Agenda item

Diweddariad Llafar - COVID 19

Derbyn diweddariad llafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ddiweddariad llafar ar statws presennol Covid-19 o fewn Addysg ac ysgolion er y dywedodd fod y sefyllfa yn un ddeinamig ac yn newid bob dydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod nifer yr achosion wedi cynyddu yn yr ychydig ddyddiau diwethaf a bod y sefyllfa yn gwaethygu yn lleoliadau addysg a dysgu yr Awdurdod. Roedd cynnydd neilltuol yng nghategori plant a phobl ifanc rhwng 10-19 oed. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod 119 achos positif ar draws stad ysgolion Blaenau Gwent ar hyn o bryd, gyda 109 yn ddysgwyr a 10 aelod o staff. Roedd hefyd nifer o’r gweithlu yn hunanynysu. Mae’r nifer uchaf yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri – Cyfnod Uwchradd, Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr – Cyfnod Uwchradd, Ysgol Gyfun Tredegar ac Ysgol Gynradd Cwm. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai’r ffigurau ar gyfer ail wythnos y tymor oedd y rhain, sy’n tanlinellu lefel yr her a wynebir ac atgoffodd Aelodau fod y ffigurau hyn yn debyg o newid bob dydd.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at y cyfarfodydd gyda phenaethiaid ysgol i baratoi ar gyfer y tymor i ddod a dywedodd fod y cyfarfodydd hyn yn cynnwys addysg, iechyd yr amgylchedd, iechyd a diogelwch a gwasanaethau cymorth. Bu’r ymatebion gan benaethiaid ysgol yn rhagorol a daethpwyd i safbwynt cyffredin. Ystyriwyd fframwaith rheoli haint Llywodraeth Cymru, sy’n hyrwyddo hunanynysu wedi ei reoli ar gyfer plant dan 18 oed. Caiff y grwpiau cyswllt eu dynodi ar gyfer profi a monitro a dilynwyd y llwybr gweithredu hyn gyda golwg ar gadw addysgu a dysgu wyneb i wyneb lle’r oedd hynny’n bosibl. Byddai pob ysgol yn rhoi cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu gan fod heriau capasiti yn y maes hwn.

 

Mae’r staff arlwyo a glanhau yn fregus oherwydd nifer y staff sy’n hunanynysu a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cedwir golwg agos ar y sefyllfa gydag athrawon a dysgwyr wrth i ni fynd drwy dymor yr hydref.

 

Ar y pwynt hwn gofynnodd Aelod y cwestiynau dilynol a gafodd eu hystyried.

 

Sut mae cyflenwadau offer diogelu personol (PPE) mewn ysgolion?

 

Mae’r stoc o PPE mewn ysgolion yn ddigonol i gefnogi addysgu a dysgu. Cadarnhawyd hefyd y caiff cyllid caledi ei barhau, a fyddai’n cynorthwyo gyda chostau cysylltiedig o’r fath.

 

A yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar frechiadau ar gyfer rhai 12-19 oed?

 

Mae’r pedwar Prif Swyddog Meddygol ar draws y Deyrnas Unedig wedi cytuno ar y rhaglen brechiadau ar gyfer rhai 12-15 oed a disgwylir cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos.

 

Canmolodd Aelod yr awdurdod lleol am ei ddull gweithredu a’r camau a gymerir mewn ysgolion. Teimlai’r Aelod ei fod yn cael ei drin mewn ffordd gadarnhaol.

 

Codwyd pryderon am blant yn cael eu hanfon i’r ysgol os oes achos positif o Covid-19 o fewn y cartref ac mae’r farn yn gymysg ar p’un ai ddylai plant aros gartref i hunanynysu neu gael eu hanfon i’r ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi peth hyblygrwydd i weithio ar sail leol ond mae canllawiau clir sydd angen iddynt fod ar waith erbyn 20 Medi. Felly mae Blaenau Gwent yn gweithio gyda chydweithwyr Iechyd yr Amgylchedd i sicrhau’r ffordd orau ymlaen ar gyfer rheoli’r sefyllfa. Teimlai’r Aelod y dylid cynghori rhieni i gadw plant gartref i hunanynysu.

 

Mae dysgu a llesiant parhaus disgyblion yn fater o gadw’r fantol gan fod tarfu wedi bod eisoes ar ddysgu a theimlwyd fod mynychu’r ysgol yn bwysig ar gyfer eu llesiant emosiynol a chorfforol. Ychwanegwyd mai’r flaenoriaeth yw sicrhau fod dysgwyr yn aros o fewn eu lleoliadau ysgol priodol. Byddai achosion lle gall fod angen i ddysgwyr weithio gartref a gwnaed llawer iawn o waith ar ddysgu cyfunol pe byddai’r angen yn codi, fodd bynnag mae’r ffocws ar gadw dysgu wyneb i wyneb.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am y diweddariad llafar a theimlai ei bod yn bwysig eu cael er mwyn medru rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i etholwyr.