Agenda item

Adolygiad Perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd 2020/21 Ch4

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu adolygiad perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd am chwarter 4, yn erbyn prosiectau yn ymwneud â buddsoddiad ym Mlaenau Gwent yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i raglenni allweddol gwaith ym Mlaenau Gwent a chynnydd y rhaglen ar y targedau allweddol a ddynodwyd o fewn Cynllun Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer 2020/21.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 2.15 yr adroddiad a gofynnwyd os y cysylltwyd gyda chwmnïau tacsi, ac os felly os y dangoswyd unrhyw ddiddordeb mewn manteisio ar y cyfle i dreialu tacsi trydan.

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog y cafodd y tacsis eu derbyn yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, dywedodd y byddai’n gwirio os oedd Tîm Trwyddedu Tacsis y Cyngor wedi cylchredeg gohebiaeth i gwmnïau tacsi.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio y trefnwyd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu rhithiol, ac mae’r Tîm Trwyddedu yn cysylltu â gyrwyr tacsi yn yr ardal. Hefyd, fel rhan o hyrwyddiad ehangach, byddai lansio’r cynllun tacsi newydd yn cyd-daro gyda lansiad gorsaf bysus newydd Merthyr a gwelliannau i’r safle tacsi ar ddiwedd mis Mai 2021.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y gwelliannau i’r ddolen rheilffordd a’r benthyciad o £70m, a dywedodd fod yr adroddiad yn awgrymu y cafodd peth o’r arian ei wario eisoes. Deallai y bwriedir cael trafodaethau gydag awdurdodau lleol eraill am gyfraniad posibl. Dywedodd hefyd y byddai dolen rheilffordd o Frynmawr i Bontyp?l yn fwy manteisiol i breswylwyr Blaenau Gwent, gan roi dolen i Gwmbrân a Chasnewydd, a gofynnodd os gwnaed unrhyw gynnydd yng nghyswllt hyn.

 

Esboniodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu fod y £70m yn gyllid ar wahân a gaiff ei rannu rhwng pob awdurdod lleol i gynnal prosiectau ychwanegol, wrth ochr adnewyddu rheilffyrdd. Yn nhermau dolen reilffordd rhwng Brynmawr a Phontyp?l, nid oedd gan y swyddog unrhyw wybodaeth ond cyfeiriodd y Pwyllgor ar adran 2.16 yr adroddiad sy’n dweud bod gwasanaethau i Gaerdydd a Chasnewydd yn cael eu profi yn fanwl ar hyn o bryd, fel y byddai dolen i Gasnewydd yn y dyfodol.

 

Nododd Aelod fod adran 2.6 yn dweud bod y gwaith dylunio ar gyfer Abertyleri yn dod o gyllid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Fodd bynnag, gofynnodd pwy fyddai’n talu am y gwaith am y cynnydd yn y gwasanaeth i Lynebwy ac os y byddai hyn yn dod o’r benthyciad £70m.

 

Esboniodd y Swyddog fod y benthyciad £70m ar gyfer gwaith gwella llinell. Nid yw’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar y rhwydwaith ar hyn o bryd, h.y. gwelliannau Crymlyn, yn rhan o’r £70m; fodd bynnag, mae peth o’r gwaith dylunio yn rhan o gyllid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r £70m ar gyfer gwaith penodol ar reilffordd Cwm Ebwy i gynyddu’r gwasanaeth i 2 drên yr awr i ddechrau, ac yna gysylltu gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru y dylai Blaenau’r Cymoedd gael 4 trên yr awr.

 

Mewn ymateb, gofynnodd yr Aelod am ddadansoddiad o’r gwahanol ffrydiau cyllid. Gofynnodd hefyd os cysylltwyd gydag adrannau lleol eraill i gyfrannu at y benthyciad o £70m.

 

Esboniodd y Swyddog y byddai ad-daliadau’r benthyciad yn seiliedig ar ddefnyddwyr y rheilffyrdd.

 

Gofynnodd yr Aelod pwy fyddai’n gyfrifol am unrhyw ddiffyg mewn cyllid os nad yw nifer y teithwyr yn cyflawni ad-daliadau’r benthyciad.

 

Ni fedrai’r Swyddog ymateb gan ei fod yn rhan o’r adroddiad a gofynnodd yr Aelod am i hyn gael ei nodi fel pwynt gweithredu, a hefyd ei gais am ddadansoddiad o’r cyllid.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at adran 2.16 yr adroddiad a gofynnodd am ymgynghori gydag Aelodau ar leoliadau’r mannau gwefru cerbydau trydan o fewn eu wardiau. Awgrymodd hefyd y posibilrwydd o osod mannau gwefru ar un llawr o faes parcio aml-lawr Glynebwy ac ymchwilio cynhyrchu incwm posibl, a hefyd eu cynnwys yng Nghynllun Rheoli Cyrchfan y Cyngor.

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio y cafodd y lleoliadau eu dynodi fel rhan o’r astudiaethau blaenorol a gynhaliwyd, ond cadarnhaodd y caiff Aelodau Ward eu hysbysu am y lleoliadau. Fodd bynnag, os oes gan Aelodau unrhyw awgrymiadau pellach am leoedd, gellid eu rhoi ar y gronfa wrth gefn os daw cyllid ychwanegol ar gael yn y dyfodol.

 

Yn nhermau cynhyrchu incwm, dywedodd y Swyddog y byddai hyn yn fach oherwydd gofynion rheoli a chynnal a chadw y mannau gwefru, ond gellid edrych arno yn y dyfodol. Cadarnhaodd hefyd y gellid cynnwys lleoliadau’r mannau gwefru yn y Cynllun Rheoli Cyrchfannau lle’n briodol.

 

Wedyn cyfeiriodd yr Aelod at adran 2.25 yr adroddiad, sef Strategaeth Ynni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gofynnodd os y gallai fod goblygiadau cyllido i’r Cyngor yn nhermau gorfod rhoi arian cyfatebol ar gyfer rhai grantiau.

 

Mewn ymateb dywedodd Arweinydd y Tîm na chafodd hyn ei benderfynu hyd yma. Roedd y Cyngor wedi cyflwyno’r prosiectau ac mae cyllid yn cael ei ymchwilio. Fodd bynnag, mae’n annhebyg y byddai unrhyw fwy o ofyniad arian cyfatebol nag a fyddai pe byddai’r Cyngor yn symud ymlaen â’r prosbectws.

 

Gofynnodd Aelod arall am fanylion y gwelliannau arfaethedig i reilffordd Cwm Ebwy ac os oedd hyn yn cynnwys ail lwyfan yn Llanhiledd a hefyd os yw’r ddolen i Gasnewydd wedi ei gwarantu.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu y caiff y gwaith dylunio cyfredol yn Llanhiledd ei wneud gan Trafnidiaeth Cymru. Yn nhermau’r ddolen i Gasnewydd, er na fedrid gwarantu hyn, mae’r seilwaith yn ei le i gael ei ddatblygu ac mae Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar hyn a’r amseriadau ar hyn o bryd.

 

Dywedodd yr Aelod y byddai adroddiad fwy manwl yn fanteisiol ar gyfer Aelodau. Roedd hefyd yn cefnogi sylwadau ei gydweithiwr am ddolen Brynmawr. Dywedodd fod Aelodau angen gwybod beth fedrai Blaenau Gwent ei ddisgwyl o’r Fargen Ddinesig a’r Metro.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd nad yw dolen Brynmawr yn rhan o’r Fargen Ddinesig; fodd bynnag caiff cynnydd ar welliannau rheilffordd Cwm Ebwy ei gynnwys ym Mlaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu wrth symud ymlaen.

 

Dywedodd Aelod arall fod hwn yn adroddiad cadarnhaol, yn neilltuol y Strategaeth Tai a hefyd y strategaethau ‘gwyrdd’. Cyfeiriodd at waith rhagorol y fforwm ‘Tîm Gwyrdd’ blaenorol ac awgrymodd y dylid ail-sefydlu hyn yn y dyfodol.

 

Dilynodd trafodaeth pan gadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio y byddid yn cynnwys adroddiad ar yr Hydro yn y Flaenraglen Gwaith. Dywedodd hefyd y cafodd cyllid ei sicrhau drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig i edrych ar Cwm a Lanhiledd, yn y cam cyntaf, ac mae’r ymchwiliadau dechreuol yn agos at eu cwblhau. Cafodd nifer o safleoedd eu dynodi fel rhan o’r ail gam, a byddai ymgynghorwyr yn edrych ar gyfleoedd micro-hydro ar gyfer y safleoedd hynny.

 

Mewn ymateb i sylw gan yr Aelod am y Tîm Gwyrdd dywedodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu y gallai’r fforwm, os caiff ei ail-sefydlu, hidlo i mewn i waith o amgylch y Cynllun Datgarboneiddio.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y Strategaeth Ynni a gofynnodd os gosodwyd amserlenni.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at yr unedau diwydiannol newydd arfaethedig yn Ashvale, Tredegar, yn neilltuol y fynediad i’r safle gyferbyn ag ysgol gynradd, a chadarnhaodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu fod Priffyrdd yn edrych ar hyn.

 

Dilynodd trafodaeth fer am y cynllun tacsi trydan, pan ofynnodd Aelod os byddid yn ystyried cynllun ad-dalu fforddiadwy.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio fod cymhellion ar gyfer y cynllun yn cael eu hystyried gan y Fargen Ddinesig, yn cynnwys pecyn cyllid, a byddid yn cyfathrebu hyn i yrwyr tacsi fel rhan o’r gwaith ymgysylltu.

 

Dywedodd Aelod arall y byddai Briffiad i Aelodau ar ddolen Rheilffordd Cwm Ebwy yn fanteisiol i Aelodau, ac awgrymodd y gellid gwahodd Trafnidiaeth Cymru i fynychu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi cynnwys adroddiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

 

Dogfennau ategol: