Agenda item

Adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Addysg

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg sy’n cyflwyno Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ar gyfer Tymor y Gwanwyn a Thymor yr Haf.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Teimlai Aelod y dylai cynnydd ar y saith argymhelliad ar adroddiad diwethaf Estyn fod wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Cododd bryderon am ddata perfformiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi gohirio cyhoeddi mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer blynyddoedd academaidd 2020/21 a 2021/22 gan ddweud na fyddid yn defnyddio data dyfarniadau cymhwyster i adrodd ar gyrhaeddiad, ond bod yr adroddiad yn cynnwys y data hwnnw. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cafodd cynnydd ar y saith argymhelliad a amlygwyd gan Estyn ei rannu’n flaenorol gydag Aelodau fel rhan o’r adroddiad hunanwerthuso. Gellid hefyd gyflwyno hyn yn Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar Wasanaethau Addysg yn y dyfodol. Yng nghyswllt data perfformiad ni phriodolir yr wybodaeth a gyflwynir i unrhyw ysgol a dim ond ar gyfer dibenion hunanfarnu ac nid ar gyfer materion atebolrwydd ehangach y’i defnyddid. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod yr wybodaeth hon drwy raddau a benderfynid gan y ganolfan ac ni fedrir ei gymharu ond ei bod yn asesiad i symud ymlaen a rhoi llinell sylfaen ar berfformiad cyfredol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gorff llywodraethu Canolfan yr Afon, dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai Aelodau yn gwybod o adroddiad Gwella Ysgolion fod Canolfan yr Afon dros y 12 mis diwethaf wedi dod yn ffurfiol yn ysgol sy’n achosi consyrn. Fel rhan o bwerau ymyriad yr awdurdod lleol, maent wedi penodi Llywodraethwyr ychwanegol ar ran yr awdurdod lleol, yn cynnwys Cadeirydd Llywodraethwyr sydd wedi cryfhau llawer ar y corff llywodraethu. Teimlai’r Cyfarwyddwr yn sicr fod y corff llywodraethu presennol yn dechrau cymryd camau am dderbyniadau, lleoli dysgwyr ac ystyried cynllunio datblygiad ysgol i wella’r gosodiad ar gyfer plant a phobl ifanc.

 

Yng nghyswllt adrodd cynnydd ar y cwricwlwm newydd, dywedodd y Cyfarwyddwr y cyflwynir elfennau o’r newidiadau dechreuol am y cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2022 a chadarnhaodd y byddai diweddariadau ar ddiwygio ADY, diwygio cwricwlwm a diwygio cymwysterau yn dod yn rhan ffurfiol o’r dulliau adrodd gan symud ymlaen i’r flwyddyn academaidd newydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd y dylid ehangu gweithio agos gyda’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yng nghyswllt y bill ADY newydd, tebyg i fod gweithwyr cymdeithasol ar gael mewn ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr rhwng adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r adroddiad hwn y byddent yn medru dangos gweithio traws-gyfarwyddiaeth a fyddai’n cael ei gryfhau ar draws addysg a gofal cymdeithasol, yn neilltuol gan eu bod yn delio gyda’r un plant a’r bobl ifanc mewn lleoliadau cymunedol ac ysgolion.

 

Croesawodd Aelod weithio agosach gyda’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn neilltuol o amgylch iechyd a llesiant gan fod rhai plant gyda phroblemau tebyg i broblemau ymddygiad, anhwylderau bwyta a phroblemau iechyd meddwl wedi bod yn aros am dros 18 mis i gael apwyntiad gydag ymgynghorwyr. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y bu’r sefyllfa ynghylch cydweithio gyda gwasanaethau iechyd yn neilltuol o anodd oherwydd y pandemig. Bu llawer o wasanaethau dan bwysau ac mae CAMHS yn un o’r meysydd gwasanaethau hyn. Rhoddodd y Cyfarwyddwr sicrwydd y byddent yn parhau i weithio’n agos gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd i gefnogi plant a phobl ifanc. Mae gwaith gwasanaeth cwnsela y Gwasanaethau Ieuenctid hefyd yn sicrhau fod ystyriaethau lles emosiynol yn flaenllaw yn y gwaith a wnaed gyda phlant a phobl ifanc, gan gymryd dulliau ataliol.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 54 – Disgrifiad Risg EDDRR1 ‘Methiant ysgolion ym Mlaenau Gwent i addasu a newid yn ôl gofynion y cwricwlwm newydd ac agenda cenedlaethol Llywodraeth Cymru fel y nodir yn y ddogfen agenda diwygio cenedlaethol “Addysg i Gymru: Ein cenhadaeth genedlaethol” – a theimlai y dylid aileirio’r paragraff hwn gan fod llawer o ysgolion yn gweithio’n barhaus ar y cwricwlwm newydd. Esboniodd y Cyfarwyddwr mai dyma’r risg sy’n gysylltiedig gydag ysgolion yn methu addasu ond cytunodd i ddiwygio geiriad y paragraff i osgoi unrhyw gamddealltwriaeth o eirfa.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod Aelodau wedi craffu ar yr wybodaeth a fanylir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am dymor Gwanwyn a thymor Haf 2021 ac wedi cyfrannu at asesiad parhaus o effeithlonrwydd drwy wneud argymhellion priodol i’r Pwyllgor Gweithrediaeth.

 

Dogfennau ategol: