Agenda item

Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg – 1 Ebrill i 30 Medi 2021

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ar y cyd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant a’r Rheolwr Strategol Gwella Addysg.

 

Dywedwyd fod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth a dadansoddiad ar berfformiad diogelu gan Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Addysg o 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021. Mae’r wybodaeth yn galluogi aelodau i ddynodi tueddiadau a meysydd diogelu o fewn yr Awdurdod sydd angen eu datblygu ymhellach i wella arferion diogelu er mwyn diwallu anghenion diogelu plant a phobl ifanc o fewn Blaenau Gwent.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth yr atgyfeiriadau i Gwasanaethau Cymdeithasol a nododd fod cynnydd, fodd bynnag mae’r rhain yn cael eu monitro yn fisol a dywedodd y gwelwyd materion tebyg mewn awdurdodau cyfagos. Amlinellodd y Swyddog y pwyntiau allweddol yng nghyswllt amddiffyn plant.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod os y cafodd nifer fawr o atgyfeiriadau eu derbyn gan yr Heddlu yr oedd yn rhaid eu hailatgyfeirio yn ôl i’r Heddlu ac nad oeddent yn fater i Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedwyd na chaiff unrhyw atgyfeiriadau eu dychwelyd yn ôl i’r Heddlu. Os nad yw atgyfeiriad yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cymorth statudol gan y gwasanaethau cymdeithasol, mae nifer o gynlluniau ym Mlaenau Gwent yn ymwneud â gwasanaethau ataliol, yn bennaf Teuluoedd yn Gyntaf, a chynigir pecyn cymorth haen isel gyda chaniatâd rhieni. Dywedodd y Swyddog bod gwaith yn mynd rhagddo gyda gweithwyr cymorth Addysg a Teuluoedd yn Gyntaf, yn edrych ar fodel a gafodd ei roi yn ei le gyda gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion, i werthuso os yw’r model yn gweithio, sy’n atal atgyfeiriadau diangen rhag cyrraedd y Gwasanaeth IAA.

 

Gadawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gadawodd y Cynghorydd J. Holt y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Dilynodd trafodaeth am weithwyr cymdeithasol a dywedodd nad yw trosiant staff Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mlaenau Gwent yn ddim gwahanol i’r hyn yw yn genedlaethol neu mewn awdurdodau cyfagos. Mae trosiant mawr o staff ac yn yr achosion hyn gallai fod yn anodd i’r teulu feithrin perthynas hirsefydlog. Ychwanegodd fod yr Awdurdod yn ceisio sicrhau mai ychydig o darfu oedd pan oedd gweithwyr cymdeithasol yn gadael yr Awdurdod ac angen ailddyrannu achosion.

 

Rhoddodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg drosolwg o’r wybodaeth addysg yn cyfeirio at Ebrill 2021 i Orffennaf 2021. Dywedwyd y cafodd y canfyddiadau eu hadrodd yn ystod y pandemig, felly nid yw’n bosibl gwneud cymariaethau gan y bu tarfu mewn ysgolion. Amlinellodd y Swyddog ymhellach y nifer o ymyriadau corfforol cyfyngol, niferoedd digwyddiadau bwlio a arweiniodd at waharddiadau. cyfarfodydd Sicrwydd Ansawdd, dyfarniadau Estyn, Operation Encompass, adrodd ar gydymffurfiaeth ac addysg ddewisol yn y cartref. Yng nghyswllt addysg ddewisol yn y cartref, dywedodd y Swyddog fod prosesau priodol yn eu lle i fonitro gydag ymweliadau ffurfiol i wirio os yw’r addysg yn addas. Fodd bynnag, er bod y nifer y disgyblion a addysgir yn y cartref wedi cynyddu, mae hyn yn debyg i weddill Cymru a theimlid fod hyn oherwydd y pandemig. I gloi, rhoddwyd trosolwg pellach yng nghyswllt esgyniadau DBS a VAWDASV.

 

Gwahoddodd Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd Aelod am nodyn gwybodaeth ar amseroldeb gwybodaeth ar drosglwyddo o ysgolion tu mewn i Flaenau Gwent ac ar gyfer disgyblion yn dod o’r tu allan i Flaenau Gwent.

 

Cytunodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg i siarad gyda chydweithwyr i ganfod sut i hwyluso’r wybodaeth gan yr Heddlu yng nghyswllt unrhyw ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ysgolion. CYTUNODD y Pwyllgor y dylid darparu papur gwybodaeth ar brosesau y gellid eu rhoi ar waith.

 

Cododd Aelod bryderon am addysg ddewisol yn y gartref a theimlai y dylai fod mwy o wiriadau. Dywedodd yr Aelod, oherwydd y pandemig, y cafodd canlyniadau arholiad eu seilio ar asesiadau athrawon ac os nad yw pobl ifanc yn cael eu haddysgu gartref, nid ydynt yn cael eu hasesu gan athrawon a byddai hynny’n effeithio ar eu canlyniadau.

 

Nododd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg fod addysg ddewisol yn y cartref yn her genedlaethol, a waethygwyd gan y pandemig, a nododd y gwahanol drefniadau sydd yn eu lle i reoli hyn ac awgrymodd y dylid cael mwy o adborth gan y swyddog perthnasol am y pryderon ehangach fel pwynt gweithredu ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

O safbwynt diogelu, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Awdurdod wedi codi’r pryderon hyn gyda Llywodraeth Cymru ers nifer o flynyddoedd. Mewn rhai achosion, nid yw’r Awdurdod yn gwybod am y plentyn gan nad oes angen hysbysu’r ysgol leol. Felly, nid oes neb yn monitro’r plentyn o ran diogelu. Teimlid fod angen cofrestr ffurfiol a mwy o alwadau yn ystod y flwyddyn i fonitro lles plant ac mae’r Bwrdd wedi argymell hyn i Lywodraeth Cymru ond ni fu unrhyw gynnydd ar y cais hyd yma. Teimlai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol fod amharodrwydd clir yn wleidyddol i wneud y plant hynny yn ddiogel yn eu hamgylchedd.

 

Nododd Aelod fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a’r cyn Gyfarwyddwr Corfforaethol Addysg wedi gwthio’r mater hwn gyda Llywodraeth Cymru a gofynnodd os ydym yn gwybod pam fod rhieni’n dewis cael addysg gartref i’w plant. Ychwanegodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg y bu cynnydd mewn dysgu yn y cartref ers y pandemig. Gwerthfawrogai’r Aelod y pryderon hyn a theimlai y dylid cynnal trafodaethau gyda’r teuluoedd hyn i drin eu pryderon.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

Dogfennau ategol: