Agenda item

Cyllido Torfol Dinesig

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno cais Cronfa Her Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd am raglen cyllido torfol dinesig rhanbarthol i gefnogi datrysiadau i brosiectau a heriau lleol a ddynodwyd.

 

Cynigiwyd dull gweithredu rhanbarthol ac mae tîm y Fargen Ddinesig wedi annog cynnig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent fel yr awdurdod arweiniol arfaethedig erbyn 12 Mawrth 2021. Gwnaed hynny, a disgwylir penderfyniad dilynol ar ôl penderfyniad y Bwrdd ar 20 Ebrill 2021. Fel Awdurdod arweiniol, y Cyngor fyddai’n rheoli’r berthynas a byddai’n ymrwymo i gontract gyda darparydd priodol i gyflenwi’r llwyfan cyllid torfol am gyfnod dechreuol 2021/22 hyd at 2023/24.

 

Wedyn siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd y Swyddog y bu rhai newidiadau bach o’r adroddiad a’r hyn a aeth i’r cais fel canlyniad i’r sgyrsiau a gynhaliwyd. Cadarnhaodd mai’r cyfanswm a geisir am y prosiect oedd £1.3m mewn gwerth, a cheisir hyd at £1.1m o’r Fargen Ddinesig, er y gall hyn amrywio yn dibynnu ar lefel buddsoddiad gan awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Swyddog, er nad oedd buddsoddiad awdurdodau lleol yn ofynnol, y byddid yn gweld hynny fel bod yn ffafriol a chadarnhaodd fod Blaenau Gwent wedi dynodi £50k dros 3 blynedd o fewn adnoddau cysylltiedig ag Adfywio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ymgysylltu, esboniodd y Swyddog y byddai’r Swyddog Arweiniol yn gyfrifol am strategaeth ymgysylltu glir gyda grwpiau cymunedol lleol. Byddai’r trydydd sector yn hollbwysig yn nhermau’r sefydliadau y maent eisoes yn eu cefnogi. Byddai darparydd y llwyfan hefyd yn cefnoga’r ymgysylltu hwnnw a byddai lansiad cyhoeddus a digwyddiadau gweithdy, ynghyd â gwefan arbennig i hyrwyddo a chyfeirio pobl at y prosiectau hynny sy’n ceisio cyllid torfol. Byddai gan Aelodau hefyd ran fawr yn yr ymgysylltu hwnnw.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at yr un cynllun a gynhaliwyd yn Abertawe a gofynnodd os oes unrhyw astudiaethau achos ar gael i roi rhyw syniad o’r hyn sy’n ymarferol bosibl a hefyd os y derbyniwyd unrhyw arwydd am lefel y buddsoddiad gan awdurdodau lleol eraill.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod Atodiad 1 i’r adroddiad yn rhoi dolen i’r wefan ar gyfer cyllid torfol Abertawe sy’n cynnwys y mathau o brosiectau a gafodd eu cyllido.

 

Yn nhermau lefel y buddsoddiad gan awdurdodau lleol eraill, cadarnhaodd y Swyddog y cynhaliwyd trafodaethau gyda’r Cyfarwyddwr Rhanbarthol a bod cefnogaeth gadarn ar gyfer y cynigion. Fodd bynnag, mae gwaith yn mynd rhagddo ar yr elfen cyfraniadau ariannol ar hyn o bryd. Cadarnhaodd y Swyddog y cyflwynwyd y cais yn dynodi fod yr elfen honno yn dal i gael ei gorffen.

 

Gofynnodd Aelod os mai i ni fel Awdurdod Arweiniol neu i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y cyflwynir ceisiadau am brosiectau.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog os yw’n llwyddiannus a fod y Fargen Ddinesig wedi cytuno ar fuddsoddiad, yna byddai trefniadau llywodraethiant yn cael eu rhoi ar waith a sefydlir gr?p llywio arfaethedig gyda chynrychiolwyr o awdurdodau lleol, y Fargen Ddinesig, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol a fyddai’n gyfrifol am benderfynu pa brosiectau fyddai’n cael eu cefnogi. Fodd bynnag, os yw’r Cyngor yn rhoi buddsoddiad ychwanegol, byddai cyfle i ddylanwadu ar y buddsoddiad hwnnw drwy’r un llwyfan ond gyda meini prawf gwahanol ac yn nhermau’r prosiect a gaiff ei gyllido.

 

Gofynnodd Aelod pa lefel o gymorth a roddir i grwpiau cymunedol sy’n gwneud ceisiadau am gyllid.

 

Dywedodd y Swyddog y byddai’r Swyddog Arweiniol yn cynnig rhai adnoddau ond y byddai lefelau gwahanol o gymorth datblygu cymunedol ar gael. Byddai’r trydydd sector yn hollbwysig yn y cyswllt hwn. Dywedodd fod y llwyfan yn fwy effeithiol oherwydd mai dim ond unwaith oedd angen mewnbynnu data a’i fod wedyn ar gael i nifer o gyllidwyr. Fodd bynnag, cydnabu y byddai llwyfan digidol yn rhoi heriau i rai grwpiau cymunedol ond y byddai cymorth ar gael a bod y llwyfan hefyd wedi annog pobl newydd i ddod ymlaen gyda chynlluniau newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, dywedodd y Swyddog y gallai Aelodau gefnogi gr?p cymunedol wrth wneud cais ond y byddai angen ystyried y manylion.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a:

 

i.              Chymeradwyo cyflwyno cais Cronfa Her i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer llwyfan cyllido torfol dinesig, gan weithredu fel yr Awdurdod Arweiniol, a

 

ii.             Chymeradwyo gweithredu llwyfan cyllido torfol rhanbarthol, yn cynnwys Blaenau Gwent, i gefnogi datrysiadau i brosiectau a heriau a ddynodwyd yn lleol, yn amodol ar ddyfarniad cyllid (Opsiwn 2).

 

Dogfennau ategol: