Agenda item

Datganiad Cyngor Amrywiol

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid yn fyr am yr adroddiad sy’n cyflwyno’r Datganiad Cyngor Amrywiol i gael ei gymeradwyo. Dywedodd Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i gynyddu amrywiaeth ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus a bod hyn yn cynnwys mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal cyfranogiad gweithredol unigolion mewn democratiaeth leol.

 

Mae paragraff 2.4 yr adroddiad yn nodi nifer y disgwyliadau ar y Cyngor i gefnogi amrywiaeth o fewn y broses ddemocrataidd a hefyd gyda phleidiau gwleidyddol i gefnogi’r broses o ddod yn gynghorydd a rhoi cefnogaeth i gynghorwyr unwaith y cânt eu hethol. Mae paragraff 2.5 yn amlinellu’r disgwyliadau ychwanegol fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau.

 

Aeth y Prif Swyddog ymlaen drwy ddweud y byddir yn datblygu cynllun gweithredu fyddai’n cwmpasu’r cyfnod hyd at a thu hwnt i etholiadau lleol 2022 ac y cyflwynir hyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried cyn ei gymeradwyo yn y Cyngor ar 30 Medi. Nodwyd fod y Cyngor eisoes yn gwneud cynnydd mewn rhai o’r meysydd, er enghraifft hyblygrwydd busnes drwy fynychu cyfarfodydd o bell.

 

Croesawodd Aelod yr adroddiad a gofynnodd pwy fyddai’n datblygu’r cynllun gweithredu ac os yr ymgynghorir â’r cyhoedd ar y cynllun cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Dywedodd fod angen i’r Cyngor ymgysylltu gyda phobl i ganfod beth y credent oedd y rhwystrau i ddod yn gynghorydd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y cynhaliwyd trafodaethau dechreuol gyda’r Swyddogion Cydraddoldeb i wneud y cysylltiadau hynny gyda rhai grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i ganfod eu barn. Yn ychwanegol, mae’r Cynnig Democratiaeth Digidol presennol yn cynnwys gwaith gyda phobl ifanc 16-25 oed i ddeall eu profiadau a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu wrth gysylltu gyda’r trefniadau democrataidd ac y byddai peth o’r dysgu hwn yn helpu i gefnogi datblygu’r cynllun. Mae’r Panel Dinasyddion yn gyfle pellach i ymgysylltu a byddai hynny’n digwydd drwy rwydweithiau eraill a ddynodwyd gan fod gwahanol agweddau o’r datganiad y gallai gwahanol grwpiau fynd â nhw ymlaen. Nodwyd y cafodd peth ymchwil dechreuol ei gasglu gydag unigolion yn y Fwrdeistref Sirol ac y byddai’r holl wybodaeth hon yn cael ei chasglu a’i hystyried. Ychwanegodd y Prif Swyddog y caiff barn Aelodau ei hystyried drwy’r broses ddemocrataidd.

 

Croesawodd Aelod y datganiad a gofynnodd am sicrwydd gan yr Arweinydd, er mwyn dangos ymrwymiad y Cyngor y byddai aelodau’n cael cyfle i drafod Archwiliad Coffau Cymru a gymeradwyodd Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2020.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod yn fodlon i’r ddogfen gael ei thrafod.

 

Mynegodd Aelod arall ei bryder am ddemocratiaeth ddigidol a’i brofiad o gyfarfodydd rhithiol gan y teimlai nad oeddent yn ddefnyddiol nac ymarferol a dywedodd y dylid bod wedi cynnal trafodaeth drwyadl gydag aelodau’r cyhoedd a Chynghorwyr.

 

Dywedodd Aelod arall ei bod yn cytuno gyda’r adroddiad ond yr hoffai ryw fath o gydnabyddiaeth o fewn y cynllun gweithredu y cynhelir cyfarfodydd tu allan i’r diwrnod gwaith, yn arbennig bwyllgorau craffu, gan y teimlai y byddai hyn yn denu elfen llawer iau o’r gymuned yn arbennig famau ifanc sy’n gweithio i wneud cais i ddod yn gynghorydd.

 

Wrth gynnig cymeradwyo Opsiwn 1, dywedodd Arweinydd y Cyngor bod adran ‘disgwyliadau’ yr adroddiad yn sôn am adolygu a newid amserau cyfarfodydd ac y byddai hyn yn ffurfio rhan o’r cynllun gweithredu a gaiff ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD, yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn, sef bod y Cyngor yn:

 

·         Llofnodi Datganiad Cyngor Amrywiol a nodir yn Atodiad 1.

·         Cytuno datblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â meysydd gofynnol bod yn Gyngor amrywiol.

·         Cyflwyno’r cynllun gweithredu i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i’w ystyried a’i gytuno cyn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor ar 30 Medi 2021.

 

Dogfennau ategol: