Agenda item

Cyllideb Refeniw 2021/2022

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, dechreuodd y Prif Swyddog Adnoddau drwy ddweud mai dyma gam olaf proses gosod cyllideb 2021/2022 sydd, yn dod ynghyd â phenderfyniadau cyllideb y Cyngor a wnaed yn flaenorol ynghyd â’r praeseptiau fel yr hysbyswyd gan yr awdurdodau statudol. Yn ychwanegol mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ac yn gosod y gofyniad cyllideb ar gyfer 2021/2022, lefel gyffredinol y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/2022 sy’n cynnwys y praeseptiau statudol a’r penderfyniadau statudol perthnasol.

 

Nodwyd fod y Cyngor wedi cyfrif y symiau ar gyfer y flwyddyn (2021/2022) yn unol â rheoliadau a wnaed dan Adran 33(5) Deddf Llywodraeth Leol 1992 a manylion cynigion cyffredinol y Dreth Gyngor yn cynnwys y bandiau prisiant a roddir ym mharagraff 3.4(k) yr adroddiad.

 

Hysbyswyd aelodau am y cywiriad dilynol i’r adroddiad. Nodwyd y dylid newid y swm o £224,556,491 y cyfeirir ato ym mharagraff 3.4(a) i ddarllen £225.856.491.

 

Aeth y Prif Swyddog ymlaen drwy ddweud fod y praesept Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent ar gyfer 2021/2022 yn gyfanswm o £5,987,866 a bod praesept Cynghorau Tref/Cymuned ar gyfer yr un cyfnod yn gyfanswm o £456,101.

 

Mae Tabl 1, a roddir yn Atodiad 1, yn grynodeb o’r amcangyfrifon portffolio dilynol gan roi ystyriaeth i gynigion Pontio’r Bwlch, pwysau cost ac eitemau twf. Yn ychwanegol, caiff £1.254m ei drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn y Cyngor. Arweiniodd hyn at ofyniad cyllideb statudol o £157,379,330. Byddai hefyd angen ychwanegu cymorth ardrethi dewisol o £208,000 at ofyniad y gyllideb, i roi cyfanswm cyllideb refeniw net ar gyfer 2021/2022 o £157,587,330.

 

I gloi, adroddodd y Prif Swyddog Adnoddau ar y ddau bwynt dilynol yn unol â gofynion Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003:

 

i.              Pa mor gadarn yw’r amcangyfrifon a gynhwysir yn y gyllideb.

ii.             Digonolrwydd cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod.

 

Medrodd y Prif Swyddog ddod i’r casgliad bod yr amcangyfrifon yn cydymffurfio gyda’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ac yn addas o gadarn. Cafodd pwysau cost eu hystyried yn ystod proses gosod y gyllideb ac ar gyfer y tymor canol.

 

Yng nghyswllt digonolrwydd cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod, mae paragraffau 5.1.9 i 5.1.12 yr adroddiad yn dangos fod yr Awdurdod yn dymuno sicrhau sefyllfa gynaliadwy ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn y tymor canol. Byddai’r protocol cronfeydd wrth gefn yn parhau i adolygu cronfeydd wrth gefn er mwyn sicrhau y cedwir Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol ar lefel gynaliadwy yn y tymor canol.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur nad oedd y Gr?p Llafur na’r Gr?p Annibynnol Lleiafrifol yn cefnogi’r cynnydd o 3.3% yn lefel y dreth gyngor neu yn wir unrhyw gynnydd arall uwchben cyfradd chwyddiant a gofynnodd am i hyn gael ei nodi.

 

Atebodd Arweinydd y Cyngor fod gan y Cyngor gyfrifoldeb statudol i gytuno i’r adroddiad ac y caiff yr opsiynau eu hamlinellu ym mharagraff 3. Mae nifer o’r argymhellion hyn ar gyfer dibenion nodi yn unig ac un argymhelliad yw i’r Cyngor gydnabod y praesept a osodwyd gan y Cynghorau Tref/Cymuned a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Daeth i ben drwy gynnig cymeradwyo’r argymhellion en bloc. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur, oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ffeithiol i nodi a rhoi manylion y penderfyniadau a wnaed yng nghyfarfod arbennig y Cyngor yr wythnos flaenorol (4 Mawrth), y credai nad oedd angen pleidlais wedi’i chofnodi y tro hwn. Dywedodd bod y Gr?p Llafur a’r Gr?p Annibynnol Lleiafrifol yn derbyn ac yn nodi’r argymhelliad sy’n llifo’n gywir o’r benderfyniad y Cyngor Arbennig ar 4 Mawrth 2021. Ond wrth wneud hynny ychwanegodd fod y ddau gr?p gwrthbleidiol yn parhau’n gadarn yn eu cred na ddylai’r Dreth Gyngor fod yn uwch na chwyddiant eleni. Cadarnhaodd Arweinydd y Gr?p Annibynnol Lleiafrifol mai hyn oedd eu sefyllfa hefyd h.y. eu bod yn derbyn yr argymhellion.

 

Oherwydd bod y rhain yn benderfyniadau statudol a fyddai’n galluogi’r Adran Adnoddau i wneud gwaith ar gyfer sylfaen y dreth gyngor am y flwyddyn i ddod, dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn fodlon gyda’r awgrym a wnaed, yn amodol ar gymeradwyaeth y Swyddog Monitro, a thybiodd mai barn y Gr?p Llafur ac Aelodau Gr?p Annibynnol Lleiafrifol fyddai gwrthwynebu’r argymhelliad ac os nad oes unrhyw Aelod yn mynegi fel arall, byddai Aelodau’r Gr?p Annibynnol yn cefnogi’r argymhellion a gaiff eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro, gan nad oedd unrhyw Aelod yn bresennol wedi mynegi bwriad i wrthwynebu’r argymhellion, bod y llwybr gweithredu arfaethedig i beidio symud ymlaen i bleidlais unigol wedi’i chofnodi yn dderbyniol.

 

Felly,

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodwyd:

 

3.1 Bod y Cyngor wedi cytuno yn ei gyfarfod ar 4 Mawrth 2021 ar gynnydd Treth Gyngor o 3.3% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022. Fel canlyniad, elfen Cyngor Blaenau Gwent o’r tâl treth gyngor llawn fyddai:-

 

Bandiau Prisiant (£)

A

B

C

D

E

F

G

H

I

1,178.90

1,375.38

1,571.87

1,768.35

2,161.32

2,554.28

2,947.25

3,536.70

4,126.15

 

3.2 Roedd y Cyngor wedi cyfrif y symiau dilynol ar gyfer y flwyddyn (2021/2022) yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan Adran 33(5) Deddf Llywodraeth Leol 1992:

 

3.3 Sylfaen y Dreth Gyngor oedd nifer yr anheddau y gellir codi tâl arnynt ym mhob ardal wedi’i addasu ar gyfer nifer o eitemau e.e. gostyngiadau taladwy, wedi’i luosi gan y gyfradd gasglu dybiedig sy’n 95% ar gyfer 2021/22.

 

a)    Y swm a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor) 1992 fel ei sylfaen Treth Gyngor ar gyfer y flwyddyn oedd:

20,794.09

 

b)  Y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel swm ei sylfaen Treth Gyngor ar gyfer y flwyddyn yn y rhannau hynny o’i ardal y mae un neu fwy o eitemau arbennig yn cyfeirio atynt oedd:

 

4,662.72

Abertyleri a Llanhiledd

1,697.24

Brynmawr

 

2,710.35

Nantyglo a Blaenau

 

4,731.02

Tredegar

 

 

c)    Ar gyfer y flwyddyn 2021/2022, roedd Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi nodi’r symiau dilynol mewn praeseptiau a gyhoeddwyd i’r Cyngor (cyfanswm o £5,987,866) yn unol ag Adran 40 Deddf Llywodraeth Leol 1992, ar gyfer pob un o’r categorïau anheddau a ddangosir:

 

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent

Bandiau Prisiant (£)

A

B

C

D

E

F

G

H

I

191.97

223.97

255.96

287.96

351.95

415.94

479.93

575.92

671.91

 

 

3.4 Bod y symiau dilynol yn awr yn cael eu cyfrif gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2021/2022 yn unol ag Adran 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-

 

a) 224,856,491

 

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn ei amcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) i (d) y Ddeddf

b)

67,477,161

 

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn ei amcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(3) (a) a (c) y Ddeddf

c)

157,379,330

 

Sef y swm y mae’r cyfanswm yn (a) uchod yn fwy na’r cyfanswm yn (b), a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) y Ddeddf, fel ei ofyniad cyllideb ar gyfer y flwyddyn.

d)

208,000

 

Sef y swm y mae’r Awdurdod yn amcangyfrif yng nghyswllt Adrannau 47 a 49 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y’i diwygiwyd gan Atodlen 1 Deddf Llywodraeth Leol ac Ardrethi 1997, ar gyfer cymorth ardrethi annomestig dewisol..

e)

120,360,000

 

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif fydd yn daladwy ar gyfer y flwyddyn i gronfa’r Cyngor yng nghyswllt ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd, grant cymorth refeniw a grant ychwanegol.

f)

1,790.28

 

Sef y swm yn (c) uchod ynghyd â’r swm yn (d) uchod a llai na’r swm yn (e) uchod, i gyd wedi’u rhannu gan y swm yn 3.2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, fel swm sylfaenol ei Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.

 

g)

456,101

 

Sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(a) y Ddeddf.

h)

1,768.35

 

Sef y swm yn (f) uchod llai’r canlyniad a roddir drwy rannu’r swm yn (g) uchod gan y swm yn 3.2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol ei Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau honno o’i ardal nad oes unrhyw eitem arbennig yn cyfeirio atynt.

 

i) Y symiau a roddir drwy ychwanegu at y swm yn (h) uchod y symiau o’r eitem neu eitemau arbennig yn ymwneud ag anheddau yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor a nodir uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 3.2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, fel y symiau sylfaenol o’i Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o’i ardal y mae mwy neu fwy o eitemau arbennig yn cyfeirio atynt oedd:

1,809.10

Abertyleri a Llanhiledd

1,793.69

Brynmawr

 

1,799.60

Nantyglo a Blaenau

 

1,797.60

Tredegar

 

j)  Y symiau a roddir drwy luosi’r symiau yn (h) ac (i) uchod gan y rhif oedd, yn y gyfran a nodir yn adran 5(10) y Ddeddf, yn berthnasol i anheddau a restrwyd mewn band prisiant neilltuol wedi ei rannu gan y rhif yr oedd y gyfran honno yn berthnasol i anheddau a restrwyd ym Mand Prisiant D, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, fel y symiau i roi ystyriaeth iddynt ar gyfer y flwyddyn yng nghyswllt categorïau o anheddau a restrwyd mewn gwahanol fandiau prisiant oedd:

 

Treth y Fwrdeistref Sirol yn cynnwys Praeseptiau Cymunedol

Bandiau Prisiant

A

B

C

D

E

F

G

H

I

Abertyleri a Llanhiledd

1,206.07

1,407.07

1,608.09

1,809.10

2,211.13

2,613.14

3,015.17

3,618.20

4,221.23

Brynmawr

1,195.79

1,395.09

1,594.39

1,793.69

2,192.29

2,590.88

2,989.48

3,587.38

4,185.28

Nantyglo a Blaenau

1,199.73

1,399.69

1,599.65

1,799.60

2,199.51

2,599.42

2,999.33

3,599.20

4,199.07

Tredegar

1,198.40

1,398.13

1,597.87

1,797.60

2,197.07

2,596.53

2,996.00

3,595.20

4,194.40

Glynebwy

1,178.90

1,375.38

1,571.87

1,768.35

2,161.32

2,554.28

2,947.25

3,536.70

4,126.15

 

k) Bod, ar ôl cyfrif y cyfanswm ym mhob achos o’r symiau yn (c) a (j) uchod, bod y Cyngor, yn unol ag adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, drwy hyn yn nodi’r symiau dilynol fel symiau’r Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn 2021/22 ar gyfer pob un o’r categorïau o’r anheddau a ddangosir islaw:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Treth Lawn y Fwrdeistref Sirol yn cynnwys Praeseptiau Heddlu a Chymunedol

Bandiau Prisiant

A

B

C

D

E

F

G

H

I

Abertyleri a Llanhiledd

1,398.04

1,631.04

1,864.05

2,097.06

2,563.08

3,029.08

3,495.10

4,194.12

4,893.14

Brynmawr

1,387.76

1,619.06

1,850.35

2,081.65

2,544.24

3,006.82

3,469.41

4,163.30

4,857.19

Nantyglo a Blaenau

1,391.70

1,623.66

1,855.61

2,087.56

2,551.46

3,015.36

3,479.26

4,175.12

4,870.98

Tredegar

1,390.37

1,622.10

1,853.83

2,085.56

2,549.02

3,012.47

3,475.93

4,171.12

4,866.31

Glynebwy

1,370.87

1,599.35

1,827.83

2,056.31

2,513.27

2,970.22

3,427.18

4,112.62

4,798.06

 

 

Dogfennau ategol: