Agenda item

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

C/2021/0274

Hen Ysgol Gyfun Glyncoed,

Badminton Grove, Glynebwy, NP23 5UL

Ysgol Gynradd newydd a Chyfleuster Gofal Plant gydag Ardaloedd Chwarae Allanol, Gofodau Hamdden a Seilwaith Arall Cysylltiedig

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm fod yr adroddiad yn ceisio caniatâd cynllunio i adeiladu ysgol gynradd newydd 360 lle a meithrinfa/safle gofal plant 52 lle ar gyn safle Ysgol Gyfun Glyncoed. Byddai’r ysgol arfaethedig yn cymryd lle ysgol gynradd bresennol Glyncoed sydd mewn cyflwr gwael. Nododd yr Arweinydd Tîm y byddai’r ysgol yn rhoi amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol a chwaraeon y gellid eu gwahanu oddi wrth y brif ysgol. Mae safle’r cais yn barsel o dir llwyd yn cynnwys cyfuniad o dir caled a phrysgwydd sy’n gymharol wastad gyda Badminton Grove.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm amlinelliad pellach o safle’r cais gyda chymorth y diagramau a gynhwysir o fewn yr adroddiad.

 

Siaradodd yr Arweinydd Tîm am yr adroddiad ymhellach a dywedodd y byddai mynediad i’r safle oddi ar y fynedfa bresennol i gerbydau ger Badminton Grove. Byddai’r fynedfa a’r ardaloedd parcio presennol yn cael eu huwchraddio a’u hymestyn i ddarparu ardaloedd parcio ychwanegol ac ardal gwasanaeth. Darperid cyfanswm o 111 gofod parcio car yn cynnwys 40 ar gyfer y canolfan bowls bresennol. Byddai’r 71 gofod arall ar gyfer staff ac ymwelwyr. Byddai ardal gollwng 10 bae yn ogystal at y ddarpariaeth parcio uchod.

 

Yn nhermau ymgynghoriad, adroddwyd na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan ymgyngoreion, er yr amlinellwyd llythyr gwrthwynebu gan breswylwyr a amlinellwyd gan yr Arweinydd Tîm.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd Tîm at egwyddor datblygu fel y manylir yn yr adroddiad a dywedodd fod y safle yn un tir llwyd lle arferai’r ysgol gyfun fod ac wedi ei leoli o fewn yr Ardal Strategaeth gogleddol lle roedd ffocws ar adfywio’r ardal. Teimlwyd y byddai’r cynnig yn darparu ar gyfer ysgol fodern newydd gyda chyfleusterau gwell yn unol â rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Dywedodd yr Arweinydd Tîm na fyddai’r cynnig yn effeithio ar ddefnydd y gymuned o’r caeau chwarae, ardal gemau, maes chwarae plant a mynedfeydd presennol.

 

Ystyriwyd nifer o wahanol gynlluniau/dyluniadau cyn eu cyflwyno i’r Pwyllgor ac amlinellodd yr Arweinydd Tîm ddyluniad yr adeilad a’r deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer y cais. Ychwanegodd yr Arweinydd Tîm y cafodd y dyluniad ei ystyried yn ofalus i bontio’n llyfn o un llawr yn nhu blaen y safle yn codi i adeilad dau lawr yn y cefn.

 

Yn nhermau priffyrdd, dywedodd yr Arweinydd Tîm fod yr Asesiad Trafnidiaeth wedi dod i’r casgliad bod y safle o ran ei leoliad a’r cyfleoedd ar gyfer mynediad gan amrywiaeth o ddulliau trafnidiaeth yn hygyrch, cynaliadwy ac yn cydymffurfio gyda pholisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Ni fyddai’r datblygiad yn arwain at fawr o gynnydd yn nifer tripiau cerbydau y gellid darparu ar eu cyfer ar y rhwydwaith priffyrdd lleol. Daethpwyd felly i’r casgliad fod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol o ran priffyrdd a thrafnidiaeth.

 

Cydnabu yr Arweinydd Tîm sylwadau’r gwrthwynebwyr yn nhermau tagfeydd posibl ar amserau brig yn ystod amser gollwng/casglu o’r ysgol, fodd bynnag nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi codi unrhyw faterion o gonsyrn yng nghyswllt y datblygiad yn nhermau symudiadau cerbydau na darpariaeth parcio. Dywedwyd ymhellach fod eisoes ysgol gynradd tua 110m i dde’r safle ac felly bod effaith yr ysgol newydd arfaethedig yn annhebygol o waethygu’r sefyllfa bresennol. Cyfeiriodd yr Arweinydd Tîm hefyd at y parth gollwng 10-bae a theimlai y byddai hyn yn gynorthwyo ar lefel parcio ar y stryd ynghyd â bae gollwng i ffordd presennol yn yr ardal.

 

Nododd yr Arweinydd Tîm y sylwadau am barcio anystyriol a/neu anghyfreithlon, fodd bynnag nodwyd fod hyn yn fater i’r heddlu ac na fedrid ei reoli drwy’r system cynllunio.

 

Daliodd yr Arweinydd Tîm i roi trosolwg o’r adroddiad a chyfeiriodd at y gwaith daear a gyflwynwyd gyda’r cais sy’n cynnwys gwaith adfer. Nodwyd hefyd fod risg isel o lifogydd ac er fod risg uchel o fewn canol y datblygiad ar gyfer llifogydd d?r wyneb, y byddid yn gwneud gwaith ailbroffilio i drafod y pryderon hyn. Rhoddodd yr Arweinydd Tîm drosolwg manwl o’r tirlunio a wneir fel rhan o’r cais ac amlinellodd bwyntiau allweddol pellach a gynhwysir yn yr adroddiad. Yn nhermau carbon sero-net, dywedwyd mai dyddiad dechrau’r cynllun oedd 1 Ionawr 2022, felly nid oedd yn berthnasol i’r cynnig hwn gan fod y cais eisoes yn y system.

 

Daeth yr Arweinydd Tîm i ben drwy ddweud yr ystyrir bod yr ysgol gynradd a’r cyfleuster gofal plant arfaethedig yn dderbyniol mewn termau defnydd tir. Teimlid na fyddai’r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal o amgylch nac yn cael effaith niweidiol ar y cyfleusterau presennol na’r rhwydwaith priffyrdd ac felly gofynnodd i’r Pwyllgor i gymeradwyo’r cais gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau ar y pwynt hwn.

 

Croesawodd Aelod y datblygiad, fodd bynnag cododd bryderon yng nghyswllt mannau parcio/gollwng gan fod pob ysgol yn profi tagfeydd yn ystod amserau brig. Teimlai’r Aelod mai dim ond ar gyfer y diben penodol hwnnw y dylid defnyddio’r bae gollwng a gofynnodd am sicrwydd fod capasiti parcio digonol.

 

Dywedodd fod gan yr Adran Priffyrdd fewnbwn i’r cais a dywedwyd y bu ysgol gyfun ar y safle yn flaenorol. Dywedodd y Rheolwr Tîm – Amgylchedd Adeiledig fod y parth ‘gollwng’ a gynhwyswyd yn y cais yn rhoi 10 gofod ychwanegol ar gyfer gollwng. Byddai’r gofodau parcio hyn ger y briffordd ac y byddent yn cael eu rheoli gan yr ysgol. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm fod tagfeydd yn broblem i bob ysgol, fodd bynnag mae gorchmynion traffig tu allan i’r ysgol a byddai man croesi ffurfiol i gerddwyr. Dywedodd y Rheolwr Tîm hefyd fod y ddarpariaeth parcio oedd yn rhan o’r cais yn cydymffurfio gyda’r Canllawiau Cynllunio Atodol ac yr ystyriwyd ef yn ddigonol ar gyfer pob ymwelydd a digwyddiad.

 

Cytunodd yr Is-gadeirydd gyda sylwadau’r Aelod a chroesawodd y gwaith a wneir fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Teimlai’r Is-gadeirydd fod y Tîm Priffyrdd wedi gwneud llawer o waith i drin pryderon traffig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ysgol niwtral o ran carbon, dywedodd yr Arweinydd Tîm nad oes gofyniad i’r ysgol hon fod yn un niwtral o ran carbon gan y cymeradwywyd yr achos busnes cyn y dyddiad dechrau o 1 Ionawr 2022. Ychwanegwyd y caiff ysgolion newydd eu datblygu am nifer o flynyddoedd cyn iddynt ddod i gais cynllunio. Fodd bynnag, mae’r cais wedi cynnwys agwedd niwtral o ran carbon yn y cais er nad yw’n rheidrwydd eu cynnwys.

 

Croesawodd Aelod arall y datblygiad a theimlai fod angen ysgolion newydd yn ein cymunedau. Fodd bynnag, mae’n hanfodol er mwyn diogelwch y plant y caiff y ffordd ei chadw’n glir a bod y mesurau tawelu traffig angenrheidiol yn cael eu rhoi yn eu lle i ddiogelu pawb sy’n defnyddio’r ysgol.

 

Cynigiodd Aelod arall argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd hyn ac ar hynny

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio.

 

C/2021/0253

Premier Club, Stryd William, Cwm, Glynebwy

Addasu hen glwb cymdeithasol yn 2 byngalo dormer yn cynnwys dileu estyniadau ac adeiladau allanol, ailadeiladu’r drychiad blaen a chynyddu uchder yr adeilad i greu llawr uchaf a strwythur to newydd

 

Cymerodd yr Is-gadeirydd y gadair ar y pwynt hwn gan fod y Cadeirydd wedi datgan buddiant yn y cais.

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod y cais yn gofyn am gymeradwyaeth i addasu’r hen glwb cymdeithasol yn 2 fyngalo dormer. Er mwyn hwyluso’r cais, byddai angen i’r datblygydd ddileu’r drychiad sy’n wynebu Stryd William, cynyddu uchder waliau presennol a ffurfio to goleddf newydd. Adeiledid portsh bach ar ddrychiad blaen y ddwy annedd. Gosodir ffenestri newydd ar lefel llawr adar a drychiadau ochr gyda ffenestri dormer a goleuadau to ar y tu blaen ac ar y cefn i wasanaethu’r ystafelloedd atic. Caiff yr anheddau eu gorffen mewn rendr llyfn a’r portshys mewn carreg brad llwyd.

 

Siaradodd y Swyddog Cynllunio am yr adroddiad ymhellach ac amlinellodd yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd a’r ymatebion a gafwyd. Hysbysodd y Swyddog Cynllunio yr Aelodau, er na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, y codwyd pryderon yng nghyswllt y coed aeddfed sy’n agos at y llain datblygu a’r llwybr tarmac a gynigir yn agos at wreiddiau coed a ddiogelir gan Orchymyn Diogelu Coed. Felly mae’n rhaid dangos sut y gellid cwblhau’r datblygiad heb dorri gwreiddiau neu gywasgu pridd o amgylch gwreiddiau coed. Mae’n rhaid i’r Arolwg Coed ddangos coed yng nghyswllt dyluniad, dymchwel, adeiladu a chynnwys categori coed a’r cyfyngiadau. Roedd angen arddangos sut y gellid cyflawni’r datblygiad heb golled/effaith niweidiol ar goed presennol sy’n werth cael eu cadw a sut y dylid eu diogelu yn ystod datblygiad.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio yr Aelodau at yr ymateb a gafwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a ddywedodd fod y cais cynllunio yn cynnig datblygiad bregus iawn (tai). Cadarnhaodd y Map Cyngor Datblygu fod y safle o fewn Parth C1 a bod Adran 6 TAN 15 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i benderfynu os oes cyfiawnhad dros ddatblygiad yn y lleoliad hwn.

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio ar ôl hysbysu Aelodau Ward mai bwriad y swyddog yw gwrthod caniatâd cynllunio dan bwerau dirprwyedig ar sail risg llifogydd. Gofynnodd Aelod Ward i’r cais gael ei gyflwyno i bwyllgor ar y sail fod yr adeilad yng nghanol stryd lle nad yw’r risg o lifogydd yn ddim gwahanol i’r cartrefi eraill a fu yno am flynyddoedd lawer ac na fu erioed lifogydd arnynt.

 

Amlinellodd y Swyddog Cynllunio ymhellach y polisïau cynllunio fel y’u manylir yn yr adroddiad a dywedodd fod Cynllun Datblygu Lleol Blaenau Gwent yn dangos fod y safle a gynigir o fewn ffin yr anheddiad lle caniateir datblygiad fel arfer yn amodol at bolisïau yn y Cynllun ac ystyriaethau sylweddol arall. Nid yw’r tir yn destun unrhyw ddynodiadau neu gyfyngiadau yn ôl y Map Cynigion Cynllun Datblygu Lleol. Fodd bynnag, mae Map Cyngor Datblygu Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos fod yr holl safle o fewn Parth Llifogydd C1 ac felly bod yn rhaid ystyried y cynnig datblygu yng ngoleuni gofynion Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 Datblygu a Risg Llifogydd a Pholisi SP7 y Cynllun Datblygu Lleol Blaenau Gwent a fabwysiadwyd. Dywedodd y Swyddog Cynllunio gan y barnwyd gan fod yr adeilad y glwb y credir ei fbod yn ddefnydd llai bregus, fodd bynnag dosbarthwyd y defnydd preswyl arfaethedig yn fregus iawn ac felly fod yn rhaid ei gyfiawnhau a bod y datblygiad yn cyrraedd y profion a amlinellir yn y TAN. Hysbysodd y Swyddog Cynllunio yr Aelodau nad oedd y cais yn diwallu dim o’r profion ac felly na fedrid cyfiawnhau’r cais. Oherwydd pryderon am lifogydd, teimlid nad oedd y cais yn dderbyniol gan y byddai’n groes i bolisïau cynlluniai cenedlaethol a hefyd bolisïau cynllunio lleol.

 

Amlinellodd y Swyddog Cynllunio y pwyntiau allweddol yng nghyswllt tirlunio, garddwriaeth ac ecoleg.

 

I gloi, teimlai’r Swyddog Cynllunio y byddai’r datblygiad, pe rhoddid caniatâd cynllunio, yn dod ag adeilad gwag i ddefnydd buddion ac yn cynyddu stoc tai yr ardal leol. Fodd bynnag, mae’r datblygiad arfaethedig yn gwrthdaro gyda pholisïau cenedlaethol lleol a chenedlaethol yn nhermau risg llifogydd ac felly bernid ei fod yn annerbyniol. Roedd yr agwedd at y cais hwn yn gydnaws gyda’r pwysigrwydd cynyddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar risg llifogydd. Mae hefyd dystiolaeth annigonol i brofi os y byddai’r datblygiad yn effeithio ar goed yn agos at y safle. Felly dywedodd y Swyddog Cynllunio mai argymhelliad y swyddog oedd y dylid gwrthod caniatâd cynllunio.

 

Cyfeiriodd Aelod at y ddau brif reswm dros wrthod yng nghyswllt coed a llifogydd. Gofynnodd yr Aelod beth fyddai angen i’r datblygydd ei wneud i drin y pryderon am y coed gan y teimlai’r Aelod y gellid datrys hyn yn rhwydd. Dywedodd yr Aelod mai’r brif broblem oedd risg llifogydd a gofynnodd ymhellach am esboniad yn nhermau defnydd bregus iawn.

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod TAN15 yn categoreiddio datblygiadau bregus iawn ar gyfer pob datblygiad preswyl sy’n cynnwys gwestai, parciau carafan ac adeiladau cyhoeddus. Felly, ni ddylai’r defnyddiau hyn gael eu caniatáu o fewn y parthau llifogydd hyn oherwydd eu bregusrwydd.

 

Yng nghyswllt coed, dywedodd y Swyddog Cynllunio y byddai angen i’r ymgeisydd gyflwyno arolwg coed diwygiedig sy’n rhoi ystyriaeth ddyladwy i’r coed ar hyd y terfyn gogledd-orllewinol. Cytunodd y Swyddog Cynllunio y gellid goresgyn y problemau hyn drwy balu’r coed yn ofalus neu’r ffordd y mae’r datblygydd yn gosod y dramwyfa.

 

Gofynnodd yr Aelod ymhellach os y medrid gwneud unrhyw waith peirianneg i liniaru llifogydd. Ni allai’r Swyddog Cynllunio roi sylwadau ar yr ardal ehangach a theimlai na ddylai’r gweithiau hyn fod yn gyfrifoldeb y datblygydd. Ategodd y Swyddog Cynllunio y cafodd y cais ei asesu fel datblygiad bregus iawn ac na ddylid ei ganiatáu o fewn yr ardal hon.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at gais arall a ystyriwyd gan y Pwyllgor oedd mewn amgylchiadau tebyg, fodd bynnag rhoddwyd caniatâd cynllunio. Dywedodd yr Aelod fod eisoes adeilad yn ei le y mae’r cais yn mynd ati i’w ddatblygu a bod cartrefi eraill yn yr ardal y byddai risgiau tebyg yn eu hwynebu.

 

Ni allodd y Swyddog Cynllunio roi sylwadau ar geisiadau blaenorol ac adeiladau eraill yn yr ardal. Mae’n rhaid ystyried y polisïau perthnasol pan dderbynnir ceisiadau newydd ac felly dywedodd y Swyddog Cynllunio y credai y dylid gwrthod caniatâd cynllunio oherwydd natur fregus y datblygiad arfaethedig a’r risg i ddatblygiad llifogydd posibl.

 

Ategodd y Swyddog Cynllunio fod yn rhaid ystyried canllawiau a pholisïau cyfredol ar gyfer pob cais a dderbyniwyd, fodd bynnag os yw’r Aelodau o blaid rhoi caniatâd cynllunio yn groes i argymhelliad y Swyddog y dylid gofyn am fesur risg llifogydd i ddiogelu preswylwyr y dyfodol ac y gellid ychwanegu hyn fel amod ynghyd ag arolwg coed i ddiogelu’r coed. Er y dywedodd y Swyddog Cynllunio nad oedd yn hyrwyddo’r llwybr gweithredu hwn gan fod y Swyddogion o’r farn fod y datblygiad yn groes i bolisi ac y dylai felly gael ei wrthod.

 

Ategodd Aelod gymeradwyaeth ceisiadau blaenorol a fu mewn safleoedd tebyg ger yr afon yn Cwm a gafodd ganiatâd a dywedodd y dylid cefnogi cartrefi newydd ym Mlaenau Gwent. Cynigiodd yr Aelod felly y dylid cytuno i’r cais. Eiliwyd y cynnig.

 

Mewn pleidlais, pleidleisiodd 3 Aelod yn erbyn y diwygiad a 6 Aelod o blaid y diwygiad. Ymatalodd y Cadeirydd, y Cynghorwyr D. Bevan a J. Hill rhag pleidleisio. Felly

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio.

 

 

 

Dogfennau ategol: