Agenda item

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru – Diffygion yn nhrefniadau llywodraethiant a throsolwg Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yng nghyswllt cwmni y mae’r Cyngor yn berchen arno, Silent Valley Waste Services Limited

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cofnodion:

Fel y manylir yn eitem rhif 3, datganodd y Cynghorwyr L. Parsons, H. McCarthy, J. Wilkins a J. Hill fuddiant yn yr eitem hon.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghyd ag adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr mai diben y cyfarfod yw i Aelodau ystyried yr adroddiad (yn Atodiad 1) Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y diffygion yn nhrefniadau llywodraethiant  a goruchwyliaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yng nghyswllt Silent Valley Waste Services Cyfyngedig, cwmni sy’n eiddo i’r Cyngor.

 

Hysbyswyd Aelodau fod ymchwiliad yr Archwilydd Cyffredinol wedi dechrau yn haf 2017, pan gafodd y Cyngor lythyr chwythu’r chwiban yn codi pryderon am oruchwyliaeth y Cyngor o Silent Valley, cwmni sy’n eiddo llawn i’r Cyngor. Daethpwyd â’r ohebiaeth i sylw Archwilio Cymru fel rhan o ddyletswyddau polisi’r Cyngor ar chwythu’r chwiban a gofynnwyd am gynnal ymchwiliad i edrych ar y pryderon a godwyd o fewn y llythyr.

 

Ar 27 Ionawr 2022 cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad terfynol (yr Adroddiad) er budd y cyhoedd dan Adran 22 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Mae’r adroddiad yn rhoi canfyddiadau ymchwiliad Archwilio Cymru i Aelodau ei ystyried ac ymateb iddo.

 

Daeth y Rheolwr Cyfarwyddwr i ben drwy amlinellu’r opsiynau ar gyfer argymhelliad a fanylir ym mharagraff 3 yr adroddiad perthnasol.

 

Ar y pwynt hwn mynegodd Mr Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru ei werthfawrogiad i Aelodau am y cyfle i annerch cyfarfod y Cyngor a dywedodd y byddai’n gwneud ychydig o sylwadau byr am yr adroddiad archwilio sydd i gael ei ystyried. Wedyn cyflwynodd Mr Crompton ei gydweithwyr o Archwilio Cymru, Mr David Rees a Mr Derwyn Owen oedd hefyd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Dywedodd Mr. Crompton ei fod yn sicr y byddai Aelodau wedi darllen yr adroddiad ac yn deall y rhesymau pam y daethpwyd i’r casgliad h.y. y bu trefniadau goruchwyliaeth a llywodraethiant Silent Valley Waste Services Cyf yn ddiffygiol am flynyddoedd lawer. Er na fwriadai fynd drwy ganfyddiadau’r adroddiad a’i gasgliadau oherwydd bod yr adroddiad yn siarad dros ei hun, dywedodd y byddai’n esbonio:

 

-       Y rheswm pam y cynhaliwyd yr archwiliad;

-       Y broses archwilio; a

-       Chwmpas yr archwiliad.

 

 

 

Pam y cynhaliwyd yr Archwiliad:

 

Esboniodd Mr. Crompton fod y Cyngor wedi derbyn gohebiaeth yn 2017 gan chwythwr chwiban yn tynnu sylw at nifer o bryderon yn ymwneud â goruchwyliaeth a llywodraethiant Silent Valley Waste Services Cyf. Ar y pwynt hwnnw roedd prif Gyfarwyddwr Corfforaethol dros dro y Cyngor wedi gofyn i Archwilio Cymru gynnal archwiliad. Roedd rhagflaenydd Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ystyried yr ohebiaeth ac wedi dod i’r farn fod y pryderon o natur ddifrifol ac wedyn roedd archwilwyr wedi cydlynu gyda’r chwythwr chwiban i geisio eglurhad am y pryderon a godwyd. Felly roedd Archwilydd Cyffredinol blaenorol Cymru wedi dod i’r casgliad y dylid cynnal adolygiad archwilio oherwydd pe canfyddid fod sylwedd yn y pryderon, y byddai hyn yn dangos diffygion sylweddol yn nhrefniadau llywodraethiant a goruchwyliaeth y Cyngor ar Silent Valley Cyf.

 

Y Broses Archwilio:

 

Oherwydd faint o waith oedd ei angen a lefel y cymhlethdod a materion cyfreithiol oedd yn gysylltiedig, roedd wedi cymryd peth amser i gwblhau’r archwiliad.

 

Diben yr archwiliad oedd cyflawni’r ddyletswydd statudol a nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus Cymru 2014 i archwilio cyfrifon y Cyngor a rhoi barn archwilio ar y cyfrifon hynny. Roedd y ddyletswydd honno yn cynnwys mwy na dim ond edrych am y trafodion a’r datgeliadau a gynhwysir yn y cyfrifon ond roedd angen i Archwilydd Cyffredinol Cymru ei fodloni ei hun fod y Cyngor wedi rhoi trefniadau iawn ar waith i sicrhau darbodusrwydd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yn y defnydd o’i adnoddau.

 

Felly roedd y tîm archwilio wedi ceisio cadarnhau fod y Cyngor wedi sefydlu trefniadau iawn i sicrhau darbodusrwydd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yn y defnydd o adnoddau cyhoeddus drwy Silent Valley Cyf. Roedd y tîm wedi dadansoddi llawer o dystiolaeth ddogfennol yn gysylltiedig â pherthynas y Cyngor gyda’r cwmni ac wedi cyfweld â swyddogion y Cyngor i ddeall y trefniadau a gafodd eu rhoi ar waith. Roedd y gwaith wedi dynodi pryderon pellach ac yn gynnar yn 2018 roedd yr archwilwyr wedi penderfynu ymgynghori â Heddlu Gwent i sicrhau na fyddai’r archwiliad yn rhagfarnu unrhyw ymchwiliad posibl gan yr heddlu. Ym mis Gorffennaf 2018 penderfynodd Heddlu Gwent gynnal ymchwiliad ac roedd yr Archwilydd Cyffredinol wedi gohirio yn diliyn drebyn cyngor gan Heddlu Gwent. Fel yr amlinellir ym mharagraff 7 yr adroddiad, ym mis Medi 2019 roedd Heddlu Gwent wedi penderfynu peidio dilyn cyhuddiadau troseddol yn erbyn unrhyw unigolion a gallodd yr Archwilydd Cyffredinol ailafael yn y gwaith.

 

Dywedwyd fod nifer o faterion cyfreithiol wedi codi yn ystod yr archwiliad oedd yn ymwneud â phensiynau, caffael, cydnabyddiaeth ariannol swyddogion a thaliadau terfynu a gofynnwyd am gyngor cyfreithiol allanol ar yr elfennau hyn ac roedd y canfyddiadau a gynhwysir yn yr adroddiad ar y materion a godwyd yn gydnaws gyda’r cyngor cyfreithiol hwn. Yn ychwanegol, roedd nifer o’r materion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad wedi digwydd flynyddoedd mawr yn ôl ac wedi rhoi heriau archwilio sylweddol yn nhermau canfod dogfennau perthnasol ac felly roedd wedi arwain at ddibyniaeth ar atgofion y rhai oedd yn gysylltiedig ac wedi arwain at broses glirio gymhleth a maith. Felly bu angen rhannu detholiadau o ddrafft gopi yr adroddiad gyda nifer fawr o unigolion i ofyn am eu sylwadau, gan eu gwahodd i ddynodi camsyniadau ffeithiol ac yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol y teimlent y dylai gael ei hystyried. Roedd gwahaniaethau sylweddol am yr atgofion o’r digwyddiadau mewn nifer o achosion.

 

Ychwanegodd Mr. Crompton y bu’r broses yn un drwyadl a chynhwysfawr ond yn fwy maith nag a ragwelwyd yn wreiddiol.

 

Cwmpas yr Archwiliad:

 

Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ymwneud â digonolrwydd trefniadau llywodraethiant a goruchwyliaeth y Cyngor yng nghyswllt Silent Valley ac nid oedd wedi ceisio dod i gasgliad ar berfformiad Silent Valley neu os oedd Silent Valley yn rhoi gwerth am arian cyhoeddus. Y rheswm am hyn oedd nad oedd yr Archwilydd Cyffredinol yn archwilydd dros Silent Valley ac nad oedd ei gylch gorchwyl statudol yn caniatáu iddo gynnal archwiliad o berfformiad Silent Valley. Er fod achos, roedd yr Archwilydd Cyffredinol wedi dod i’r casgliad fod diffygion hirsefydlog yn nhrefniadau llywodraethiant a goruchwyliaeth y Cyngor yng nghyswllt Silent Valley ac mae hyn yn wahanol i ddod i unrhyw gasgliad ar berfformiad y cwmni ac os oedd yn rhoi gwerth am arian ai peidio.

 

Daeth Mr. Crompton i ben drwy gydnabod y camau a gymerodd y Cyngor ers dechrau’r archwiliad i sefydlu trefniadau llywodraethiant a goruchwylio llawer gwell yng nghyswllt Silent Valley a chydnabu arweinyddiaeth Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor ar y mater hwn.

 

Wedyn cafodd Aelodau’r Cyngor gyfle i roi sylwadau a chodi cwestiynau yng nghyswllt adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur hwn yn adroddiad hir iawn (78 tudalen) a gynhyrchwyd yn dilyn ymchwiliad maith o 4.5 mlynedd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw amheuaeth fod yr adroddiad yn cynnwys y datgeliadau mwyaf annerbyniol am ymddygiad a welodd y Cyngor hwn mewn degawdau. Roedd gweithredoedd uwch swyddogion y Cyngor yn yr adroddiad yn gywilyddus ac yn dangos yr aeth yr ymddygiad ymlaen am flynyddoedd, a dywedodd y defnyddiwyd Silent Valley fel ‘clwb byddigion’ neu ‘docyn prydau bwyd’ ecsliwsif ar gyfer y swyddogion uchaf a bod y swyddogion hynny wedi dangos ymddygiad a fedrai yn ei farn ef gael ei ddisgrifio fel hunanol, barus ac, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, twyllodrus.

 

Mae’n bwysig cofio ar y pryd hwnnw fod gweithwyr gwasanaeth rheng flaen Silent Valley yn ennill llai na’r isafswm cyflog. Roedd rhestr camymddygiad oedd yn cynnwys taliadau cydnabyddiaeth ariannol, apwyntiadau sylfaenol wallus, prosesau gwallus a arweiniodd at rwymedigaethau i’r Cyngor, penderfyniad anghyfreithlon gan y Pwyllgor Gweithredol, torri rheoliadau pensiwn, anwybyddu cyngor cyfreithiol a swyddogion yn cronni mwy o fuddion pensiwn nad oedd ganddynt hawl iddynt.

 

Roedd y rhai yn swyddogion o haenau uchaf y sefydliad h.y. cyfarwyddwyr, prif weithredwyr a phrif swyddogion cyllid yr oedd Aelodau yn dibynnu arnynt i baratoi adroddiadau proffesiynol i gael eu hystyried ac i Aelodau gymryd penderfyniadau hanfodol arnynt. Teimlai mai’r sefyllfa am yr hysbyseb swydd ac apwyntiad a ddilynodd oedd y cywilydd pennaf i’r Cyngor ac os bu erioed sefyllfa oedd yn haeddu ymadrodd ‘swyddi i’r bechgyn’, mae’n si?r mai hon oedd hi.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod y ddau gr?p gwrthbleidiol yn teimlo fod gormod o gwestiynau nad oedd yn cael eu hateb yn deillio o’r adroddiad a chytunodd gyda pharagraff 11 yr adroddiad y dylai’r Cyngor fod yn fodlon nad oedd y diwylliant a diffygion a gynhwysir yn yr adroddiad yn parhau bellach. Fodd bynnag, roedd gan y ddau gr?p gwrthblaid brydeorn mawr fod hyn yn parhau a bwriadent gynnig argymhelliad arall ar y pwynt dilynol.

 

Dywedodd Mr. Crompton fod yr Aelod wedi gwneud rhai pwyntiau pwysig yng nghyswllt yr adroddiad oedd wedi disgrifio dilyniant o ddigwyddiadau oedd wedi digwydd dros gyfnod maith ac a oedd o natur ddifrifol. Roedd yn annog y Cyngor i ganolbwyntio ar gwestiwn ehangach yr amgylchedd a’r diwylliant oedd yn amlwg wedi bodoli bryd hynny ac a oedd wedi galluogi’r gweithredoedd a’r ymddygiad i ddigwydd.

 

Aeth ymlaen drwy ddweud ei fod yn canmol gweithgareddau’r Cyngor i wella trefniadau llywodraethiant a goruchwyliaeth Silent Valley ond roedd yr un argymhelliad yn yr adroddiad yn llawer ehangachy h.y. bod y Cyngor yn bodloni ei hun nad oedd y ffactorau a gyfrannodd at yr amgylchedd a diwylliant hwnnw dros gyfnod mor hir yn bodoli pellach a’i fod wedi cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau fod llywodraethiant a goruchwyliaeth y trefniadau hynny ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn llawer cryfach.

 

Dechreuodd Aelod drwy ddweud er iddo gael ei hysbysu ac iddo gael pryderon am nifer o flynyddoedd am y mater, ei fod wedi ei synnu a’i siomi yng nghyswllt cynnwys yr adroddiad. Aeth ymlaen drwy esbonio ei fod wedi cadeirio cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio ar 12 Medi 2017 pan oedd cynrychiolydd Archwilio Cymru bryd hynny wedi dweud fod angen ymchwilio ymhellach ar adroddiad neilltuol ac roedd wedi herio hyn. Nodwyd nad oedd pob Aelod yn gwybod brfyd hynny fod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

 

Dywedodd yr Aelod ei fod wedi gwasanaethu mewn bywyd cyhoeddus am dros 30 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd wedi cadw ei enw da a safonau. Fodd bynnag, mynegodd ei bryder ac ni allai ddeall ar y pryd pam na chafodd yr unigolion hynny oedd yn cael eu cyflogi mewn bywyd cyhoeddus ac yn cael eu hymchwilio gan yr Heddlu eu hatal o’r gwaith nes y cafodd yr ymchwiliadau hynny eu cwblhau. Mynegodd ei bryder personol fod safonau cyhoeddus yn llithro yng Nghymru a dywedodd fod Aelodau yn bobl ‘lleyg’ sy’n cynrychioli eu cymunedau ac yn dibynnu ar uwch swyddogion ac uwch swyddogion y Cyngor i gael cyngor a chefnogaeth.

 

Yn dilyn y Pwyllgor Archwilio, dywedodd yr Aelod ei fod ef a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar y pryd wedi cwrdd â chynrychiolydd Archwilio Cymru ar y pryd a’r Prif Swyddog Adnoddau dair gwaith yn gofyn am lythyr gan Archwilio Cymru i gadarnhau nad oedd y problemau parhaus a’r ymchwiliad yn adlewyrchu arno ef fel Cadeirydd. Daeth yr Aelod i ben drwy ddweud fod yr adroddiad yn niweidiol iawn ac nad oedd eisiau cael ei ystyried fel un o’r bobl hynny gyda’u ‘trwynau yn y cafn’ ond yn anffodus, roedd yn ymddangos mai dyma’r enw y mae Blaenau Gwent yn ddatblygu ynddo ei hun.

 

Dywedodd Aelod arall y bu’r materion hyn yn digwydd am nifer o flynyddoedd dan bob gweinyddiaeth. Ychwanegodd fod Archwilio Cymru yn archwilio’r Cyngor bob blwyddyn a mynegodd ei bryder nad oedd unrhyw arwydd yn ystod y cyfnod hwnnw am archwiliad i gwmni cydymffurfio â TECKAL. Yn ychwanegol, ar adeg pan oedd Pricehouse Coopers hefyd wedi cynnal dadansoddiad llawn o’r awdurdod, nid oedd unrhyw sôn am y materion hyn ychwaith a dywedodd yr Aelod na ddeallai pam na thynnwyd sylw at y materion hyn.

 

Aeth ymlaen drwy ddweud mai’r prif fater o gonsyrn oedd fod weithiau elw enfawr yn cael ei gynhyrchu ond nad oedd neb wedi derbyn dim o’r buddion hyn ac nad oedd unrhyw arwyddion y talwyd difidend i gyfranddeiliaid yn cynnwys y prif gyfranddaliwr sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Daeth yr Aelod i ben drwy ofyn sut nad oedd Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at y materion hyn pan oeddent yn archwilio gweithgareddau’r Cyngor.

 

Dywedodd Mr. Crompton nad ef oedd archwilydd Silent Valley ei hun, a bod y cwmni wedi penodi ei archwilwyr allanol ei hun. Cyfrifydd y Cyngor yw ef ac roedd cyfrifon Silent Valley yn cael eu cyfuno bob blwyddyn gyda rhai y Cyngor fel gr?p ond gyda throsiant Silent Valley ddim ond tua £1m, roedd yr arwyddocâd ariannol yn gymharol fach yng nghyfanswm gwariant Blaenau Gwent ac roedd yr archwiliad o gyfrifon y gr?p yn canolbwyntio ar feysydd gwerth uchel. Mae hyn yn dangos pwynt sylfaenol h.y. na ddylai Archwilio Cymru a’r proffesiwn archwilio yn gyffredinol gael eu gweld fel mesur oedd yn diogel unrhyw gorff cyhoeddus o’r gweithredoedd ac ymddygiad hwnnw. Y llywodraethiant mewnol a’r oruchwyliaeth a roddodd y sefydliad ar waith oedd y llinell amddiffyn gyntaf i sicrhau y caiff y sefyllfa ei hosgoi.

 

Dywedodd Mr. Crompton ei fod yn fater o ofid fod yr archwiliad wedi cymryd mor hir i adrodd ond bod hyn am yr holl resymau a nodwyd uchod ac unwaith y dechreuodd yr archwiliad, bu’n gymhleth tu hwnt ac yn gadwyn hirsefydlog o ddigwyddiadau gyda nifer sylweddol o faterion cyfreithiol a sensitifrwydd yn gysylltiedig. Yr oruchwyliaeth a llywodraethiant oedd gan yr awdurdod yn eu lle ar y pryd oedd yr allwedd a dylai hyn fod wedi bod y prif fesur diogelu i’r cyhoedd a sefydliad i ddibynnu arno er mwyn osgoi’r gadwyn digwyddiadau y mae’r adroddiad yn ei manylu.

 

Mynegodd yr Aelod ei werthfawrogiad i Archwilio Cymru am y gwaith a wnaed i ymchwilio’r materion o gonsyrn a godwyd gan y chwythwr chwiban.

 

Dywedodd Aelod fod hwn yn gyfrif hir a manwl a dywedodd ei fod wedi ei chael yn anodd ac ychydig yn ddryslyd fel Aelod newydd yn ei gyfnod cyntaf yn y swydd wrth ddynodi rhai o’r unigolion a enwir yn yr adroddiad. Er bod tudalen 112 yn rhoi manylion, gofynnodd os yn bosibl y dylai Aelodau manylion amserlenni cyflogaeth er mwyn cael gwell dealltwriaeth.

 

Roedd Mr. Crompton yn cydymdeimlo gyda’r Aelod gan y manylir nifer o swyddi yn yr adroddiad a dywedodd y byddid yn darparu nodyn byr ar y pwyntiau hynny.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur y dangosodd yr archwiliad bod angen gwahaniaethu rhwng swyddi a chyfeiriodd at bwynt cynharach yng nghyswllt prif swyddogion a chyfarwyddwyr oedd yn amlwg â gwybodaeth ond ei bod yn amlwg na roddwyd gwybodaeth i Aelodau.

 

Ar y pwynt hwn gofynnodd Arweinydd y Gr?p Llafur nifer o gwestiynau yr ymatebwyd iddynt fel sy’n dilyn.

 

Mewn ateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y derbyniwyd y llythyr chwythu’r chwiban ym mis Awst 2017 ac fel yr amlinellir ym Mholisi Chwythu Chwiban y Cyngor, roedd angen cadw hynny’n gyfrinachol a pheidio ei ddatgelu. Felly ni chafodd yr ohebiaeth hon ei rhoi i Aelodau fel rhan o’r pecyn gwybodaeth.

 

Anfonwyd yr ohebiaeth at y Cyfarwyddwr Corfforaethol Strategaeth, Trawsnewid a Diwylliant ym mis Awst 2017 pan oedd hefyd yn Bennaeth interim Gwasanaeth Cyflogedig. Anfonwyd copïau o’r llythyr hefyd at Unsain ac Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor.

 

Aeth Arweinydd y Gr?p Llafur ymlaen drwy gyfeirio at dudalen 33 yr adroddiad a’r broses yng nghyswllt penodi cyn Brif Weithredwr a pharagraffau 35 a 43 yn cynnwys datganiad y Cynghorydd McCarthy a datganiad y cyn Gynghorydd Welch. Dywedodd nad oedd yn herio casgliad Archwilio Cymru oherwydd bod penodi heb gymeradwyaeth y Cyngor yn anghywir.

 

Gwnaed datganiad fod dau Aelod Gweithredol ar y pryd yn gweithredu ar ran y Cyngor ar gyfarwyddyd ac mewn ymgynghoriad gydag Arweinyddiaeth a Thîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor a gofynnodd os oedd Archwilio Cymru wedi dilyn y dilyniant naturiol i ganfod os oedd datganiadau’r Aelod a’r cyn Aelod yn gywir.

 

Mewn ymateb dywedodd Mr. Rees fod y digwyddiadau hyn wedi digwydd flynyddoedd lawer yn ôl ac nad oedd o reidrwydd farn gyson am sut yr oedd pethau’n gweithio ar y pryd ac roedd yn llawer rhy bell yn ôl i ddod i gasgliad pendant.

 

Fodd bynnag dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur na fu’n rhy bell yn ôl i sôn am y ddau Aelod oedd yn ei farn ef wedi rhoi ymatebion syml a chlir. Pan oedd yr Aelodau wedi mynychu’r Cyngor roedd y Bwrdd wedi bod yn embaras ac yn ddig. Roedd yr Aelodau hyn yn genhadon a anfonwyd ar ran y Cyngor gyda neges ac ni fedrai ddeall pam na chysylltwyd ag arweinwyr y Cyngor i ganfod y gwir.

 

Dywedodd Mr Rees nad yw’r adroddiad yn cwestiynu adroddiadau’r ddau Aelod o ran yr hyn a ddigwyddodd. Yng nghyswllt cysylltu ag arweinwyr y Cyngor, nid yr un arweinwyr oedd yn eu swydd yn 2020/2021 â phryd y bu’r digwyddiadau. Yn hanfodol, roedd yn seiliedig ar adroddiadau unigolion sydd wedi gadael y cyngor ar hyn o bryd.

 

Ymunodd y Cynghorydd P. Edwards â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur mai’r un arweinyddiaeth oedd gan y Cyngor a bod un Aelod yn Arweinydd y Cyngor ar hyn o bryd ac yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor pan fu’r digwyddiadau a byddai wedi medru cadarnhau fod yr hyn a ddywedodd yr Aelodau yn gywir. Roedd ymdeimlad dwfn o annhegwch bod yr adroddiad Archwilio yn sôn am y ddau Aelod hyn ac nad oeddent wedi gwneud dim o’i le – y cyfan a wnaethant oedd gweithredu ar orchymyn y Prif Weithredwr a’r Arweinydd ar y pryd ac nid oedd neb wedi gofyn i Arweinydd y Cyngor gadarnhau os yw hyn yn wir.

 

Ailadroddodd Mr. Rees nad yw’r adroddiad yn anghydweld ag adroddiadau’r Aelodau. Y pwynt a wneir oedd na chafodd y penderfyniad i benodi’r cyn Prif Weithredwr a oedd yn fater i’r Cyngor Llawn ei gymryd nes iddo gael ei benodi. Roedd yr adroddiad yn esbonio manylion ac amgylchiadau sut y digwyddodd hyn ac nid oedd yn awgrymu fod yr adroddiadau a roddwyd gan yr Aelodau yn anghywir. Nid oedd y naill na’r llall o’r Aelodau y cyfeirir atynt wedi awgrymu y dylid cysylltu ag Arweinydd y Cyngor ynghyclh eu hadroddiad o’r digwyddiadau hynny.

 

Ar y pwynt hwn gofynnodd y Cadeirydd am arweiniad gan y Swyddog Monitro am enwi unigolion a phrotocolau ar hyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol ei bod yn monitro’r drafodaeth ac nad oedd neb wedi eu henwi hyd yma nad oedd eisoes wedi eu henwi yn yr adroddiad. Gellid gwybod pwy yw rhai unigolion oherwydd teitlau eu swyddi ar y pryd ond ailddywedodd na soniwyd am neb nad oedd wedi ei enwi yn yr adroddiad a gofynnodd i Aelodau barhau i barchu hyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am baragraff 115 yr adroddiad sy’n cyfeirio at ailstrwythuro cyfansoddiad Silent Valley, cadarnhaodd Mr. Rees fod cynghorwyr cyfreithiol y Cyngor wedi rhoi adroddiad drafft i gael ei ystyried gan Aelodau o’r Cyngor  sy’n gosod yr opsiynau ar gyfer ailstrwythuro Silent Valley. Cafodd yr adroddiad dechreuol ei ddrafftio gan gynghorwyr cyfreithiol y Cyngor a‘i ddiwygio’n ddilynol a fersiynau dilynol a gynhyrchwyd gan swyddogion y Cyngor.

 

Mynegodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei gonsyrn am y fersiynau pellach hyn o’r adroddiad a dywedodd y bu sôn cyson yn y flwyddyn ddiwethaf fod prif swyddogion ym Mlaenau Gwent wedi dileu gwybodaeth o’r adroddiad (sy’n dweud nad oedd yn ofynnol talu i gyfarwyddwyr) cyn iddo gael ei ystyried gan Aelodau a gofynnodd os oedd yr archwiliad wedi amlygu gwybodaeth yn ymwneud â hyn.

 

Dywedodd Mr. Rees fod yr adroddiad dechreuol gan gynghorwyr cyfreithiol y Cyngor wedi nodi’n glir ei bod yn bosibl talu cydnabyddiaeth ariannol ond na wyddai bod unrhyw swyddog neilltuol neu benodol wedi gofyn am i ddim gael ei ychwanegu neu ei ddileu ar y pwynt hwnnw.

 

Mynegodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei bryder nad yw’r adroddiad yn cynnwys y ffaith ‘posibl i dalu’. Roedd wedi gweithio gyda’r swyddogion hyn i ddod â’r Cyngor drwy gyfnod o lymder a gwneud gwelliannau (Awst 2013) a dywedodd na fedrai ddeall gweithredoedd y swyddog y bu’n gweithio gyda nhw bryd hynny.

 

Eglurodd Mr. Rees bwynt am gwestiwn a godwyd am ddrafft cyntaf yr adroddiad a gynhyrchwyd gan gynghorwyr cyfreithiol y Cyngor a dywedodd, yng nghyswllt cydnabyddiaeth ariannol, mai’r unig gyfeiriad at gydnabyddiaeth ariannol oedd datganiad dan adran ‘llywodraethiant’ yr adroddiad h.y. fod angen cyfyngiad ar gydnabyddiaeth ariannol cyfarwyddwyr os byddent yn Aelodau o’r Cyngor. Cafodd drafft cyntaf yr adroddiad ei lunio gan gynghorwyr cyfreithiol y Cyngor ar ddiwedd 2011. Roedd y cynghorwyr cyfreithiol hynny hefyd yn gweithio ar y cyd gyda Bevan Brittan a chynghorwyr ariannol.

 

Aeth Arweinydd y Gr?p Llafur ymlaen drwy ddweud fod yr Archwilydd Cyffredinol yn gywir yn ei ganfyddiadau, mae’n amlwg fod angen llywodraethiant a diwylliant da. Roedd y swyddog arweiniol a nodir yn yr adroddiad wedi dechrau’r broses o foderneiddio’r Cyngor. Er ei fod yn cydnabod y cymerwyd camau i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad, yn ei farn ef roedd safonau wedi llithro eto a chyfeiriodd at yr adroddiad nesaf ar yr agenda ynghylch dyfodol Silent Valley. Dywedodd y sefydlwyd gweithgor i lywio trafodaeth ac edrych ar opsiynau ar gyfer Silent Valley ond mynegodd ei bryder y cafodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y mae ei enw yn ymddangos yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ei benodi i’r gweithgor hwnnw. Mynegodd ei bryder am y llwybr gweithredu hwn tra disgwylid adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a theimlai fod y Cyngor yn dychwelyd i ddiwylliant gwael.

 

Eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y gweithgor yn cynnwys nifer o swyddogion yn cynnwys Cyfarwyddwr Corfforaethol y gwasanaeth dan sylw ac y byddai Aelodau wedi ei chael yn rhyfedd iawn pe byddai adroddiad pwysig ar ddyfodol darparu gwasanaeth yn cael ei gyflwyno heb fod swyddogion proffesiynol wedi ymwneud â’r darn hwnnw o waith. Cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod gwaith y gr?p hwnnw wedi dod i ben ymhell cyn derbyn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol. Dywedwyd mai’r Rheolwr Gyfarwyddwr oedd wedi cadeirio’r gweithgor hwnnw yn ei ddyddiau cynnar ac wedyn iddo gael ei gadeirio gan y Prif Swyddog Adnoddau a bod cynghorwyr ariannol a chyfreithiol uchaf y Cyngor hefyd wedi eu penodi i’r gr?p hwnnw ynghyd â chydweithwyr o’r undebau llafur.

 

Daeth y Rheolwr Gyfarwyddwr i ben drwy ddweud y bu’r gefnogaeth llywodraethiant ar gyfer y darn hwnnw o waith yn gadarn ac nad oedd yn derbyn ar sail broffesiynol y sylwadau a wnaed ynghylch cynnwys yr un unigolyn a dywedodd eto fod gwaith y gr?p wedi ei gwblhau cyn derbyn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol.

 

Aeth Arweinydd y Gr?p Llafur ymlaen drwy ddweud fod y Rheolwr Gyfarwyddwr wedi dechrau ar ei swydd gyda’r cyngor ar 16 Hydref 2017 ac y gofynnwyd iddi baratoi strwythur uwch reolaeth erbyn Mawrth 2018. Roedd yr adroddiad cynhwysfawr hwn a gyflwynwyd i’r Cyngor ar 22 Mawrth 2018 yn cynnwys nifer o agweddau cadarnhaol ac yn cynnwys manylion meysydd darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol. Roedd cyfanswm o 34 Aelod yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw ac mae paragraff 4.2 yn amlinellu cynigion am arbedion i ychwanegu at yr adolygiad uwch reolaeth. Ymysg y cynigion hynny oedd ymddeoliad y Prif Swyddog Cyllid oedd yn cynnwys pecyn deniadol iawn yn cynnwys pensiwn wedi ei gloi i mewn, taliad blynyddol ac ymddeoliad hyblyg, a chyflogaeth mewn rôl wahanol yn yr awdurdod.

 

Cafodd y llythyr gwreiddiol gan y chwythwr chwiban ei rannu gyda’r Arweinydd a fynychodd gyfarfod y Cyngor ym Mawrth 2018 pan gafodd cynigion adolygiad uwch reolaeth eu hystyried a’u cytuno. Nid oedd unrhyw Aelod arall bryd hynny yn gwybod fod yr unigolyn a gynigiwyd ar gyfer ymddeoliad hyblyg wedi ei gynnwys yn yr honiadau hyn. Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod ganddo bryderon difrifol na fu’r penderfyniad hwn yn ddiogel a chredai y gallai’r penderfyniad fod wedi bod yn wahanol pe byddai’r Aelodau yn gwybod am yr honiadau hyn. Ategodd y teimlai na chafodd gwybodaeth ei rhannu gydag Aelodau, nid oedd yr Arweinydd wedi gwneud unrhyw sylw ar y pryd ac roedd ef yn bersonol wedi pleidleisio yn ddidwyll – roedd hyn yn amlygu’r diwylliant o fewn Blaenau Gwent bryd hynny.

 

Dywedodd Aelod arall fod y Cyngor wedi aros am amser sylweddol am yr adroddiad hwn a dywedodd y dylid ei dderbyn yn ei gyfanrwydd. Er na fedrid newid y gorffennol, dywedodd y gwnaed gwelliannau a bod hyn yn gyfle i symud ymlaen.

 

Ar y pwynt hwn cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y pwyntiau dilynol ar gyfer cywirdeb ffeithiol yn nhermau amserlen y digwyddiad. Roedd llythyr cwyn chwythu’r chwiban wedi parhau’n gyfrinachol ac ychydig iawn o bobl oedd wedi gweld yr wybodaeth hon fel yr amlinellir ym mholisi Chwythu’r Chwiban y Cyngor. Mae’r llythyr yn enwi nifer o swyddi ac unigolion ond nid oedd y rhan fwyaf ohonynt wedi ymddangos yn yr adroddiad terfynol gan Archwilio Cymru oherwydd nad oedd unrhyw sylwedd yn yr honiadau a wnaed yn eu herbyn. Drwy gyfeirio at y penderfyniadau a wnaed yn ystod 2018, dywedodd fod hyn yn nyddiau cynnar yr ymchwiliad ac na wyddai’r Cyngor beth fyddai canlyniad yr ymchwiliad ac felly na fedrid dod i gasgliadau na gwneud tybiaethau ar y cam hwnnw oherwydd nad oedd yr wybodaeth ar gael

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur eto fod yr ymchwiliad wedi dechrau adeg cyfarfod y Cyngor ddiwedd mis Mawrth 2018 ac yr ymgynghorwyd â Heddlu Gwent ac mai’r llwybr gweithredu fyddai tynnu a  gohirio’r elfen honno o’r adroddiad oherwydd nad oedd yr holl wybodaeth wedi bod ar gael i Aelodau.

 

Yn dilyn trafodaeth faith pan fynegwyd pryder am benderfyniadau blaenorol a wnaed heb i wybodaeth lawn fod ar gael i Aelodau a’r diwylliant o fewn y sefydliad, dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur na fu unrhyw ymchwiliad mewnol fel y dywedodd yr adroddiad ac er mwyn cywiro a thrafod y materion hyn ar sail barhaol, roedd ef ar ran y ddau gr?p gwrthbleidiol yn cynnig y dylid cynnal ymchwiliad mewnol llawn gan y Cyngor i’r digwyddiadau hyn ac adrodd y canfyddiadau yn ôl i’r Cyngor yn unol â hynny. Eiliwyd y cynnig hwn. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor na fedrai ragweld y byddai unrhyw Aelod yn anghytuno gyda’r cynnig ychwanegol a gyflwynwyd gan Arweinydd y Gr?p Llafur ond dywedodd fod argymhellion cadarn o fewn yr adroddiad sydd angen eu hystyried. Fodd bynnag, cyn gwneud hynny, dywedodd ei fod yn siomedig darllen cynnwys annymunol adroddiad Archwilydd Cymru ac nad oedd yn cynnig unrhyw ddadl neu liniariad am unrhyw beth a gynhwysir yn hynny yn ymwneud â chasgliadau cyffredinol a manwl yr adroddiad. Cytunai gyda sylwadau agoriadol Arweinydd y Gr?p Llafur a dywedodd nad oedd angen ailadrodd hynny. Mae’n siomedig iawn pan ystyrir safon y swyddogion y cyfeiriwyd atynt ac yn wir yr ymddiriedaeth a’r ffyrdd a roddodd Aelodau ynddynt.

 

Roedd yn si?r y byddai swyddogion, Aelodau a’r cyhoedd yn dod i’w casgliadau eu hunain am y materion o gonsyrn a fanylir yn glir ynghyd â’r materion a ddynodwyd dros gyfnod mor faith a gynhwysir yn yr adroddiad. Roedd yn beth cysur fod yr adroddiad fod y Cyngor ers 2017 wedi gweithredu i drin y diffygion yng ngoruchwyliaeth a llywodraethiant Silent Valley a chredai fod y Cyngor mewn sefyllfa llawer mwy cadarn wrth ddelio gyda threfniadau o’r fath ac mae’r profiad cymharol ddiweddar o sut y gwnaeth y Cyngor drin adolygiad o Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn enghraifft dda o hynny ond roedd yn bendant o’r gred fod yn rhaid i’r trefniadau hyn gael eu profi.

 

Wedyn cynigiodd Arweinydd y Cyngor felly y dylid cymeradwyo’r argymhellion ffurfiol yn yr adroddiad fel sy’n dilyn:

 

-       Cytuno ar gynnwys Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru “Diffygion yn nhrefniadau llywodraethu a goruchwylio cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent mewn perthynas â chwmni sy’n eiddo i’r Cyngor, Silent Valley Waste Services Cyfyngedig” (yr adroddiad).

 

-       Cytuno ar yr argymhelliad o fewn yr adroddiad, sef:

 

‘Dylai’r Cyngor gomisiynu adolygiad i geisio sicrwydd bod ei drefniadau llywodraethu a goruchwylio mewn perthynas â chwmnïau eraill y mae ganddo fudd ynddynt yn ddigonol ac effeithiol, ac nad yw’r diffygion a nodir yn yr adroddiad hwn yn rhai mwy cyffredinol’.

  

-       Awdurdodi’r Rheolwr Gyfarwyddwr i baratoi adroddiad ysgrifenedig, i’w gytuno gyda’r Archwilydd Cyffredinol, i’w gyhoeddi mewn papur newydd lleol fel sy’n ofynnol dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 

Yn ychwanegol, oherwydd arwyddocâd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn ymwneud â’r argymhelliad y dylai’r Cyngor gomisiynu adolygiad o’r trefniadau llywodraethu a goruchwylio yng nghyswllt cwmnïau eraill, cynigiodd Arweinydd y Cyngor yr argymhelliad ychwanegol dilynol:

 

-       Bod swyddogion priodol o’r Cyngor yn cwrdd gydag Archwilio Cymru gyda golwg at benderfynu ar y cyd ar ddull a chwmpas comisiynu’r adroddiad er mwyn sicrhau ei fod yn dderbyniol i bawb sy’n gysylltiedig. Byddai canfyddiadau’r adolygiad yn cael ei adrodd yn ôl drwy’r broses ddemocrataidd.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a

 

-       Cytuno ar gynnwys Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru “Diffygion yn nhrefniadau llywodraethu a goruchwylio cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent mewn perthynas â chwmni sy’n eiddo i’r Cyngor, Silent Valley Waste Services Cyfyngedig” (yr adroddiad).

 

-       Cytuno ar yr argymhelliad yn yr adroddiad:

 

‘Dylai’r Cyngor gomisiynu adolygiad i geisio sicrwydd bod ei drefniadau llywodraethu a goruchwylio mewn perthynas â chwmnïau eraill y mae ganddo fudd ynddynt yn ddigonol ac effeithiol, ac nad yw’r diffygion a nodir yn yr adroddiad hwn yn rhai mwy cyffredinol’.

 

-       Bod swyddogion priodol o’r Cyngor yn cwrdd gydag Archwilio Cymru gyda golwg ar benderfynu ar y cyd ar ddull a chwmpas comisiynu’r adolygiad hwnnw er mwyn sicrhau ei fod yn dderbyniol i bawb sy’n gysylltiedig. Rhoddir adroddiad yn ôl ar ganfyddiadau’r adolygiad hwn drwy’r broses ddemocrataidd.

 

-       Bod y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cael ei hawdurdodi i baratoi ymateb ysgrifenedig, i’w gytuno gyda’r Archwilydd Cyffredinol, i’w gyhoeddi mewn papur newydd lleol fel sy’n ofynnol dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 

-       Bod ymchwiliad mewnol llawn gan y Cyngor yn cael ei gynnal i’r digwyddiadau y cyfeirir atynt ac adrodd y canfyddiadau yn ôl i’r Cyngor yn unol â hynny.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad i gynrychiolwyr Archwilio Cymru am eu cyfraniad a’u presenoldeb yn y cyfarfod.

 

Dogfennau ategol: