Agenda item

Gofynion Cynllunio Addysg – Trosolwg

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes a gyflwynwyd i roi trosolwg i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu o Oblygiadau Cynllunio Addysg a phrosesau cysylltiedig.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Soniodd Aelod am y tai y gellid eu hadeiladu yn y Fwrdeistref Sirol dros y 4-5 mlynedd nesaf a holodd sut fedrai’r Cyngor gynyddu capasiti ysgolion i hwyluso’r cynnydd a ragwelir yn nifer y plant. Dywedodd y Swyddog, er y cyflwynir amcanestyniadau safonol ddwywaith y flwyddyn, fod hefyd brosesau monitro a rheoli effeithlon yn eu lle, sy’n llywio’r asesiadau capasiti a gynhelir yn nhymor yr hydref bob blwyddyn. Rhoddodd y Swyddog wedyn drosolwg o’r gwaith a wnaed i lywio’r asesiadau capasiti. Defnyddir yr wybodaeth hefyd i gynllunio ad-drefnu ysgolion a blaenoriaethau ysgolion 21ain ganrif a chynnal a chadw wedi’i gynllunio o brosesau rheoli stad ysgolion. Cynhelir modelu o fewn pob ysgol yn unol ag amcanestyniadau, data genedigaethau a data tueddiad ac yn y blaen. Mae ysgolion uwchradd dan bwysau ac wedi’u rhaglennu ar gyfer buddsoddiad dan Band B ac efallai Fand C y rhaglen ysgolion 21ain Ganrif.

 

Dywedodd Aelod y dylid cynnwys y Gyfarwyddiaeth Addysg mewn trafodaethau am faterion cynllunio. Soniodd am ddwy ysgol ym Mlaenau Gwent a gafodd gytundebau Adran 106 wedi eu dileu ac roedd ganddo bryderon am sut y byddai hyn yn effeithio ar addysg o fewn yr ardal honno. Teimlai fod hwn yn adroddiad ardderchog gan ei fod yn rhoi cyfle i Aelodau  weld sut mae materion cynllunio yn effeithio ar gapasiti o fewn ysgolion.

 

Amlinellodd y Swyddog y weithdrefn mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am wneud cais am gytundebau Adran 106. Mae fformat wedi’i sefydlu gyda ffurflen arbennig a fformiwla benodol. Dywedodd y caiff y dull o gyfrif taliadau ei nodi ym mharagraff 2.7 yr adroddiad. Esboniodd y caiff ffurflen neilltuol ei llenwi a’i thrafod gyda’r Adran Cynllunio oedd wedyn yn trafod gyda’r datblygydd pan ddynodir oblygiad cynllunio posibl. Cyfeiriodd at y ddwy ysgol o fewn Blaenau Gwent lle cafodd cytundebau Adran 106 eu dileu ac esboniodd y bu pryderon am hyfywedd y datblygiadau preswyl hynny pe byddai’r cyfraniad i Addysg ac eraill yn cael eu gwireddu. Roeddent wedi craffu ar y data i benderfynu os y byddai’n bosibl rheoli’r stad ysgolion heb gyfraniad y datblygydd.

 

Cododd Aelod gonsyrn, gan nad oedd y Cyngor wedi gweithredu’r cytundebau Adran 106 ar ddatblygiad preswyl ar gyfer dros 200 o dai oherwydd hyfywedd y cynllun, y cafodd cynsail ei osod ar gyllid Adran 106. Teimlai’r Swyddog na osodwyd cynsail a’i fod yn hylaw gan y gwnaed darn mawr o waith o amgylch y datblygiad hwnnw a gan fod yr ysgolion yr effeithiwyd mwyaf arni yn destun cynnig cyllid ysgolion 21ain ganrif, roeddent wedi penderfynu y gallent wneud heb gyfraniad y datblygydd gan y gellid ei drin o fewn eu hadnoddau ariannol eu hunain  wedi alinio gyda’r buddsoddiad cyfalaf gan yr Awdurdod Lleol a hefyd Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Aelod fod cytundebau Adran 106 yn bwysig gan y defnyddid y cyllid er budd y disgyblion sy’n gweithio o fewn yr ardal.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr adroddiad fel y’i darparwyd.

 

Dogfennau ategol: