Agenda item

Diweddariad ar y Bartneriaeth Ranbarthol

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i hysbysu Aelodau am waith a phenderfyniadau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol dros y 6 mis diwethaf, a ddatblygwyd dan gyfarwyddyd statudol Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ers yr adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar 22 Ebrill 2021.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo ac esboniodd mai corff ymgynghori yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac y disgwylir iddo roi cyfeiriad ar gyfer unrhyw feysydd o weithio integredig ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am ddatblygiad cartref preswyl i blant yn Fferm Windmill, Casnewydd, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y caiff cyllid ar gyfer y cartref breswyl i blant ei ddarparu gan gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig ynghyd â ffrwd cyllid refeniw y Gronfa i ddarparu’r model integredig arfaethedig ar draws Gwent. Dywedodd Aelod ei bod yn dda nodi mai’r nod hirdymor yw cael gofal yn nes gartref.

 

Holodd Aelod am flociadau mewn ysbytai a chododd bryderon fod pobl wedi marw oherwydd iddynt fethu cael mynediad i’r triniaeth a’r gofal roeddent eu hangen. Yng nghyswllt y gwasanaeth iechyd ac ambiwlans, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod ganddynt yn awr 40 o staff milwrol ychwanegol ar draws De Cymru i yrru’r ambiwlansau, sy’n rhyddhau parafeddygon ychwanegol. Gweithredwyd hyn tua 3-4 wythnos yn ôl a gobeithir y byddai’n cael effaith ar fedru mynychu mwy o ddigwyddiadau. Dros yr 8-9 wythnos ddiwethaf buont yn edrych ar fesurau i wella’r sefyllfa ac wedi gweithio gyda WAST parthed gweithwyr cymdeithasol yn eu canolfan alw i roi cyngor os oes angen i berson fynd i ysbyty neu gael eu cefnogi gartref gyda darpariaeth gofal yn y cartref.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion sicrwydd i Aelodau ar yr hyn a wneir o safbwynt gofal cymdeithasol i sicrhau y gallent ryddhau cynifer o gleifion ag sydd modd yn ddiogel o’r ysbyty. Maent yn cwrdd yn rheolaidd gyda uwch reolwyr yn y Bwrdd Iechyd ac yn cynnal trafodaethau i roi sylw ychwanegol i unrhyw glaf a gafodd eu hatal rhag cael eu rhyddhau o ysbyty i edrych ar ddatrysiadau. Maent wedi cynyddu capasiti i gynnal asesiadau drwy gynnig goramser ychwanegol, gwaith penwythnos a gyda’r nos i staff gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol.

 

Cododd Aelod bryderon am brinder staff yn Ysbyty’r Faenor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol iddo ofyn am Sesiwn Wybodaeth i Aelodau gyda’r Bwrdd Iechyd a fyddai’n rhoi cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau addas. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi cytuno cynnal sesiwn yn ystod mis Chwefror 2022 ar ôl i bwysau’r gaeaf lacio.

 

Yng nghyswllt recriwtio gweithwyr Gofal Cymdeithasol, holodd Aelod os yw strwythur cyflogau’r Cyngor yn debyg i awdurdodau eraill. Atebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y strwythur tâl yn debyg yn gyffredinol, fodd bynnag mae rhai swyddi ychydig yn wahanol yng nghyswllt darparu gwasanaethau ar draws ardal Gwent. Mae recriwtio yn broblem genedlaethol gyda staff gofal cymdeithasol yn cael eu talu am y cyflog byw gwirioneddol o £9.50 yr awr i ofalu am y bobl fwyaf bregus yn y gymuned. Gallai pobl ennill mwy o gyflog yn gweithio yn y sectorau manwerthu neu letygarwch gyda llai o gyfrifoldeb.

 

Cytunodd y Cadeirydd gyda sylwadau’r Cyfarwyddwr a theimlai y dylid wneud mwy ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ar gyflog isel.

 

Dywedodd Aelod fod staff wedi gweithio’n galed tu hwnt drwy gydol y pandemig a bod angen i’r Awdurdod fod yn ymwybodol o’u lles yn yr hirdymor. Teimlai yn y cyfnod digynsail hwn fod angen i’r Awdurdod wneud popeth a fedrai i liniaru prinder staff ac roedd yn falch nodi fod y Gyfarwyddiaeth yn ystyried datblygu nifer o gynlluniau i geisio lliniaru rhai o’r pwysau yn y system.

 

Yng nghyswllt lles a goramser, staff, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion sicrwydd i Aelodau fod nifer o weithwyr rhan-amser a fu’n fodlon cymryd contractau llawn-amser ar gyfer cyfnod y gaeaf, yn neilltuol dros gyfnod y Nadolig ac oedd wedi cael gwarant o waith llawn-amser tan fis Mawrth 2022. Roedd hyn wedi helpu gyda chynaliadwyedd staff a hefyd wedi bod yn gymhelliant i’r staff hynny oedd eisiau cael mwy o waith.

 

Yng nghyswllt prinder staff, gofynnodd Aelod am eglurdeb ar ganllawiau Llywodraeth Cymru am hunanynysu. Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod llawer o staff, yn arbennig ar y rheng flaen, yn gweithio gyda phobl fregus ac na chaniateid iddynt wneud y gwaith hwnnw os oedd ganddynt symptomau Covid 19 neu’n byw gyda rhywun oedd â symptomau. Medrid eu hailgyfeirio i weithio o fewn y swyddfa ond nad oedd hynny’n bosibl bob amser ac mewn rhai amgylchiadau y bu’n rhaid i staff aros i ffwrdd o’r gwaith nes bod y cyfnod ynysu 10 diwrnod wedi mynd heibio.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yr anfonir canllawiau newydd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio’n benodol at staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chartrefi Gofal yn neilltuol

at Aelodau er gwybodaeth. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at baragraffau 2.20 a 2.21 yr adroddiad yng nghyswllt edrych ar gyfres o ymyriadau tymor byr i liniaru pwysau uniongyrchol ac ail-gynllunio yn y tymor hirach sut y gall y system weithio’n fwy effeithlon i ostwng pwysau cylchol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai’r ddau fater yn uchel ar yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol lle byddent yn ystyried opsiynau. Yr anhawster fyddai sut i gynyddu cyflogau a theimlai fod angen gwneud hyn ar sail genedlaethol. Gallai gael effaith enfawr ar awdurdodau lleol pe byddid yn ei wneud ar sail leol neu ranbarthol.

 

Yng nghyswllt recriwtio, dywedodd Aelod y bu nifer o hysbysebion a chyfleoedd swyddi mewn misoedd diweddar a holodd os bu cynnydd yn nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi mewn Gofal Cymdeithasol. Atebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mai ychydig o gynnydd sydd, yn anffodus. Esboniodd fod yr Awdurdod Lleol, y Bwrdd Iechyd a’r sector preifat i gyd yn recriwtio o blith yr un gr?p o bobl a fedrai ddewis y cyflogwr sy’n talu orau a dyma’r rheswm pam y dylai’r mater gael ei drin yn genedlaethol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor wedi craffu ar yr adroddiad ac y dylid cefnogi penderfyniadau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

 

Dogfennau ategol: