Agenda item

Cyfarwyddiaeth Addysg – Cynllun Adfer ac Adnewyddu

Ystyried adroddiad Pennaeth Gwella Ysgolion a Rheolwr Gwasanaeth, Trawsnewid Addysg a Newid Busnes.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a’r Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes, a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau i graffu ar y blaenoriaethau a ddynodwyd gan y Gyfarwyddiaeth Addysg ar gyfer adferiad ac adnewyddu, fel rhan o’r ymateb i sefyllfa COVID-19.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at ymddygiad disgyblion mewn ysgolion a theimlai y dylai fod cyfeiriad at hyn yn yr adroddiad. Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod cyflwr emosiynol dysgwyr, yn cynnwys eu hymddygiad a’r effaith bosibl y gallai hynny ei gael ar ddysgwyr eraill, yn flaenoriaeth allweddol. Mae’r adroddiad yn cynnwys datganiadau cynhwysfawr ar y meysydd hyn a byddent yn cael eu gwahanu yn gynlluniau llawer mwy manwl h.y. llesiant dysgwyr, ymddygiad emosiynol ac yn y blaen.

 

Ategodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes y pwynt hwn a dywedodd fod hyn yn cysylltu gyda thema dysgwyr a hefyd weithrediadau’r ysgol a chefnogaeth i ysgolion o amgylch ymddygiad ar wedd asesiadau risg a staffio yn y blaen, a theimlai fod hon yn agwedd drosfwaol a fyddai’n cael sylw fel rhan o’r cynlluniau gweithredu manwl o amgylch nifer o’r gwahanol feysydd effaith hyn.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn dda gweld blaenoriaeth yn cael ei roi i lesiant ysgol gyfan a chymorth gydag iechyd meddwl, a hefyd weld cefnogaeth ar gyfer dysgwyr bregus a diwygio ADY yn cael cymaint o sylw, a bod ymgysylltu â rhieni a deimlai oedd yn hollol hanfodol hefyd yn cael ei restru.  Credai fod y cynllun yn adlewyrchu’n gywir fod yr Awdurdod Lleol yn ymateb i newidiadau presennol a newidiadau’r dyfodol.

 

Yng nghyswllt PPE a masgiau wyneb mewn ysgolion, dywedodd Aelod fod angen i’r Awdurdod fod yn gliriach ar y canllawiau gan fod ansicrwydd am wisgo masgiau wyneb mewn ystafelloedd dosbarth a choridorau. Pwysleisiodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes fod canllawiau clir ym mhob ysgol uwchradd mewn ystafelloedd dosbarth ac mewn ardaloedd cymunol, lle na fedrid cadw pellter cymdeithasol o ddwy fetr, fod disgyblion yn gwisgo gorchuddion wyneb a bod hyn yn weithredol ar draws y stad ysgolion. Os oes problemau sylweddol a gaiff eu cyflwyno a bod ysgolion yn teimlo dan asesiad risg y gallent ymdopi a gweithredu mesurau rheoli ychwanegol, yna gallai’r tîm edrych ar adolygu hynny gyda’r ysgol. Bu cyswllt sylweddol gydag ysgolion cynradd ac uwchradd, ysgolion arbennig ac ysgolion pob oed a chafodd y canllawiau hynny ei gyfleu’n glir a’i gyfnerthu ar bob cyfle. Os oes unrhyw bryderon neilltuol, cynigiodd y swyddog i drafod hyn tu allan i’r cyfarfod.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr effeithiau allweddol a ddynodwyd ar addysg ar dudalen 55 ac yng nghyswllt diogelu, ymgyfraniad y trydydd sector gwirfoddol, mesurau iechyd ataliol a mesurau rheoli Covid-19, mae’r adroddiad yn dweud na fu fawr neu ddim ymgysylltu a theimlai fod hyn yn anghywir gan y bu llawer o ymgysylltu gyda phobl ifanc a rhieni yn ystod y pandemig h.y. sicrhau fod prydau ysgol am ddim yn cael eu dosbarthu, ysgolion yn gwneud yn si?r fod ieuenctid yn ymgysylltu ac yn holi am eu llesiant, gwneud yn si?r fod yr offer iawn ganddynt ac yn y blaen. Cododd bryderon am y naratif yn yr adroddiad ac nad yw’n dangos y gwahaniaethau rhwng ysgolion, ac na chyfeiriwyd at y gwelliannau a’r gwaith da a ddigwyddodd mewn ysgolion yn yr adroddiad h.y. technoleg ddigidol. Cyfeiriodd hefyd at y cwricwlwm ar gyfer Cymru a theimlai mai mater i ysgolion yw symud ymlaen ar hyn ac edrych sut mae’r cwricwlwm yn ffitio o fewn eu meysydd eu hunain. Teimlai fod lle i wella o fewn y cynllun.

 

Cytunodd y Cadeirydd gyda sylwadau’r Aelod ac ychwanegodd, drwy brofiad personol yn dosbarthu prydau ysgol am ddim ac yn y blaen, y teimlai y bu’r cyswllt gyda’r gymuned yn gryf a drwy gydweithio bod y gymuned yn deall beth mae ysgolion yn ei wneud.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg gyda sylwadau’r Cadeirydd a’r Aelod y bu’r gweithio partneriaeth o amgylch Covid yn rhagorol ar nifer o lefelau. Fodd bynnag, yng nghyswllt y naratif ar ddiogelu, mae’n sôn am fynediad cyfyngedig i gymorth ysgol ar y safle ac esboniodd fod hyn yn cyfeirio at achlysuron pan fu cefnogaeth ar y safle ar gyfer dysgwyr drwy gydol Covid yn gyfyngedig ar achlysuron lle symudwyd i ddysgu cyfunol. Yng nghyswllt y cynllun Adfer ac Adnewyddu ni fyddai’n ddull gweithredu un maint i bawb, byddai gwahanol ddulliau yn seiliedig ar anghenion y dysgwyr ar draws y stad ysgolion a byddai cyfres o ddatrysiadau pwrpasol yn seiliedig ar ysgolion ac anghenion y dysgwyr unigol. Ychwanegodd fod ffocws y cynllun nid am adferiad yn unig, ond ei fod hefyd am adnewyddu ac y byddai dysgu o brofiadau yn delio gyda phandemig Covid-19 yn rhan o hynny. Mae dysgu cyfunol a’r ffordd y caiff dysgwyr eu cefnogi drwy TGCh yn ganlyniad uniongyrchol bod mewn sefyllfa pandemig, sydd wedi ysgogi newid digidol cadarnhaol sylweddol ar draws y stad ysgolion.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes ei fod yn asesiad effaith lefel uchel iawn sydd yn ei ddyddiau cynnar a’u bod yn dal i weithio gydag ysgolion i gefnogi’r ymateb. Yng nghyswllt yr effaith allweddol – trydydd sector gwirfoddol a gwaith elusennol ac ymgysylltu – mae hyn yn seiliedig ar ymgysylltu ar safleoedd ysgol yn hytrach na’r gwaith am adferiad a wnaed yn ystod y sesiwn academaidd ddiwethaf a chyn hynny. Bu cefnogaeth y gymuned yn hollol hanfodol yn neilltuol wrth ddosbarthu prydau ysgol am ddim ac yn y blaen a theimlai fod hyn yn dangos lle mae bylchau o safbwynt cymuned ysgol, bod fel arfer lefel sylweddol o ymgysylltu gyda gwahanol elusennau a phartneriaid trydydd sector gwirfoddol ac yn y blaen, fodd bynnag roeddent wedi methu mynd ar safleoedd ysgol oherwydd y cyfyngiadau o amgylch Covid.

 

Er eglurhad dywedodd y Cadeirydd y dylai’r geiriau ‘seiliedig yr ysgol’ gael eu cynnwys yn yr effaith allweddol – gwaith ymgysylltu trydydd sector gwirfoddol a phartneriaeth.

 

CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Teimlai Aelodau y dylai’r prif adroddiad fod wedi cynnwys y gwaith da a wnaethpwyd tebyg i welliannau digidol ac yn y blaen. Ategodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod y rhain yn ddatganiadau lefel uchel ac y byddai cynllun gweithredu o amgylch pob un ohonynt yn canolbwyntio ar y ffordd mae ysgolion yn symud ymlaen yn ogystal â’r ffordd y gall yr Awdurdod Lleol gefnogi ysgolion a gweithio gyda EAS i symud ymlaen ym mhob un o’r meysydd. Dywedodd fod y cynllun yn seiliedig ar anghenion pob ysgol unigol a byddai cynrychiolwyr penaethiaid ysgol o bob un o’r clystyrau hefyd yn gweithio ar y cynlluniau.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Busnes bod yr asesiad effaith yn dangos meysydd o lwyddiant amlwg ac y byddent yn parhau i wneud hynny, y byddai’r dysgu yn llywio datblygiad y cynllun o hyn ymlaen. Teimlai fod yr adroddiad yn adlewyrchu ar ba gam y mae’r asesiad effaith a’r broses gynllunio ac mae’r manylion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am sut y byddai EAS yn trin mater edrych ar asesu lle mae disgyblion arni ar hyn o bryd a lle mae angen iddynt fod i baratoi ar gyfer eu TGAU, dywedodd y Prif Gynghorydd Her fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fyddai arolygiadau Estyn yn ailddechrau tan y gwanwyn, cafodd mesurau perfformiad eu gohirio unwaith eto ac mae EAS yn ceisio cael cymaint o wybodaeth ag sydd modd am gynnydd dysgwyr. Ar ôl y Pasg byddai ysgolion yn cynnal rhai profion llinell sylfaen i geisio edrych ar y cynnydd a wnaeth plant i weld lle maent arni nawr a lle mae angen iddynt fod a beth fyddai’n digwydd ar lefel ysgol unigol. Byddai’r EAS yn cael trafodaethau proffesiynol gyda phenaethiaid ysgolion mewn ffordd fanwl ac arbenigol iawn am y systemau sy’n mynd rhagddynt o fewn ysgolion i sicrhau’r penaethiaid ysgol fod asesiad yn gywir ar gyfer yr oedran a cham y plentyn ac y gwneir y dyfarniad cywir am gynnydd y plentyn. Dywedodd y bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori rhwng mis Ionawr a mis Ebrill gyda dull gweithio newydd ar systemau gwella ac atebolrwydd ysgolion, sy’n esbonio ac yn nodi’n fanwl rôl pob haen o fewn y system. Rôl ysgolion o fewn y system yw sicrhau fod hunanarfarnu a chynllunio datblygu ysgolion yn gywir ac y cynigir ffyrdd o weithio yn seiliedig ar egwyddorion cynhwysfawr o fewn y ddogfen ymgynghori. Ar gyfer craffu, byddai hyn yn golygu bod yr EAS yn cynnig cwrdd gyda phob ysgol yn nhymor yr hydref, rhai ym Mlaenau Gwent, i dreialu dialog proffesiynol newydd h.y. cywirdeb hunanarfarnu ysgolion, y systemau ar gyfer hunanarfarnu a sut mae ysgolion yn ysgogi’r meysydd pwysicaf ar gyfer gwella. Byddai olrhain ac asesu o fewn ysgolion yn rhan allweddol o hynny a gellid sicrhau penaethiaid ysgol a’r Cyngor bod ysgolion yn cadw gwybodaeth gywir ar blant ac n medru dynodi unrhyw broblemau.

 

Yng nghyswllt y ddogfen ymgynghori, dywedodd y Prif Gynghorydd Her fod symud ymaith o ddata caled wrth edrych ar ddarpariaeth mewn ysgolion i ystod mwy ansoddol, trionglog o ddata aml-ddimensiwn, yn cynnwys llais plant, llais rhieni a gwersi. Hwn yw’r llyw gan Lywodraeth Cymru a dan y fantell honno y byddai EAS yn gweithio yn y misoedd nesaf. Byddai’n rhannu’r ddogfen ymgynghori gydag Aelodau er gwybodaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at y bil ADY newydd a ddisgwylir ym mis Medi a bod y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant yn gadael yr Awdurdod a holodd sut y caiff hyn ei drin wrth symud ymlaen. Dywedodd  Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cyflwynwyd adroddiad yn flaenorol i’r Pwyllgor Craffu yn amlinellu’r paratoadau ar gyfer diwygio ADY a bod yr adroddiad hwn wedi rhoi sicrwydd i Aelodau fod yr Awdurdod wedi paratoi’n dda ar gyfer gweithredu ym mis Medi. Mynegodd ei ddiolch i’r Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant am ei holl waith yn paratoi’r Awdurdod ar gyfer diwygio ADY a hefyd ei waith ar yr agenda cynhwysiant. Mae cyfle yn awr ar gyfer recriwtio ac adeiladu ar brofiadau o benodi’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a chytunwyd ar ddull i gynnig y swydd ar sail secondiad ar draws y stad ysgolion. Manteision y dull hwn yw y byddai’n rhoi cyfle Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer aelod o staff a hefyd yn rhoi cyfle i’r Awdurdod Lleol i weld sut mae’r aelod o staff yn setlo i’r rôl. Roedd y Cyfarwyddwr yn gobeithio dechrau’r broses recriwtio yn y dyfodol agos i sicrhau capasiti ar gyfer y symud tuag at weithredu o fis Medi 2021.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at amseriad y secondiad gan y byddai angen i’r ysgol lanw swydd yr ymgeisydd llwyddiannus a allai fod yn bennaeth neu’n ddirprwy bennaeth ar gyfer cyfnod y secondiad ac y gallai hyn fynd â chryn amser. Dywedodd y Cyfarwyddwr na fyddai o reidrwydd yn bennaeth neu ddirprwy bennaeth oedd yn gwneud cais am y swydd, gallai er enghraifft fod yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol neu arbenigwr yn y maes Cynhwysiant. Nid oes unrhyw fwriad i ddadsefydlogi unrhyw drefniadau ysgol gyda’r apwyntiad hwn a byddent yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion i sicrhau parhad.

 

Yng nghyswllt capasiti a medru cefnogi ysgolion, yn neilltuol arweinyddiaeth ysgol, dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant, er mwyn sicrhau fod popeth yn ei le ganddynt i ddiwallu anghenion y Bil ADY newydd, bod Ysgol Gyfun Tredegar wedi derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer capasiti ychwanegol i fynd allan a gweithio’n benodol gydag ysgolion yn y cyswllt hwn.

 

Cododd Aelod bryderon, oherwydd nad oedd arolygon ysgolion yn cael eu cynnal bellach, y byddid yn cydnabod sut y gellir gwneud gwelliannau i’r ddwy ysgol yn y categori achos consyrn. Dywedodd y Prif Gynghorydd Her y cafodd categoreiddio ei ohirio am flwyddyn arall a rhoddodd sicrwydd y byddai ysgolion yn parhau i dderbyn y lefel gywir o gefnogaeth, mae EAS yn cynnig fel rhanbarth y byddent yn dal i fod â’r drafodaeth broffesiynol honno gyda’r penaethiaid ysgolion ac y byddai lefelau’r gefnogaeth y byddai ysgolion yn ei gael am y flwyddyn i ddod yn cael ei benderfynu yn y trafodaethau hynny. Byddai’r awdurdod lleol, EAS, penaethiaid ysgolion ac uwch arweinwyr i gyd yn edrych ar anghenion yr ysgol i sicrhau y cytunwyd ar y nifer gywir o ddyddiau, gallai hyn fod tua 5 diwrnod gyda dyddiau ychwanegol wedi eu hychwanegu os yw’r ysgol angen mwy o gefnogaeth.

 

Yng nghyswllt ysgolion yn achosi consyrn yn y categori coch, mae hyn yn dal yn broses statudol a byddai angen i’r EAS ddilyn y broses i sicrhau y caiff yr ysgolion hynny eu cefnogi ac yr adroddir eu cynnydd i Aelodau a phob rhanddeiliad. Fodd bynnag, ni fyddid mwyach yn rhoi adroddiad ar y categoreiddiad lliw gan mai un o gyfyngiadau categoreiddio oedd y gallai ysgol fod yn gwella yn y cefndir ond yn dal i fod yn y categori coch heb i’r gwelliannau hynny gael eu cydnabod gan y gymuned. Teimlai fod cyfle yn awr i’r ysgolion ym Mlaenau Gwent sy’n gwella i arddangos eu gwelliannau drwy weithio gyda rhieni, adran Cyfathrebu Corfforaethol y Cyngor a’r wasg leol ac i gael gwybodaeth ar wella ysgolion i fforymau lleol i roi gwybodaeth i’r gymuned. Cyfeiriodd at yr ?yl llythrennedd yn Ysgol Sefydliadol Brynmawr a dywedodd mai dyna’n union y math o newydd sydd angen iddo fod allan yn y gymuned.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod cynnydd yn cael ei wneud yn neilltuol gyda’r ddwy ysgol sydd mewn categori Estyn ar hyn o bryd. Yng nghyswllt cyfathrebu a’r gwelliannau a wneir ar gyfer y ddwy ysgol hyn, roedd Cyfathrebu Corfforaethol wedi gweithio’n agos gyda’r ysgolion i gael negeseuon cadarnhaol allan yn y gymuned. Cyfeiriodd at yr ?yl lythrennedd wych yn Ysgol Sefydliadol Brynmawr a dderbyniodd sylw cenedlaethol ar y teledu a dywedodd fod hwn yn un llinyn o’r gwaith y mae Cyfathrebu Corfforaethol yn ei cefnogi. Dywedodd fod Estyn wedi cyhoeddi’n ddiweddar y caiff arolygiadau craidd eu gohirio ac y byddai ymweliadau monitro yn parhau i ddigwydd a bod hwn yn gyfle i’r Arolygiaeth i asesu’r cynnydd a wneir. Byddai hyn yn rhoi cyfle i’r ysgolion hynny i ddangos cynnydd a rhoi anogaeth ar gyfer eu teithiau gwella.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant y bu cyfarfodydd wythnosol gydag ysgolion i sicrhau fod cymaint o wybodaeth ag sydd modd mas yn y wasg leol a hefyd y cafodd yr ?yl lythrennedd ei rhannu gyda’r holl benaethiaid ysgol yn eu cyd-gyfarfod diwethaf ac y gallodd pob un o’r ysgolion gymryd rhan ac ymuno mewn nifer o’r gweithgareddau. Teimlai fod hon yn ffordd arall o hyrwyddo’r gwaith gwych sy’n digwydd ar draws y stad ysgolion.

 

Dywedodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg y gall newid canfyddiad fod yn anodd iawn a bod angen defnyddio nifer o strategaethau a thrwy waith Cyfathrebu Cymunedol maent yn gweithio i gefnogi’r ysgolion i ymgysylltu’n well gyda’u rhieni. Rhoddodd enghraifft fod Cymuned Ddysgu Abertyleri wedi gofyn iddynt hwyluso cyfarfod yng nghyswllt lansio eu prosbectws ysgol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at recriwtio Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant ac awgrymodd bod y Gyfarwyddiaeth Addysg yn cydlynu gyda’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol gan fod y swydd hon wedi cysylltu gyda’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod perthynas dda rhwng y Cyfarwyddiaethau a’i fod yn edrych ar adeiladu ar gyfer y cydweithio hwn e.e. drwy waith Pontio’r Bwlch ar ymyriad cynnar ac ataliad.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr ymgyfraniad bythefnosol wrth lunio’r Cwricwlwm i Gymru ar dudalen 75 a holodd sut y byddent yn sicrhau y caiff hyn ei weithredu yn y ffordd gywir. Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod y cwricwlwm newydd yn rhoi rhyddid i ysgolion i lunio’r cwricwlwm i ateb anghenion eu cymunedau ysgol lleol. Maent yn gweithio ‘n agos gyda EAS i sicrhau fod ganddynt yr hyfforddiant cywir i roi’r gefnogaeth ar gyfer gweithio ysgol i ysgol ac i drefnu’r gefnogaeth y byddai gwahanol ysgolion ei angen. Byddai hyn yn sicrhau fod darpariaeth yn ei lle i alluogi grymuso ysgolion i ddatblygu’r cwricwlwm yn y ffordd a ddymunent.

 

Dywedodd y Prif Gynghorydd Her fod gan EAS raglen genedlaethol i’w chyflawni ar ran yr awdurdod lleol. Bu’r awdurdod lleol, penaethiaid ysgol, dirprwy benaethiaid ysgolion ac uwch arweinwyr i gyd yn rhan o’r rhaglen genedlaethol a chaiff y rhaglen honno yn awr ei chyflwyno i arweinwyr canol o fewn Blaenau Gwent. Cyfeiriodd at y trafodaethau proffesiynol a’r wybodaeth a gafwyd o’r trafodaethau hyn tebyg i beth yw cryfderau ysgolion, beth yw’r meysydd i’w datblygu ac yn y blaen ac y byddai’r rhan fwyaf o hynny yn cael ei gyflwyno drwy fodel darpariaeth ysgol i ysgol lle mae un ysgol yn cefnogi ei gilydd.

 

Dywedodd yr Aelod fod gweithio ysgol i ysgol yn gweithio’n dda gydag ysgolion yn helpu ei gilydd. Teimlai fod hunanarfarnu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i addysg.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr adroddiad, y dogfennau cysylltiedig a’r llwybr gweithredu a gynigiwyd a

 

CHYTUNODD YMHELLACH i gynnwys y geiriau ‘seiliedig yn yr ysgol’ yn yr effaith allweddol – gwaith ac ymgysylltu Gwirfoddol/Trydydd Sector Elusennol – Cafodd cyfleoedd i gynnwys partneriaid ei gyfyngu’n sylweddol oherwydd goblygiadau gweithredol yn gysylltiedig gyda COVID-19.

 

Dogfennau ategol: