Agenda item

Gwasanaethau Addysg Blaenau Gwent, Hunanarfarnu a Chynllunio Busnes

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Craffu i graffu ar ganfyddiadau yr hunan arfarniad a’r prosesau cynllunio busnes cyffredinol a gynhelir o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg, ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid allweddol.

 

Hysbysodd  Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg yr Aelodau fod hwn yn adroddiad newydd ond y byddai peth o’r data yn cyfeirio’n ôl i 2019-2020 gan y cafodd trefniadau rheoli perfformiad a data eu llacio. Fodd bynnag, mae hwn yn adroddiad wedi’i ddiweddaru ar y sefyllfa bresennol o safbwynt hunanarfarnu.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at feysydd lle gwnaed cynnydd da a lle mae angen gwella pellach.

 

Cyfeiriodd Aelod at graffu ar ddata 2019 a holodd am y rheswm am hyn, gan y teimlai bod adroddiad blaenorol wedi craffu ar y data hwn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol  Addysg y bu llacio mewn trefniadau adrodd. Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar ganlyniadau Cyfnod Allweddol 4, yn neilltuol o fewn ysgolion uwchradd, fodd bynnag maent yn seiliedig ar raddau asesiad gan ganolfannau. Dywedodd nad oedd yn bosibl cynnal meincnodi trylwyr oherwydd nad oeddent yn ganlyniadau a ddilyswyd yn allanol.

 

Cododd Aelod bryderon am y gwahanol ddulliau o asesu a theimlai ei bod yn bwysig nad oedd ysgolion yn cael ymdeimlad ffug o ddiogelwch wrth symud ymlaen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod y canlyniadau a gafwyd yng Nghyfnod Allweddol 4 yn debyg i’r targedau a osodwyd yn y Cynlluniau Datblygu Ysgolion. Gallai adroddiadau’r dyfodol gynnwys cysylltiad rhwng perfformiad ar Gyfnod Allweddol 4 o gymharu â’r Cynllun Datblygu Ysgolion, ond roedd yn rhaid i’r Cyngor fod yn ofalus rhag dal ysgolion i gyfrif ar y data hwnnw ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 6.2 – Ysgolion sy’n Achos Pryder, a theimlai na chafodd y gwaith gwella a wnaed yn yr ysgolion hyn dros y ddwy flynedd diwethaf ei gydnabod gan na fu Estyn yn cynnal gweithgaredd monitro arferol ers peth amser. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod y ddwy ysgol wedi codi’r mater hwn gan y cafodd ymweliadau monitro Estyn eu gohirio, sy’n golygu fod y ddwy ysgol yn parhau i fod mewn categori Estyn am gyfnod. Cynhaliwyd cyfarfodydd Ysgolion sy’n Achosi Pryder a dangos y gwnaed cynnydd boddhaol. Cynlluniwyd cyfarfod gyda Estyn ac roeddent wedi awgrymu’n glir, yn dibynnu ar unrhyw gynnydd posibl yn gysylltiedig â Covid, y byddai ymweliadau monitro yn ailddechrau yn nhymor yr hydref. Byddai hynny’n rhoi cyfle ir’ ddwy ysgol i’r Arolygiaeth asesu eu cynnydd.

 

Holodd Aelod am y meysydd ar gyfer gwella, yn neilltuol sgiliau caffael iaith gwael mewn plant ifanc iawn ac awgrymodd y byddai cynyddu darpariaeth cyn-ysgol a meithrin ar draws y fwrdeistref yn ddatrysiad posibl. Holodd hefyd am y maes allweddol ar gyfer gwella ar waharddiadau ysgol a dywedodd os yw nifer gwaharddiadau ysgol yn parhau i gynyddu a bod nifer y disgyblion sy’n dewis hunanaddysgu yn cynyddu, yn dilyn Covid, y byddai’n anodd iawn gwella cyfraddau presenoldeb.

 

Yng nghyswllt darpariaeth feithrin a blynyddoedd cynnar dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod darpariaeth addas Blynyddoedd Cynnar yn sylfaenol ar gyfer caffael iaith ar oedran cynnar i alluogi plant i gael dechrau da, a fyddai’n effeithio ar eu haddysg drwy’r holl gyfnodau allweddol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr enghraifft o un o’r cynlluniau sy’n mynd rhagddo, sef roedd gan ddatblygiad newydd Glyncoed fel rhan o ysgolion 21ain Ganrif ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar gysylltiedig. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo gydag ysgolion, fel rhan o’r rhaglen drawsnewid ehangach, i sicrhau fod darpariaeth Blynyddoedd Cynnar ar gael ar draws y rhan fwyaf o’r stad ysgolion.

 

Yng nghyswllt gwaharddiadau a phresenoldeb, dywedodd y Cyfarwyddwr fod y dull gweithredu a ddefnyddiwyd yn bwysig i gadw dysgwyr o fewn safleoedd ysgol. Roedd paramedrau ar waith ond roedd angen gwaharddiadau weithiau, ond dim ond os oedd popeth arall wedi methu. Teimlai mai’r dull gweithredu mwyaf addas oedd rheoli ymddygiad cadarnhaol a pholisïau ac arferion da o fewn ysgolion a chredai y gallai ystyried dull gweithredu ataliol at waharddiadau gael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb yn gyffredinol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant fod adroddiad y Comisiynydd Plant yn edrych sut y gellid gostwng gwaharddiadau ar y Cyfnod Sylfaen yn sylweddol ar draws Cymru. Roedd nifer y gwaharddiadau o ysgolion cynradd ym Mlaenau Gwent wedi codi yn ystod y 3 blynedd nesaf ac maent yn awr yn edrych sut i symud ymlaen gydag adroddiad y Comisiynydd Plant. Yng nghyswllt y cysylltiad rhwng presenoldeb a gwaharddiadau, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod gwaharddiadau yn effeithio ar ffigurau presenoldeb. Mae’r tîm yn edrych ar hyn o bryd ar ddull gweithredu rhanbarthol ar waharddiadau ac yn ystyried rhai o’r arferion a weithredir ar draws y rhanbarth i weld sut y gallent ddatblygu’r arferion hynny er budd ysgolion Blaenau Gwent.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant, yng nghyswllt datblygu cynllun adferiad ac adnewyddu, ei bod yn flaenoriaeth allweddol i ymgysylltu gyda phobl ifanc, yn cynnwys y rhai sydd mewn risg o gael eu gwahardd, i ddeall eu hamgylchiadau a thynnu o’r profiad hwnnw i’w helpu a’u cefnogi i beidio cael eu gwahardd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gyfrif absenoldeb ddwywaith, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth sicrwydd i Aelodau lle mae disgybl wedi cofrestru ddwywaith, mai dim ond yn y safle y maent yn ei fynychu ar y diwrnod hwnnw y byddid yn cofnodi presenoldeb.

 

Cyfeiriodd Aelod at y nifer isel o ddisgyblion a safodd arholiadau lefel A y llynedd a holodd os oes canran yng nghyswllt nifer y disgyblion sy’n sefyll arholiadau lefel A y dylai’r Awdurdod fod yn anelu ato. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod Coleg Gwent fel rhan o sesiwn wybodaeth i Aelodau wedi cyflwyno eu data cyffredinol dros y tair blynedd ddiwethaf sy’n dangos cynnydd yn y nifer o ddysgwyr sydd wedi sefyll lefel A a hefyd nifer y dysgwyr sydd wedi dilyn cyrsiau astudiaeth galwedigaethol. Teimlai mai un o fanteision model trydyddol oedd yr ystod eang o gwricwlwm sydd ar gael. Byddid yn cadw golwg agos ar faint y ddarpariaeth Lefel A sydd ar gael gyda Choleg Gwent a byddai hyn yn cael ei gynnwys fel rhan o Agenda Bwrdd Partneriaeth Ôl 16. Teimlai fod y data a gyflwynodd Coleg Gwent yn galonogol ac yn dangos cynnydd yn y cyfranogiad ôl-16 yn gyffredinol, a hefyd yn cydnabod y nifer o bobl ifanc o fewn Blaenau Gwent sy’n dilyn darpariaeth dysgu sy’n seiliedig yn fwy ar alwedigaeth.

 

Yng nghyswllt y dysgwyr sy’n dewis cymryd lefel A, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod patrwm ar draws Cymru lle mae nifer y dysgwyr sy’n dewis y llwybr lefel A wedi gostwng, felly nid yw hyn yn unigryw i Flaenau Gwent. Byddai hyn yn ffurfio rhan o’r trefniadau monitro gyda’r Bwrdd Partneriaeth Ôl-16 ac yn sicrhau y daw’r data yn ôl i Aelodau fel rhan o’r Flaenraglen Gwaith drwy’r adran Datblygu Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelodau at y bwlch rhwng y rhywiau a gofynnodd pam nad oedd hwn yn faes ar gyfer gwella. Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg nad yw’r rhestr o feysydd ar gyfer gwella yn gynhwysfawr. Mae’r adroddiad yn rhoi naratif lefel uchel o berfformiad cyffredinol. Roedd mwy o waith i gael ei wneud yng nghyswllt y bwlch cyfranogiad yn ôl  rhywiau a’r bwlch perfformiad rhwng y rhywiau. Mae bechgyn yn tueddu i berfformio’n llai da mewn rhai pynciau ac yn y dyfodol byddai ffocws ar gwricwlwm sy’n hygyrch i bob dysgwr e.e. pynciau STEM h.y. Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg ac mae’r Gyfarwyddiaeth yn gweithio’n agos gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ac Ôl 16 i sicrhau fod cwricwlwm deniadol sy’n diwallu anghenion a diddordebau bechgyn a merched ar gael yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd.

 

Dogfennau ategol: