Agenda item

Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Fasnachol (Gorffennaf – Medi 2021)

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a gyflwynwyd i roi diweddariad cynnydd chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2021) o gymharu â’r Strategaeth Fasnachol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ystafelloedd trafod preifat o fewn hybiau, dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y cafodd hyn ei drin a bod ardal o fewn y llyfrgelloedd a gafodd ei neilltuo o ofod cyffredinol ar gyfer y cyhoedd i’w ddefnyddio ar drafodaeth breifat os dymunent.

 

Cyfeiriodd Aelod at y 924 preswylydd a oedd wedi methu hunan-weini yn yr hybiau. Esboniodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fod cyfran sylweddol o breswylwyr oedd yn medru hunan-weini a chawsant eu cefnogi gan staff Hyb Cymunedol. Mae hefyd angen sicrhau fod cyflenwi gwasanaethau digidol yn glir ac yn rhwydd i breswylwyr eu defnyddio. Cytunodd y Swyddog i roi manylion i’r Pwyllgor am y cymorth a roddwyd ar gyfer y preswylwyr hynny na fedrai hunan-weini.

 

Cyfeiriodd Aelod at breswylwyr oedd yn byw tu allan i ganol trefi ac yn methu teithio i’r hybiau a holodd am bosibilrwydd cyflwyno system lle gallai staff Hyb Cymunedol gysylltu â’r preswylwyr hynny pan fo angen. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid eu bod yn edrych ar ffyrdd i ddatblygu’r dull hyb a chytunodd i ymchwilio’r opsiwn gyda’r tîm, tra hefyd yn rhoi ystyriaeth i faterion cyfrinachedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod parthed cyllid ac ehangu nifer y dyddiau yr oedd rhai hybiau yn gweithredu, eglurodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fod y cyllid yn ymwneud â’r timau ymateb ardal oedd yn gweithredu yn ystod cyfnod cyntaf y pandemig a gall y cyllid hwn ddod i ben ym mis Mawrth 2022 ond na fyddai’n effeithio ar yr Hybiau Cymunedol. Yng nghyswllt ehangu dyddiau gweithredu ar gyfer hybiau yn y Blaenau, Cwm a Sefydliad Llanhiledd, roeddent yn monitro’r nifer oedd yn mynd i mewn i’r adeiladau ac yn adolygu’r galw yn yr ardaloedd i edrych ar sut i drin hyn o fewn adnoddau staff presennol. Dywedodd y Swyddog y byddai’n sicrhau y caiff dyddiau gweithredu Hybiau Cymunedol yn cael eu gweithredu’n glir i breswylwyr.

 

Teimlai Aelod y dylid rhannu arfer da ymysg Hybiau Cymunedol o fewn Blaenau Gwent. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid wrth yr Aelodau fod staff wedi bod yn rhagweithiol iawn ac wedi creu rhwydwaith cryf lle maent yn rhannu gwybodaeth i ddatblygu lefel o gysondeb yn yr holl hybiau.

 

Credai’r Aelod y byddai’n fuddiol i aelod o’r tîm i fynychu’r Pwyllgor Craffu i gael mwy o fanylion. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y gellid trefnu sesiwn wybodaeth rywbryd yn y dyfodol i Aelodau gael gwell dirnadaeth o rai o’r materion sy’n cael eu trin.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid i gwestiynau Aelod. Yng nghyswllt y cynnydd yn nifer sy’n defnyddio’r hybiau, dywedodd fod y tîm yn medru yn rhwydd gefnogi’r nifer o breswylwyr sy’n ymweld â’r hybiau. Mae’r Swyddog yn edrych ar dimau ardal i sicrhau fod gorchudd addas ar draws yr hybiau, mae hyn yn cynnwys swyddogion a fedrai gamu i mewn am gyfnodau o absenoldeb salwch neu wyliau blynyddol.

 

Dywedodd y Swyddog na wyddai am unrhyw gwynion yn ymwneud â chyswllt gyda’r hybiau, fodd bynnag cafwyd adborth gan breswylwyr am sut yr oedd y cyswllt wedi eu helpu gyda phroblemau a chwestiynau. Roedd adborth Aelodau wedi cynnwys amserlen a marchnata.

 

Yng nghyswllt gwell cysylltiad rhwng y cyhoedd a’r cyngor, teimlai’r Swyddog fod yr hybiau yn cynnwys ystod eang o drafodaethau wyneb i wyneb i gefnogi preswylwyr i ryngweithio gyda’r Cyngor a chanfod eu ffordd drwy faterion penodol.  

 

Dywedodd Aelod ei bod wedi atgyfeirio preswylwyr i’r Hyb Cymunedol yn ei hardal ac iddi gael adborth ei fod yn wasanaeth gwych gyda staff gwybodus a theimlai ei bod yn bwysig trosglwyddo’r sylwadau hyn i’r holl dîm a helpodd i ddatblygu’r gwasanaeth.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn ar adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod Aelodau yn ystyried a rhoi sylwadau ar ddiweddariad cynnydd chwarter 2 ar y Strategaeth Fasnachol, cyn i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Dogfennau ategol: