Agenda item

Adolygiad Perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd Chwarter 2 2020/21

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr drwy ddweud fod hwn yn adroddiad rheolaidd sy’n rhoi manylion cynnydd a gweithgareddau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Nodwyd fod Blaenau Gwent yn rhan o bartneriaeth Rhanbarth y De Ddwyrain a bod yr adroddiad yn benodol yn rhoi diweddariad ar y prosiectau a gyflwynir yn y Fwrdeistref Sirol, sy’n cael eu datblygu fel rhan o’r bartneriaeth. Mae’r prosiectau allweddol hyn yn cynnwys Metro Plus, hybu a chyflwyno cerbydau allyriad isel iawn (yn neilltuol tacsis), cynllun tai yn Ashvale, Tredegar a chydnabod llwyddiant rhaglen prentisiaeth Anelu’n Uchel, gyda chynllun peilot rhanbarthol ar y gweill gyda’r nod o ymestyn y rhaglen ar draws y rhanbarth.

 

Mae’r prosiectau hyn wedi arwain at ychydig dros £2m o fuddsoddiad yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd. Nodwyd fod y Pwyllgor Craffu Adfywio wedi ystyried a chefnogi’r adroddiad ym mis Rhagfyr 2021.

 

Wedyn daeth y Rheolwr Gyfarwyddwr i ben drwy roi diweddariad yng nghyswllt datblygu’r Cydbwyllgorau Corfforedig Rhanbarthol a dywedodd fod deddfwriaeth yn awr yn ei gwneud yn ofynnol i’r pedwar rhanbarth yng Nghymru i sefydlu Cydbwyllgor Corfforedig yn 2022. Mae cyfarfodydd cyntaf y Cydbwyllgorau hyn yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd a chynhelir cyfarfod cyntaf Cydbwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru yr wythnos ddilynol i osod y gyllideb (erbyn 31 Ionawr 2022) ar gyfer y flwyddyn i ddod. Daw pwerau newydd i’r pwyllgorau hyn i rym ym mis Mehefin 2022.

 

Wedyn rhoddwyd cyfle i Aelodau godi cwestiynau a rhoi sylwadau ar yr adroddiad.

 

Cynllun Metro Plus – Dolen Abertyleri – Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at baragraffau 2.4 i 2.6 yr adroddiad sy’n cyfeirio at Ddolen Abertyleri y cynllun Metro Plus a mynegodd ei bryder, er y bu trafodaethau yn mynd rhagddynt am y prosiect hwn ers peth amser, na ddaethpwyd i gasgliad pendant yng nghyswllt y cyllid ar gyfer y fenter. Dywedodd y credai pe na bai’r cynllun yn dod i ffrwyth y gellid efallai fuddsoddi’r arian mewn man arall. Gofynnodd am ddiweddariad yng nghyswllt y prosiect hwn a’r trafodaethau a fu hyd yma.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nodwyd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi rhaglen ‘Adfer eich Rheilffyrdd’ yn ystod y flwyddyn flaenorol ac wedi gwahodd cynigion ar draws Prydain fel rhan o’r agenda ‘Codi’r Gwastad’ i ddatblygu rheilffyrdd mewn gwahanol gyfnodau. Fel rhan o’r rhaglen honno roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o gynlluniau, gyda Dolen Abertyleri yn un cynllun o’r fath. Mae dialog yn parhau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru am y cynllun a disgwylir cyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y rhaglen hon – byddai hyn yn rhoi arwydd o lle mae’r cynllun arni yn nhermau blaenoriaethau cyllid. Nodwyd fod perthynas rhwng cynllun Dolen Abertyleri â’r gwaith prosiect sy’n mynd rhagddo ar brif reilffordd Cwm Ebwy.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod peth amheuaeth am y cynllun a’i farn ef oedd bod y prosiect yn pylu. Gofynnodd os y byddai’n deg dweud yn bendant nad oedd y cynllun unrhyw le yn nes at dderbyn cyllid nag oedd 5 mlynedd yn ôl.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cynhaliwyd dialog am y tro cyntaf am ffynonellau cyllid posibl ar gyfer y cynllun a bod gwaith datblygu a dylunio GRIP 3 ar lein Abertyleri gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei ddatblygu gan Trafnidiaeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn trafod cwmpas y prosiect a natur y gwaith. Mae’r cynllun ymhellach ymlaen o ran y broses datblygu ac mae’r proseict rheilffordd £70m wedi agor y cyfle i wireddu gwasanaeth Abertyleri. Er bod y prosiect yn symud ymlaen, nodwyd fod prosiectau rheilffordd yn araf i ddatblygu ac yn gymhleth oherwydd bod nifer o sefydliadau’n cymryd rhan yn y cynllun ac mae’r rhyngwyneb hwn yn cyflwyno cymhlethdodau o ran amserlenni.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd â blaenoriaethau ariannol gwahanol ac chredai fod dal i angen trafod gyda’r ddwy lywodraeth yn nhermau sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect ac nad oedd yr awdurdod fawr yn nes at i’r cynllun ddod i ffrwyth. Ychwanegodd fod y bartneriaeth gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfle i Flaenau Gwent ond dywedodd, os nad oes cynnydd, bod angen i’r awdurdod ganfod proseict arall i’w ddatblygu mewn man arall yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am weithgaredd ger Cwrt Brachty, Aber-bîg, tybiai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y gweithgaredd hwn yn gysylltiedig â gwaith dylunio GRIP 3 a wneir i’r brif reilffordd a’r rhyngwyneb rhwng y brif linell a dolen Abertyleri er mwyn llywio’r cynlluniau dylunio a chostau.

 

Gwasanaeth Trên Olaf ar ddydd Sadwrn – mynegodd Aelod ei gonsyrn fod y gwasanaeth trên olaf o Gaerdydd ar ddyddiau Sadwrn yn cael ei ganslo ar fyr rybudd ac nad oes gwasanaeth bws yn lle yn cael ei ddarparu. Gofynnodd i swyddogion ymchwilio a gohebu gyda Trafnidiaeth Cymru am y mater hwn.

 

Gwasanaeth Bws E3 – dywedodd Aelod fod yr Arweinydd wedi siarad yn flaenorol am flaenoriaeth Metro a phwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth ar draws y cymoedd. Gofynnodd i’r Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd pryd y cafodd wybod ac a ymgynghorwyd ag ef fod y gwasanaeth bws E3 rhwng Aber-bîg a Cwm yn dod i ben. Roedd hyn wedi gadael Cwm gyda’r gwasanaeth bws gwaethaf yn y Fwrdeistref Sirol ac wedi gadael pobl oedd eisiau teithio dwy filltir i Cwm yn gorfod gwneud taith 55 munud. Esboniodd fod pobl oedrannus sydd angen mynd i’r ysbyty yn gorfod cerdded o Aber-bîg i’r Heol Fasnachol, gyda thaith bws 55 munud wedyn (drwy newid yng Nglynebwy). Dywedodd yr Aelod fod hyn yn hollol annerbyniol a gofynnodd i’r Aelod Gweithredol gwrdd gyda’r cyhoedd yn Cwm ac Aber-bîg ac i gysylltu gyda Llywodraeth Cymru am reoleiddio bysus.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y cynhaliwyd trafodaethau gyda gweithredwr i ganfod os y gellid ailnegodi rhai o’r llwybrau ond mae angen cynnal dialog gyda darparwyr gwasanaeth eraill ar draws y Fwrdeistref Sirol. Croesawodd yr ymagwedd at gwrdd gyda Llywodraeth Cymru a chynigiodd i’r Aelod gymryd rhan yn y trafodaethau hynny.

 

Dywedodd yr Aelod fod angen system drafnidiaeth integredig a byddai’n hapus i fynychu cyfarfod ar y cyd gyda’r Aelod Gweithredol a Llywodraeth Cymru. Yn y cyfamser gofynnodd am i ddarpariaeth argyfwng fod ar gael ar gyfer preswylwyr Aber-bîg a dywedodd y gellid ariannu hyn o’r cronfeydd wrth gefn.

 

Dywedodd Aelod Ward Cwm fod ganddo fwy na 47 mlynedd o brofiad o weithio i wasanaeth bws a bod ardal Cwm wedi ei thorri bant. Dywedodd yr hoffai ef hefyd gymryd rhan yn y trafodaethau o hyn ymlaen.

 

Mewn ymateb i bryder a gododd Aelod nad oedd y Cadeirydd yn caniatáu rhai meysydd o gwestiynau, dywedodd mai hwn oedd yr unig gyfle a gafodd i graffu ar yr adroddiad oherwydd nad yw’n Aelod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gofynnodd am farn gyfreithiol ar y mater.

 

Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol fod gan Aelod hawl i ofyn cwestiynau yn y Cyngor ond y byddai hyn yn dibynnu ar natur y cwestiwn ac os yw’n ymwneud yn uniongyrchol â’r adroddiad ac y byddai hyn yn amrywio yn ôl amgylchiadau yr hyn a ofynnir. Mae gan y Cadeirydd bob amser hawl i ganiatáu neu beidio caniatáu chwestiwn a chylch gorchwyl y Cadeirydd fel yr amlinellir yn y Cyfansoddiad yw rheoli trafodaeth, gyda chefnogaeth. Awgrymodd y swyddog y gallai fod yn fuddiol cynnal trafodaeth tu allan i’r cyfarfod yng nghyswllt y paramedrau hyn.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur y byddai trafodaeth yn ddefnyddiol ac yn ei farn ef fod pob cwestiwn a ofynnwyd ar yr agenda wedi cyfeirio at eitemau a gynhwysir o fewn yr adroddiadau.

 

Cynllun Profi Tacsis Trydan – cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio bod gyrwyr tacsi wedi medru rhentu cerbydau trydan ers dechrau’r flwyddyn. Roedd rhai heriau gan fod gyrwyr yn awr yn gorfod dysgu sut i yrru cerbydau trydan yn hytrach na cherbydau petrol neu ddisel. Mae hefyd nifer o fannau gwefru sydd angen eu cysylltu gyda ffynonellau p?er ar gyfer tacsis i ailwefru ac mae hyn yn cael ei drafod gyda’r cwmni cyfleustod i’w flaenoriaethu.

 

Cysylltiadau Trafnidiaeth ar Draws y Cymoedd – holodd Aelod pa waith sy’n mynd rhagddo i gysylltu pentrefi Tredegar a Brynmawr a’r cynnydd a wnaed i gysylltu’r cymoedd hyn gyda gorsafoedd ac ardaloedd diwydiannol ar y cyrion.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod gan Dredegar gysylltiadau i orsaf Rhymni yn ogystal â gorsaf Glynebwy ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gyda’r prif rwydwaith rheilffyrdd yn cael ei uwchraddio mae angen i’r Cyngor newydd gynnal darn o waith i ddatblygu cynllun trafnidiaeth. Byddai angen i’r gwaith hwn gynnwys sut y defnyddir amlder cynyddol gwasanaethau rheilffordd a’i gysylltu gyda gwasanaethau lleol. Nodwyd nad yr awdurdod oedd yr awdurdod trafnidiaeth felly nid oes ganddo gyfrifoldeb am y teithiau bws ond y gellid datblygu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol ar y cyd â’r Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol i gynnwys sut y gallai buddsoddiadau metro ar draws y rhanbarth gysylltu gyda thrafnidiaeth gyhoeddus.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod gwasanaeth bws ‘fflecsi’ yn cael ei beilota ar hyn o bryd sy’n cynnwys gwasanaethau i stadau diwydiannol a gallai pobl yn gweithio yn stad ddiwydiannol Rasa yn awr deithio i’r safle hwn yn defnyddio’r gwasanaeth bws i weddu i’w patrymau shifft - cafodd hyn adborth cadarnhaol gan y busnesau. Byddai’r cynllun peilot hwn yn llywio penderfyniadau’r dyfodol a byddai’r gwaith rhanbarthol yn llywio trafodaethau ond pwysleisiodd nad y Cyngor yw’r awdurdod trafnidiaeth a bod angen cynnal gwaith mewn nifer o sefydliadau i ddatblygu cynllun trafnidiaeth i’r dyfodol ar gyfer yr awdurdod.

 

Aeth yr Aelod ymlaen drwy gyfeirio at dacsis trydan a dywedodd bod trefi’r cymoedd yn wahanol iawn i ddinasoedd ac ardaloedd arall a bod y costau yn anodd iawn i yrwyr tacsi. Gofynnodd os yw’r awdurdod yn gweithio ar system i helpu gyrwyr i symud i gerbydau trydan yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod nifer o ardaloedd yn y cymoedd eisoes wedi codi’r pryder hwn a bod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymchwilio cyllido i’w gwneud yn llawer rhwyddach i yrwyr tacsi i fforddio cerbydau trydan yn y dyfodol. Disgwylir canlyniad yr ymchwiliad hwn.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd fod angen gwaith pellach mewn cysylltiad â’r Awdurdod Twristiaeth Rhanbarthol. Er y gwnaed cynnydd yn cynnwys gwasanaethau i rai stadau diwydiannol, mae angen ymestyn hyn mor gyflym ag sydd modd ac mae Trafnidiaeth Cymru yn cydnabod hyn. Fodd bynnag, mae buddsoddiad yn allweddol i gyrraedd y lefel nesaf ac mae gan fysus rôl allweddol yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd yr Aelod a siaradodd yn gynharach fod hyn yn siom ac roedd wedi codi’r pwynt yn y pwyllgor craffu nifer o weithiau.

 

Daeth Arweinydd y Gr?p Llafur i ben drwy ddweud oherwydd nad oedd y cyllid ar gyfer Dolen Abertyleri yn ddim nes at gael ei dderbyn, y gall hyn fod yn gyfle i’r cyngor ailystyried y prosiectau a’r blaenoriaethau a gyflwynwyd i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd fel rhan o’r rhaglen.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Dogfennau ategol: