Agenda item

Dalen Weithredu – 15 Medi 2021

Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021, yn cynnwys:

 

Rhagolwg Monitro Cyllideb Gyfalaf – Atodiad 1

328340 – Manylion i’w rhoi yng nghyswllt cyllid Metro Plus a Dolen Abertyleri a chaffael tir

 

Dywedodd Aelod na fedrai gofio i gaffael y tir gael ei adrodd i’r Cyngor llawn ar gyfer penderfyniad, fel y nodir yng nghofnodion cyfarfod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gynhaliwyd ym mis Medi 2020. Gofynnodd hefyd pam fod y Cyngor wedi benthyca £70m ar gyfer gwelliannau rheilffordd pan ddywedwyd yng nghofnodion cyfarfod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ym mi s Chwefror 2021 mai £50m oedd ei angen.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol bod y rhain yn faterion gwahanol. Edrychodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar sut y gallai gyllido cyllido cyfres o gamau gweithredu ar rwydwaith greiddiol lein y Cymoedd, a sicrhawyd cyllid o raglen Metroplus i ddatblygu dolen Abertyleri.

 

Roedd y Cyngor hefyd wedi cyflwyno cynnig i raglen ‘Restoring your Railway’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i gynnwys dolen Abertyleri. Yn y cyfamser, mae’r Cyngor wedi sicrhau £75m gan Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau i’r coridor rheilffordd. Cadarnhaodd fod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gwybod am gynnig y Cyngor i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

Dywedodd fod y Cyngor wedi penderfynu gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r seilwaith rheilffyrdd sydd ei angen i gynyddu amlder trenau i 4 trên yr awr, fel rhan o bolisi hirsefydlog y Cyngor ar gyfer y coridor rheilffordd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan Aelod am gaffael tir, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai Network Rail yw perchennog y seilwaith rheilffyrdd fel arfer. Byddai caffael y tir yn galluogi’r Cyngor i hwyluso’r cynllun; fodd bynnag, pan fyddai wedi ei gwblhau, byddai Network Rail yn gweithredu’r rheilffordd yn unol â’u polisi ar draws y wlad. Dywedodd mai hyn oedd y dull a gymerwyd ar gyfer ymestyn y rheilffordd o Parcffordd Glynebwy i Dref Glynebwy.

 

Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y £70m yn cynnwys gwelliannau i’r system signalu, uwchraddio gwahanol bontydd a strwythurau ar hyd y llwybr, a gwelliannau trac o Crosskeys i dde Blaenau Gwent.

 

Awgrymodd Aelod y dylid cylchredeg y Cytundeb Pedairochrog i Aelodau eto. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y Cytundeb yn rhan o’r papurau a gyflwynwyd i’r Cyngor ym mis Gorffennaf, fodd bynnag cytunodd i gylchredeg yr wybodaeth eto.

 

Gofynnodd Aelod oes unrhyw gynlluniau ar waith pe na byddai cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer dolen Abertyleri yn dod trwodd.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol pe na byddai’r cynnig yn llwyddiannus y byddai’r Cyngor yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y brif amcan o gynyddu amlder trenau i Flaenau Gwent.

 

Perfformiad Adfywio a Datblygu – Gofynnodd Aelod y dylai Archwiliad Cymru o Goffau gael ei adrodd i’r pwyllgor perthnasol i’w drafod.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cyflwynir adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol maes o law.

 

Camau gweithredu a gyfeiriwyd o’r Cydbwyllgor Craffu Cyllideb – 27 Medi 2021. Diweddariad i’w roi ar Siop Cwmni Tredegar

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Datblygu gan fod yr adeilad wedi ei restru ac mai’r Cyngor yw ei berchen, y byddai’r cais yn cael ei benderfynu gan Cadw a Gweinidogion Cymru. Anfonir y cais i Cadw am benderfyniad cyn gynted ag y bydd yr ymgynghoriadau wedi eu cwblhau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ategol: