Agenda item

Darcey Howell – sy’n gadael swydd Maer Ieuenctid

Derbyn trosolwg gan Darcey Howell, sy’n gadael swydd Maer Ieuenctid.

 

Cofnodion:

Estynnwyd croeso cynnes i Darcey Howell, sy’n gadael swydd Maer Ieuenctid Blaenau Gwent.

 

Dechreuodd Darcey drwy ddweud ei bod yn fraint enfawr i fedru siarad gyda’r Cyngor am yr hyn a gyflawnodd drwy fod yn Faer Ieuenctid ac i sôn am rai o’r cyfleoedd gwych a gafodd.

 

Esboniodd Darcey iddi ymuno â’r Fforwm Ieuenctid yn ôl yn 2018 pan oedd yn fach ym mlwyddyn 7. Erbyn 2019 roedd wedi magu digon o hyder i sefyll i fod yn Ddirprwy Faer Ieuenctid. Ychydig a wyddai ar y pryd beth oedd o’i blaen a’r hyn y byddai yn ei wneud yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Pan gafodd ei hethol, roedd Darcey wedi penderfynu mai ei blaenoriaeth fyddai gwella iechyd meddwl drwy chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Dewisodd y flaenoriaeth hon oherwydd ei fod yn mynd yn dda gyda blaenoriaeth Charlotte, y Maer Ieuenctid blaenorol a hefyd oherwydd ei bod yn hoff iawn o chwaraeon ac yn weithgar yn ei chlwb nofio (hefyd yn Is-gapten) a chlwb pêl-rwyd. Fodd bynnag, sylweddolai Darcey nad yw pob person ifanc yn cael cyfle i wneud hyn ac roedd wedi ceisio codi ymwybyddiaeth fod gweithgaredd corfforol yn fwy na dim ond bod yn rhan o glwb neu gampfa, a bod llawer o agweddau iddo.  

 

Mynychodd Darcey gampfa gymunedol leol gyda’i mam a sylweddolodd na fyddai peth o’r offer yn addas ar gyfer gr?p oedran iau. Gweithiodd gyda pherchennog y gampfa i gyflwyno cais am gyllid Cash4U ar gyfer offer chwaraeon fel y gallai pobl ifanc gymryd rhan mewn Rhaglen Academi Ieuenctid oedd yn cynnwys gwirfoddoli. Roedd y cais hwn yn llwyddiannus a phrynwyd yr holl offer ar ran y gampfa. Yn anffodus tarodd pandemig Covid ac ni aeth y prosiect yn ôl y bwriad a chafodd y Rhaglen Academi Ieuenctid ei gohirio. Ym mis Medi 2021 mynychodd Darcey ac aelodau o’r Fforwm Ieuenctid y gampfa i gymryd rhan mewn sesiwn yn defnyddio’r offer newydd a brynwyd fel rhan o’r cynnig ac roedd yn falch i adrodd fod rhannau cyntaf y rhaglen bellach wedi dechrau gyda 16 o bobl ifanc wedi cofrestru a 20 sesiwn ieuenctid wedi eu cyflwyno hyd yma. Roedd Darcey hefyd yn ddiweddar wedi cyflwyno cais arall am gyllid ar gyfer y clwb nofio y mae’n hyfforddi ynddo – byddai hyn yn rhoi hyfforddiant i aelodau newydd, eu galluogi i wirfoddoli fel hyfforddwyr ac a fyddai hefyd yn darparu offer newydd tebyg i beli meddyginiaeth a blociau plymio.

 

Mae bod yn rhan o’r Fforwm Ieuenctid hefyd wedi rhoi llwyfan i Darcey gymryd rhan mewn llawer o gyfleoedd, gyda’r cyntaf y Cynulliad Newid Hinsawdd cyntaf yng Nghymru. Yn Ionawr 2021 fel Maer Ieuenctid gofynnwyd iddi hi a Mara, aelod arall o’r Fforwm Ieuenctid, i fod yn rhan o’r gr?p cynllunio ar gyfer y Cynulliad Newid Hinsawdd. Roedd hyn yn golygu mynychu cyfarfodydd rheolaidd, gweithio gyda gwahanol bartneriaid ar draws y cyngor, asiantaethau allanol a chymuned Blaenau Gwent. Cynhaliwyd y Cynulliad Newid Hinsawdd dros ddau benwythnos ym mis Mawrth 2021. Yn ystod hyn daeth aelodau o’r gymuned ynghyd i edrych ar fynd i’r afael â newid hinsawdd yn gyffredinol, ond yn fwy pwysig yn canolbwyntio ar yr hyn y gellid ei wneud ym Mlaenau Gwent tuag at hyn a phleidleisio ar y materion allweddol i weithredu arnynt. Roedd Darcey wedi cefnogi cynnal y sesiynau drwy gynnig cymorth TG, bod yng ngofal y lobi ar gyfer Zoom yn ogystal â chymryd rhan wrth ochr ei chyd-aelodau fel siaradwr yn y digwyddiad. Roedd cynrychiolwyr y fforwm wedi rhoi sylw i newidiadau syml y gallai pobl eu gwneud i fywydau bob dydd i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

 

Roedd y profiad hwn wedi galluogi Darcey i gwrdd gyda llawer o wahanol bobl, gweithio ar rywbeth y teimlai’n angerddol iawn amdano, ennill sgiliau newydd a mynd â hi allan o’i man cysurus ond roedd yn falch i gyhoeddi y byddai’n parhau i fod yn rhan o’r gwaith hwn yn y dyfodol.

 

Fodd bynnag, nid oedd taith Darcey fel Maer Ieuenctid wedi dod i ben yno. roedd bod yn rhan o’r Fforwm Ieuenctid wedi ei galluogi i fod yn rhan o:

 

Ymgynghoriadau ar faterion tebyg i iechyd meddwl, plismona, llesiant, democratiaeth a sicrhau y caiff lleisiau plant a phobl ifanc eu clywed.

 

Ymgyrchoedd tebyg i Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ac ymwybyddiaeth am y Cyfrifiad.

 

Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol, cadeirio digwyddiad Hawl i Holi Comisiynydd yr Heddlu a bod yn rhan o gynllunio adferiad Covid ar gyfer pobl ifanc.

 

Cymryd rhan mewn panel cyfweld ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid a helpu i ddatblygu ymgyrch Delwedd Corff wrth ochr y Fforwm Ieuenctid, oedd wedi ennill y wobr am y ffilm wyddonol ac addysgol orau yng Ng?yl Ffilm Ryngwladol gyntaf Cymru.

 

Daeth Darcey i ben drwy ddiolch i Aelodau am eu cefnogaeth ac am wrando ar ei thaith mewn democratiaeth hyd yma.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Darcey wedi cyflawni llawer iawn yn ystod ei blwyddyn yn y swydd er gwaethaf pandemig Covid. Mae egni ac ymrwymiad Darcey i’w ganmol a mynegodd y Cadeirydd ei dymuniadau gorau i Darcey ar gyfer y dyfodol.

 

Adleisiodd Aelodau y sylwadau hyn a dweud fod iechyd a llesiant meddwl pobl ifanc yn anferthol o bwysig yn arbennig yn ystod y pandemig a llongyfarchwyd Darcey ar symud ymlaen â hyn fel ei blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn a chafodd ei chanmol ar ei thaith wirioneddol ysbrydoledig hyd yma. Estynnodd Aelodau eu dymuniadau gorau i Darcey ar gyfer y dyfodol.

 

Dechreuodd Aelod arall drwy ddweud nad oedd yn amharchus i Gadeirydd y Cyngor sy’n gwneud gwaith rhagorol ond ei fod yn gwirioneddol werthfawrogi rôl Blaenau Gwent, na ddylai byth fod wedi ei diddymu. Roedd rôl Maer Blaenau Gwent yn rhan hanfodol o redeg y Fwrdeistref Sirol a dywedodd y gobeithiai y byddai’r swydd yn cael ei hadfer rywbryd yn y dyfodol er mwyn cyflawni swydd mewn modd tebyg i Darcey, ac fe’i canmolodd am ei gwaith yn ystod ei chyfnod fel Maer Ieuenctid.