Agenda item

Diweddariad Cynllun Rheoli Cyrchfannau

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth i ddrafft Gynllun Rheoli Cyrchfannau Blaenau Gwent ar gyfer 2020-25. Dywedodd y penderfynodd y Pwyllgor Craffu ohirio’r adroddiad pan y’i cyflwynwyd yn flaenorol ac y cafodd y Cynllun ei adolygu yn dilyn adborth gan Aelodau.

 

Dywedodd fod yr adroddiad yn crynhoi cynnwys y Cynllun a’r themâu y cafodd ei seilio arnynt. Mae’r adroddiad hefyd yn crynhoi cyd-destun y Cynllun a rôl y Bartneriaeth Rheoli Cyrchfannau a rhanddeiliaid eraill wrth ei gynhyrchu.

 

Nododd y Swyddog fod y Cynllun yn ddogfen strategol ac y cafodd ei gynhyrchu ar y cyd gan nifer o randdeiliaid a’i oruchwylio gan y Bartneriaeth Rheoli Dylunio. Roedd y ddogfen ei hun yn wahanol i rai o ddogfennau a strategaethau eraill y Cyngor gan ei bod yn eistedd o fewn y Cyngor a hefyd y Bartneriaeth Rheoli Cyrchfannau a hefyd randdeiliaid ar draws y sector twristiaeth, felly nid oedd hon yn ddogfen Blaenau Gwent yn unig. Mae’r ddogfen yn ddarn pwysig o waith a chaiff ei chydnabod gan Croeso Cymru fel dull strategol i ddatblygu twristiaeth o fewn yr ardal ddaearyddol a byddai hefyd yn cael ei ddefnyddio i helpu gyda cheisiadau am gyllid. Prif nod y Cynllun oedd sicrhau fod pobl, busnesau a sefydliadau yn cydweithio i gyflawni targedau a gytunwyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at drafodaethau pan gafodd y Cynllun ei adrodd yn flaenorol i’r Pwyllgor a dywedodd y teimlai fod yr adroddiad yn rhoi eglurdeb nad oedd y Cynllun yn ymwneud â Blaenau Gwent yn unig.

 

Cytunodd Aelod arall a dywedodd fod y Cynllun yn fwy cryno ac y byddai’n fwy hylif wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, dywedodd hefyd fod datblygu twristiaeth yn ddarn helaeth o waith a chwestiynodd yr adnoddau cyfyngedig o fewn y Cyngor. Yn nhermau’r ddogfen, roedd yn dal i deimlo nad yw’r Cynllun yn rhoi cydnabyddiaeth ddigonol i rai partneriaid a bod y cyfeiriadau at dwristiaeth gymunedol yn brin yn rhai o’r prosiectau a’r buddsoddiad a wnaed e.e. Prosiect Cynllun Treftadaeth Tredegar, 10 Y Cylch Tredegar. Dywedodd y cafodd y prosiect fuddsoddiad o £400k gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a dywedodd y dylai’r Cynllun sôn am brosiectau o’r maint hwn o fuddsoddiad..  Cyfeiriodd at y cynllun gweithredu ar dudalen 23 y Cynllun, Cartref y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a dywedodd y dylid sôn am Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo fel rhanddeiliad.

 

Mewn ymateb, cytunodd y Swyddog y dylid fod wedi rhoi mwy o eglurdeb yn flaenorol yn nhermau maint ymgyfraniad partneriaid a’r ystod rhanddeiliaid. Dywedodd fod twristiaeth gymunedol yn agwedd sylfaenol o’r Cynllun ac yn llinyn allweddol drwy’r math o waith sy’n cael ei wneud yn yr ardal a hefyd yn y Cynllun. Cytunodd hefyd gyda sylwadau’r Aelod am Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a dywedodd y buont yn sylfaenol i’r prosiect. Cawsant eu gadael allan drwy gamgymeriad ond cadarnhaodd y Swyddog y byddent yn cael eu cynnwys yn y Cynllun terfynol.

 

Dywedodd Aelod iddo gyfeirio at adroddiad Archwilio Coffau dyddiedig 26 Tachwedd 2020 dan arweiniad Prif Weinidog Cymru pan gyflwynwyd yr adroddiad yn flaenorol ym mis Rhagfyr 2020. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi dweud fod darn o waith yn mynd rhagddo ar briodoldeb enwau strydoedd a gofynnodd yr Aelod pryd y gellid disgwyl adroddiad ar hyn.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod hwn yn ddarn pwysig o waith. Fodd bynnag, roedd yn ansicr pryd y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno ond dywedodd y byddai’n cydlynu gyda Swyddogion yngl?n â hyn.

 

Cyfeiriodd Aelod at ei sylwadau blaenorol am yr adnoddau cyfyngedig o fewn y Cyngor yn nhermau datblygu twristiaeth yn yr ardal a chanmolodd waith y Swyddog Rheoli Cyrchfannau. Awgrymodd efallai y gellid ymchwilio cyllid drwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer adnoddau ychwanegol i yrru’r Cynllun ymlaen.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Cynllun Rheoli Cyrchfannau 2020-2025 Blaenau Gwent gyda’r diwygiadau y gofynnwyd amdanynt, h.y. cynnwys Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo fel partner allweddol a hefyd gyfeiriad at dwristiaeth gymunedol.

 

Dogfennau ategol: