

RHESWM: Sicrhau y caiff y datblygiad ei gynnal mewn modd diogel a boddhaol a lliniaru risg llifogydd i ddefnyddwyr yn y dyfodol.

 

3.       Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd (yn cynnwys dymchwel, gwaith daear neu glirio tyfiant) cyn cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (Bioamrywiaeth) ac iddo gael ei gymeradwyo mewn ysgrifen gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd y Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (Bioamrywiaeth) yn cynnwys manylion y dilynol:-

 

·       asesiad risg o unrhyw weithgareddau adeiladu a allai fod yn niweidiol;

·       dynodi “mannau diogelu bioamrywiaeth”;

·       mesurau ymarferol (yn fesurau ffisegol a hefyd yn arferion gweithio sensitif) i osgoi neu wrthod effeithiau yn ystod adeiladu;

·       lleoliad ac amseriad gwaith sensitif i osgoi niwed i nodweddion bioamrywiaeth;

·       yr amserau yn ystod adeiladu pan fod angen i ecolegydd arbenigol fod yn bresennol ar y safle i oruchwyliio gwaith;

·       unigolion cyfrifol a llinellau cyfathrebu;

·       rôl a chyfrifoldebau Clerc Gwaith Ecolegol ar y safle neu berson cymwys tebyg; a

·       defnyddio ffensys gwarchodol, rhwystrau gwahardd a rhybuddion.

 

          Caiff y Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu eu weithredu’n llym a chydymffurfio ag ef drwy gydol y cyfnod adeiladu gan gymeradwyo’n llawn gyda’r manylion a gymeradwywyd.

 

          RHESWM: Gwarchod buddiannau amrywiaeth a sicrhau y cymerir mesurau addas i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol ar fioamrywiaeth.

 

4.       Serch y manylion a amlinellir yn yr Arolwg Coed a gyflwynwyd gyda’r cais, ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd nes y cyflwynwyd arolwg coed diwygiedig sy’n cydymffurfio gyda BS5857 ac iddo gael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n rhaid i’r arolwg diwygiedig roi ystyriaeth ddyladwy i’r holl goed yng nghyffiniau’r safle, yn cynnwys y rhai ar y terfyn gogledd-orllewinol y mae gorchymyn Cadwraeth Coed arnynt. Bydd yn cynnwys y dilynol, ond ni fydd wedi ei gyfyngu i hyn:

·       manylion llawn y dulliau tyllu i’w defnyddio o fewn rhannau diogelu gwreiddiau coed;

·       manylion deunyddiau wyneb i’w defnyddio ar gyfer y lon arfaethedig;

·       manylion llawn y mesurau i ddiogelu coed a gadwyd i fod yn weithredol drwy gydol y datblygiad.

 

RHESWM: Sicrhau diogelu digonol ar nodweddion tirlun y safle a’r ardal o amgylch a sicrhau nad oes niwed yn digwydd i goed a ddiogelwyd fel canlyniad i’r datblygiad.

 

5.       Serch y manylion a ddangosir yn y cynlluniau a gymeradwywyd, ni chaiff dim o’r anheddau a gymeradwywyd drwy hyn eu defnyddio nes bod y fynedfa, y lon a’r ardaloedd parcio wedi ei hadeiladu, wedi cael wyneb a’u draenio yn unol gyda manylion sy’n rhaid eu cyflwyno a’u cymeradwyo mewn ysgrifen i’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn bod gwaith yn dechrau ar y safle. Caiff yr ardaloedd a ddarperir eu cadw ar gyfer y dibenion a ddynodwyd iddynt bob amser.

 

          RHESWM: Sicrhau y caiff anghenon parcio y datblygiad eu diwallu’n ddigonol ac i ddiogelu diddordebau priffyrdd.

 

6.       Ni chaiff dim o’r anheddau a gymeradwywyd drwy hyn eu defnyddio nes y cafodd yr holl orffenion allanol a ddangosir ar y cynlluniau a gymeradwywyd eu gweithredu yn llawn.

 

          RHESWM: Diogelu diddordebau amwynder gweledol.

 

7.       Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn diwedd ar y safle y tu allan i’r oriau dilynol – 8.00am i 17:00pm dydd Llun i ddydd Gwener, 8.00am i 1.00pm ar ddyddiau Sadwrn. Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd ar ddyddiau Sul Gwyliau Banc.

 

          RHESWM: Diogelu amwynder preswyl defnyddwyr adeiladau cyfagos.

 

8.       Terfyn amser safonol (caniatâd cynllunio llawn).

 

Dogfennau ategol: