Agenda item

Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys – 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n rhoi crynodeb o’r gweithgaredd Rheoli Trysorlys a wnaed rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2021 yn unol â Chod Ymarfer Rheoli Trysorlys CIPFA. Aeth y Prif Swyddog ymlaen drwy dynnu sylw at y pwyntiau perthnasol dilynol:

 

-       Cafodd y rhagolwg o gyfraddau banc ei ddiweddaru ers y craffwyd ar yr adroddiad i adlewyrchu effaith y newid annisgwyl yng nghyfradd Banc Lloegr a gynyddodd gan 0.25% yn Rhagfyr 2021. Yn flaenorol disgwylid y cynnydd hwn yn ail chwarter 2022. Cafodd y tabl yn yr atodiad i’r adroddiad ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newid hwn er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael i Aelodau.

 

-       Rhoddir crynodeb o’r gweithgareddau yn y tabl ym mharagraff 5.1.6 yr adroddiad ac er yr argyfwng ariannol yng nghyswllt y pandemig, mae’r awdurdod wedi perfformio’n dda yn hanner cyntaf y flwyddyn yng nghyswllt ei weithgareddau rheoli trysorlys, gydag enillion buddsoddiad o £13,000 yn ystod y cyfnod gyda chyfradd log gyfartalog o 0.02% sydd yn uwch na’r gyfradd meincnod o -0.8%. Fodd bynnag, mae hyn yn adlewyrchu effaith y pandemig ar gyfraddau sylfaen banciau ac yn ei dro gyfraddau llog ar fuddsoddiadau.

 

-       Roedd y llogau ar fuddsoddiad yn y gyllideb flynyddol o £6,000 a rhagorwyd ar hynny yn rhannol oherwydd y buddsoddiad yng nghyswllt arian seilwaith rheilffordd.

 

-       Talwyd cyfradd log gyfartalog o 0.31% ar fenthyciadau dros dro yn ystod y flwyddyn o gymharu â chyfradd meincnod o 1.7% a arweiniodd at dalu £49,000 mewn taliadau llog ar gyfer y cyfnod 6-mis o gymharu â chyllideb blwyddyn lawn o £425,000. Nodwyd fod y llog taladwy am y flwyddyn lawn yn rhwydd o fewn y gyllideb ac y cafodd y llog taladwy gan yr awdurdod ei ostwng cyn belled ag sy’n bosibl ac mae hyn yn dystiolaeth o berfformiad da.

 

-       Cydymffurfiwyd â’r holl derfynau rheoli trysorlys a dangosyddion darbodus yn ystod y flwyddyn ac ni wnaed unrhyw fuddsoddiadau yn ystod y cyfnod hwn wedi cael unrhyw anawsterau mewn ad-dalu ei logau. Felly ni fu’r awdurdod yn agored i unrhyw golled ariannol fel canlyniad i’r hinsawdd economaidd anodd.

 

-       Daeth y Prif Swyddog i ben drwy ddweud y byddai cyfleoedd buddsoddi ariannol eraill yn parhau i gael ei fonitro yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol ac y rhoddir adroddiad i Aelodau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Wedyn rhoddwyd cyfle i aelodau i godi cwestiynau/rhoi sylwadau ar yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd Aelod y Gr?p Llafur at baragraff 5.2.2 yr adroddiad ac yn neilltuol y benthyciad rheilffordd o £70m a gofynnodd am sicrwydd gan ofyn os oedd y Prif Swyddog Adnoddau yn hyderus y byddai cyfleoedd buddsoddi eraill yn dod ar gael.

 

Dechreuodd y Prif Swyddog Adnoddau drwy ddweud ei bod yn hyderus y daw cyfleoedd buddsoddi eraill ar gael. dywedodd y Prif Swyddog y cafodd cyfleoedd ychwanegol eisoes eu dynodi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth ochr cyfleoedd buddsoddi traddodiadol yr awdurdod a gwnaed trefniadau eraill ar gyfer buddsoddi. Daeth y Prif Swyddog i ben drwy ailddweud ei bod yn sicr y dynodir cyfleoedd pellach wrth symud ymlaen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Prif Swyddog y cafodd y benthyciad rheilffordd ei gategoreiddio fel benthyca hirdymor.

 

Dywedodd Aelod fod y gwasanaeth i Crosskeys wedi dechrau ar 13 Rhagfyr 2021 a holodd pryd mae’r Cyngor yn debyg o dderbyn dogn gyntaf incwm o Crosskeys a gorsafoedd eraill ar hyd y llwybr, a fyddai’n helpu gydag ad-daliad y benthyciad.

 

Atebodd y Prif Swyddog y gwarentir y bydd y Cyngor fel rhan o’r Cytundeb Pedair Ochrog yn derbyn ffrwd incwm i ad-dalu’r benthyciad i Lywodraeth Cymru dros gyfnod 50-mlynedd y benthyciad ac mae’r cytundeb yn nodi nad yw’n rhaid i’r ad-daliadau benthyciad ddechrau nes i’r Cyngor dderbyn yr incwm. Fodd bynnag, yn nhermau pryd y disgwylir derbyn yr incwm, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n dilyn y mater a rhoi adroddiad yn ôl.

 

PENDERFYNWYD, yn unfrydol yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi’r gweithgaredd rheoli trysorlys yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 a derbyn y cofnod o berfformiad a chydymffurfiaeth a gyflawnwyd yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Dogfennau ategol: