Agenda item

Asesiad Llesiant Rhanbarthol Gwent

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau drosolwg o’r adroddiad a dywedodd y darparwyd yr Adroddiad i amlinellu’r gofynion statudol ar gyfer ymgynghori ar asesu llesiant lleol a rhoi sylw i opsiynau sut y gall Pwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyflawni eu rôl fel ymgynghorai statudol.

 

Yng nghyswllt cyllid grant rhanbarthol gan Lywodraeth Cymru, holodd y Cadeirydd pryd y bydd canlyniad y cais yn hysbys. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod £78,000 ar gael i’r rhanbarth, bod y cais a gyflwynwyd yn cydymffurfio’n llwyr gyda’r telerau ac amodau a nodir yn y meini prawf a gobeithiai glywed am y canlyniad yn y dyfodol agos.

 

Dywedodd Aelod fod hwn yn ddarn sylweddol o waith sydd angen cwmpasu grwpiau anodd eu cyrraedd yn y gymuned tebyg i’r henoed, y mwyaf ynysig, yr anabl a phobl ifanc yn arbennig ddisgyblion oedran ysgol gyfun a myfyrwyr coleg, a gafodd flwyddyn anodd a heriol, yn arbennig gydag arholiadau oherwydd y pandemig. Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion bellach athro neu diwtor llesiant a llywodraethwr cyswllt i gefnogi pobl ifanc a theimlai y dylai’r adroddiad adlewyrchu pobl ifanc yn benodol.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod hwn yn asesiad llesiant seiliedig ar boblogaeth ac yn cwmpasu ein holl gymunedau ac y byddai’n ystyried rhannau gwahanol o’r gymuned i edrych ar y gwahaniaethau a chanlyniadau a symud ymlaen â hyn drwy bileri llesiant oedd yn economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Byddai plant a phobl ifanc yn cael effaith fawr ar draws y meysydd hyn yn benodol o safbwynt addysg a chysylltu gydag ysgolion. Dywedodd fod un o’r egwyddorion ym mharagraff 6.1 yn darllen ‘ystyried llesiant yng Ngwent yng ngoleuni newid mewn amgylchiadau cyd-destun a deall goblygiadau heriau sy’n dod i’r amlwg (e.e. pandemig COVID-19, adferiad gwyrdd, gadael yr Undeb Ewropeaidd)’. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau y byddid yn ymchwilio pob maes llesiant ac y byddai’n sicrhau bod cyswllt gydag ysgolion drwy’r Hyrwyddwyr Llesiant yn mynd rhagddo drwy’r Tîm Ymgysylltu ac is-grwpiau. Bu llawer o gynnydd yng nghyswllt llesiant mewn ysgolion ac mae’r cwricwlwm newydd yn dymuno rhoi ffocws cryf ar lesiant. Gwyddai fod disgyblion Blaenau Gwent yn y gorffennol wedi cymryd rhan mewn arolygon cenedlaethol ar lesiant ac y byddai’n edrych am yr wybodaeth a data hwnnw i ymchwilio’r materion a godwyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at bensiynwyr a thanlinellodd na fu ganddynt unrhyw gyswllt o gwbl gyda’r gymuned yn ystod y pandemig a theimlai y dylid gwneud pob ymdrech i gynnwys y gr?p yma o bobl. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod Aelodau wedi dynodi dau gr?p pwysig iawn o boblogaethau ac, fel dull gweithredu poblogaeth gyfan, mae gofyniad i edrych ar draws y fwrdeistref ar bob gr?p. Ychwanegodd fod gwaith hefyd yn cael ei wneud ar Asesiadau Effaith ar y Gymuned yn y ddwy ardal hon ar lefel Awdurdod Lleol a hefyd gyda phartneriaid, a rhoddodd enghraifft am y papur cynharach oedd yn ystyried cymuned gyfeillgar i bobl h?n. Roedd y tîm yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yng nghyswllt deall effaith COVID-19 a materion eraill ar boblogaethau penodol a byddai’r holl wybodaeth honno yn cael ei chlymu i’r broses asesu llesiant a galluogi’r bartneriaeth i ganolbwyntio ar faterion penodol am asesu llesiant yn y dyfodol. Ychwanegodd y byddai’r tîm yn rhagweithiol wrth geisio sicrhau y gwneir y cysylltiadau priodol.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ar y ffordd y byddai’r gr?p hwn yn cael ei sefydlu a phwy fyddai’n gyfrifol am baratoi’r adroddiad terfynol. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fyddai’n gyfrifol am roi asesiad llesiant yn ei le. Fodd bynnag, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys partneriaid statudol felly yn ei hanfod cyfrifoldeb y partneriaid statudol yw sicrhau y gwneir hyn. Esboniodd fod cynllun prosiect presennol yn cael ei ddatblygu i sicrhau fod pedwar piler llesiant h.y. agweddau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol yn cael eu dadansoddi’n llawn, eu hystyried a’u datblygu. Yn amodol ar gytundeb, byddai un ddogfen, Asesiad Llesiant, yn ei lle ar gyfer Gwent a chyflwynir y ddogfen honno i i’w chraffu yn y pwyllgor perthnasol. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau y byddai Blaenau Gwent yn cymryd rhan yn yr holl feysydd allweddol i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i sylwadau o grwpiau allweddol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai hwn yw’r tro cyntaf i asesiad llesiant rhanbarthol gael ei ddatblygu a dywedodd y cafodd trafodaethau am y gwahaniaethau rhwng y pump ardal awdurdod lleol eu hystyried. Cydnabuwyd fod angen i unrhyw ddull llesiant Gwent gael ffordd gyson o ystyried y rhanbarth yn ei gyfanrwydd. Mae’r trefniadau presennol ar gyfer Cynllun Llesiant Blaenau Gwent yn edrych ar y pedair ardal llesiant yn y fwrdeistref a chynhelir trafodaethau ar gyfer yr ardaloedd daearyddol hynny i barhau fel y maent. Byddai’r awdurdod yn ystyried dadansoddiad daearyddol gan bob un o’r pump awdurdod lleol i edrych am wahaniaethau ac i sicrhau y caiff unrhyw wahaniaethau eu hamlygu a’u cario ymlaen fel rhan o’r broses cynllunio.

 

Dilynodd trafodaeth fer ac mewn pleidlais:

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod Pwyllgor Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ystyried yr adroddiad ac wedi rhoi’r sylwadau penodol dilynol i’w hystyried gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus cyn eu cymeradwyo:

 

·         Sicrhau ymagwedd gyson at ymgysylltu gyda phwyslais ar grwpiau anodd eu cyrraedd, yn cynnwys pobl ifanc a disgyblion o ysgolion cyfun a cholegau a grwpiau pobl hyn.

 

CYTUNWYD YMHELLACH i dderbyn adroddiad pellach ar y rhaglen ar symud i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarthol fel rhan o’r flaenraglen gwaith.

 

Dogfennau ategol: