Agenda item

Rheilffordd Cwm Ebwy

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Nododd yr Aelod fod peth o’r wybodaeth eisoes yn y wasg er y nodwyd fod yr adroddiad wedi ei eithrio. Cydnabu’r Aelod y rheswm am yr eithriad, fodd bynnag teimlai oherwydd y materion sy’n cael eu hystyried ac er budd y cyhoedd na ddylai’r wybodaeth fod o natur eithriedig. Roedd yn bwysig fod y Cyngor yn agored a thryloyw gyda thrafodion o’r fath ac anghytunai’r Aelod gydag eithrio’r adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad gwreiddiol a gyflwynwyd i’r Cyngor wedi ei eithrio ac ni allai roi sylw ar sut y mae’r wybodaeth yn y parth cyhoeddus. Mae’r adroddiad yn ystyried trefniant masnachol a manylion contract rhwng partïon unigol sydd yn gyfrinachol.

 

Codwyd pryder pellach nad oedd unrhyw gynrychiolydd cyfreithiol yn y cyfarfod a’i bod yn hanfodol fod swyddog cyfreithiol yn bresennol pan gaiff materion o’r fath eu hystyried.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad sy’n rhoi manylion cytundeb y benthyciad, y risgiau a ddynodwyd a’r trefniadau contract a chytuno cyfrifoldebau rhwng Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru (Rheilffordd), Trafnidiaeth Cymru a’r Cyngor.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan y Pwyllgor Craffu.

 

Cyfeiriodd Aelod at y costau a fanylir yn yr adroddiad a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu unrhyw arian sydd ei angen i gefnogi cyllid arall.

 

Wedyn cyfeiriodd yr Aelod at yr adroddiad dechreuol a gyflwynwyd i’r Cyngor ym mis Mawrth 2021 a dywedodd y codwyd pryderon yng nghyswllt y cyllid arall a fedrai syrthio yn ôl ar drethdalwyr Blaenau Gwent a nododd y cafodd hyn ei drin erbyn hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai Llywodraeth Cymru yn bellach yn cyflenwi unrhyw arian arall.

 

Mynegwyd pryderon gan nad oedd Aelodau wedi cael y dadansoddiad llawn o ddefnydd teithwyr ac os y byddai’r refeniw o’r trenau ychwanegol yn ddigonol ar gyfer y cynllun. Pe byddai’r cynllun hwn yn methu, teimlid y byddai’n risg i enw da y Cyngor a chynigiodd Aelod y dylid cyflwyno dadansoddiad llawn i Aelodau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol na fyddai unrhyw risg i’r Cyngor gan fod y cynllun yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod risg genedlaethol yn dilyn COVID-19 am gydnerthedd trafnidiaeth gyhoeddus. Byddai’r trefniadau gweithio ystwyth y mae llawer o sefydliadau yn eu defnyddio bellach yn gweld pobl yn teithio ar adegau gwahanol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn gysurus gyda’r cynllun ac y cymerwyd unrhyw risgiau oddi ar yr Awdurdod Lleol. Roedd Llywodraeth Cymru yn gwybod fod llai o drenau ar reilffordd Cwm Ebwy na leiniau eraill a bod angen buddsoddiad i godi hwn i safon cymoedd eraill.

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd yng nghyswllt y diffyg gwybodaeth a gyflwynwyd, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr holl wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad. Yn nhermau nifer teithwyr, ni fyddai’r data yn gwneud gwahaniaeth i’r Awdurdod gan fod Llywodraeth Cymru yn fodlon gyda’r data ac mai bwriad Llywodraeth Cymru yw buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a mynd i’r afael ag ôl-troed carbon. Felly o safbwynt swyddogion, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr corfforaethol nag oedd unrhyw broblemau.

 

Codwyd pryderon eraill am yr wybodaeth wahanol a gyflwynwyd ym mis Mawrth a’r diffyg arian a adroddir yn awr ar gyfer dolen Abertyleri. Teimlid oherwydd y newid sylweddol hwn ei bod yn bwysig fod yr holl ddogfennau’n cael eu cyflwyno i ganfod sut y gwnaed y penderfyniadau hyn.

 

Teimlai Aelod arall fod yr Awdurdod wedi cymryd yr holl fesurau diogelu perthnasol a chroesawodd y gwelliant yn y gwasanaeth rheilffordd a chysylltedd i Gasnewydd. Roedd yr Aelod yn gwerthfawrogi pryderon yng nghyswllt arian a ddefnyddid ar gyfer y cynllun, fodd bynnag roedd yn hyderus na fyddai unrhyw faich yn cael ei roi ar Flaenau Gwent.

 

Yng nghyswllt dolen Abertyleri, dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol na fu unrhyw newid yn y bwriad ar gyfer Abertyleri. Fel y manylir yn adroddiad ym mis Mawrth, gobeithir y caiff hyn ei gyflenwi os yw’r arian ar gael.

 

Ategodd Aelodau bryderon ei bod yn bwysig fod y ddogfen llawn yn cael ei chyflwyno gan y codwyd problemau gyda phrosiectau blaenorol lle nad oedd yr holl wybodaeth wedi ei chyflwyno i Aelodau. Nododd Aelod y diffyg teithwyr ar drenau a theimlai y byddai’n anodd llenwi 4 trên arall ac felly dylid cyflwyno’r data i roi’r sicrwydd hwnnw i Aelodau.

 

Croesawodd Aelod arall y cyfle i wella trafnidiaeth gyhoeddus a fyddai’n hwb i gymunedau Blaenau Gwent. Ategodd yr Aelod sylwadau’r swyddog a dywedodd nad oedd unrhyw risg i drethdalwyr Blaenau Gwent. Cytunodd Aelod arall gyda’r sylwadau a wnaed a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu i warantu’r arian.

 

Teimlai Aelod arall y dylid croesawu’r cyfle hwn gan y byddai’n gwella trafnidiaeth gyhoeddus i mewn ac allan o’r Fwrdeistref.

 

Cytunodd yr Aelod fod y cynllun yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer cymunedau Blaenau Gwent, fodd bynnag teimlai’r Aelod ei bod yn bwysig fod y dystiolaeth ar sut y gwnaed y penderfyniad ar gael i’w graffu gan Aelodau.

 

Nododd Aelod arall fod pob Aelod yn croesawu’r cynllun ac felly na ddylai fod unrhyw broblem pe cyflwynid yr holl ddogfennau.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr opsiynau i gael eu hystyried a chynigiwyd gwelliant i’r opsiynau.

 

Ar y pwynt hwn, cynigiwyd Opsiwn 3:-

 

Bod yr adroddiad yn cael ei ohirio nes y gellid cyflwyno’r dogfennau llawn i Aelodau er mwyn craffu’n llawn.

 

Eiliwyd y cynnig amgen.

 

Felly gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi.

O blaid Opsiwn 3 a gynigiwyd – Cynghorwyr  P. Edwards, M. Cross, K. Hayden, S. Thomas, J.C. Morgan, T. Smith

 

Yn erbyn Opsiwn 3 a gynigiwyd – Cynghorwyr  J. Hill,
G.A. Davies, G.L. Davies, S. Healy, W. Hodgins, G. Paulsen, L. Parsons, K. Rowson

 

Ni chariwyd y bleidlais ar y cynnig.

 

Wedyn cafodd Opsiwn 1 (opsiwn a ffafrir) ei gynnig gan y Cadeirydd.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Felly gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Yn erbyn Opsiwn 1 (opsiwn a ffafrir) – Cynghorwyr P. Edwards, M. Cross, K. Hayden, S. Thomas, J.C. Morgan, T. Smith

 

O blaid Opsiwn 1 (opsiwn a ffafrir) – Cynghorwyr J. Hill,
G.A. Davies, G.L. Davies, S. Healy, W. Hodgins, G. Paulsen, L. Parsons, K. Rowson

 
Cafodd y bleidlais ar Opsiwn 1 (opsiwn a ffafrir) ei chario.

 

Ni chaniatawyd i’r Cynghorydd M. Cook gymryd rhan yn y bleidlais gan iddo adael y cyfarfod cyn cynnig Opsiwn 3.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at faterion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 1 fel y’i manylir yn yr adroddiad.