Agenda item

Monitro’r Gyllideb Refeniw – 2021/2022. Rhagolwg Alldro hyd 31 Mawrth 2022 (fel ar 30 Mehefin 2021)

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi rhagolwg y sefyllfa ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Roedd y rhagolwg alldro cyffredinol ym Mehefin 2021 yn amrywiad ffafriol o £2.494m ar ôl gweithredu Cyllid Caledi Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r tabl yn 5.1.2 yr adroddiad yn rhoi sylw i’r amrywiadau ar draws pob portffolio ac yn dangos gwariant ychwanegol yng nghyswllt yr ymateb i bandemig Covid a’r adferiad. Mae’r rhagolwg yn cynnwys cyllid gwirioneddol ac amcangyfrif o Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru o £1.354. Mae paragraffau 5.16 a 5.17 yn manylu’r trosglwyddiadau cyllideb a weithredwyd i ailalinio cyllidebau yn ystod y flwyddyn. Mae nifer o amrywiadau niweidiol ar draws pob portffolio, a rhoddir manylion y mwyaf sylweddol yn nhabl 2 yn adran 5.1.12.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog y cafodd cynlluniau gweithredu i drin pwysau cost eu cynnwys yn yr adroddiad yn Atodiad 3 a bod paragraff 5.1.14 i 5.1.39 yn rhoi naratif am y prif amrywiadau ar draws pob portffolio. Mae paragraff 5.1.41 yn rhoi crynodeb safle gyda ffioedd a chostau am y flwyddyn, ac mae Atodiad 2 yn rhoi dadansoddiad o incwm a dderbyniwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol ar gyllidebau unigol.

 

Mae Tabl 3 yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r sefyllfa a ddisgwylir ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer cronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor ac, yn seiliedig ar y sefyllfa ffafriol bresennol, rhagwelir y byddai hyn yn cynyddu i £10m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Dywedodd y Swyddog y byddai Aelodau yn cofio yng Nghydbwyllgor Craffu (Cyllideb)  fod y drafft sefyllfa alldro ar gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi yn £20.7m oedd yn cynnwys balansau ysgol. Mae elfennau sylweddol o’r cronfeydd a glustnodwyd yn ymwneud â chyllid grant a gedwir yng nghyswllt prosiectau neu wasanaethau penodol, a disgwylir y cânt eu defnyddio yn y deilliannau gwasanaeth perthnasol yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol a’r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Gofynnodd Aelod pa waith a wneir i liniaru’r amrywiad anffafriol sylweddol o fewn y portffolio Amgylchedd i ddod ag ef i sefyllfa gytbwys.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr amrywiad anffafriol oherwydd casglu ailgylchu, costau gwaredu â gwastraff a gwaredu ag ailgylchu.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod y Cyngor wedi casglu mwy o wastraff gweddilliol yn ystod y 18 mis diwethaf gyda’r pandemig Covid gan olygu costau gwaredu uwch. Fodd bynnag, cadarnhaodd y cafodd y Gwasanaeth Warden, a gafodd ei ohirio yn ystod pandemig Covid ei ailgyflwyno erbyn hyn i sicrhau ein bod yn dychwelyd i lefelau gwastraff gweddilliol fel yr oeddent cyn y pandemig.

 

Dywedodd hefyd fod lefel yr ailgylchu a gasglwyd wedi cynyddu, yn neilltuol gardfwrdd, fodd bynnag bu gostyngiad sylweddol ym mhris y farchnad ar gyfer cardfwrdd oedd wedi golygu derbyn llai o incwm. Cadarnhaodd y cynhelir adolygiad o gontractau’r Cyngor ar gyfer gwaredu â deunyddiau ailgylchu, gan edrych ar gontractau tymor byrrach i alluogi’r Cyngor i ymateb i brisiau’r farchnad. Cadarnhaodd hefyd yr ymchwilir pob cyfle i gyllido’r galw cyfredol a phrynu cynwysyddion ailgylchu yn cael ei ymchwilio.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad oes gwarged cyllideb o fewn y portffolio, ond rhoddodd sicrwydd fod pob agwedd yn cael eu hystyried.

 

Dywedodd yr Aelod fod angen ystyried rheolaeth gyffredinol cyllideb y portffolio Amgylchedd yn nhermau’r broses gwneud penderfyniadau gwleidyddol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod y costau fesul eiddo ar gyfer pob cynhwysydd ailgylchu yn £64.61. Mae cost cynwysyddion ar gyfer y 387 annedd newydd sy’n cael eu datblygu o fewn y Fwrdeistref ar hyn o bryd tua £25k.

 

Dywedodd yr Aelod fod y £25k ar gyfer cynwysyddion ailgylchu ar gyfer yr anheddau newydd yn gyfran eithaf bach o gyfanswm yr amrywiad anffafriol o £138,485 o fewn y gyllideb casglu ailgylchu.

 

Gofynnodd Aelod am esboniad ar adran 5.1.6 yr adroddiad, sef ailstrwythuro’r Tîm Anableddau Dysgu.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y cynhaliwyd adolygiad o’r gwasanaeth Anableddau Dysgu oedd wedi argymell dull gweithredu 0-25 oed a 25 a throsodd. Fel canlyniad, cafodd y gwasanaeth ei ailstrwythuro ac mae’r gwasanaeth 0-25 yn awr yn rhan o Gwasanaethau Plant a’r gwasanaeth dros 25 yn rhan o Gwasanaethau Oedolion, a chafodd y cyllidebau eu newid i adlewyrchu’r trefniant newydd.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at yr amrywiad yng nghostau deunyddiau ailgylchu, yn arbennig gardfwrdd, a gofynnodd os byddai hyn wedi ei gydbwyso.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod hyn yn dibynnu ar werth cardfwrdd yn y dyfodol. Dywedodd fod hyn yn rhagolwg am y flwyddyn seiliedig ar bris presennol cardfwrdd. Pe byddai pris cardfwrdd yn cynyddu, byddai’r rhagolwg am y flwyddyn yn gwella.

 

Gofynnodd Aelod am sicrwydd ar y ffigur a fanylir ar gyfer y Gronfa Trawsnewid a gofynnodd hefyd os yw’r cyfraniad refeniw ar gyfer gweithio ystwyth yn cynnwys unrhyw gynnydd posibl i rent Llys Einion.

 

Yng nghyswllt y Gronfa Trawsnewid, cadarnhaodd y Swyddog mai’r rhagolwg o £165k oedd y swm a ymrwymwyd a gytunwyd, fodd bynnag cadarnhaodd y byddir yn rhoi adroddiad i Aelodau am unrhyw newidiadau. Yng nghyswllt gweithio ystwyth, dywedodd y Swyddog nad yw’r ffigur yn cynnwys unrhyw gynnydd posibl mewn rhent, gan fod y rhagolwg yn seiliedig ar y trefniant prydles presennol. Byddai angen adnewyddu’r brydles mewn ychydig flynyddoedd, felly ni fydd unrhyw ffigur rhent ar gyfer y dyfodol yn Llys Einion yn hysbys nes i’r trafodaethau ddod i ben.

 

Mynegodd Aelod bryder am y galw parhaus am gynwysyddion ailgylchu newydd oherwydd fandaliaeth a lladrata a gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i liniaru hyn. Mynegodd bryder hefyd am y cynnydd mewn rhent ar gyfer unedau busnes y Cyngor a hefyd y diffyg unedau sydd ar gael i gwmnïau sy’n dymuno ehangu.

 

Yng nghyswllt cynwysyddion ailgylchu, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ei bod yn anodd rheoli ymddygiad pobl ac mae’r Cyngor yn gyfyngedig ym mha gamau y gallai eu cymryd. Fodd bynnag, mae’r Swyddogion wedi cysylltu gyda’r gwasanaeth iechyd i ddynodi ardaloedd problem ac wedi cysylltu gyda phobl ifanc yn y gymuned, a bwriedir gwneud gwaith pellach tebyg eleni. Dywedodd y gallai’r sefyllfa fod wedi gwaethygu y gaeaf diwethaf gan fod ysgolion ar gau oherwydd Covid.

 

Yng nghyswllt cynnydd yn rhent unedau busnes y Cyngor, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod y Cyngor wedi penderfynu bod yn sefydliad mwy masnachol ei naws, ac mae rhan o’r penderfyniad hwnnw oedd cyflwyno prydlesau gofal a thrwsio llawn ar gyfer ein hunedau diwydiannol ac i godi’r rhent marchnad perthnasol. Dywedodd, er fod rhent swyddfeydd a manwerthu wedi gostwng yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fod rhenti diwydiannol yn gryf ac wedi cynyddu. Rhoddodd sicrwydd fod y Cyngor yn awyddus i ddiogelu busnesau ac wedi gwneud ymdrech enfawr i symud swm sylweddol o arian i helpu a diogelu busnesau ym Mlaenau Gwent yn ystod y 18 mis diwethaf. Dywedodd fod defnydd wedi cynyddu i 90% a bod twf busnes yn gwneud yn dda.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr amrywiad anffafriol yn y Cynllun Gostwng Treth Gyngor a gofynnodd os y byddai hyn yn cael ei wrthbwyso gan arian gan Lywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau nad oedd costau ychwanegol y Cynllun Gostwng Treth Gyngor yn ffurfio rhan o’r Gronfa Caledi. Fodd bynnag mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai hyn yn cael ei adolygu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Mynegodd Aelod bryder am ddiffyg manylion yn yr atodiadau. Cyfeiriodd hefyd at lefel iach cronfeydd wrth gefn y Cyngor a dywedodd y dylid defnyddio peth o’r arian hwn i osod cyllidebau fwy realistig yn y dyfodol, yn neilltuol o fewn portffolio yr Amgylchedd.

 

Mewn cwestiwn a godwyd gan Aelod am y dyfarniad tâl wrth gefn dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau yr amcangyfrifwyd swm wrth gefn o 2%, fodd bynnag ni chafodd hyn ei gytuno’n ffurfiol. Y cynnig diweddaraf sy’n cael ei ystyried gan yr undebau oedd 1.75%.

 

Wedyn cyfeiriodd yr Aelod at adran 5.1.29 yr adroddiad, sef ffioedd cyfreithiol o fewn Gwasanaethau Plant a dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod y dull cydweithio gydag awdurdod lleol cyfagos yn cael ei drafod ar hyn o bryd.

 

Cytunodd Aelod arall gyda’r sylwadau blaenorol am y diffyg gwybodaeth, yn neilltuol wybodaeth ar gronfeydd wrth gefn y Cyngor a gofynnodd am gyflwyno adroddiad ar y rhagolwg o gronfeydd wrth gefn cyffredinol ac wedi’u clustnodi ar y gweill i gael eu cyflwyno i’r Cydbwyllgor Craffu ym mis Tachwedd yn cynnwys gwbydoaeth o Chwarter 4 y llynedd.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau y cyflwynir yr adroddiad arferol ar y cronfeydd wrth gefn cyffredinol i gyfarfod nesaf y Pwyllgor a chynnwys gwybodaeth o Chwarter 2 ymlaen.

 

Cyfeiriodd Aelod at Atodiad 1c a gofynnodd os yw’r £205k a dalwyd i Ymddiriedolaeth Awen yn golygu gostyngiad yn y swm a dalwyd i Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y cyfrifoldeb am reoli’r Metropole wedi trosglwyddo i Hamdden Awen. Fel canlyniad, bu trosglwyddiad cyllideb rhwng yr Ymddiriedolaethau.

 

Gofynnodd Aelod am ddadansoddiad ar yr incwm a gynhyrchwyd o ddeunyddiau ailgylchu a dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth y byddai’n rhoi’r wybodaeth hon.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nododd yr Aelodau y trosglwyddiadau a fanylir ym mharagraffau 5.1.4 i a 5.1.7.

 

Dogfennau ategol: