Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n amlinellu sefyllfa all-dro cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2020/2021 fel ar 31 Mawrth 2021, yn amodol ar archwilio.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Roedd lefel cronfa gyffredinol wrth gefn y Cyngor a ddatgelwyd yn y cyfrifon statudol am y flwyddyn ariannol a ddiweddodd 31 Mawrth 2020 yn £6.399m sy’n gyfwerth â 4.73% o wariant refeniw net (fel yr adroddir yn ffurflenni All-dro Refeniw 2019/2020).£5.414m yw lefel targed gyfredol 4% cronfeydd wrth gefn cyffredinol.
Mae Atodiad 1 yn rhoi manylion y cyfanswm cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a ddaliwyd ar ddiwedd chwarter 4 blwyddyn ariannol 2020/2021 (31 Mawrth 2021). Cafodd lefel y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ei benderfynu yn unol â’r protocol a gytunwyd ar gyfer cronfeydd wrth gefn. Roedd lefel y cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi oedd ar gael i’r Awdurdod wedi cynyddu gan £12.509m yn 2020/2021.
Cadarnhaodd y Swyddog ar gyfer y cronfeydd wrth gefn hynny a ddefnyddiwyd i gyllido union wariant hyd 31 Mawrth 2021 (£1.022m), rhoddir manylion y gwariant a gyllidwyd yn Atodiad 2, a rhoddir manylion y symiau ychwanegol a drosglwyddwyd i gronfeydd wrth gefn (£13.687m) yn Atodiad 3.
Gofynnodd Aelod os y byddai’r Cyngor yn cael ei archwilio yn y dyfodol ar sut y gwnaethom wario Cyllid Caledi Llywodraeth Cymru ac efallai gael ein beirniadu am roi arian mewn cronfeydd wrth gefn.
Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog y byddai Archwilio Cymru yn edrych ar lefel ein cronfeydd wrth gefn fel rhan o’u hadolygiad o gyfrifon diwedd y flwyddyn. Roedd yn hyderus y caiff y cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ei wario’n briodol a bod y Cyngor yn parhau i ymateb a gwneud gwariant yng nghyswllt pandemig Covid. Fodd bynnag, dywedodd nad dyna’r rheswm am benderfynu’r lefel hon o gronfeydd wrth gefn.
Dilynodd trafodaeth fer pan gyfeiriodd Aelod at Atodiad 2 a gofynnodd pam fod gwariant Cyngor Chwaraeon Cymru o £29,700 ar gyfer adnewyddu’r ystafelloedd newid yng Nghanolfan Chwaraeon Abertyleri wedi dod allan o gronfeydd wrth gefn.
Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod hwn yn gais a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a dan delerau’r trefniant comisiynu bod y cyllid wedi dod i’r Cyngor a chael ei ddal gennym ni. Fodd bynnag, cadarnhaodd yr aeth y prosiect yn ei flaen ac y cafodd y gwaith ei gwblhau.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach yng nghyswllt gwariant ar gyfer cyngor masnachol arbenigol ar Silent Valley, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y teimlid ei bod yn ddarbodus i sefydlu cronfa wrth gefn tra’n cynnal adolygiad o Silent Valley a rhoi peth arian o’r neilltu ar gyfer cyngor annibynnol allanol; tra’n cynnal diwydrwydd dyladwy.
Cyfeiriodd Aelod at Atodiad 2, tudalen 82 a holodd am y diffiniad o Gytundebau Adran 106.
Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y gellid defnyddio Cytundebau Adran 106 i gefnogi unrhyw seilwaith priffyrdd ychwanegol neu uwchraddio seilwaith sydd ei angen fel rhan o ddatblygu ysgol newydd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y gellid hefyd ddefnyddio arian Cytundebau Adran 106 i gefnogi’r stad ysgolion bresennol, h.y. os oes datblygiad tai newydd mewn dalgylch ysgol, gellid defnyddio elfen o gyllid Adran 106 i sicrhau seilwaith ysgol, adeiladu a chapasiti ychwanegol i ddarparu ar gyfer disgyblion ychwanegol a ddisgwylir fel canlyniad i’r datblygiad newydd. Fel rhan o flaenraglen gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu, cadarnhaodd y cyflwynir adroddiad yn amlinellu sut mae addysg wedi manteisio o Gytundebau Adran 106.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach am y £21k a amlinellir yn Atodiad 2 ar gyfer Cytundebau Adran 106, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y byddai’r cyllid hwn wedi ei ddyfarnu ar sail gwaith penodol fel y nodir yn y caniatâd cynllunio.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad ac ystyried defnydd cronfeydd wrth gefn a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi yn ystod 2020/2021 a:
i. Nodi’r cynnydd sylweddol mewn cronfeydd wrth gefn cyffredinol a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi fel canlyniad i amgylchiadau eithriadol ym mlwyddyn ariannol 2020/2021;
ii. Nodi fod drafft sefyllfa all-dro y gronfa wrth gefn gyffredinol ar £7.820m yn 5.78% o wariant refeniw net, yn uwch na’r lefel targed o 4%;
iii. Wedi ystyried yr angen am reolaeth ariannol ddarbodus barhaus o gofio am y potensial ar gyfyngiadau gwariant cyhoeddus yn y dyfodol sydd eu hangen i gyllido effaith COVID-19; a
iv. Pharhau i herio gorwariant cyllideb a gweithredu cynlluniau gweithredu priodol gwasanaethau, lle mae angen.
Mae cadw cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio ar lefel ddigonol yn hollbwysig i’r Cyngor fedru ateb ymrwymiadau’r dyfodol o risgiau na wnaed darpariaeth penodol ar eu cyfer.
Dogfennau ategol: