Agenda item

Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd sy’n cyflwyno y drafft Gynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol i’w ystyried.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo sy’n cynnwys y cafodd y cynllun gweithredu ei ddatblygu ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar ôl ei gytuno yn y Cyngor ym mis Gorffennaf 2021 i ddod yn gyngor amrywiol gan y cafodd ei gydnabod yn genedlaethol fod diffyg amrywiaeth mewn cynghorau. Fel rhan o’r cytundeb hwnnw, cytunwyd i gynnal cynllun gweithredu.

 

Cyfeiriodd Aelod at bwynt 30 y Cynllun Gweithredu, y pwynt bwled olaf sy’n darllen – ‘Cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i ymchwilio grantiau neu sefydlu  ‘taliadau parasiwt’ ar gyfer Aelodau sy’n colli eu seddi mewn etholiad’. Teimlai’r Aelod fod hyn yn ddiangen ac yn gosod baich annheg ar drethdalwyr. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd mai’r rheswm am hyn oedd y byddai Aelodau’r Senedd yn cael taliad parasiwt os oeddent yn aflwyddiannus mewn etholiad. Dywedwyd wrth y Panel a Llywodraeth Cymru y dylai Aelodau awdurdodau lleol gael yr un gydnabyddiaeth ariannol. Hysbysodd Aelodau fod hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru a’r Panel ei ymchwilio, nid yw yn nhrefniadau presennol y Panel ac os cyflwynir y grantiau adsefydlu yn genedlaethol yna byddem ni fel Cyngor yn edrych ar ei gefnogi.

 

Dywedodd Aelod y gallai cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i wneud y swydd fod yn un o’r rhwystrau i ddenu cynghorwyr mwy amrywiol a holodd am hawliau statudol yng nghyswllt hyn. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd y dylai cynghorwyr gael amser gan eu cyflogwr i ymgymryd â’u rôl, fodd bynnag ni fedrir gorfodi hyn ac mae’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn edrych arno wrth ystyried pa opsiynau y gellid eu rhoi ar waith i ddarparu ar gyfer Aelodau sy’n gweithio h.y. amrywio amserau cyfarfodydd, rhannu swyddi a chynlluniau gwyliau ac yn y blaen.

 

Dywedodd Aelod y teimlai y byddai angen gwneud mwy os yw’r Cyngor o ddifrif am amrywiaeth. Teimlai nad oedd gan Flaenau Gwent yr un problemau ag oedd gan ardaloedd eraill e.e. Caerdydd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd bod Llywodraeth Cymru eisiau i gynghorau ddod yn fwy amrywiol a chytunodd y byddai gwahaniaethau ac arlliw wahanol ymysg gwahanol awdurdodau lleol. Y Cynllun Gweithredu yw dull Blaenau Gwent sydd wedi ceisio dynodi meysydd allweddol sydd naill ai angen iddynt eu gweithredu’n uniongyrchol neu eu cefnogi fel Cynghorydd. Byddai dull ar y cyd gydag awdurdodau lleol a gallai’r Cyngor wedyn edrych ar yr hyn sydd ei angen yn benodol ym Mlaenau Gwent i ddynu set mwy amrywiol o Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 2.5 yr adroddiad, y pwynt bwled cyntaf sy’n darllen ‘annog pob plaid wleidyddol, drwy Grwpiau Gwleidyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ymrwymo i weithgareddau rhyngweithiol a chydlynol i wella amrywiaeth mewn democratiaeth leol’ a theimlai y dylid aileirio hyn gan nad yw rhai Aelodau yn rhan o gr?p gwleidyddol.

 

Teimlai Aelod arall y gall y geiriad atal unigolion rhag sefyll ar gyfer etholiad gan y gallant gredu fod angen cefndir gwleidyddol. 

 

Croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad ac roedd yn falch fod Blaenau Gwent yn arwain y ffordd gyda’r Cynllun Gweithredu hwn ac awgrymodd y dylid diwygio’r geiriad ym mharagraff 2.5 i gynnwys pleidiau gwleidyddol / grwpiau anwleidyddol / unigolion.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd sy’n gadael y swydd y caiff y Cynllun Gweithredu ei ddatblygu gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac yna mynd â nhw i’r Cyngor ar gyfer ei gymeradwyo ac y gallai unrhyw ddiwygiadau o’r drafodaeth gael eu cyflwyno yn yr adroddiad i’r Cyngor ar ddiwedd y mis. Yng nghyswllt grwpiau gwleidyddol, esboniodd fod peth o’r canllawiau’n ymwneud yn benodol â grwpiau gwleidyddol fel y gallent roi pethau neilltuol ar waith o fewn paramedrau bod yn gr?p gwleidyddol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi ystyried y Cynllun Gweithredu a roddir yn Atodiad 1, a rhoddodd sylwadau y dylid diwygio’r geiriad yn 2.5 yr adroddiad, pwynt bwled un - i annog pob plaid wleidyddol i gynnwys pleidiau gwleidyddol / grwpiau anwleidyddol / unigolion cyn ei gyflwyno i’r Cyngor ar 30 Medi i’w gymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: