Agenda item

Strategaeth Ddiwygiedig Gostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal 2020-2025

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant oedd i gyflwyno strategaeth ddiwygiedig Gostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Yng nghyswllt cyllidebau, holodd Aelod os oedd y tanwariant ar gyfer 2019/20 yn ganlyniad uniongyrchol cyllid ychwanegol a dderbyniwyd neu lai o alw am y gwasanaeth. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y bu cynnydd yn y gyllideb i Gwasanaethau Plant oherwydd gorwariant dechreuol sylweddol yn 2016/17 ac roedd hyn wedi atal gorwariant parhaus a sefydlogi’r gyllideb.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 27, Ffigur 1: Poblogaeth Plant sy’n Derbyn Gofal wedi ei ddadansoddi yn fathau lleoliad a holodd am gartrefi heb eu rheoleiddio ar gyfer rhai 16/17 oed a sut y caiff lleoliadau byw annibynnol Blaenau Gwent eu monitro. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth Plant sicrwydd i’r Aelod na chaiff unrhyw blant ym Mlaenau Gwent eu rhoi mewn cartrefi heb eu rheoleiddio. Caiff yr holl blant eu gosod mewn cartrefi wedi eu rheoleiddio a oruchwylir gan yr Arolygiaeth Gofal Cymru a chynhelir archwiliadau arnynt, ac felly hefyd yng nghartrefi’r awdurdod lleol, ac mae’n rhaid iddynt gydymffurfio gyda gwahanol reoliadau a safonau gofal.

 

Cododd aelod bryderon am blant o Awdurdodau eraill yn dod i fyw mewn cartrefi gofal preifat bach ym Mlaenau Gwent a holodd os caiff y cartrefi hyn eu rheoleiddio gan Flaenau Gwent neu gan yr Awdurdod y deuai’r plant ohonynt. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y sefydlwyd nifer o gartrefi preifat i blant ym Mlaenau Gwent ac os nad oedd y cartref hwnnw â mwy na nifer penodol o blant, na fyddai angen caniatâd cynllunio ac ni fyddai’r Awdurdod Lleol yn gwybod amdano, ond byddai’n rhaid i’r darparydd preifat gofrestru’r cartref gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a chydymffurfio gyda’r holl wahanol a reoliadau a safonau cyfreithiol sydd eu hangen i agor cartref plant. Byddai’r Arolygiaeth yn archwilio’r cartref cyn ei agor i sicrhau fod yr holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol a gweithlu gyda chymwysterau addas yn eu lle. Nid yw Blaenau Gwent yn gyfrifol am ddim o’r cartrefi hynny; fodd bynnag, os oes pryderon am ddiogelu sy’n digwydd oherwydd fod y plentyn yn byw ym Mlaenau Gwent yna byddai’n gyfrifoldeb ar Gwasanaethau Plant i ymchwilio’r pryderon hynny am ddiogelu mewn partneriaeth gyda’r Awdurdod y caiff y plant ei leoli ohono. Eglurodd y byddai’r Awdurdod sy’n lleoli’r plentyn bob amser yn cadw’r prif gyfrifoldeb am ofal y plentyn dan sylw ac am fonitro lleoliad i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y plentyn.

 

Holodd Aelod os yr hysbysir Gwasanaethau Plant am unrhyw bryderon diogelu yn unrhyw rai o’r cartrefi hyn. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant mai Ofsted yw’r corff rheoleiddiol ar gyfer Lloegr ac Arolygiaeth Gofal Cymru yw’r corff rheoleiddiol ar gyfer Cymru. Roedd Gwasanaethau Plant wedi derbyn hysbysiadau gan Ofsted am wahanol gartrefi yn Lloegr lle mae pryderon, fodd bynnag nid oeddent erioed wedi cael unrhyw hysbysiadau gan Arolygiaeth Gofal Plant Cymru yng nghyswllt cartrefi plant ym Mlaenau Gwent.

 

Soniodd y Cadeirydd am y gwaith rhagorol a wnaethpwyd ers cyflwyno’r strategaeth, yn flaenorol hwn oedd y pwysau cost mwyaf sylweddol ac mae’r Gyfarwyddiaeth wedi perfformio’n dda iawn i ddod ag ef i’r sefyllfa hon.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn yr adroddiad fel y’i darparwyd.

 

Dogfennau ategol: