Agenda item

Diweddariad cynnydd rhaglen Cymunedau Cefnogol i Bobl Hŷn

Ystyried adroddiad Prif Swyddog Gweithredol, GAVO.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr M. Moore a G. Paulsen fuddiant yn yr eitem ddilynol ac aros yn y cyfarfod.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Prif Swyddog Gweithredol GAVO.

 

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol GAVO fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad cynnydd ar raglen Cymunedau Cefnogol i Bobl H?n y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn rhoi sylw i’r gwaith a wneir gyda Thîm Ymgysylltu y Cyngor i ddatblygu’r rhaglen. Dywedodd y bu oedi oherwydd effaith Covid ar gymunedau, fodd bynnag mae gwaith yn awr yn dechrau symud ymlaen. Mae Gr?p Llywio yn weithredol ac mae Rheolwr Datblygu Cymunedol GAVO yn cefnogi’r Fforwm 50+ i ddiwygio a chryfhau eu dogfennau llywodraethiant. Penodwyd Swyddog Ymgysylltu â’r Trydydd Sector a gaiff ei rannu rhwng Cynghorau Blaenau Gwent a Chaerffili i roi staffio ychwanegol i gefnogi’r gwaith yn y dyfodol.

 

Dywedodd Aelod mai’r un agwedd gadarnhaol o Covid oedd iddo ddod â chymunedau ynghyd i gefnogi ei gilydd. Bu tenantiaid a phreswylwyr yn Nhredegar ac ardaloedd eraill yn helpu i ddosbarthu parseli bwyd mewn cysylltiad gyda Gwasanaethau Cymdeithasol ac maent wedi sefydlu cysylltiadau gyda grwpiau anodd eu cyrraedd tebyg i’r henoed a’r bobl fwyaf fregus a gobeithiai y byddai’r cysylltiadau hyn yn parhau ar ôl Covid. Cytunodd y Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol y bu ymateb gwych gan y gymuned ledled Gwent. Bu ystod ehangach o grwpiau oedran yn cefnogi’r gymuned ac mae’r sefydliad yn ystyried gwaith rhyng-genhedlaeth gyda’r bobl iau yma oedd wedi profi gwirfoddoli, efallai am y tro cyntaf ar lefel gymunedol, i gadw’r rôl wirfoddoli i barhau gyda’r ysbryd cymunedol. Teimlai y byddai hyn yn cefnogi gwaith cymunedau cefnogol i bobl h?n a’r ddealltwriaeth rhwng cenedlaethau.

 

Dywedodd y Swyddog Polisi y gellid dod â’r holl wybodaeth a gasglwyd drwy’r grwpiau cymunedol sy ‘n darparu gwasanaethau mewn ymateb i’r pandemig, timau ymateb ardal y Cyngor, y gwirfoddolwyr y gweithiant gyda nhw a’r rhaglen Rhwydweithiau Llesiant Integredig, ynghyd a’u cynnwys yn y rhaglen Cymunedau Cefnogol i Bobl H?n.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 2.4 digwyddiadau a gweithgareddau rhithiol. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol y byddai dull gweithredu cyfunol er mwyn cadw rhai gweithgareddau rhithiol, er enghraifft byddai’n ehangu’r cyfleoedd i gymryd rhan os gellid rhoi cymorth i’r bobl hynny sy’n gaeth i’w cartrefi i ddysgu technolegau newydd. Nid yw canolfannau cymunedol wedi agor yn llawn gan fod cyfyngiadau yn dal i fod ac felly mae angen edrych ar ffyrdd gwahanol i ddarparu gwasanaethau tra’n cydnabod bod unigolion sy’n dal heb fod â chysylltiadau gyda technolegau digidol.

 

Cyfeiriodd Aelod at CHAD, gr?p anableddau sy’n adnewyddu cyfrifiaduron yn bwrpasol at anableddu unigolion. Gwyddai’r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol am y gr?p hwn a grwpiau tebyg eraill tebyg i Digital Cymru, cynllun Canolfan Cydweithredol Cymru sy’n benthyg offer a chynlluniau eraill lle caiff dyfeisiau llechen a gliniaduron eu rhoi i gartrefi gofal i breswylwyr gyfathrebu gyda’u teuluoedd a byddent yn edrych ar sut i adeiladu ar y cynlluniau hyn yn y dyfodol agos.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn derbyn yr adroddiad a’r atodiadau fel y’u cyflwynwyd cyn eu cyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Dogfennau ategol: