Agenda item

Diweddariad ar Strategaeth i Ostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i ddiweddaru’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynnydd a wnaed yng nghyswllt gweithredu Strategaeth i Ostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal 2020-2025.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod na fu unrhyw gynnydd yn nifer y plant sy’n dod i ofal a holodd os oedd hynny oherwydd y cyfnod clo. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd effaith hirdymor y pandemig i’w weld eto, mae’r Tîm Cefnogi Newid wedi parhau i ymweld â phlant y bernid eu bod mewn risg. Roedd staff wedi gweithio’n galed i atal plant rhag dod i ofal a hefyd wedi llwyddo i helpu plant i adael gofal drwy orchmynion rhyddhau gofal.

                                   

Cyfeiriodd Aelod at y nifer o ofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent a holodd am gynnydd wrth recriwtio gofalwyr maeth. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y rhan o’r asesiadau a gynhelir ar hyn o bryd yn ofal gan berthynas. Yng nghyswllt recriwtio, cafodd brand Maethu Cymru ei lansio’n swyddogol ac maent yn edrych sut i gydweithio a chydweithredu i gryfhau safle Blaenau Gwent yn y farchnad ar gyfer recriwtio gofalwyr maeth  i’w wneud yn fwy o ddull Cymru-gyfan yn hytrach nag awdurdodau lleol yn gweithio ar ben eu hunain yn erbyn y darparwyr annibynnol.

 

Yng nghyswllt recriwtio gofalwyr maeth o ddarparwyr annibynnol, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth yn nhermau gwahaniaeth gwariant, pan gynhwyswyd gorbenion mai ychydig o arbedion fyddai a theimlai y byddai gwell rheolaeth a chefnogaeth i ofalwyr maeth yr Awdurdod ei hun.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am nifer y plant presennol a phlant newydd sy’n dod i ofal yn Ffigurau 2, 3, 4 a 5, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’r cyfanswm poblogaeth yn cynnwys plant a fu mewn gofal ers peth amser ac y byddai’n ffigur treigl, plant yn dod i mewn i ofal ac yn gadael ofal yn unigryw ar gyfer y mis hwnnw.

 

Yng nghyswllt oedran y plant sy’n dod i ofal, byddai’r Tîm yn mynd ati i asesu’r holl opsiynau posibl ar gyfer y plentyn dan sylw a allai gynnwys adsefydlu ar gyfer rhieni os gallai’r rhieni wneud newidiadau, neu gellid ystyried lleoliad gyda theulu estynedig neu fabwysiadu. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod dulliau yn eu lle i sicrhau nad yw cynlluniau a roddwyd ar waith i gefnogi’r plant yn crwydro a bod plant yn symud allan o’r system mor ddiogel ac mor gyflym ag sydd modd faint bynnag eu hoed.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd sefyllfa Blaenau Gwent yng nghyswllt swyddi gwag o fewn y gwasanaeth o gymharu gydag Awdurdodau eraill. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y sefyllfa gyda swyddi gwag yn debyg i awdurdodau eraill yng Ngwent, yn neilltuol ar gyfer Gwasanaethau Plant a theimlai ei bod yn broblem genedlaethol a bod angen i gynnig Blaenau Gwent i weithwyr cymdeithasol fod yn debyg i gynnig Awdurdodau eraill a dangos yr hyn mae Blaenau Gwent yn dda amdano. Teimlai fod llythyr gwirio sicrwydd Arolygiaeth Gofal Plant yn dangos perfformiad da staff Gofal Cymdeithasol Blaenau Gwent. Yng nghyswllt hysbysebu a denu pobl i’r sector Gofal Cymdeithasol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod yn edrych ar yr hyn y gellid ei wneud gyda phrifysgolion a chyrff eraill i wneud gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol yn gynnig mwy deniadol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn broblem genedlaethol a bod Blaenau Gwent wedi dilyn ymagwedd ‘tyfu eich rhai eich hun’ dros y 4/5 mlynedd ddiwethaf sydd wedi helpu gweithwyr cymorth i symud i gwrs gradd i gymhwyso. Roedd awdurdodau eraill yn dechrau cynyddu eu cyflogau a chynnig cymhellion, ac ni fedrai Blaenau Gwent gystadlu â hynny. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso er mwyn cadw eu gwasanaeth ond fel awdurdod bach ni fedrem gynnig yr un cyfleoedd ar gyfer dilyniant gyrfa ag awdurdodau mwy. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth aelodau y gallai gyflwyno adroddiad yn nes ymlaen yn y flwyddyn yng nghyswllt y tâl a’r cymhellion mae awdurdodau eraill yn eu cynnig er mwyn i’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ystyried hynny.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol fod y mater hwn yn risg hollbwysig i Blaenau Gwent ac ar draws Cymru. Bu trafodaethau gyda’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda’r bwriad i godi’r mater gyda Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar draws Cymru, i edrych ar yr holl ffyrdd posibl i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth a/neu recriwtio i gynyddu’r cyfleoedd i bobl weithio yn y sector Gofal Cymdeithasol. Teimlai ei bod yn bwysig diogelu capasiti staff Gwasanaethau Cymdeithasol i fedru cyflawni cyfrifoldebau Blaenau Gwent mewn Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gofynnodd Aelod i lythyr gwerthfawrogiad gael ei anfon at bob aelod staff yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol i fynegi gwerthfawrogiad Aelodau am y gwaith ac ymroddiad rhagorol a ddangosodd holl staff Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef derbyn yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: