Agenda item

C/2021/0179 – Cwrt Glanyrafon a thir cyfagos. Safle tai gwarchod blaenorol yn Heol Rhandir, Glynebwy, NP23 5NS

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Datblygu.

 

Atgoffodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Datblygu yr Aelodau am y cais a gyflwynwyd i’r cyfarfod diwethaf a dywedodd fod Aelodau wedi gofyn am drefnu cyfarfod safle er mwyn trin pryderon am golli gofod agored i’r cyhoedd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y cynhaliwyd ymweliad canfod ffeithiau a bod yr ardal ar gyfer ei datblygu wedi ei marcio’n glir er gwybodaeth Aelodau.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at yr adroddiad blaenorol a nodi i’r Swyddog Cynllunio ddweud fod gwrthdaro gyda pholisi DM13 y Cynllun Datblygu Lleol sy’n anelu i warchod gofod agored. Fodd bynnag, er fod gwrthdaro o fewn y polisi hwnnw teimlai fod manteision y datblygiad yn fwy na’r gwthdaro gyda’r polisi hwnnw gan fod angen tai cymdeithasol o fewn y Fwrdeistref.

 

Dangosodd y Rheolwr Gwasanaeth y safle gyda defnydd cymorth gweledol fel y gallai Aelodau weld maint gosodiad y cais a gynigir a sut y byddai’n gorgyffwrdd â’r gofod gwyrdd yn ychwanegol i safle’r datblygiad blaenorol.

 

Cyfeiriodd Aelod at y tir a ddefnyddid ar gyfer y datblygiad. Esboniodd fod yr ardal yn ofod agored hyfryd gyda dolydd a choed gydag afon yn gyfagos a mynydd tu cefn. Mae’r gofod gwyrdd yn lle mor dawel a heddychlon a theimlai fod hyn yn fwy na dim ond ardal hamdden a’i fod yn barc a fu o fudd i breswylwyr dros y blynyddoedd ac felly y dylid ei warchod ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol.

 

Teimlai’r Aelod fod gan Tai Calon ddarn sylweddol o dir ar gyfer ei ddatblygu y gellid ei ddefnyddio ar gyfer byngalos. Mae angen mawr am fyngalos yn y Fwrdeistref. Dywedodd yr Aelod nad oes prinder o safleoedd tir llwyd ym Mlaenau Gwent a theimlai nad oedd angen mynd â’r tir parc hwn oddi wrth breswylwyr sydd wedi ymweld â’r ardal hon am flynyddoedd lawer. Dywedodd yr Aelod y dylai gofodau agored o’r fath gael eu diogelu er lles preswylwyr.

 

Croesawodd Aelod arall y cyfarfod canfod ffeithiau gan fod y safle wedi  ei osod allan yn glir i weld y dir y cynigir ei ddatblygu. Byddai’r Aelod wedi hoffi i breswylwyr fod wedi gweld yr union ardal ar gyfer ei datblygu gan y teimlai y byddai wedi ateb llawer o bryderon. Teimlai’r Aelod y byddai’r safle yn parhau yn ofod gwyrdd croesawgar ar gyfer preswylwyr hyd yn oed gyda’r datblygiad.

 

Cytunodd Aelodau gyda’r sylwadau a wnaed a chroesawu’r datblygiad gan fod angen mwy o dai fforddiadwy yn y Fwrdeistref.

 

Cyfeiriodd Aelod at y map a ddangoswyd a’r tir tu hwnt i linell derfyn y datblygiad a gynigir a gofynnodd os y gellid gwneud rhywbeth i ddiogelu’r tir hwn rhag cael ei ddatblygu ymhellach.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau bod ffyrdd y gallai’r Awdurdod Cynllunio Lleol weithredu rheolaeth yn y dyfodol. Dywedwyd y gallai’r Awdurdod Cynllunio Lleol linellu ardal ar gynllun a gymeradwywyd i atal mwy o ddatblygiad adeiladu o fewn yr ardal drwy amod cynllunio cyfyngol. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at ddialog gyda Tai Calon yng nghyswllt cytundeb unochrog a wneir dan Adran 106, fodd bynnag ni ddisgwylid i’r Ymgeisydd wneud cyfraniad ond gofynnid iddynt lofnodi rhwymedigaeth cyfreithiol i beidio datblygu tir tu hwnt i’r tir a gynhwysir yn y cais presennol. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod Tai Calon wedi cytuno i hynny.

 

Dilynodd trafodaeth bellach a chodwyd pryderon yng nghyswllt maint y datblygiad, yr hawl tramwy a’r nifer fach o fyngalos i gael eu datblygu ar y safle. Teimlai Aelod ei bod yn annerbyniol disgwyl i breswylwyr gerdded ymhell o amgylch y datblygiad mewn tywydd gwael.

 

Ategodd y Rheolwr Gwasanaeth osodiad y cynllun a gynigir gyda chymorth gweledol a dywedodd nad oedd unrhyw wallau yn y cynllun. Cadarnhaodd hefyd os yw Aelodau yn hapus gyda’r cais y gellid gwneud cytundeb cyfreithiol yn atal mwy o ddatblygiad adeiladu ar y safle.

 

Yn nhermau hawl tramwy, dywedwyd nad oedd yn hawl tramwy ond yn briffordd gyhoeddus wedi ei mabwysiadu a byddai dolen yn parhau ar y safle er ar lwybr gwahanol. Dangosodd y Rheolwr Gwasanaeth y ddolen gyda chymorth gweledol.

 

Gofynnodd Aelod os y gellid cywasgu’r datblygiad a dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y gellid ystyried hynny, fodd bynnag dim ond ychydig o fetrau a fyddai.

 

Cynigiodd Aelod gytuno i’r cais gyda’r amodau fod pwerau’n gael eu dirprwyo i swyddogion i negodi ardal droi gywasgedig, er os na fedrir dod i gyfaddawd gallai’r cais gael ei ddatblygu fel y’i cyflwynwyd i Aelodau. Hefyd, dylid ymrwymo i gytundeb cyfreithiol na fyddai datblygiadau pellach yn cael ei adeiladu ar weddill y tir. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Mewn pleidlais, pleidleisiodd 4 Aelod o blaid argymhelliad y swyddog gyda’r amodau a nodir uchod a phleidleisiodd 6 Aelod yn erbyn. Ymatalodd y Cynghorwyr C.Meredith a M. Day rhag pleidleisio ac felly.

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD caniatâd cynllunio.

 

Gofynnwyd i’r Rheolwr Gwasanaeth baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol i gytuno ar y rheswm/rhesymau dros wrthod.

 

Dogfennau ategol: