Agenda item

Ymateb Gwasanaethau Plant i blant bregus yn ystod y pandemig COVID-19

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i roi gwybodaeth i Aelodau ar sut mae Gwasanaethau Cymdeithasol Plant wedi cefnogi plant bregus ers dechrau pandemig COVID-19 ym mis Mawrth 2020.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod os oes adnoddau ar gael i ymdopi gydag unrhyw gynnydd mewn achosion yn dilyn llacio cyfyngiadau COVID. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant na neilltuwyd unrhyw arian ychwanegol gan fod y farn yn gymysg os y byddai cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau. Ni fu unrhyw gynnydd sylweddol ar ôl y cyfnod clo cyntaf ac roedd gwasanaethau ataliol fel Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg wedi parhau i weithio gyda theuluoedd ar draws Blaenau Gwent ar lefel ataliol i atal eu hanghenion rhag cynyddu. Teimlai fod y Gwasanaeth wedi paratoi gystal ag y medrai.

 

Holodd Aelod os bu cynnydd mewn atgyfeiriadau cam-drin domestig ac os oedd hyn wedi effeithio ar Gwasanaethau Plant. Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant nad nifer cynyddol o achosion ond cymhlethdod sefyllfaoedd yr achosion a atgyfeirir sydd fwyaf anodd. Mae nifer cynyddol o achosion cam-drin domestig ond nid ydynt yn anghymesur o gymharu â blynyddoedd blaenorol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y bu cynnydd rhanbarthol yn nifer yr atgyfeiriadau o achosion cam-drin domestig yn gyffredinol. Roedd yr atgyfeiriadau wedi cynyddu’n gyson yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf a byddai’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn cadw golwg agos ar y sefyllfa. Gyda llacio cyfyngiadau cyfnod clo, roedd pryderon y gallai fod cynnydd pellach mewn atgyfeiriadau gan y byddai pobl yn cael cyfle i ddod ymlaen i edrych am gymorth.

 

Holodd Aelod os cynigiwyd brechiad Covid i staff Gwasanaethau Plant. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y cafodd enwau’r holl staff gofal cymdeithasol eu cyflwyno am frechiadau. Mae’r mwyafrif wedi derbyn eu brechiad cyntaf, fodd bynnag cafodd y meini prawf eu gwneud yn fwy penodol a gall hynny fod wedi eithrio rhai o staff rheng flaen Gwasanaethau Cymdeithasol. Felly mae cohort bach ond sylweddol o staff o fewn Gwasanaethau Plant nad ydynt eisoes wedi cael eu brechiad cyntaf, fodd bynnag cafodd eu henwau eu cyflwyno ar gyfer y sesiynau ‘mopio lan’.

 

Cyfeiriodd Aelod at ddefnydd technoleg rithiol a holodd os yw hyn yn awr yn cael ei ystyried fel arfer da yng nghyswllt plant sy’n derbyn gofal. Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Plant fod gan yr holl dimau a gweithwyr cymdeithasol liniaduron a ffonau gwaith. Mae symud i ddefnyddio Microsoft Teams wedi arwain at gynnal cyfarfodydd rhithiol, er y bu’n anodd cael plant a theuluoedd i gymryd rhan yn y math hwnnw o gyfarfod. Dywedodd fod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ganfod beth sy’n gweithio’n dda yn ystod Covid a beth y medrid ei wella neu ddychwelyd ato. Peth o’r adborth o’r gwaith hwn yw bod angen i rieni y mae plant ar y Gofrestr Diogelu Plant i ddychwelyd i gyfarfodydd wyneb i wyneb er mwyn sicrhau bod rhieni’n cael eu cefnogi. Teimlai nad oedd hyn wedi gweithio’n dda’n rhithiol, ond efallai y gallai gweithwyr proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol a Swyddogion Adolygu annibynnol ymuno a’r cyfarfod yn rhithiol. Yng nghyswllt plant sy’n derbyn gofal, byddent yn parhau i siarad gyda nhw drwy WhatsApp drwy fynediad at ffonau gwaith. Teimlai mai natur y gwaith yw adeiladu perthynas o ymddiriedaeth gyda phlant a rhieni i siarad am faterion sensitif iawn a’i bod yn eithaf anodd gwneud hynny ar system rithiol.

 

 

Holodd Aelod pa effaith fyddai gan Covid-19 ar Gwasanaethau Plant o hyn ymlaen. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant ei fod wedi effeithio ar staff, fodd bynnag ni fu cynnydd sylweddol mewn salwch yn ystod y cyfnod hwn a theimlai fod hynny’n glod i’r gweithlu. Bu brigau a chafnau yng nghyswllt morâl ac roedd staff wedi parhau i gymryd gwyliau, gyda’r Gyfarwyddiaeth yn rhoi cefnogaeth i’r tîm a’r gweithlu. Yng nghyswllt plant sy’n derbyn gofal, mae’r Tîm yn gwneud popeth a fedrant fel mae anghenion yn codi i sicrhau y caiff yr anghenion hynny eu rheoli yn y ffordd gywir.

 

Yng nghyswllt brechiadau, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol yr amcangyfrifir fod 90% o’r staff wedi derbyn eu brechiad cyntaf. Roedd nifer gyfyngedig o staff wedi gwrthod y brechlyn i ddechrau, ar ôl trafodaethau a sicrwydd gan gydweithwyr Iechyd Cyhoeddus, roedd rhai o’r staff hynny wedi derbyn y brechiad wedyn. Yng nghyswllt y gweithlu, roedd y Cyfarwyddwyr ychydig yn bryderus gan fod staff wedi gweithio ar ddwyster na welsant erioed o’r blaen ac y gallent fod angen cefnogaeth ychwanegol wrth symud ymlaen yn arbennig yn ystod y trosiant o’r cyfnod dwys hwn o waith i ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd. Byddai’r Cyfarwyddwr yn ceisio sicrhau y gellid darparu unrhyw gymorth y mae staff ei angen wrth iddynt symud drwy’r cyfnod pontio.

 

Holodd Aelod os gallai’r Gyfarwyddiaeth wneud cais am gyllid ychwanegol ar gyfer staff ychwanegol i gefnogi rhai o’r materion a godwyd. Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol y gall fod angen gwneud achos i’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol fel mae sefyllfaoedd yn codi. Mae prinder cenedlaethol o weithwyr cymdeithasol ac mae recriwtio bob amser wedi bod yn her a gall fod hyd yn anos ar ôl y pandemig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddai’r Gronfa Caledi ar gael am chwe mis arall. Pe byddai cynnydd mewn galw, byddai’r Gyfarwyddiaeth yn ceisio darparu ar gyfer y galw hwnnw drwy’r Gronfa Caledi. Dywedodd fod gwaith yn mynd rhagddo’n genedlaethol yn edrych ar y goblygiadau hirdymor ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fel canlyniad i’r pandemig a bod hynny’n cynnwys yr effaith ar gyllidebau. Pan fyddai wedi ei orffen, teimlai y byddai’n ddogfen ddefnyddiol i bob Cyngor ei hystyried.

 

Soniodd Aelod am waith rhagorol yr holl staff a bod y Gyfarwyddiaeth yn addasu i heriau sylweddol i arferion gwaith yn ystod Covid i gefnogi’r bobl fwyaf bregus yn y gymuned a mynegodd werthfawrogiad i’r holl weithlu. Awgrymodd y dylid anfon llythyr neu e-bost cyffredinol at yr holl staff yn cyfleu diolch twymgalon ar ran yr Awdurdod Lleol a chymuned Blaenau Gwent.

 

Cytunodd y Cadeirydd a’r Aelodau gyda’r sylwadau hyn a chefnogi’r awgrym. Byddai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfleu’r neges honno i’r holl staff.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn yr adroddiad fel y’i darparwyd.

 

Dogfennau ategol: