Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y setliad llywodraeth leol darpariaethol ar gyfer 2022/23 a’i effaith ar gyllideb y Cyngor. Mae hefyd yn amlinellu’r gyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2022/23 ac yn ceisio cymeradwyaeth i lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.
Ychwanegodd y Prif Swyddog Adnoddau bod y Cyngor wedi cytuno ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol ddiwygiedig ym mis Tachwedd 2021 a dywedodd fod yr adroddiad hwn yn rhoi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf i Aelodau am y gyllideb yn dilyn cyhoeddi setliad llywodraeth leol darpariaethol ar gyfer 2022/.23.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad ymhellach a rhoddodd drosolwg o’r meysydd a gynhwysir yn yr adroddiad fel sy’n dilyn:-
· Sefyllfa Cyllid Allanol Cronnus (AEF) Cenedlaethol
· Sefyllfa AEF Blaenau Gwent
· Cyllid AEF o gymharu â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol
· Pwysau Cost a Thwf
· Triniaeth Grantiau yn trosglwyddo i’r Setliad
· Cyllideb Ysgolion Unigol
· Bwlch cyllid diwygiedig
· Rhaglen Pontio’r Bwlch
· Cyllideb Refeniw 2021/22
· Cronfeydd wrth Gefn Refeniw Cyffredinol 2021/22
I gloi, cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau at drafodaethau yn y Cydbwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2022 a dywedwyd fod Aelodau wedi derbyn argymhellion 3.1.1. i 3.1.6, fodd bynnag roedd y Pwyllgor wedi penderfynu gohirio penderfyniad yng nghyswllt 3.1.7 a 3.1.8 tan gyfarfod o’r Cyngor llawn a drefnwyd ar gyfer 17 Chwefror 2022.
Nododd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n rhoi manylion cyllideb derfynol gadarnhaol i’w gosod gan y weinyddiaeth hon. Roedd yn falch y gallodd yr Awdurdod lunio cyllideb gytbwys a chyfreithiol. Ni fu unrhyw reswm eto eleni i gymryd arian o’r cronfeydd wrth gefn, ac roedd hyn wedi arwain at i lefelau’r cronfeydd wrth gefn sydd gan y Cyngor gael eu codi i lefel addas.
Cynigiodd yr Arweinydd y dylid cytuno ar argymhellion 3.1.1 i 3.1.6 a bod argymhellion 3.1.7 a 3.18 yn cael eu penderfynu gan y Cyngor llawn ar 17 Chwefror 2022. Eiliwyd y cynnig hwn.
Roedd yr Aelod Gweithredol Addysg yn falch iawn gyda’r swm mawr o arian a roddir i ysgolion a gaiff ei basportio i ysgolion a fyddai’n cael ei groesawu’n fawr gan benaethiaid ysgolion ac a fyddai o fudd mawr o blant a phobl ifanc Blaenau Gwent.
Croesawodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd y gefnogaeth i Gwasanaethau Cymdeithasol yn y gyllideb.
Ychwanegodd yr Arweinwyr fod Aelodau Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ill dau wedi bod yn eiriolwyr gwych yn eu priod feysydd a dywedodd y cafodd yr ymrwymiad a roddwyd yn 2017 i ddiogelu a chefnogi Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol ei ddangos yn ystod cyfnod swydd y weinyddiaeth hon.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar y dilynol:-
3.1.1 argymell cyllideb refeniw 2022/23 i’r Cyngor;
3.1.2 rhoddwyd sylwadau ar y deilliannau o fewn setliad darpariaethol y Grant Cynnal Ardrethi (RSG) a nodi’r potensial am newid pellach yn setliad terfynol y RSG;
3.1.3 rhoddwyd sylwadau ar y deilliannau o fewn setliad darpariaethol RSG Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac effaith hynny ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol;
3.1.4 argymell i’r Cyngor yr eitemau pwysau cost a thwf (cyfanswm o £4m) a ddynodir yn Atodiad 2 i’w cynnwys yn y gyllideb;
3.1.5 argymell i’r Cyngor y dylid pasportio’r grantiau sy’n trosglwyddo i’r setliad o £265,000 i’r gwasanaethau perthnasol;
3.1.6 argymell i’r Cyngor gynnydd o £3.91m sy’n gyfartal â chynnydd o 8.4% i’r Gyllideb Ysgolion Unigol;
3.1.7 bod unrhyw beth a gyflawnir gan gynigion Pontio’r Bwlch sy’n fwy na’r gofynion cyllideb yn y flwyddyn yn cael eu trosglwyddo i gyllideb wrth gefn i gefnogi cynnydd cyflogau yn ystod 2022/23 yn ychwanegol at yr hyn a ddarperir yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol o £0.95m a £1.5m i’w drosglwyddo i’r gronfa wrth gefn Cydnerthedd Ariannol yn cael ei ohirio i’w ystyried yn y Cyngor; a
3.1.8 bod cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4% ar gyfer 2022/23 yn unol â thybiaethau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol yn cael ei ohirio i’w ystyried yn y Cyngor.
Dogfennau ategol: