Agenda item

Cynnydd Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes a gyflwynwyd i roi trosolwg i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu o Raglen Ysgolion 21ain Ganrif, ynghyd â’r cyfle i graffu ar gynnydd yn unol â chyflenwi Rhaglen Band B.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Yng nghyswllt datblygu ysgol gynradd 360 lle newydd i gymryd lle ysgol Gynradd Glyncoed, diolchodd Aelod i bob Adran am greu ardal codi a gollwng disgyblion ger Allotment Road a fyddai’n lliniaru tagfeydd traffig ac yn gwella mynediad i’r safle.

 

Holodd Aelod am ymestyn maes parcio safle ysgol Six Bells. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes y cyflwynwyd cais ôl-weithredol am ddraeniad cynaliadwy wrth i ddeddfwriaeth ddod i rym ar ôl dechrau codi’r ysgol. Mae angen cynllun rheoli ecoleg ac maent yn gweithio gyda’r tîm Ecoleg tuag at adeiladu ar y safle yn unol gydag ymestyn cyfnod yr haf.

 

 

Dywedodd Aelod na fyddai’r £10m ar gyfer ailwampio a gwella ysgolion uwchradd yn mynd ymhell a holodd am y rhesymeg am yr amserlenni ar gyfer symud ymlaen gyda’r gwaith hwn. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod yn edrych ar fuddsoddiad hirdymor mewn ailwampio ysgolion uwchradd, yn y dyfodol byddai bandiau yn y rhaglen ysgolion 21ain ganrif yn ystyried ailwampio. Mae’n weledigaeth hirdymor ar gyfer yr Awdurdod Lleol a fyddai’n anelu i ddyrannu cronfeydd ar sail anghenion pob ysgol. Lluniwyd yr amserlen gan fod rhai ysgolion angen ystyriaeth fwy manwl o’r opsiynau ynghylch prosiectau ailwampio. Cafodd amlinelliad o gyllideb ei dyrannu i bob ysgol uwchradd ar sail cyflwr, addasrwydd ac angen, maent wedyn yn gweithio gyda’r ysgol i gynhyrchu briff prosiect sy’n bwydo i ddatblygu achos busnes a’r amserlenni cysylltiedig.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod yn cymryd dull holistig yng nghyswllt cynnal a chadw mân weithiau a’r rhaglen gweithiau wedi’u cynllunio a chyllid cynnal a chadw cyfalaf Llywodraeth Cymru a ddyrannwyd i gefnogi ysgolion. Maent yn edrych ar fynd i’r afael â materion cyflwr ac addasrwydd i’r raddfa fwyaf bosibl drwy edrych ar rai o’r gweithiau sylfaenol yn gysylltiedig gyda chynnal a chadw adeiladau ysgol a fyddai wedyn yn effeithio ar y newidiadau sylweddol a ddaw yn sgil rhaglen ysgolion y 21ain ganrif.

 

Dywedodd yr Aelod eto na fyddai £10m ar gyfer ailwampio ysgolion uwchradd yn mynd ymhellach yn arbennig gyda faint o waith sydd ei angen i wella ysgolion a gafodd eu hadeiladu yn y 1970au. Ysgol Glanhywi fyddai’r ysgol hynaf ym Mlaenau Gwent ar ôl cwblhau rhaglen Band B a gofynnodd yr Aelod ym mha fand y byddai Glanhywi. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad yw’n hysbys eto ym mha fand fyddai Ysgol Glanhywi ond byddai’n edrych ar ddod â hyn ymlaen drwy’r rhaglen flaenoriaethu sy’n cael ei drafod ar gyfer Band C yn y dyfodol.

 

Gadawodd y Cynghorydd R. Summers y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at ysgol gynradd Rhos-y-Fedwen a holodd am waith sy’n cael ei wneud wedi’i anelu at y cyfnod sylfaen. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y gwaith yn rhan o gynllun mwy sy’n cael ei wneud i’r ardal chwarae allanol a’i fod yn arbennig o berthnasol i’r cyfnod sylfaen a’i fod wedi ei gwblhau erbyn hyn. Cadarnhaodd bod y gwaith hwn yn syrthio tu allan i’r rhaglen gan fod ffocws gwaith y rhaglen ar ailwampio mewnol i wella addasrwydd yr amgylchedd addysgu a dysgu a chyflwr yr ysgol.

 

Yng nghyswllt yr ysgol Gymraeg newydd, cododd Aelod bryderon am nifer y disgyblion ar gyfer yr ysgol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y cynhaliwyd ymgynghoriad manwl a gafodd wedyn ei ddilyn gan god trefniadaeth ysgolion Llywodraeth Cymru a phrosesau statudol cysylltiedig. Dywedodd fod nifer disgyblion ysgol Bro Helyg yn cynyddu ac y gallai fod yn fwy na’r capasiti yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae gofyniad i’r awdurdod lleol gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg gyda’r ymrwymiad i gyflawni’r weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Caiff yr ysgol ei datblygu fel model twf egin i roi cyfnod i’r ysgol dyfu a byddent yn edrych ar fodelu’r boblogaeth disgyblion yn unol â hynny. Cafodd yr effaith ar ysgolion ei gasglu yn ystod yr ymgynghoriad a’r cyfnod yn dilyn ymgynghoriad a chaiff hefyd sylw yn y cynllun strategol Cymraeg mewn Addysg.

 

Gadawodd y Cynghorydd M. Day y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: