Agenda item

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau

 

DIWEDDARIAD LLAFAR – PANDEMIG COVID-19

 

Ar gais y Cadeirydd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ddiweddariad llafar ar ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i bandemig COVID-19.  

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr aelod o achosion positif COVID-19 ar draws y Fwrdeistref wedi gostwng i 38 fesul 100,000 poblogaeth. Bu hynny’n sefyllfa sefydlog dros y 10 diwrnod diwethaf ac yn dangos fod yr holl gydweithio wedi cyfrannu at wneud gwahaniaeth. 

 

Yng nghyswllt y diweddariad ar ysgolion, dim ond un achos positif a fu mewn ysgol ac o safbwynt gweithlu ychydig dros 20 o staff oedd naill ai’n hunan-ynysu neu wedi eu dynodi fel bod yn y categori gwarchod. Mae hynny eto’n sefyllfa sefydlog iawn ac ni chafwyd unrhyw broblemau sylweddol yngl?n â gweithlu a staffio ar draws addysg ar y pwynt hwn. Roedd yn falch i hysbysu Aelodau fod y cyswllt gydag ysgolion wedi parhau i fod yn galonogol iawn a bod ysgolion wedi cytuno ar benderfyniadau strategol ac wedi cymryd dull gweithredu ar y cyd yn nhermau ein hymateb. Mae cyfarfodydd y Gr?p Cynllunio Gweithredol gyda phenaethiaid ysgol yn parhau bob bythefnos ac yn ddiweddar bu symud at i ddysgwyr cyfnod sylfaen ddychwelyd i safleoedd ysgol ar gyfer dysgu wyneb i wyneb o 22 Ionawr. Dywedodd wrth Aelodau fod y trefniadau hyn wedi rhedeg yn llyfn heb unrhyw wir anawsterau ac mae hyn er clod i’r sector cynradd am y ffordd y maent wedi rheoli’r trefniadau hyn wrth iddynt symud tuag at gynyddu niferoedd mewn dysgu wyneb i wyneb.

 

Roedd darpariaeth hyb wedi parhau dros dymor y gwanwyn ar gyfer dysgwyr bregus a gweithwyr allweddol. Yn y cylch derbyn diweddaraf roedd bron 460 o blant oedd yn parhau i gael eu cefnogi. Mae’n achosi ychydig o bryder, o safbwynt prydau ysgol am ddim, fod taliadau uniongyrchol wedi cynyddu i 1,768 o ddysgwyr heb gynnwys dysgwyr Cyfnod Sylfaen. Teimlai fod hyn yn dangos effaith economaidd COVID-19 yn lleol ar rai teuluoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bu’r taliadau uniongyrchol i’r teuluoedd hynny yn gweithio’n effeithlon ac yn cael eu hadolygu yn wythnosol.

 

O safbwynt dysgu cyfunol o bell, bu cyswllt agos gyda chydweithwyr yn EAS ar gynllun peilot Dathlu, Rhannu, Cefnogi a Mireinio ar draws de ddwyrain Cymru ac roedd yn falch i ddweud fod 13 o 25 ysgol Blaenau Gwent yn cymryd rhan yn y cynllun peilot hwnnw, mwy na 50 a dyna’r gyfran fwyaf o unrhyw ardal awdurdod lleol o fewn y rhanbarth.

 

O safbwynt technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, mae nifer y dyfeisiau a’r gefnogaeth i ddysgwyr a theuluoedd bellach yn bron 1,600 dyfais a ddosbarthwyd i deuluoedd lle dynodwyd angen. Mae’r Rheolwr Trawsnewid Addysg a’r tîm wedi gweithio’n agos gyda’r SRS i sicrhau fod y gefnogaeth i ddysgwyr yn gynhwysfawr.

 

Mae brechiadau ar gyfer staff mewn ysgolion arbennig a’r staff addysgu a heb fod yn addysgu mewn canolfannau adnoddau wedi dechrau. Yng nghyswllt profion, dosbarthwyd profion llif unffordd dros y 10 diwrnod diwethaf a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr y dechreuodd profion llif unffordd ar gyfer staff ddydd Mercher 3 Mawrth.

 

Bu cyfarfodydd arbennig gyda phenaethiaid ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru. Roedd hynny hefyd wedi cynnwys cyswllt gyda’r undebau llafur fel y gellid trafod rhai o’r trefniadau cynllunio ar gyfer mwy o ddysgu wyneb i wyneb o 15 Mawrth. Mae’r sefyllfa bresennol a gynlluniwyd gyda’r penaethiaid yn golygu y byddai’r holl ddysgwyr cynradd yn dychwelyd o 15 Mawrth a byddai’n cynnwys y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Hefyd o 15 Mawrth byddai blwyddyn 11 ysgolion uwchradd yn dychwelyd a chaiff un diwrnod yr wythnos ei neilltuo ar gyfer blwyddyn 10 fel rhan o’r gofynion asesu arholiad dros y 18 mis nesaf. Roedd dull gweithredu arfaethedig ar gyfer blynyddoedd 7, 8 a 9 a fyddent i gyd yn derbyn o leiaf un gwirio-mewn diwrnod llawn cyn cyfnod gwyliau’r Pasg. Bu peth dialog ddechreuol gyda phenaethiaid ysgol ar draws y bwrdd am ddarpariaeth ar ôl y Pasg, yn amodol ar adolygiad Llywodraeth Cymru, ond gyda golwg ar symud posibl tuag at ddychwelyd llawn i bob dysgwr. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am brofion llif ar gyfer aelodau,  cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod profion llif unffordd ar gyfer yr holl staff addysgu a heb fod yn addysgu yn mynd rhagddo a bod hynny’n cynnwys staff ategol fel staff arlwyo a glanhau. Cynhelir profion ddwywaith yr wythnos ac maent yn brofion hunan-weini. Os dynodir achos positif drwy’r prawf llif unochrog, yna gwneir trefniadau ar gyfer prawf PCR, sydd yn fwy cadarn, er mwyn sicrhau y gellid rheoli unrhyw achosion positif posibl sy’n codi mewn modd priodol.

 

Cyfeiriodd Aelod at brofion Legionella mewn ysgolion a gofynnodd am ddiweddariad ar ymgynghorwyr a gododd y mater o wahanol ffyrdd ar gyfer profion Legionella. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod trefniadau diwygiedig yn eu lle yn unol â’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor llawn ar brofion d?r. Mae bellach drefniadau ar gyfer monitro wythnosol lle mae’n rhaid i ysgolion gadarnhau, er enghraifft, bod trefniadau fflysio yn cael eu hadrodd i Gwasanaethau Technegol yn unol â’r canllawiau diweddaraf am Legionella ac mae monitro o fewn y tîm Trawsnewid Addysg. Lle mae unrhyw ddiffyg cydymffurfiaeth, cysylltir ag ysgolion a chaiff unrhyw weithredu unioni ei wneud yn brydlon. Cadarnhaodd fod ysgolion wedi ymateb mewn modd cadarnhaol i’r trefniadau newydd ac estynedig ar fflysio a ddisgwylir o safbwynt yr awdurdod lleol.

 

Holodd Aelod am y defnydd o ddyfeisiau electronig personol yr eir â nhw i ysgolion ac a ddefnyddir ar gyfer dibenion ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cafodd 1,600 o ddyfeisiau wedi eu hadnewyddu eu dosbarthu i ddysgwyr ac mae llawer o weithgareddau dysgu yn awr yn digwydd ‘dewch â’ch dyfais eich hun’.

 

Cynhaliwyd hyn mewn cysylltiad gyda SRS i sicrhau fod mesurau rheoli yn eu lle i wneud yn si?r y caiff y gweithgaredd ei wneud mewn amgylchedd diogel ac nad yw’r dysgwyr dan anfantais ac na chânt eu rhoi mewn unrhyw risg pellach drwy ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain. Wrth symud ymlaen, teimlai y byddai hyn yn dod yn fwy o norm yn arbennig yn nghyswllt dysgu cyfunol.

 

Cododd yr Aelod bryderon am golli neu ddifrod i’r dyfeisiau. Yng nghyswllt difrod, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod gan y Cyngor ei drefniadau yswiriant ei hun. Byddai angen trefniadau lleol o fewn ysgolion i sicrhau y cedwir y sefyllfaoedd hyn i isafswm llwyr ac y caiff unrhyw ddyfeisiau personol eu diogelu.

 

Cododd Aelod bryder am y cynnydd mewn prydau ysgol am ddim a’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar y Grant Amddifadedd Disgyblion. Holodd os yw Llywodraeth Cymru yn edrych ar ailddosbarthu’r Grant hwn yn unol â’r pandemig a nifer y disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn awr. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ei bod yn anodd ar hyn o bryd rhoi arwydd cryf sut y byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb i lefelau uwch o gymhwyster i brydau ysgol am ddim ar draws Cymru. Caiff y lefelau hyn eu mesur ar ffurflenni blynyddol lefel PLASC ym mis Ionawr a dylai hynny gael ei adlewyrchu yn y Grant Amddifadedd Disgyblion. Cadarnhaodd y defnyddir ffurflenni PLASC i asesu Grantiau Amddifadedd Disgyblion.

 

Cododd Aelod bryderon pellach am ailagor ysgolion a theimlai y dylid paratoi adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ei ystyried. Roedd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu wedi cwrdd ym mis Chwefror 2020 ac nid oedd wedi cwrdd wedyn tan fis Medi 2020 oherwydd y pandemig. Teimlai y dylid cadw cofnod a pharatoi adroddiad i ystyried unrhyw drafodaeth neu bryderon a all fod gan Aelodau Craffu am ailagor ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at Legionella a phrofion d?r ar gyfer ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cyflwynwyd adroddiad diweddaru COVID-19 yng nghyswllt addysg ym mis Tachwedd oedd yn cynnwys agweddau o’r problemau profion d?r a wynebwyd yn nhymor yr haf ac mae’n hapus i ddod ag adroddiad pellach yn diweddaru ar COVID-19 i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ym mis Ebrill.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am frechiadau a cynllunio, paratoi ac asesu (CPA), dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y cynhaliwyd trafodaethau am ddull gweithredu rhanbarthol gyda phenaethiaid ysgolion a’r undebau llafur a bod rhai ysgolion wedi cadarnhau fod ganddynt gapasiti i gynnal CPA mewn trefniadau arferol ac y gall ysgolion eraill gael peth anhawster a’u bod yn ystyried gorffen ychydig yn gynharach ar ddyddiau Gwener i ddarparu ar gyfer PPA, ond y byddai hyn yn fater i’r Pennaeth a’r Cadeirydd Llywodraethwyr i’w benderfynu ac y byddai hynny’n galluogi hwyluso gofynion statudol o amgylch PPA. Yng nghyswllt brechiadau eglurodd mai dim ond i staff mewn ysgolion arbennig a chanolfannau adnoddau y maent yn cael eu cynnig ar hyn o bryd.