Agenda item

Buddsoddiad Bwrdeisiol Cymunedol

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n gofyn am gymeradwyaeth i symud ymlaen gyda Buddsoddiad Ynni Cymunedol fel offeryn ariannol i gyllido seilwaith cynhyrchu ynni carbon isel a thechnoleg i ddarparu a gwres i breswylwyr a busnesau Blaenau Gwent.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau a gynhwysir ynddo.

 

Gofynnodd Aelod os byddai’r Cyngor yn dal i fedru cael mynediad i gyllid yr Undeb Ewropeaidd, a pha enilliad y gallai pobl ei ddisgwyl ar eu buddsoddiad.

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog y byddai Sesiwn Briffio i Aelodau ar gyllid Ewropeaidd yn fanteisiol. Yn nhermau’r cyllid hwn, roedd yn wreiddiol drwy Horizon 2020 ac er bod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, roedd cytundeb y gallai’r Deyrnas Unedig barhau i gymryd rhan yn y trefniant cyllid hwn. Roedd hyn hefyd yn wir am Horizon European, ei olynydd yn y rhaglen.

 

Yn nhermau cyfradd yr adenilliad y gellid ei ddisgwyl, mater i’r Cyngor yw penderfynu hyn. Anelwyd iddo fod yn is na chyfradd Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus sy’n tueddu i fod rhwng 2-4%. Byddai’r Cyngor yn cytuno ar gyfradd ychydig yn is na hynny, a dyna fyddai’r enilliad i breswylwyr.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 2.4 yr adroddiad a gofynnodd os y gellid defnyddio’r gronfa bondiau i ddarparu benthyciadau.

 

Dywedodd y Swyddog fod y gronfa bondiau o fudd i’r Cyngor i’w defnyddio yn hytrach na mynd i fanc neu fenthyca darbodus.

 

Wedyn cyfeiriodd yr Aelod at adran 2.5 a gofynnodd pwy fyddai’n gyfrifol am gymeradwyo prosiectau.

 

Dywedodd y Swyddog fod Awdurdodau wedi cymryd y dull o nodi prosiect penodol, neu gallai’r Cyngor fod eisiau cymryd dull mwy cyffredinol a dywedodd y byddai arian yn mynd at nifer o brosiectau a gynhwysir o fewn ein Prosbectws Ynni, gyda sicrwydd achos busnes. Fodd bynnag, byddai’r risg gyda’r Cyngor i gynnal y prosiectau hyn a bod â’r arian i ad-dalu’r benthyca, felly mae’n bwysig peidio cyrchu unrhyw arian nes fod prosiectau’n barod i fynd rhagddynt. Gellid defnyddio strwythurau arferol y Cyngor i reoli’r broses honno.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr effaith bosibl ar brosiectau pe byddai buddsoddwr yn penderfynu tynnu eu harian.

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog y byddai bondiau fel arfer yn cael eu buddsoddi am gyfnod penodol, 5 mlynedd fel arfer. Fodd bynnag, pe byddai buddsoddwr eisiau tynnu eu harian byddai’n mynd yn ôl i’r llwyfan drwy Abundance a byddai’r bond yn cael ei ailhysbysebu.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan eglurodd y Swyddog y pwyntiau a godwyd gan Aelodau.

 

Mynegodd Aelod bryderon am yr effaith ariannol ar yr Awdurdod pe byddai’r cwmni yn methu, a gofynnodd os y byddai’r cyllid yn cael ei warantu.

 

Mewn ymateb esboniodd y Swyddog fod y cwmni yn llwyfan i hwyluso’r buddsoddiad ac mae’r arian ar gyfer y Cyngor i’w fuddsoddi. Methiant y Cyngor i gyflawni’r prosiect oedd y risg fwyaf i fuddsoddwyr, fodd bynnag caiff hyn ei wneud yn glir fel rhan o’r prosesau diwydrwydd dyladwy a thrafodaethau gyda’n Hadran Gyfreithiol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Craffu yn:

 

·         Cymeradwyo Opsiwn Un fel y ffordd a ffafrir i symud ymlaen;

·         Dechrau diwydrwydd dyladwy wrth ochr y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol ynghyd â’r Prif Swyddog Adnoddau;

·         Cymeradwyo lansiad Bondiau Bwrdeisiol Cymunedol yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy a llofnodi terfynol y cytundebau angenrheidiol a ddirprwywyd i’r Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol mewn ymgynghoriad gyda Phrif Swyddog Adnoddau; a

·         Dirprwyo’r Prif Swyddog Adnoddau i benderfynu ar ddyddiad lansio’r bond yn ffurfiol, cyfnod y bond a chyfradd cyhoeddi’r bond cyn belled â’i fod yn is na’r gyfradd PWLB.

 

Dogfennau ategol: