Agenda item

Adolygiad Blynyddol Prosbectws Ynni

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd dros y 12 mis diwethaf ar y Prosbectws Ynni a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y dyfodol.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Mae adran 2.7 yr adroddiad wedi rhoi sylw i rai o’r gweithgareddau a gwblhawyd yn ystod 2021, a rhoddir manylion pellach ar y prosiectau yn Atodiad 1 – Adolygiad Blynyddol Prosbectws Ynni 2020-21.

 

Dywedodd Aelod fod hwn yn adroddiad rhagorol a chanmolodd ddull gweithredu’r Cyngor. Dywedodd fod newid hinsawdd yn un o’r heriau mwyaf ar gyfer y dyfodol a’i fod yn falch i fod yn rhan o gyngor sy’n hybu hyn. Cyfeiriodd at ymestyn tacsis trydan a mynegodd bryder fod gyrwyr tacsi yn yr ardal wedi dweud y byddai’n anodd iddynt sicrhau nifer digonol o deithiau i dalu am gost cerbyd trydan. Mynegodd bryder hefyd fod pobl yn parcio yn ymyl mannau gwefru ac yn rhwystro mynediad a gofynnwyd pa gyfyngiadau parcio y gellid eu gweithredu.

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio y cydnabuwyd fod cost tacsis yn broblem i yrwyr ac mae Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd yn edrych ar gyfleoedd cyllid. Byddai’r tacsis ar gael i’w prynu yn dilyn y rhaglen 2 flynedd ac mae’r Fargen Ddinesig hefyd yn edrych ar gynlluniau cymhelliant ac opsiynau cyllido posibl ar gyfer y diben hwnnw. Cadarnhaodd hefyd y byddai gorchmynion rheoleiddio traffig ar fannau gwefru tyrfan newydd er mwyn atal pobl rhag rhwystro mynediad.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan fynegodd Aelodau siom y cafodd cynnig am brosiect p?er hydro micro ei wrthod. Gofynnodd Aelod hefyd os oes unrhyw gynlluniau i osod paneli solar ar ein hadeiladau, yn arbennig ar ein hunedau diwydiannol.

 

Dywedodd y Swyddog ei bod yn bwysig nodi fod cynlluniau eraill yn cael eu hystyried ac y gall y prosiect p?er hydro micro ddod yn hyfyw yn y dyfodol ac y cafodd y gwaith cefndir ei wneud eisoes.

 

Cadarnhaodd y cafodd paneli solar eu gosod ar rai adeiladau fel rhan o raglen RE:Fit a chaiff nifer o gynlluniau posibl ar gyfer ein parciau busnes eu hystyried yn cynnwys cynllun rhannu ynni.

 

Yng nghyswllt y mannau gwefru cerbydau trydan, holodd Aelod os cafodd lleoliad y rhain eu hysbysebu ac awgrymodd eu hysbysebu ar yr hysbysfyrddau yng nghanol trefi. Gofynnodd hefyd os yr hysbyswyd gyrwyr tacsi am y cynllun newydd.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod gwaith yn mynd rhagddo i hysbysebu’r mannau gwefru ac y gellid defnyddio’r hysbysfyrddau mewn canol trefi fel rhan o’r gwaith hwnnw. Cadarnhaodd hefyd y cafodd gyrwyr tacsi mewn ardaloedd lle mae mannau gwefru yn gweithredu eu hysbysu am y cynllun a gobeithir y bydd yr holl fannau gwefru yn fyw erbyn yr wythnos nesaf a chaiff yr holl yrwyr tacsi eu hysbysebu yn unol â hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhaodd y Swyddog y caiff y mannau gwefru cyhoeddus eu defnyddio ar draws y Fwrdeistref a bod defnydd wedi dyblu yng Nglynebwy ym mis Tachwedd.

 

Gofynnodd Aelod os oedd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi mynegi diddordeb mewn mannau gwefru ar eu stadau tai.

 

Dywedodd y Swyddog na chafodd hyn ei drafod, fodd bynnag bu peth trafodaeth am fannau gwefru ar gyfer eu cerbydau fflyd wrth symud ymlaen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach am fannau gwefru mewn safleoedd bwyd cyflym a datblygiadau newydd, dywedodd y Swyddog y deallai fod rhai gofynion cynllunio ond bod hyn yn dibynnu ar faint y datblygiad ac yn y blaen.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a:

 

  • Parhau i gefnogi, hyrwyddo a datblygu’r prosiectau o fewn y prosbectws ynni, a sicrhau y caiff y ddogfen ei diweddaru i adlewyrchu unrhyw brosiectau ychwanegol a ddaeth i’r amlwg; a
  • Pharhau i ddynodi prosiectau ar gyfer y dyfodol fydd hefyd yn diwallu gweledigaeth ac amcanion y Cyngor yng nghyswllt ynni a datgarboneiddio (Opsiwn 2).

 

Dogfennau ategol: