Agenda item

Rheilffordd Cwm Ebwy

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Adfywio a Chymunedol.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol i gael ei ystyried.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Pennaeth Adfywio yn fanwl am yr adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau perthnasol ynddo. Esboniodd y swyddog fod yr adroddiad yn rhoi manylion y Cytundeb Benthyciad a’r Cytundeb Pedairochrog. Byddai’r cynnig hwn yn fenter ar y cyd rhwng y Cyngor a’r cyrff a enwir ynddo.

 

Nodwyd fod y Cytundeb Pedairochrog yn rhoi manylion swyddi a chyfrifoldebau pob un o’r partneriaid i gyflawni’r prosiect rheilffyrdd yn llwyddiannus. Yn ychwanegol, mae Cytundeb Gweithredu yn ddogfen gontract sy’n mynd dan y Cytundeb Pedairochrog a fyddai’n ymdrin â darpariaeth y prosiect.

 

Aeth y Pennaeth Adfywio ymlaen drwy amlinellu rolau a chyfrifoldebau pob un o’r sefydliadau partner fel y’u manylir ym mharagraff 2.9 yr adroddiad. Mae’r ddogfen yn nodi’n glir mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddarpariaeth y benthyciad a’r ymrwymiad ariannol ar gyfer y rhaglen yn cynnwys risgiau gorwariant tu hwnt i swm y benthyciad. Byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i lobio Adran Trafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gyllid ychwanegol i hwyluso gwaith Cam II (Dolen Abertyleri).

 

Daeth y Pennaeth Adfywio i ben drwy ddweud fod y Pwyllgor Craffu Adfywio wedi ystyried yr adroddiad ac wedi cefnogi Opsiwn 1.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau (crynodeb islaw) ac ymatebwyd iddynt gan y Rheolwr Gwasanaeth, Pennaeth Adfywio, Rheolwr Gwasanaeth – Cyfrifeg, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd.

 

-       Mynegodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei gonsyrn y cafodd y penderfyniad ei wneud yn y Pwyllgor Craffu Adfywio heb wybodaeth lawn o’r Cytundeb Pedairochrog. Pe cytunid ar y cynnig hwn, gofynnodd os y byddid yn cyhoeddi datganiad i’r wasg i’r cyhoedd (gan fod hwn yn adroddiad cyfrinachol heb fod o fewn y parth cyhoeddus) ac os felly, os y byddai hyn yn datgelu’r ffaith mai Llywodraeth Cymru fyddai’n gyfrifol pe byddai unrhyw ddiffyg neu rwymedigaeth ariannol yn gysylltiedig gyda’r benthyciad.

 

Eglurodd yr Aelod Gweithredol – Adfywio a Datblygu Economaidd na fyddai’r Cyngor yn atebol yn ariannol am y benthyciad neu os oedd diffyg, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fyddai hynny. Byddai angen cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yng nghyswllt yr agweddau cyllid ond gellid sicrhau’r cyhoedd na fyddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cario unrhyw rwymedigaeth ariannol.

 

-       Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at baragraff 6.1.2 yr adroddiad a gofynnodd os byddai Llywodraeth Cymru yn lliniaru’r effaith ar ddarpariaeth isafswm refeniw y Cyngor neu os byddai’n rhaid i’r Cyngor gario’r baich hwn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth – Cyfrifeg y byddai effaith ar yr isafswm darpariaeth refeniw ond y byddai’r Ffi Datblygu Asedau a delid i’r Cyngor yn gwrthbwyso’r gost hon, felly ni fyddai unrhyw gynnydd yn yr isafswm darpariaeth refeniw. Cytunodd Gweinidogion y byddai’r gyllideb flynyddol a ddyrannwyd i Trafnidiaeth Cymru yn ddigonol ar gyfer y Ffi Datblygu Asedau os na fyddai’r refeniw teithwyr yn ddigon.

 

-       Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at yr adroddiad dechreuol a ystyriodd y Cyngor ym mis Mawrth oedd yn cyfeirio at y ffaith y byddai’r incwm o 2 drên yr awr ar reilffordd Cwm Ebwy yn talu am yr ad-daliadau. Fodd bynnag, dywedodd na chynhaliwyd unrhyw fodelu cyn belled ag y gwyddai a gan fod hwn yn arian cyhoeddus, y dylai modelu fod wedi ei gynnal ar y cynnig. Gofynnodd hefyd am wybodaeth am nifer defnyddwyr.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio y cafodd y dadleuon economaidd eu nodi yn adroddiad WelTAG a ddatblygwyd ar gyfer cynyddu amlder a bod Llywodraeth Cymru yn fodlon fod y buddsoddiad i wneud y lein yn ddeuol yn werth am arian. Nododd fod yr astudiaeth hon wedi cynnwys nifer defnyddwyr. Os oedd Llywodraeth Cymru yn ansicr am hyfywedd y cynnig, dywedwyd na fyddai wedi ei gynnwys o fewn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur y byddai wedi hoffi gweld y modelu yn arbennig gan fod ystyriaeth yn cael ei roi i fenthyciad 50-mlynedd oherwydd y gallai fod potensial ar gyfer goblygiadau ariannol y gallai’r benthyciad ei gael ar y Cyngor yn y dyfodol. Mynegodd ei bryder hefyd na chafodd Dolen Abertyleri ei chynnwys fel rhan o’r cynllun a dywedodd fod angen lobio dros hyn.

 

Esboniodd y Pennaeth Adfywio y sicrhawyd darn o dir ar gyfer gwaith Cam II yn ddiweddar fodd bynnag byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i lobio Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gyllid ychwanegol i hwyluso Dolen Abertyleri. Nodwyd y cafodd y lein ar gyfer Dolen Abertyleri ei ddynodi fel rhan o reilffordd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a disgwylir penderfyniad terfynol.

 

-       Dywedodd Aelod arall ei fod yn ddiolchgar am yr wybodaeth ychwanegol a gafwyd. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor Craffu wedi gwneud penderfyniad a mynegodd ei bryder ei fod yn ymddangos fod y swyddogion yn gwrthod y penderfyniad hwnnw. Dywedodd na fyddai angen craffu yn y dyfodol pe bai hyn yn dod yn arferol.

 

Aeth ymlaen drwy ddweud y dylai fod ymgynghoriad cyhoeddus am y cynnig a mynegodd ei bryder nad oedd unrhyw warant y byddai Dolen Abertyleri yn dod i fodolaeth. Ychwanegodd fod 60% o’r teithwyr sy’n defnyddio’r lein yn dod o’r tu allan i Flaenau Gwent a gofynnodd pam na chysylltwyd â Chaerffili a Chasnewydd i rannu peth o’r cyfrifoldeb.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol nad oedd swyddogion wedi gwrthod penderfyniad y Pwyllgor Craffu, bu trafodaeth glir yn y cyfarfod hwn ac roedd Aelodau wedi gofyn am weld y ddogfen gyfreithiol oherwydd maint y prosiect. Er na chaiff dogfennau cyfreithiol eu darparu fel arfer fel rhan o adroddiadau, rhoddwyd ystyriaeth ddyladwy i farn y Pwyllgor Craffu a chafodd y ddogfen hon ei darparu fel atodiad i adroddiad y Cyngor, felly cytunwyd â chais y Pwyllgor Craffu.

 

Yng nghyswllt cysylltu â Caerffili a Chasnewydd, dim ond i Flaenau Gwent y cynigiwyd y benthyciad. Mae’r adroddiad yn dangos y rhoddwyd sicrwydd na fyddai Blaenau Gwent yn cymryd yr holl risg, byddai unrhyw rwymedigaeth ariannol yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

 

-       Mynegodd Aelod ei bryder na chafodd y Cytundeb Pedairochrog ei adolygu o safbwynt cyfreithiol ac nad yw’r adroddiad yn rhoi manylion asesiad effaith ar sut y byddai’r cynnig yn effeithio ar breswylwyr, staff, yr amgylchedd, busnesau a’r Cyngor yn cynnwys yr effaith ar y gwasanaethau bws yng Nghwm Ebwy Fawr neu ardal Tredegar.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y cafodd cryn dipyn o waith cyfreithiol ei wneud ar y cynnig. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod y pwynt a wnaed am yr asesiad effaith ond dywedodd y cafodd 4 trên yr awr i Lynebwy eu cynnwys fel blaenoriaeth o fewn Cynllun Corfforaethol y Cyngor a bod y cynnig hwn yn cael ei gyflwyno fel blaenoriaeth a gytunwyd gan y Cyngor.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod proses WelTAG wedi cynnwys asesiadau technegol manwl iawn ac wedi asesu’r effaith ar draws ystod o fesurau cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu symud ymlaen gyda’r cynnig.

 

Gofynnodd yr Aelod os y gallai’r asesiad effaith fod ar gael a gofynnodd sut effaith fyddai gan y cynnig hwn yn neilltuol ar dref Glynebwy gan y byddai pobl yn teithio allan o’r dref.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol sicrwydd fod cynghorwyr cyfreithiol allanol gydag enw da wedi ymwneud â llunio’r Cytundeb Pedairochrog rhwng partïon a bod swyddogion yn fodlon fod y risg i’r Cyngor mor isel fyth ag y gallai fod yn yr amgylchiadau. Cafodd y cytundeb ei danysgrifio a’i warantu gan Lywodraeth Cymru.

 

-       Cododd Aelod arall y pwyntiau dilynol:

 

·         Pa mor gadarn yw’r cytundeb cyfreithiol na fyddai unrhyw faich ariannol yn cael ei roi ar breswylwyr ym Mlaenau Gwent yn y dyfodol.

 

·         Pam na fu unrhyw gydweithio gyda chynghorau eraill ar y cytundeb oherwydd y byddai’r ardaloedd hyn yn cael mwy o fudd o’r cynnig.

 

·         Byddai’r cynnig yn effeithio ar fenthyca’r Cyngor yn y dyfodol a gofynnodd pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant yn hytrach na benthyciad oherwydd byddai hyn yn cyfyngu benthyca yn y dyfodol ac mae benthyciadau yn llai ffafriol o safbwynt credyd.

 

·         Pam na chafodd Dolen Abertyleri ei chynnwys fel rhan o’r cynnig? Gyda’r adferiad o’r pandemig, pa mor realistig fyddai i dderbyn y cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Dolen Abertyleri?

 

·         Dylid rhoi manylion yr asesiad effaith yn neilltuol, gan roi manylion yr effaith y byddai’r cynnig yn ei gael ar drefi.

 

·         Dylai’r holl ddogfennau fod wedi bod ar gael i Aelodau eu gweld yn y Pwyllgor Craffu.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth – Cyfrifeg y rhoddir adroddiad ar fanylion y benthyciad yn cynnwys benthyca fel rhan o adroddiad 6 misol Rheoli Trysorlys (disgwylir yr adroddiad arferol nesaf yn yr hydref) a byddai dangosyddion darbodus hefyd yn cael eu hadolygu i roi ystyriaeth i’r cyllid hwn. Fodd bynnag, nodwyd y byddai effaith y benthyciad yn cael ei liniaru oherwydd y derbynnid cyllid i ad-dalu’r benthyciad.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio y cafodd y tir ar gyfer Dolen Abertyleri ei sicrhau’n ddiweddar ar gyfer darparu terminws sydd wedi galluogi Llywodraeth Cymru i lobio Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gyllid ar gyfer Dolen Abertyleri. Ni chafodd cyllid ar gyfer y gwaith Cam II ei gynnwys yn y benthyciad oherwydd mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw perchnogion y lein. Nodwyd fod Adroddiad Burns wedi dynodi darnau o seilwaith a allai fod o fudd economaidd i ardal y gellid ei defnyddio i wella trafnidiaeth mewn modd amgylcheddol ar draws y Deyrnas Unedig.

 

 Mewn ymateb i fater a godwyd, cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod Dolen Abertyleri yn dal i fod yn rhan o gynigion cam 2 Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd. Nodwyd y byddai cyllid o’r Fargen Ddinesig ar gyfer y cynigion dylunio oherwydd y byddai Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu’r cynllun ei hun.

 

-       Mynegodd Aelod ei bryder ac ailddatgan ei bryderon blaenorol y byddai Blaenau Gwent yn cymryd yr holl faich ac na wyddai pam na allai Network Rail fod wedi cynnig am y seilwaith ac y daeth Blaenau Gwent ynghlwm ar gam gwaith Cam II Dolen Abertyleri. Roedd yn ansicr os byddai’r cynnig yn werth am arian gan na chynhaliwyd asesiad am ddefnydd a mynegodd ei bryder y byddai mwy o bobl yn teithio allan o Flaenau Gwent nag i mewn i’r ardal.

 

-       Gofynnwyd am eglurhad am gost y tir a brynwyd yn Abertyleri ynghyd â’r goblygiadau pe na bai Dolen Abertyleri yn dod i fod.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio y defnyddiwyd grant trafnidiaeth i brynu’r tir a rhoddodd fanylion y gost. Cafodd y ffigur prynu ei gynnwys mewn adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn. Pe na byddai Dolen Abertyleri yn dod i fod, defnyddid y tir ar gyfer dibenion eraill.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau 4 trên yr awr i Lynebwy a dyma pam fod Llywodraeth Cymru yn dilyn y prosiect ac yn darparu’r benthyciad. Roedd asesiad technegol WelTAG wedi dod i’r casgliad y byddai buddsoddiad yn y lein yn rhoi gwerth am arian.

 

Yng nghyswllt gweithio partneriaeth, amserlen fer iawn sydd gan y Llywodraeth i ymateb i’r cynnig o fenthyciad gan Lywodraeth Cymru – nodwyd y gofynnwyd am grant ond mai dim ond benthyciad oedd ar gael ar y pryd. Dim ond i Flaenau Gwent y cynigiwyd y benthyciad ac oherwydd bod dyddiad dechrau’r prosiect ar fin cyrraedd (haf eleni), byddai wedi achosi oedi yn y prosiect pe byddid wedi cynnal trafodaethau gyda phartïon eraill. Ategodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw ymrwymiadau ariannol a bod yn rhaid i’r cynnig symud ymlaen yn gyflym i sicrhau buddion i’r gymuned.

 

-       Cyfeiriwyd at greu Hybiau Cymunedol a bod pobl yn awr yn gweithio gartref ac eto mae capasiti ar drenau’n cael ei gynyddu.

 

-       Roedd hwn yn fuddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth sydd angen ei ystyried yn gadarnhaol a dylid hefyd ystyried y neges y byddai’n ei anfon i’r cyllidwyr pe na fyddai’r Cyngor eisiau buddsoddi yn y bobl neu gymunedau neu seilwaith i gefnogi’r economi gwyrdd sydd y ffordd ymlaen. Roedd yn fodlon fod y Cytundeb Pedairochrog yn rhoi’r sicrwydd angenrheidiol y byddai’r benthyciad yn cael ei ad-dalu.

 

-       Dywedodd Aelod ei fod yn byw ger rheilffordd ac y credai fod 4 trên yr awr yn ormod ac y byddai’n anhyfyw, yn arbennig gyda phobl yn gweithio gartref.

 

-       Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur y dylid bod wedi cynnal ymgynghoriad ar y cynnig i ganfod barn y bobl am y cynnydd yn y gwasanaeth trên.

 

Yn dilyn trafodaeth faith, cynigiodd Arweinydd y Gr?p Llafur i gymeradwyo Opsiwn 2 am y rhesymau dilynol:

 

  • Teimlid y byddai Casnewydd a Chaerffili yn cael budd (mwy na Blaenau Gwent mae’n debyg) ac nid ydynt yn cael eu gwahodd i rannu’r risg.
  • Nid yw’r benthyciad yn cynnwys cyllid ar gyfer Dolen Abertyleri oedd wedi ei haddo, ond roedd yn dal i fod mor bell i ffwrdd ag erioed, yn arbennig yng ngoleuni gostyngiad arfaethedig mewn gwariant cyfalaf fel canlyniad ariannol uniongyrchol i’r pandemig.
  • Nid yw’r weinyddiaeth wedi dangos digon o bethau cadarnhaol amlwg i Flaenau Gwent ar ben ei hun i ymrwymo i brosiect 50-mlynedd.
  • Roedd gan Blaenau Gwent nifer o flaenoriaethau eraill llawer uwch megis y cefnlwyth presennol o waith atgyweirio sydd ei fawr angen i briffyrdd a draeniad ac yn y blaen.
  • Mae gan y benthyciad y potensial i gael effaith negyddol ar fenthyciadau’r dyfodol ar gyfer y Cyngor.
  • Ni chafodd unrhyw ddata/tystiolaeth ei gynhyrchu i ddangos y byddai’r blwch arian yn ddigonol i dalu am y benthyciad, sydd wedi’r cyfan yn arian cyhoeddus.
  • Ni fu unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus am y cynnig hwn.

 

Felly cafodd y cynnig arall hwn ei eilio.

 

Felly, gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Cynigiodd yr Aelod Gweithredol – Adfywio a Datblygu Economaidd y dylid cymeradwyo Opsiwn 1. Teimlai fod y Cyngor wedi ei ddiogelu o ran y cytundeb a dywedodd mai cyfle ac nid rhwymedigaeth yw hyn. Yn ogystal â gwella’r lein i waith Cam 1 Cwm Ebwy, byddai hefyd yn gatalydd i sicrhau Cam 11, Dolen Abertyleri. Eiliwyd y cynnig.

 

Cododd Arweinydd y Gr?p Llafur bwynt o drefn a dywedodd y byddai wedi croesawu cyfraniad gan yr Aelod Gweithredol at y drafodaeth ar fater mor bwysig.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol y teimlai fod y pwyntiau a godwyd wedi cael sylw fel rhan o’r adroddiad.

 

O blaid Opsiwn 1 – Cynghorwyr M. Cook, N. Daniels, D. Davies, G. A. Davies, G. L. Davies, M. Day, D. Hancock, S. Healy, J. Hill, J. Holt, C. Meredith, M. Moore, L. Parsons, G. Paulsen, K. Pritchard, K. Rowson, B. Summers, J. Wilkins.

 

Yn erbyn Opsiwn 1 – Cynghorwyr  P. Baldwin, D. Bevan, M. Cross, P. Edwards, H, McCarthy, T. Sharrem, T. Smith, S. Thomas, H. Trollope, D. Wilkshire, B. Willis, L. Winnett.

 

Gan nad oedd unrhyw Aelod wedi nodi bwriad i bleidleisio mewn ffordd ywahanol, cytunwyd y yddai’r bleidlais yn gael ei gwrthdroi ar gyfer Opsiwn 2.

 

O blaid Opsiwn 2 – Cynghorwyr P. Baldwin, D. Bevan, M. Cross, P. Edwards, H, McCarthy, T. Sharrem, T. Smith, S. Thomas, H. Trollope, D. Wilkshire, B. Willis, L. Winnett.

 

Yn erbyn Opsiwn 2 – Councillors M. Cook, N. Daniels, D. Davies, G. A. Davies, G. L. Davies, M. Day, D. Hancock, S. Healy, J. Hill, J. Holt, C. Meredith, M. Moore, L. Parsons, G. Paulsen, K. Pritchard, K. Rowson, B. Summers, J. Wilkins.

 

Felly cariwyd y bleidlais ar Opsiwn 1.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

 

(i)            Derbyn telerau’r Cytundeb Pedaironglog fel y cânt eu gosod yn yr adroddiad a bod y Cyngor yn ymrwymo i gytundeb i ddarparu’r gwaith i Reilffordd Cwm Ebwy.

 

(ii)          Derbyn telerau’r Cytundeb Gweithredol yn unol â’r Cytundeb Pedairochrog a bod y Cyngor yn ymrwymo i’r cytundeb i gyflenwi’r gwaith i Reilffordd Glynebwy.

 

(iii)         Penodi Trafnidiaeth Cymru yn uniongyrchol i ddarparu gwasanaethau arbenigol i’r Cyngor.

 

(iv)             Cytuno ar aelodaeth y Pwyllgor Cydlynu ar gyfer Blaenau Gwent.