Agenda item

Mabwysiadu Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Strydlun.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Neil Greenhalgh o Red & White Resource i’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Strydlun yr adroddiad sy’n ceisio cefnogaeth ar gyfer mabwysiadu Strategaeth Sbwriel a Tipio Anghyfreithlon newydd ar gyfer 2021-2026. Dywedodd mai dim ond un Awdurdod heblaw Blaenau Gwent sydd wedi llunio strategaeth o’r fath hyd yma.

 

Cadarnhaodd y gwnaed cais llwyddiannus i Caru Cymru am £30,000  flwyddyn dros gyfnod o dair blynedd yn dechrau yn 2019/20. Mae cynllun Caru Cymru yn cefnogi prosiectau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol o fewn ardaloedd preswyl drwy ddatblygu buddion i bobl, busnesau a’u cymunedau. Nod y prosiect yw gwella ansawdd yr amgylchedd gyda’r pwyslais ar newid ymddygiad hirdymor yn hytrach na pharhau i ddibynnu ar lanhau yn unig. Mae’r cais am gyllid yn cynnwys penodi Swyddog Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) a grwpiau, a hefyd gysylltu gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i godi ymwybyddiaeth, addysgu a hyrwyddo materion ansawdd yr amgylchedd lleol o fewn y fwrdeistref. Yn anffodus cafodd y gwaith hwn ei ohirio oherwydd pandemig Covid.

 

Dywedodd y Swyddog y dynodwyd er mwyn i’r Cyngor gael effaith mwy effeithlon a chadarnhaol ar y cynllun y byddai angen strategaeth a pholisïau cefnogi perthnasol i gefnogi rheolaeth y prosiect. Fel canlyniad, mae’r cais am gyllid yn cynnwys penodi Ymgynghorydd LEQ arbenigol i gynnal adolygiad o’r gwasanaeth glanhau strydoedd a llunio Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon Blaenau Gwent. Dechreuwyd ar broses dendro ym mis Tachwedd 2019 a dyfarnwyd y contract i Red & White Resource Ltd.

 

Cadarnhaodd y Swyddog y cynhaliwyd adolygiad a dadansoddiad trwyadl o’r gwasanaeth glanhau a bod yr adborth o gyfarfodydd rhanddeiliaid a chyfarfodydd wedi galluogi’r ymgynghorydd i ddrafftio Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon annibynnol a gwrthrychol ar gyfer y Cyngor. Fodd bynnag, oherwydd pandemig Covid, ni fedrodd ymweliadau safle ychwanegol a gweithdai dilynol gyda rhanddeiliaid fynd yn eu blaen, ond teimlwyd fod yr wybodaeth a’r data a gafwyd hyd at 20 Mawrth 2021 yn ddigon i gwblhau drafft strategaeth i gael ei mabwysiadu gan y Cyngor.

 

Yn nhermau’r Strategaeth, a roddir yn Atodiad 1, sefydlwyd nifer o amcanion allweddol a fyddai’n cyflawni’r gwelliannau amgylcheddol cydnabyddedig a chaiff y rhain eu hamlygu yn adran 2.3.3 yr adroddiad. Mae’r Strategaeth hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu (Atodiad 2) gyda chamau gweithredu allweddol i’w cynnal yn ystod cyfnod oes 5 mlynedd y Strategaeth ac amserlenni cysylltiedig.

 

Cyfeiriodd Aelod at waith ardderchog Hyrwyddwyr Sbwriel, ond dywedodd y dylai gwneud y proses a weithredir i gofrestru fel hyrwyddwr sbwriel yn haws.

 

Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Tîm Strydlun fod ymhell dros 200 o Hyrwyddwyr Sbwriel wedi cofrestru yn y Fwrdeistref yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor. Ar ôl iddynt gofrestru, gallant roi adroddiad ar eu casgliadau sbwriel drwy’r system ac mae ganddynt hefyd fynediad uniongyrchol i Swyddogion. Fodd bynnag, cytunodd y gellid symleiddio a chydlynu’r broses yn well, ac y byddai hyn yn ffurfio rhan o waith y Swyddog LEQ pan y’i penodir.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at yr amcanion allweddol a fanylir yn adran 2.3.3 yr adroddiad a gofynnodd sut y caiff y Strategaeth ei chyfathrebu ar draws pob gr?p oedran.

 

Dywedodd y Swyddog mai un o’r meysydd hanfodol gwaith y Swyddog LEQ fyddai ymgysylltu gydag ysgolion. Roedd gwaith wedi dechrau cyn y pandemig Covid ond caiff hyn ei ddatblygu ymhellach fel rhan o’r Strategaeth i sicrhau ymgysylltu cadarn gydag ysgolion ar sail gydlynus.

 

Cyfeiriodd Aelod at y £30k o gyllid a gafwyd dros 3 blynedd a holodd os y defnyddid rhan o hyn i gyllido’r Swyddog LEQ.

 

Esboniodd y Swyddog bod hwn yn gyllid refeniw a ddynodir i gefnogi’r Swyddog hwnnw a gwaith arall yn gysylltiedig gyda Cadw Cymru’n Daclus. Byddai’r apwyntiad ar sail cyfnod penodol, fodd bynnag yr arwyddion yw y bydd mwy o gyllid ar gael yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at gynllun a fabwysiadwyd gan Gyngor Sir Fynwy lle codwyd arwydd yn dilyn helfa sbwriel gan wirfoddolwyr i gydnabod eu cyfraniad rhagorol. Awgrymodd y dylid ystyried y dull hwn ym Mlaenau Gwent, a dywedodd y Rheolwr Tîm Strydlun y byddai’n ymchwilio’r mater.

 

Dywedodd Aelod, sydd wedi cofrestru fel Hyrwyddwr Sbwriel, fod y system yn gweithio’n dda yn ei brofiad ef. Dywedodd mai dim ond gyda’r bobl sy’n taflu sbwriel mai ei unig g?yn ac y dylid defnyddio ymagwedd dim goddefgarwch. Mae’n edrych ymlaen at benodi Swyddog Ansawdd Amgylcheddol Lleol a chysylltu gydag ysgolion er mwyn addysgu pobl ifanc a gobeithio wella’r amgylchedd ar gyfer y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan Aelod am y cyllid, dywedodd y Rheolwr Tîm y caiff y camau gweithredu a gynhwysir yn y Strategaeth eu cyflwyno o fewn cyllideb refeniw bresennol glanhau strydoedd. Fodd bynnag, byddid yn angen cyllid ychwanegol am unrhyw beth sy’n dod tu allan i’r Strategaeth.

 

Wedyn aeth Mr. Neil Greenhaigh o Red & White Resources drwy’r ddogfen Strategaeth a thynnu sylw at bwyntiau ynddi.

 

Dywedodd Aelod na chredai fod digon o ddirwyon yn cael ei rhoi yng nghyswllt tipio anghyfreithlon. Mynegodd gonsyrn hefyd fod rhai pobl yn defnyddio mannau casglu cymunol i gael gwared â’u sbwriel, a gofynnodd os bwriedir dod â chasgliadau cymunol i ben.

 

Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Tîm Diogelu’r Cyhoedd fod Blaenau Gwent yn gyson yn un o’r awdurdodau lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru am weithgaredd gorfodaeth a rhoi hysbysiadau cosb penodol am sbwriel.

 

Yng nghyswllt mannau casglu cymunol esboniodd y Rheolwr Tîm Strydlun fod gan y Cyngor ddwy strategaeth yn ei lle, un i drin sbwriel a’r llall i drin gwastraff. Fodd bynnag, cydnabyddir problem gorfodaeth gwastraff ochr/tipio anghyfreithlon, yn arbennig yng nghanol trefi, ond mae angen adolygiad i benderfynu os y dylai ddod dan gylch gorchwyl sbwriel neu orfodaeth gwastraff ochr.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan gadarnhaodd y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Cymunedol y cafodd nifer o fannau casglu cymunol eu dileu a bod y gwaith yn mynd rhagddo i’w gostwng ymhellach.

 

Gofynnodd Aelod os y bwriedid fel rhan o’r Strategaeth i weithio gyda chwmnïau bwyd cyflym yn y Fwrdeistref i geisio eu hatal rhag cynhyrchu sbwriel.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Strydlun y byddai’r Cyngor yn cysylltu gyda busnesau lleol i gydweithio i ostwng y math hwnnw o sbwriel.

 

Gofynnodd Aelod arall os yw cost sbwriel a thipio anghyfreithlon wedi codi i’r Cyngor mewn blynyddoedd diweddar.

 

Esboniodd y Swyddog fod y cyfrif refeniw yn gysylltiedig gyda glanhau yn £1.1m ar gyfer gwaith glanhau a gwaith yn gysylltiedig gyda sbwriel a thipio anghyfreithlon. Fodd bynnag, nid yw gwaith Hyrwyddwyr Sbwriel yn nhermau oriau gwaith a casgliadau ac yn y blaen yn cael ei fesur a dywedodd y gallai hyn gael ei ystyried fel dangosydd yn y dyfodol.

 

Dilynodd trafodaeth bellach pan ddywedodd y Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylchedd fod y rhan fwyaf o achosion tipio anghyfreithlon mewn lleoliadau anghysbell yn cael ei wneud er budd masnachol gan weithredwyr bach yn hysbysebu gwasanaethau, yn hytrach nag aelwydydd unigol.

 

Cytunodd Mr. Greenhaigh a dywedodd fod hon yn broblem ledled Prydain.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Strydlun fod angen symleiddio’r system archebu ar-lein ar gyfer safleoedd HWRC a bod hefyd angen i’r Cyngor ystyried p’un ai a fwriedir cadw’r system archebu a gafodd ei rhoi yn ei lle fel canlyniad i bandemig Covid. Fodd bynnag, dywedodd y byddai’r HWRC newydd yn agor yn y dyfodol agos a gobeithiai y byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol.

 

Dywedodd Aelod y gallai cyfleuster ‘talu a mynd’ yn safleoedd HWRC y Cyngor annog y gweithredwyr bach hynny i ddefnyddio’r safleoedd yn hytrach na thipio’n anghyfreithlon. Dywedodd hefyd fod rhai busnesau yn rhoi eu gwastraff masnach allan mewn mannau casglu cymunol, a gofynnodd os yw’r Cyngor yn cysylltu gyda’r busnesau hynny i’w hysbysu am y gweithdrefnau cywir ac na ddylent ddefnyddio gweithredwyr gwastraff masnach diegwyddor.

 

Mewn ymateb esboniodd y Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylchedd ei fod yn ddyletswydd ar fusnesau masnachol i sicrhau fod ganddynt drefniadau ar waith gyda chontractwr gwaredu gwastraff dilys. Anogodd Aelodau i hysbysu Iechyd yr Amgylchedd am unrhyw broblemau os gwyddent am weithredwyr masnachol yn gadael gwastraff mewn mannau casglu cymunol a gynlluniwyd ar gyfer gwastraff domestig.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth y caiff gwasanaeth gwastraff masnach newydd y Cyngor ei lansio maes o law ar gyfer ein cwsmeriaid. Fodd bynnag, dywedodd y gellid gwneud peth gwaith gyda’r busnesau hynny nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau’r Cyngor ond dywedodd fod ganddynt ddyletswydd gofal i waredu â’u gwastraff mewn modd priodol.

 

Dilynodd trafodaeth am y system archebu a weithredir yn safle’r HWRC ar hyn o bryd, pan ddywedodd y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth y byddai’r system yn parhau yn ei lle nes byddai rheoliadau Covid yn newid. Dywedodd y bu rhai manteision i’r system archebu yn nhermau rhoi data ar ddefnydd a’r math o ddeunyddiau yr eir â nhw i’r safle. Hefyd mae costau rhedeg yn nhermau staffio wedi gostwng ac mae’r ciwiau a welwyd yn y safle hefyd wedi dod i ben. Fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth bellach i p’un ai ydym yn parhau gyda’r dull gweithredu hwn.

 

Mynegodd Aelod bryder fod pobl yn gadael eu biniau ailgylchu/sbwriel ar lwybrau troed gan achosi rhwystr. Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog mai dim ond yn gynnar ar y diwrnod casglu neu’n hwyr y noswaith flaenorol y dylid rhoi cynwysyddion gwastraff mas. Cadarnhaodd y cafodd llythyrau eu hanfon mewn rhai strydoedd yn gofyn am iddynt gael eu symud ac mae cwmpas ehangach ar gyfer gweithredu yn cael ei ddatblygu wrth symud ymlaen.

 

Dilynodd trafodaeth fer arall pan esboniodd Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylchedd fod y broses ar gyfer adrodd tipio anghyfreithlon wedi newid yn ddiweddar. Y man cyswllt cyntaf ar gyfer tipio anghyfreithlon ar dir cyhoeddus bellach yw’r Tîm Glanhau a byddai gweithiwr yn ymateb i’r digwyddiad ac yn cynnal ymchwiliad cyn clirio. Byddai unrhyw dystiolaeth wedyn yn cael ei hanfon at Iechyd yr Amgylchedd. Dywedodd fod y trefniant yn gweithio’n dda iawn ac yn osgoi dyblygu gwaith, gyda mwy o ffocws ar ymchwiliad a gorfodaeth.

 

Dywedodd Aelod fod addysg yn elfen allweddol ar gyfer llwyddiant y strategaeth, a dywedodd y gallai fod cwmpas ar gyfer cynnwys hyn yn y cwricwlwm newydd ar gyfer Cyfnod Allweddol 2. Yn nhermau gorfodaeth, gofynnodd os y gallai Wardeiniaid Gwastraff roi hysbysiadau cosb penodol.

 

Dywedodd Mr. Greenhalgh yn nhermau addysg ac ymgysylltu gydag ysgolion, fod Cadw Cymru’n Daclus eisoes yn ymwneud â Chyfnod Allweddol 2 drwy’r cynllun Ysgolion Eco. Fodd bynnag, mae angen mwy o waith gydag ysgolion uwchradd, gan o brofiad, mae’n fwy o her i ymgysylltu gydag phlant h?n. Byddai’r Swyddog LEQ yn rhoi’r adnoddau i’r Cyngor gysylltu gydag ysgolion uwchradd i geisio dylanwadu ar ymddygiad pobl ifanc dwy sesiynau rhyngweithiol yn dangos effaith negyddol sbwriel ar y gymuned.

 

Yng nghyswllt tipio anghyfreithlon, dywedodd yr Aelod fod ‘mannau poeth’ ym mhob rhan o’r Fwrdeistref a gofynnodd os oedd cyfle i ddefnyddio CCTV i ddal troseddwyr.

 

Mewn ymateb dywedodd Rheolwr Tîm Diogelu’r Cyhoedd y cafodd nifer o leoliadau eu dynodi fel ‘mannau poeth’ gwael ledled y Fwrdeistref a chaiff CCTV ei ystyried, ond mae problemau technegol mewn rhai ardaloedd. Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i edrych ar ddefnyddio’r rhwydwaith 5G newydd ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt yng nghyswllt datblygu darpariaeth barhaol mewn ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, mae hyn ar gamau cynnar iawn ond rhoddodd sicrwydd fod gwaith yn parhau i geisio datrysiad i’r broblem yn yr hirdymor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Rheolwr Tîm Strydlun y caiff polisi sbwriel a baw c?n ei gynnwys yn y Flaenraglen Gwaith ar gyfer ei ystyried gan Aelodau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a mabwysiadu Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon Blaenau Gwent 2021-2026 (Opsiwn 1).

 

 

Dogfennau ategol: