Agenda item

Symud tuag at Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol Gwent

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn fanwl am yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth i Flaenau Gwent ymuno â chynghorau eraill a phartneriaid statudol eraill yng Ngwent i ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed yng nghyswllt asesiad llesiant a chynllun llesiant rhanbarthol, ffurfio’r pwyllgor craffu rhanbarthol a datblygu partneriaeth cyflawni lleol ym Mlaenau Gwent i sicrhau fod blaenoriaethau lleol yn parhau i fod yn ffocws yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Mae ffocws Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn nodi dyletswydd llesiant ar y cyd ar gyrff cyhoeddus penodol i weithredu ar y cyd drwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd drwy gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant.

 

Mae strwythur y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus presennol a gynhwysir o fewn Atodiad 1 yr adroddiad yn nodi fod 5 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwent ar hyn o bryd yn canoli ar  5 ardal awdurdod lleol a bod y Byrddau hyn yn dod ag awdurdodau lleol a phartneriaid statudol ac anstatudol ynghyd i gydweithio i gynhyrchu cynlluniau ac asesiadau llesiant a nodir yn y ddeddfwriaeth. Disgwylir yr asesiadau llesiant lleol nesaf ym mis Mai 2022 ac mae gofyniad i gyhoeddi’r Cynlluniau Llesiant newydd erbyn mis Mai 2023.

 

Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud darpariaethau i uno dau neu fwy o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i uno a chyflwynwyd cynigion i greu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol ar gyfer Gwent i uno pob un o’r pump Bwrdd presennol yng Ngwent i ffurfio un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol ac i’r Byrddau lleol ddod i ben. Fodd bynnag mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno parhau i ganolbwyntio ar flaenoriaethau lleol drwy bartneriaethau cyflawni lleol.

 

Aeth y Rheolwr Gyfarwyddwr ymlaen drwy ddweud fod Atodiad 2 yr adroddiad yn nodi’r strwythur arfaethedig ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol ac paragraff 2.9 yr adroddiad yn rhoi manylion y manteision yn gysylltiedig gyda’r newid.

 

Pe cymeradwyid y cynnig i symud i un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol, y dasg gyntaf fyddai cynnal Asesiad Llesiant i bob rhan o Went erbyn mis Mai 2022 a chyhoeddi Cynllun Llesiant Rhanbarthol erbyn Mai 2023. Nodwyd fod dwy flynedd ar ôl ar y Cynllun Llesiant presennol ar gyfer Blaenau Gwent a byddai hyn yn parhau i gael ei gyflenwi a’i oruchwylio gan y bartneriaeth cyflenwi lleol a byddai gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chraffu ar y Cynlluniau Llesiant presennol yn parhau drwy graffu lleol ym mhob ardal unigol tan 2023 i sicrhau y cyflawnir blaenoriaethau. Yn gweithredu’n gyfochrog i’r trefniant hwn, trefnir strwythur craffu rhanbarthol cyn mis Mai 2022.

 

Hysbyswyd y Cyngor fod cydweithwyr yng Ngwent eisoes wedi ystyried a chymeradwyo’r symud tuag at Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol a bod y partneriaid statudol ac anstatudol wedi cymeradwyo’r adroddiad. Roedd Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent wedi ystyried ac wedi cytuno ar yr adroddiad ynghynt yr wythnos honno lle bu trafodaeth yn nhermau cymorth gweinyddol a chost, y sail gyfreithiol ar gyfer symud i’r trefniant hwn ac mae Aelodau yn awyddus i dderbyn gwybodaeth bellach o ran y trefniadau craffu. Yn ychwanegol, gofynnwyd am sicrwydd clir na fyddid yn colli’r ffocws ar flaenoriaethau lleol pe byddai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo ac y byddai Aelodau yn ymwneud â datblygu trefniadau craffu ranbarthol. Gyda’r sicrwydd hwnnw, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y Pwyllgor Craffu wedi cefnogi’r adroddiad.

 

Canmolodd Arweinydd y Gr?p Llafur y cynnig a dywedodd ei fod yn falch y byddid yn cadw’r trefniant lleol. Fodd bynnag, roedd wedi gweld y recordiad o Bwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gynharach y diwrnod hwnnw a mynegodd ei bryder fod Cadeirydd y Pwyllgor wedi dweud nad oedd unrhyw Aelodau Llafur yn bresennol ond heb ddweud y rheswm am hynny.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei fod yn dymuno dodi ar gofnod mai’r rheswm pam na fu cynrychiolwyr y Gr?p Llafur yn bresennol oedd oherwydd bod y Gr?p Annibynnol Mwyafrifol wedi penderfynu cynnull cyfarfod oedd yn gwrthdaro gydag amseriad gwreiddiol Pwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Er y cafodd y cyfarfod hwn ei ad-drefnu, roedd wedyn yn gwrthdaro gyda chyfarfod a drefnwyd ymlaen llaw o’r Gr?p Llafur. Dywedodd ei fod wedi ymateb yn syth ar y diwrnod y derbyniwyd yr hysbysiad i gynghori am y sefyllfa a dywedwyd wrtho y byddai’r cyfarfod yn mynd rhagddo. Roedd wedyn wedi ysgrifennu at y clerc a’r Rheolwr Gyfarwyddwr i hysbysu’r ddau ohonynt a dywedodd y teimlai fod y Gr?p yn haeddu’r un parch â’r Gr?p Annibynnol Mwyafrifol oherwydd y gellid tybio fod y Gr?p Llafur wedi penderfynu peidio mynychu’r Pwyllgor pan fod mewn gwirionedd reswm dilys am yr absenoldeb.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor ei fod eisoes wedi anfon ymddiheuriad at y clerc oedd wedi ei hysbysu am y rheswm am yr absenoldeb ar y diwrnod hwnnw ond yn anffodus nid oedd wedi cael cyfle i agor ei e-bost tan ar ôl y cyfarfod o’r Pwyllgor.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor na fwriadwyd unrhyw falais pan ad-drefnwyd y cyfarfod – yn debyg i drefniadau’r Gr?p Llafur, mae’r Gr?p Annibynnol Mwyafrifol hefyd yn cynnal cyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw ar ddyddiau Mawrth cyn pob cyfarfod o’r Cyngor. Fodd bynnag, roedd wedi gofyn am ohirio dechrau’r Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am 30 munud oherwydd pwysau agenda’r Cyngor na fyddai’n cael ei drin yn yr amserlen a ddyrannwyd. Nid oedd wedi ystyried fod oedi o 30 munud yn ormod ac roedd yn y dyddiadur wythnos yn flaenorol. Fodd bynnag, nid oedd wedi sylweddoli fod hyn yn gwrthdaro gyda chyfarfod o’r Gr?p Llafur – nid oedd neb wedi cysylltu ag ef a dim ond ar ddiwrnod y cyfarfod y tynnwyd y mater i’w sylw. Cadarnhaodd na chafodd y cyfarfod ei ad-drefnu gydag unrhyw falais.

 

Croesawodd Aelod yr adroddiad ond roedd ganddo rai pryderon am Fwrdd Rhanbarthol. Teimlai fod Blaenau Gwent wedi colli mas pan ddaeth i iechyd, yn neilltuol a dywedodd y gobeithiai y byddai gan y Bwrdd Rhanbarthol fwy o ddylanwad a grym i gyflenwi’r cyhoedd gyda’r union wasanaethau y maent eu hangen.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn siomedig iawn i fethu medru mynychu Cyfarfod Pwyllgor y Bwrdd ac nad hwn oedd y tro cyntaf y bu gwrthdaro gyda chyfarfodydd eleni. Gofynnodd pa sicrwydd y gellid ei roi y byddai Aelodau yn cael gweld holl gofnodion y Pwyllgor Rhanbarthol o fewn amserlen resymol fel y gellid eu craffu. Ar hyn o bryd, roedd proses un-ffordd gydag Aelodau ond yn gweld yr agendâu ac nid y cofnodion a dywedodd y gobeithiai y byddai’r Bwrdd Rhanbarthol yn gweithredu proses ddwy ffordd.

 

Dechreuodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud fod hyn o gonsyrn cyfartal i bob partner a dywedodd ar gyfer corff strategol mor fawr bod sicrhau bod craffu yn gywir o’r dechrau yn hollol hanfodol. Roedd rheolwyr craffu yn ystyried ar y cyd y rhesymeg tu ôl i ffurfio craffu rhanbarthol a byddai trefniadau craffu lleol yn parhau am gyfnod. Gan fod hwn yn gorff strategol mor fawr, roedd yn amau y byddai rheolwyr craffu yn ystyried effeithlonrwydd craffu (heb golli’r pwyslais lleol), oherwydd y byddai cyfle i ystyried a thrafod llawer o faterion ar sail Gwent gyfan. Ategodd ei bod yn hollol hanfodol fod y broses craffu yn addas i’r diben a rhoi diwydrwydd dyladwy i’r materion sydd angen eu trafod ac, felly, ei bod yn hanfodol fod gwiriadau a balansau addas.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fod trefniadau ar gyfer craffu rhanbarthol yn cael eu datblygu ac y cynhelid adroddiad pellach arnynt a chadarnhaodd y byddai’r trefniadau craffu lleol yn parhau. Fel rhan o’r trefniadau craffu rhanbarthol, nodwyd y byddai cysylltiad clir gyda’r agwedd leol a chysylltiadau rhwng Cadeirydd y Pwyllgor Craffu a’r Bwrdd Rhanbarthol.

 

Mynegodd Aelod bryder fod angen rhywun gyda safbwyntiau clir iawn i ymladd y gornel dros Flaenau Gwent i bwysleisio’r effeithiau cadarnhaol neu negyddol i Flaenau Gwent, yn neilltuol gan y gallai fod pleidleisiau yn y cyfarfodydd rhanbarthol hyn.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn amheus am Fwrdd Rhanbarthol ar y cyd oherwydd ei bod yn gwerthfawrogi Blaenau Gwent fel unigolyn ac nad oedd yr un ddau awdurdod yr un fath a’i bod yn bryderus y gellid anghofio am Flaenau Gwent o fewn prif ddibenion strategol y gr?p. Ar hyn o bryd byddai trefniadau lleol yn parhau a chroesewid hyn, sy’n cynnwys cynrychiolaeth trydydd sector a gofynnodd os byddai’r cyfraniad trydydd sector hwn yn parhau o fewn y trefniadau strwythurol newydd ar gyfer craffu.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y byddai craffu rhanbarthol yn caniatáu i gynrychiolaeth y sector gwirfoddol barhau fel y byddai gyda’r bartneriaeth cyflawni lleol ym Mlaenau Gwent.

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Gr?p Annibynnol Lleiafrifol ei fod wedi codi cwestiynau a phryderon ym Mhwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y diwrnod blaenorol am strwythur y Bwrdd Rhanbarthol ac y gallai symud at Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent mwy arwain at golledion swyddi yn effeithio ar staff Blaenau Gwent. Dywedodd iddo ymatal rhag pleidleisio yn y cyfarfod hwn oherwydd y teimlai y byddai symud at sefydliad mwy ar gyfer Gwent gyfan yn gam tuag at ddod â chorff arall Blaenau Gwent i ben. Gofynnodd am gymryd pleidlais wedi’i chofnodi ar gyfer y cofnod cyhoeddus.

 

Cymeradwyodd Arweinydd y Cyngor gymeradwyo Opsiwn 1. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur iddo gael ei benodi i’r Bwrdd yn flaenorol a dywedodd efallai na fyddai gan rai o’r Aelodau gymaint o bryderon pe gwyddent sut mae’r Bwrdd yn gweithredu. Dywedodd y gallai elfen strategol y Bwrdd Rhanbarthol a gweithio gyda phartneriaid fod yn ddefnyddiol ar gyfer datrys problemau posibl o fewn y gymuned a gwelai hyn fel rhywbeth cadarnhaol.

 

Cytunodd Arweinydd y Cyngor gyda sylwadau Arweinydd y Gr?p Llafur. Teimlai y byddai’r cynnig hwn yn wirioneddol o fudd i Blaenau Gwent ac i Went yn gyffredinol yn neilltuol yng nghyswllt trafodaethau am faterion sylweddol a rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod pob partner yn cael eu trin yn gyfartal o safbwynt gwleidyddol o fewn y gr?p. Dywedodd fod y berthynas gyda’r Bwrdd Iechyd yn parhau i dyfu’n gryf am resymau amlwg a dywedodd fod y rhain yn gysylltiadau gwaith na fydd yn cael eu torri.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen drwy ddweud er bod yr awdurdod yn symud i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent-gyfan, y byddid yn ffurfio partneriaethau cyflawni lleol i ganolbwyntio mwy ar y materion sydd yn hollbwysig yn lleol a byddai’r dull hwn yn rhoi mwy o ddealltwriaeth o waith cyffredinol y Bwrdd. Nodwyd y byddai cyfran o waith y partneriaethau lleol yn bwydo i’r darlun ehangach felly byddai llif ddwy-ffordd o wybodaeth. Yr oedd yr un mor bwysig y caiff y bobl gywir yn wleidyddol ac yn broffesiynol yn cael eu penodi i’r bartneriaeth leol a’r Bwrdd Rhanbarthol. Roedd cysylltiadau rhwng y Bwrdd presennol a’r Pwyllgor Craffu gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd wedi eu gwahodd i fynychu’r cyfarfodydd hyn ers cryn amser, fodd bynnag ni chafodd proses debyg ei defnyddio gan yr awdurdodau lleol eraill, felly roedd Blaenau Gwent wedi dylanwadu ar agendâu a byddai hynny’n parhau.

 

Yn dilyn trafodaeth faith, cymerwyd pleidlais wedi’i chofnodi ar gyfer y record gyhoeddus.

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor gymeradwyo Opsiwn 1. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

O blaid Opsiwn 1 – Cynghorwyr P. Baldwin, D. Bevan, J. Collins, M. Cook, M. Cross, N. Daniels, D. Davies, G. A. Davies, G. L. Davies, M. Day, L. Elias, D. Hancock, K. Hayden, S. Healy, J. Hill, J. Holt, J. Mason, H. McCarthy, C. Meredith, M. Moore, J. P. Morgan, L Parsons, G. Paulsen, K. Rowson, T. Sharrem, T. Smith, B. Summers, G. Thomas, S. Thomas, H. Trollope, J. Wilkins, D. Wilkshire, B. Willis, L. Winnett

 

Yn erbyn Opsiwn 1 – Cynghorwyr M. Holland, J. Millard, K. Pritchard

 

Ymatal – Cynghorydd P. Edwards

 

Cariwyd y bleidlais ar Opsiwn 1 (opsiwn a ffafrir).

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar yr argymhellion dilynol:

 

Argymhelliad 1: Symud i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad gyda phwysigrwydd cynnal partneriaethau lleol cryf.

 

Argymhelliad 2: Sefydlu craffu ranbarthol a’r trefniadau sy’n datblygu, ac i dderbyn manylion pellach fel sy’n briodol.

 

Argymhelliad 3: Byddai asesiad lleol o lesiant, i’w gytuno erbyn 5 Mai 2022, yn rhan o waith Pwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

ar gyfer 2021/22.

 

Argymhelliad 4: Cefnogi cylch gorchwyl arfaethedig y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarthol (Atodiad 5) a’r gofynion i wneud unrhyw newidiadau perthnasol i strwythur a chyfansoddiad y pwyllgor.

 

Argymhelliad 5: Datblygiad y Partneriaethau Cyflawni Lleol i’w ystyried mewn rhaglenni gwaith craffu lleol.

 

Argymhelliad 6: Parhau i gefnogi craffu y Cynlluniau Llesiant cyfredolhyd 2023 drwy drefniadau craffu presennol partneriaethau lleol.

 

Dogfennau ategol: