Agenda item

Cynnig i Ymgynghori ar gynyddu capasiti Pen y Cwm

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd Aelod at wrthdaro buddiant gan fod rhai Aelodau o’r Pwyllgor hwn hefyd yn Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg na chredai y bydd gwrthdaro buddiant gan y byddai’r drafodaeth yn rhoi sylw i’r potensial ar gyfer ailwampio adeilad presennol Ysgol Pen y Cwm ond na fyddai’n canolbwyntio ar fanylion o safbwynt cynllunio a theimlai y gallai Aelodau gymryd rhan a chynnig eu barn a’u sylwadau am y cynnig.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i geisio barn y Pwyllgor Craffu ac Addysg yng nghyswllt y cynnig i ymestyn capasiti Ysgol Arbennig Pen y Cwm o 120 i 175 disgybl, gan ateb y galw am leoedd. Byddai’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yn ymgynghorai statudol os bydd y Pwyllgor Gweithredol yn rhoi caniatâd i’r cynnig i symud ymlaen at ymgynghoriad.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Addysg sylw at ddiwygiad yn yr adroddiad ym mharagraff 2.13 sef bod yr ymgynghoriad i ddod i ben ddydd Sul 6 Mehefin 2021, ac nid 6 Mai fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Holodd Aelod os byddai angen staff ychwanegol pe byddai’r ysgol yn cyrraedd ei chapasiti llawn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y gallai unrhyw oblygiadau staffio ychwanegol gael eu trin yn y gwahaniaethyn posibl rhwng y gyllideb bresennol a’r gyllideb arfaethedig, a fyddai’n £575,000 ychwanegol, yn dibynnu ar anghenion dysgwyr. Byddai angen o bosibl i’r elfen honno o’r gyllideb i gyllido staff ychwanegol i gefnogi dysgwyr yn y safle.

 

Cododd Aelod bryderon am y nifer fach o leoliadau tu allan i’r sir y darperir ar eu cyfer. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y cynhaliwyd yr adolygiad dechreuol gan y tîm Cynhwysiant, fodd bynnag byddai angen adolygiad mwy manwl yn y dyfodol. Caiff lleoliadau tu allan i’r sir eu penderfynu ar yr anghenion ac amgylchiadau sy’n gysylltiedig gyda phob disgybl unigol ac yn yr adolygiad dechreuol rhagwelwyd mai 5 oedd y nifer uchaf y gellid dod â nhw’n ôl i’r Awdurdod Lleol ar hyn o bryd. Lle mae capasiti ac y gallai anghenion disgyblion unigol gael eu diwallu o fewn yr Awdurdod Lleol yna byddai’r tîm yn edrych ar ddod â mwy o leoliadau allan o’r sir yn ôl i’r Awdurdod Lleol.

 

Yng nghyswllt y capasiti hysbysodd y Cyfarwyddwr Addysg yr Aelodau mai’r capasiti yn y tymor byr yw 175 disgybl. Byddai cam 2 yn ystyried y trefniadau mwy tymor canol i hirdymor a’r potensial i gynyddu capasiti ymhellach mewn blynyddoedd dilynol.

 

Holodd Aelod os byddai’r capasiti o 175 disgybl yn ddigonol yn y dyfodol agos neu os byddai mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael yn yr ysgol eto gyda’r cynnydd yn nifer disgyblion ADY. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod y ffocws ar ddelio gyda galw yn y dyfodol rhagweladwy ond wedyn byddai angen adolygu capasiti yn yr ysgol fel rhan o gam 2. Ychwanegodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod y ffocws ar y blaenoriaethau cyntaf a  thrin y gwaith a wnaeth yr ysgol eisoes am ailgyflunio’r amgylchedd addysgu a dysgu. Yng nghyswllt cynyddu capasiti ar gyfer yr ysgol yn union gyda galw posibl yn y dyfodol, mae cyfres o opsiynau yn cael eu hystyried megis ehangu neu estyniad posibl ar yr ysgol, neu leoliadau ategol gydag ysgolion gyda chapasiti digonol i ddarparu ar gyfer hyn. Ategodd fod y ffocws ar ddatrys materion tymor byr i dymor canol a oedd wedi digwydd fel canlyniad i’r cynnydd mewn galw a ragwelir ar hyn o bryd, yna edrych ar yr hirdymor gyda’r datrysiad cynaliadwy a gorau ar gyfer Pen y Cwm.

 

Yng nghyswllt categoreiddio addasrwydd adeiladau, esboniodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg mai’r un ffactor allweddol i gyflawni categori A fyddai ymestyn capasiti gan fod mwy o alw nag o leoedd ar gael yn yr ysgol ar hyn o bryd ac nad yw’n cynnig lefel y ddarpariaeth a gynigiwyd yn flaenorol gan y bu’n rhaid ailwampio rhai ardaloedd arbenigol, tebyg i ardaloedd technoleg a chelf, i gael eu defnyddio fel gofodau addysgu a dysgu yn hytrach nag fel ardaloedd arbenigol. Cadarnhaodd y byddai’r categori addasrwydd yn newid i A pe byddai’r cynnig i gynyddu capasiti yn Ysgol Pen y Cwm yn cael ei gymeradwyo.

 

Cyfeiriodd Aelod at y 20 lleoliad allan o’r sir a gofynnodd pa faterion sy’n atal Ysgol Pen y Cwm rhag cymryd mwy o’r lleoliadau hyn. Esboniodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod hyn yn dod o fewn cylch gorchwyl y tîm Cynhwysiant, ond y gallai un rhwystr posibl fod yng nghyswllt plant sy’n derbyn gofal a all fod angen lleoliadau allan o’r sir oherwydd eu hamgylchiadau unigol. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn ymroddedig i adolygiad llawn o anghenion y disgyblion hynny ac os oedd eu hanghenion yn gysylltiedig gyda chyfleusterau neu rywbeth y gellid ei ddatblygu’n fwy lleol, yna symudid ymlaen â hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gostau cyfalaf o tua £250,000, eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg fod costau cyfalaf yn gysylltiedig gyda’r ailwampio. Fodd bynnag byddai’r rhain yn cael eu cyllido drwy grantiau Llywodraeth Cymru a ddyrannwyd fel nad oedd unrhyw effaith uniongyrchol ar raglen cyfalaf y Cyngor. 

 

Holodd y Cadeirydd sut y caiff ystyriaethau iechyd a diogelwch eu trin yng nghyswllt disgyblion, staff a chontractwyr tra bod y gwaith ailwampio yn mynd rhagddo. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y caiff y rhan fwyaf o’r gwaith ailwampio sylweddol ei wneud tu allan i’r adegau pan mae dysgwyr yn bresennol, ond y gallai hyn olygu ymestyn y cyfnod contract ar ôl mis Medi 2021. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y byddid yn sefydlu tîm Rheoli Prosiect i oruchwylio’r cyfnod adeiladu, gan weithio’n agos gyda’r ysgol a’r contractwr. Caiff gwaith ei wneud mewn camau yn unol â hynny gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith yn digwydd mewn ardaloedd na chaiff eu defnyddio ar hyn o bryd o safbwynt addysgu a dysgu. Gallai’r gwaith ym mhrif gorff yr adeilad, a fedrai o bosibl effeithio ar ddysgwyr, ei wneud tu allan i oriau agor yr ysgol. Gallai hyn olygu estyniad bach ar y contract. Byddai’r tîm Rheoli Prosiect yn cydlynu’n agos iawn gyda’r ysgol am ddatrysiadau rheoli dros dro i leihau ymyrryd ar ddysgwyr.

 

Gofynnodd y Cadeirydd os cafodd materion parcio eu hystyried, gyda’r cynnydd yng nghapasiti yr ysgol. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y cynhelir asesiad o’r effaith ar drafnidiaeth i edrych ar y goblygiadau cysylltiedig. Caiff y rhan fwyaf o’r disgyblion eu cludo i’r ysgol a byddai mwyafrif y disgyblion ar y rhestr aros hefyd angen cludiant rhwng y cartref a’r ysgol. Rhoddir ystyriaeth i ailgyflunio cludiant rhwng y cartref â’r ysgol yn ôl oedran yn hytrach nag ardal. Mae’r ysgol yn ystyried ymgynghori ar newidiadau i amser sesiynau h.y. disgyblion cynradd yn cyrraedd ar wahân i ddisgyblion uwchradd ac ôl 16 i sicrhau llif mwy effeithiol o draffig i’r safle. Gwnaed newidiadau i’r rheoliadau am ddyddiau ysgol ac amserau sesiynau ysgolion yn ystod Covid, ac mae hyn wedi galluogi’r ysgol i beilota’r newidiadau posibl i amserau sesiwn. Gan fod hyn wedi gweithio’n dda i’r ysgol, byddent yn edrych ar fynd â hyn ymlaen yn amodol ar ymgynghoriad.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid gwahodd cynrychiolydd priodol o Ysgol Arbennig Pen y Cwm i fynychu a chymryd rhan yn y sesiwn ymgynghori. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg y gwahoddir cynrychiolydd o’r ysgol i gymryd rhan yn y sesiwn ymgynghori.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef derbyn yr adroddiad, y ddogfen gysylltiedig a’r llwybr gweithredu.

 

 

Dogfennau ategol: