Agenda item

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

 

 

Cofnodion:

C/2020/0246

5 Fairview Terrace, Heol Tyleri, Abertyleri, NP13 1JD

Cadw balconi a balconi dros estyniad cefn un llawr, drysau Ffrengig a gosod system CCTV yn cynnwys 3 camera ar y tu blaen a 3 camera yng nghefn yr annedd

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu y gwneir cais i gadw balconi a drysau Ffrengig i gefn yr annedd ynghyd â gosod canopi tynnu’n ôl drosto. Mae’r cais hefyd yn gofyn am gadw 6 camera CCTV, 3 ar y tu blaen a 3 yng nghefn yr annedd. Rhoddodd y Rheolwr Tîm drosolwg o’r cais cynllunio gyda chymorth ffotograffau. Nodwyd nad oedd ymgyngoreion allanol wedi codi unrhyw faterion, fodd bynnag amlinellodd y Rheolwr Tîm yr ymatebion allweddol i gwynion gan breswylwyr.

 

Siaradodd y Rheolwr Tîm ymhellach am yr adroddiad ac amlinellodd yr asesiad cynllunio yn nhermau’r balconi, drysau Ffrengig, canopi a CCTV. Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yng nghyswllt adeiladwaith a gorffenion y balconi ac atgoffodd Aelodau nad yw cynllunio yn rheoli safon saernïaeth datblygiad. Byddai Rheoli Adeiladu yn rheoleiddio’r elfennau cydymffurfiaeth hyn i sicrhau y cafodd y balconi ei godi’n ddiogel ac yn foddhaol. Yn nhermau’r gorffenion, mae’r cais yn dweud bod y balconi yn bren a fyddai’n cael cladin a rendr a’i beintio’n llwyd a ystyriwyd yn dderbyniol. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fwriad i gwblhau’r gwaith yn unol â’r amserlen. Gellid gosod amod yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwaith gael ei gwblhau yn unol â’r amserlen o fewn cyfnod o 6 mis.

 

Yn nhermau effaith, byddai goredrych fodd bynnag ni fyddai hyn yn ddim gwahanol i’r olygfa o’r ffenestri. Felly roedd  y Rheolwr Tîm, yn argymell gosod amod fyddai angen sgrin breifatrwydd a’r balconi i gael eu hadeiladu gyda’r deunyddiau addas er mwyn gwarchod amwynder y gymdogaeth.

 

Nododd y Rheolwr Tîm ymhellach bryderon am y chwe uned camera a osodwyd o amgylch yr annedd ac atgoffodd Aelodau fod agweddau cynllunio’r achos wedi eu cyfyngu i ymddangosiad ffisegol y camerâu a’r effaith weledol y byddent yn eu cael ar yr adeilad y cawsant eu gosod arno. Nid oedd cynnwys yr hyn a fyddai’n cael ei recordio a sut y byddai’r data hwnnw yn cael ei drin yn ystyriaeth cynllunio berthnasol. Caiff recordio data ar CCTV ei reoleiddio gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n rheoleiddio ac yn gweithredu’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. Yng nghyswllt sylw gan wrthwynebydd am Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000, dywedodd y Rheolwr Tîm, hefyd nad oedd hyn yn fater cynllunio a bod y Ddeddf yn cyfeirio at reoleiddio sut mae cyrff cyhoeddus yn cynnal goruchwyliaeth ac nad yw’n ymwneud â CCTV mewn cartrefi.

 

Nododd y Rheolwr Tîm y tri chamera ar du blaen yr annedd a dywedodd y gellid ystyried hynny yn ormodol, fodd bynnag oherwydd eu maint a lleoliad y camerâu gwyn ar du blaen yr annedd oedd hefyd wedi’i pheintio’n wyn, nid yw’r camerâu yn sefyll mas. Fodd bynnag, teimlai na fyddai golwg y camerâu yn cael effaith niweidiol ar y strydlun.

 

I gau, nododd y Rheolwr Tîm argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais gydag amodau cysylltiedig.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd M. Day, Aelod Ward i annerch y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Ward iddo dderbyn nifer o gwynion gan breswylwyr yng nghyswllt lleoliad y camerâu CCTV a’r balconi yn nhermau colli preifatrwydd.  Roedd pryderon mawr ymhlith preswylwyr yr effeithid ar eu preifatrwydd, a gwerthfawrogai’r Aelod Ward nad yw’r pryderon hyn yn ystyriaeth ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio. Fodd bynnag, teimlai’r Aelod Ward ei bod yn bwysig bod y Pwyllgor yn gwybod fod lleoliad y camerâu CCTV yn annerbyniol ac yn wynebu ystafelloedd gwely y tai gyferbyn. Os na fedrai hyn gael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio, teimlai’r Aelod Ward y dylai gael ei drin gan y Cyngor.

 

Yn nhermau rheoliadau adeiladu, cyfeiriodd yr Aelod Ward at y balconi a’r pryderon a gododd yng nghyswllt y strwythur a’r colli preifatrwydd gan ei fod yn edrych dros anheddau yng nghefn yr adeilad. Roedd yr Aelod Ward wedi gobeithio y byddai’r datblygiad wedi ei adeiladu i’r fanyleb adeiladu berthnasol ac y cynhelir gwiriadau rheolaidd i sicrhau nad oedd yn achosi risg i anheddau a phreswylwyr cyfagos.

 

Ategodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu mai cyfrifoldeb Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth CCTV gan mai nhw sy’n rheoleiddio a gweithredu’r Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. Felly dywedodd y Rheolwr Tîm y dylid codi unrhyw bryderon gyda Swyddfa’r Comisiynydd.

 

Cynghorodd y Rheolwr Tîm fod rheoliadau adeiladu ar wahân i’r Adran Cynllunio ac y ceisid caniatâd cynllunio yn y lle cyntaf yn y rhan fwyaf o achosion. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm y byddai’r Tîm Cynllunio yn sicrhau fod cydweithwyr yn Rheoli Adeiladu yn dilyn y datblygiad hwn.

 

Mewn pleidlais unfrydol

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio.

 

Ymataliodd y Cynghorydd Malcom Day rhag cymryd rhan yn y bleidlais.

 

C/2021/0023

39 Brecon Heights, Victoria, Glynebwy

Cadw t? haf mewn gardd gefn

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu fod safle’r cais yn annedd ar wahân ar safle tai ar gyn safle’r ?yl Gerddi yn Victoria. Mae anheddau eraill o amgylch ac mae gan yr annedd hon ardd cynllun agored fach yn y tu blaen a gardd gaeedig yn y cefn. Rhoddodd y Rheolwr Tîm fanylion y cais gyda chymhorthion gweledol.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm mai’r prif fater gyda’r cais oedd uchder y t? haf. Roedd y t? hap yn siâp afreolaidd gan iddo gael ei adeiladu i gyd-fynd gyda chyfluniad y llain. Roedd yn 5.4m uchafswm o ddyfnder. Roedd y drychiad blaen, yn wynebu’r ardd, yn 6.4m o led tra bod y drychiad cefn yn 7.5m. Ar y pwynt uchaf uwchben lefel wreiddiol y tir mae’r adeilad yn mesur 2.8m. Dywedodd y Rheolwr Tîm pe bai’r t? haf wedi bod yn 2.5m neu lai na fyddai wedi bod angen caniatâd cynllunio. Cafodd y t? haf ei adeiladu oddi ar badiau concrit a fframwaith pren oherwydd lefelau gardd anwastad. Cafodd uchder y sylfaen hwn ei gynnwys yn y mesuriadau am gyfanswm uchder y strwythur.

 

Amlinellodd y Rheolwr Tîm yr ymatebion i’r ymgynghoriad a dywedodd fod Aelod Ward ar y Pwyllgor Cynllunio hefyd wedi gofyn i’r cais gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oherwydd pryderon am effaith weledol y datblygiad oherwydd ei uchder a’i agosatrwydd at anheddau cyfagos.

 

Siaradodd y Rheolwr Tîm ymhellach am yr adroddiad ac amlinellodd y pwyntiau allweddol yng nghyd-destun materion gweithdrefnol, asesiad, lleoliad, maint ac ymddangosiad. Ategodd y Rheolwr Tîm, er bod yr adeilad yn fwy gan tua 300mm na’r terfynau datblygu a ganiateir, nad oedd hynny ynddo’i hun yn reswm yn gyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm y Pwyllgor at y ffotograffau yn yr adroddiad sy’n dangos y gwahaniaeth uchder rhwng yr hyn y gellir ei godi yn y lleoliad heb ganiatâd cynllunio o gymharu â’r strwythur y mae’r ymgeisydd yn awr wedi gofyn caniatâd i’w gadw. Cafodd yr holl ffactorau hyn eu hystyried a theimlai’r Rheolwr Tîm fod maint ac ymddangosiad yr adeilad yn dderbyniol. Nid yw’n anarferol i adeiladau gael eu gosod mewn gerddi ar stadau tai ac nid yw’r datblygiad yn yr achos yn un sy’n rhwystro yr hyn a fedrai fel arall wedi bod yn olygfa agored.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm at y g?yn a wnaed yng nghyswllt yr amser a gymerwyd i ymchwilio’r g?yn ddechreuol. Dywedodd fod y dull ymchwilio yn faterion gweithdrefnol na ddylai ragfarnu ystyried y cais hwn. Cafodd y materion hyn eisoes eu trin fel mater ar wahân yn unol â gweithdrefn cwynion corfforaethol y Cyngor.

 

I gloi, dywedodd y Rheolwr Tîm fod y cais yn gofyn am ganiatâd i gadw adeilad allanol sy’n rhoi gofod amwynder i breswylwyr i gynyddu eu mwynhad o’u hannedd. Roedd yr adeilad o faint, graddfa ac ymddangosiad derbyniol yng nghyd-destun yr annedd lle mae a’r amgylchedd yn ehangach. Nid yw’r lleoliad a dyluniad yn achosi unrhyw broblemau goredrych nac yn achosi effaith ormodol na gweledol ar breswylwyr anheddau cyfagos. Felly, mae’r swyddog yn argymell rhoi caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn, gwahoddodd y Cadeirydd y siaradwr cyhoeddus Mr Millard i annerch y Pwyllgor.

 

Dymunai Mr Millard ddod â’r cais cynllunio hwn i sylw’r Pwyllgor Cynllunio gan fod y mater wedi bod yn mynd yn ei flaen am 14 mis. Roedd pryderon y cymdogion am uchder, maint, agosatrwydd a gormesol ar erddi cymdogol yn ogystal ag ansawdd deunydd y gorffeniad. Prif wrthwynebiad y preswylwyr yw’r effaith weledol a hynny oedd ymateb dechreuol y swyddogion a’r cynghorwyr a ymwelodd â’r safle. Mae barn y swyddogion yn hollol wahanol am yr hyn sy’n dderbyniol a dywedodd Mr Millard fod faint o amser a gymerodd i ddod â hyn i’r Pwyllgor yn achos pryder. Ym marn y cymdogion roedd yn rhy uchel i’r lleoliad, nid oedd angen llwyfan a dylai camgymeriad y datblygwr fod yn gliriach. Mae’r lled sylweddol yn targedu un ardd ac roedd yn holl led gardd cymdogion. Mae’r cladin allan o gymeriad ac yn anghydnaws gyda’r ardal. Cafodd y cynlluniau eu newid ac mae safon y gorffeniad hefyd yn achos pryder i’r tenantiaid. Roedd y cladin wedi ei osod yn wael ac mae’r llen rwber rhydd yn annerbyniol. Roedd y t? haf yn edrych yn dda o ochr y datblygwr, fodd bynnag nid oedd yr un fath ar gyfer cymdogion mewn anheddau cyfagos. Mae’r datblygiad wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn yr olygfa o annedd Mr Morgan ac wedi cael effaith sylweddol ar ei iechyd meddwl a’i fwynhad o’i ardd yn ystod y pandemig. Yn ystod y pandemig dywedodd Mr Millard i ni gael ein hannog i ddefnyddio ein gerddi ar gyfer ein hiechyd meddwl a’n llesiant, ar gyfer y rhai ohonom sy’n ddigon ffodus i gael gardd.

 

Teimlai Mr Millard hefyd y defnyddiwyd y pandemig fel esgus i beidio ymweld â’r safle. Ni fu unrhyw weithredu gorfodaeth a daeth y dyddiad cau o 28 diwrnod i ben fis Awst diwethaf. Teimlid fod yr adroddiad yn canolbwyntio mwy ar wrthbrofi’r gwrthwynebiadau na ffeithiau cynllunio go iawn a theimlai Mr Millard fod yr wybodaeth yn yr adroddiad yn gamarweiniol. Ni ddylid anwybyddu uchder y t? haf gan mai dim ond 300mm oedd yn fwy na’r uchder a ganiateir. Mae’r datblygiad yn annerbyniol ac yn anghydnaws gyda’i amgylchedd. Mae’r terfynau a ganiateir yn bodoli i gynrychioli’r hyn sy’n dderbyniol yn genedlaethol a bernir fod unrhyw beth mwy yn annerbyniol. Roedd barn y swyddog yn ffafrio rhai safbwyntiau ac nid oedd yn cyfateb â barn cymdogion ac roedd yn bwysig na ddylai’r effaith ar gymdogion, yn arbennig Mr Morgan, gael eu diystyru.

 

Gofynnodd yr Is-gadeirydd i Mr Millard dynnu datganiadau yn ôl a wnaed yng nghyswllt ffafriaeth a’r amser a gymerwyd i drin y g?yn. Dywedodd yr Is-gadeirydd fod yr Awdurdod yn delio gydag ymateb argyfwng i bandemig a bod llawer o aelodau staff ar secondiad i gynorthwyo gyda’r ymateb.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Ward i annerch y Pwyllgor.

 

Nododd yr Aelod Ward yr amser ymateb a dywedodd, er fod pandemig, bod oedi o 14 mis yn ormodol. Teimlai’r Aelod Ward nad yw’r ffotograffau a gyflwynwyd gan swyddogion yn yr adroddiad yn rhoi dealltwriaeth deg o’r effaith ar anheddau cyfagos ac felly cynigiodd gyfarfod safle er mwyn i’r Pwyllgor weld y datblygiad.

 

Eiliwyd y cynnig am gyfarfod safle.

 

Dywedodd y Cadeirydd y cafodd nifer o swyddogion o fewn yr Awdurdod secondiad i swyddi eraill er mwyn cynorthwyo gyda’r ymateb argyfwng i’r pandemig, felly roedd pob Adran ar draws y Cyngor dan bwysau yn nhermau adnoddau staffio yn ystod y cyfnod hwn.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm at y pryder a godwyd yng nghyswllt faint o amser a gymerwyd i drin y g?yn. Derbyniwyd y g?yn yn fuan ar ôl dechrau’r cyfnod clo cyntaf a chafodd ei thrin cyn gynted ag yr oedd swyddogion mewn sefyllfa i fynd ar ymweliadau safle a chafodd y perchennog gais i gyflwyno cais cynllunio. Fodd bynnag, ni chyflwynwyd hyn tan fis Ionawr 2021. Mewn ymateb at gyfeirio’r g?yn at yr Ombwdsmon, dywedodd y Rheolwr Tîm yr anfonwyd llythyrau cynhwysfawr drwy’r broses cwynion corfforaethol. Dywedwyd fod nifer o staff o fewn y tîm ar secondiad i ddelio gyda’r ymateb i’r argyfwng, fodd bynnag derbyniodd y Rheolwr Tîm y bu oedi pellach cyn cyflwyno’r cais i’r Pwyllgor oherwydd absenoldeb salwch y swyddog achos a ddewiswyd i ddechrau. Cyflwynwyd nifer o ffotograffau yn yr achos hwn a ddylai alluogi’r Pwyllgor i wneud penderfyniad yn yr achos hwn heb fynd i’r safle.

 

Nododd Aelod yr uchder a ganiateir a theimlai y byddai’r datblygiad yr un mor ymwthgar os oedd yr uchder 300mm yn llai, yn unol â’r uchder derbyniol.

 

Teimlai Aelod Ward arall fod swyddogion wedi gwneud gwaith da yn ystod y pandemig wrth gynorthwyo gyda’r ymateb argyfwng a pharhau â busnes dyddiol hyd eithaf eu gallu. Fodd bynnag, cytunai’r Aelod Ward gyda’i gydweithiwr yng nghyswllt cyfarfod safle a theimlai Aelod y byddai’n fanteisiol yn yr achos hwn.

 

Gadawodd y Cynghorydd D. Wilkshire y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Cefnogodd Aelod argymhelliad y swyddog, ac eiliwyd hyn.

 

Cynigiodd Aelod Ward y dylid cynnal cyfarfod safle er mwyn i’r Pwyllgor weld y datblygiad a’i effaith ar gymdogion, cafodd y cynnig ei eilio.

 

Pleidleisiodd y Cynghorydd Derrick Bevan o blaid y cyfarfod safle.

 

Felly, mewn pleidlais pleidleisiodd 7 o blaid y gwelliant a 7 o blaid argymhelliad y swyddog. Defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw a phleidleisio o blaid argymhelliad y swyddog. Felly

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio.

 

Dogfennau ategol: