Agenda item

Rhaglen Gwaith Cyfalaf Priffyrdd 2021-2022

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad sy’n rhoi’r sefyllfa ddiweddaraf a chynnydd ar raglen cyfalaf 2017/2021 a chyflwynodd opsiynau ar gyfer rhaglen waith 2021/22. Esboniodd y daeth £4.4m ar gael hyd yma drwy grantiau Llywodraeth Cymru a benthyca darbodus i roi gwelliannau i’r rhwydwaith priffyrdd ac y bu ffocws y gweithiau hyn am y 3 blynedd ddiwethaf ar y priffyrdd preswyl sy’n ffurfio 74% o’r rhwydwaith.

 

Cyfanswm canran y ffyrdd diddosbarth mewn cyflwr gwael cyn dechrau’r gwaith oedd 17%. Fel canlyniad i’r tair blynedd flaenorol, cadwyd y ffigur hwn ar 11.4%. Hyd yma cafodd 82 o briffyrdd preswyl wyneb newydd ynghyd â gwaith blaenoriaeth i ffyrdd dosbarth A a B.

 

Mae £602,000 ar gael ar hyn o bryd yn rhaglen cyfalaf 2021/22 a’r bwriad yw canolbwyntio ar y ffyrdd preswyl yn y cyflwr gwaethaf ym mhob ward. Opsiwn arall ynghyd â’r ffyrdd ym mhob ward oedd edrych ar ffyrdd blaenoriaeth A a B ar gyfanswm cost o £912,000, a fyddai’n gadael diffyg o £310,000. Nodwyd fod lefel bresennol cronfa wrth gefn y rhaglen cyfalaf yn £1.26m a phe cytunid ar y cyllid ychwanegol hwn, byddai hyn yn gostwng y gronfa wrth gefn i £950,000.

 

Daeth y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol i ben drwy ddweud mai’r opsiwn a ffafrir yw Opsiwn 2.

 

Gofynnodd Aelod os y caiff argymhellion Cynghorwyr ei ystyried fel rhan o’r broses oherwydd ei fod wedi gwneud argymhellion blaenorol i’r adran ac na chawsant eu cydnabod.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol ei fod yn ymddiheuro os digwyddodd hynny a chadarnhaodd, er y cafodd y polisi ei fabwysiadu, os oes gan Aelodau bryderon penodol y byddant yn cael eu hystyried a byddai’r matrics yn cael ei werthuso yn unol â’r pryderon hynny. Mae hyn wedi digwydd nifer o weithiau hyd yma a dywedodd y byddai’n dilyn y mater penodol a godwyd gan yr Aelod ac yn cysylltu ag ef yn dilyn y cyfarfod.

 

Mynegodd Aelod ei bryder am faint rhai wardiau a dywedodd mai Ward Sirhywi oedd y ward fwyaf yn y Fwrdeistref Sirol ac mae angen trin mwy na un ffordd ynddi. Fodd bynnag, teimlai fod rhai wardiau llai yn cael blaenoriaeth a gofynnodd am i’r broses gael ei hadolygu yn y dyfodol.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod cynghorwyr wardiau wedi rhoi sylwadau ac wedi cadarnhau y gwnaed newidiadau ond nad oedd y rhestr waith bresennol yn adlewyrchu hynny a gofynnodd am eglurhad os caiff hyn ei newid. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y caiff y rhestr ei diwygio i adlewyrchu’r newid a gytunwyd.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 22, sef:

 

Opsiwn 2: Fel Opsiwn 1 (Ffordd Breswyl Blaenoriaeth Uchaf ym mhob Ward [cyfanswm o 16] a Ffordd Stad Ddiwydiannol Blaennant – Amcangyfrif Cyfanswm Cost £602,000) ynghyd â Ffyrdd Blaenoriaeth A a B a Gwaith Diogelwch Priffyrdd – Amcangyfrif Cyfanswm Cost £912,000.

 

Ffyrdd Blaenoriaeth A a B:

o   A4048 gwaith ailadeiladu llawn Heathfield

o   A4046 wyneb newydd Ffordd Osgoi Cwm

 

Gwaith Rheoli Traffig Diogelwch Ffyrdd:

o   Gosod rhwystr diogelwch newydd A4281 Garnlydan

o   Gosod rhwystr diogelwch A467 Abertyleri.

 

Dogfennau ategol: