Agenda item

Cynnig Gofal Plant Cynllun Peilot Rhaglen Trawsnewid Integreiddio Llywodraeth Cymru – Cynllun Peilot Cydweithio – Braenaru Blaenau Gwent

Ystyried adroddiad Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ar y cyd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r Rheolwr Gwasanaeth – Blynyddoedd Cynnar.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar drosolwg cynhwysfawr o’r cynnydd a wnaed hyd yma ar gynllun peilot Trawsnewid Blynyddoedd Cynnar newydd Llywodraeth Cymru yn ardal Braenaru  Blaenau Gwent. Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth yn fanwl am yr adroddiad ac amlinellu’r cefndir, y cynnydd hyd yma, y goblygiadau i’r gyllideb a’r risg yn gysylltiedig gyda’r opsiynau i gael eu hystyried.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog am ei throsolwg defnyddiol o’r adroddiad a gwahoddodd gwestiynau a sylwadau gan Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod os y darperir offer i deuluoedd sydd angen technoleg ar gyfer cynnal ymweliadau cartref rhithiol.

 

Dywedwyd y cysylltir yn rhithiol yn y rhan fwyaf o achosion drwy What’s App gan fod gan ffôn symudol gan y rhan fwyaf o rieni a bod hyn yn galluogi galwadau fideo yn ogystal â galwadau llais. Os oes angen ymweliad ffisegol i’r cartref, byddai angen PPE llawn a chydymffurfio â canllawiau llym a gwneir galwad cyn y digwyddiad i drafod diogelwch.

 

Gofynnodd yr Aelod ymhellach a fyddai unrhyw deuluoedd o gonsyrn tu allan i Bryn Farm, Brynmawr yn cael eu hystyried os oes angen.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar y dynodwyd mai ardal Bryn Farm oedd â’r angen mwyaf ym Mrynmawr yn nhermau amddifadedd ac os oes angen mynd tu allan i’r ardal hon disgwylid y byddai ymwelwyr iechyd cyffredinol yn cefnogi’r teuluoedd ac os oedd angen gellid atgyfeirio’r teulu at yr elfen allgymorth am gefnogaeth fwy dwys. Byddai hyn yn galluogi darparu’r gwasanaeth fel sydd angen.

 

Cododd Aelod bryderon am yr ardaloedd cyfyng ar gyfer rhaglen Dechrau’n Deg lle gallai un ochr o stryd dderbyn y gwasanaeth ac na fyddai gan yr ochr arall yr un buddion. Gobeithid y bydd y rhaglen newydd yn cynnwys y Ward gyfan ac nid adrannau neilltuol.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar at yr holl waith a wnaed i sicrhau bod cynllun Dechrau’n Deg ar gael i deuluoedd ym Mlaenau Gwent.

 

Dywedwyd fod y Tîm yn angerddol am y rhaglen newydd ac y gobeithir y byddai cyllid yn dal i fod ar gael i sicrhau y caiff ei hymestyn yn llawn gan fod Blaenau Gwent yn un o’r ardaloedd mwyaf amddifadus yng Nghymru.

 

Gofynnodd yr Aelod am i’r Pwyllgor Craffu gael gwybod am y cynnydd i sicrhau y gellid ymestyn y rhaglen ar draws Blaenau Gwent.

 

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i hysbysu Aelodau am y cynnydd.

 

Gofynnodd Aelod am wybodaeth faint o gyllid a gafodd Blaenau Gwent o’r Gronfa Datblygu Plant a beth oedd y galw gan deuluoedd.

 

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i ganfod swm y cyllid a rhoi adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor.

 

CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am hyd y cyfnod peilot, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd dyddiad gorffen ac na dderbyniwyd unrhyw gadarnhad os bydd y cynllun peilot yn parhau yn 2021/2022. Mae’r parhad yn dibynnu ar lwyddiant y cynllun peilot ac adborth Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth ei bod wedi mynychu cyfarfod yn ddiweddar i sicrhau y byddai’r cyllid yn parhau.

 

Cododd Aelod bryderon am sut mae rhai o’r gwasanaethau y mae’r Cyngor yn eu darparu yn dibynnu ar grantiau a theimlai’r Aelod ei bod yn annheg bod y gwasanaeth a ddarperir a chyflogaeth swyddogion mor ddibynnol ar gyllid grant.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y caiff nifer o grantiau eu defnyddio yn Gwasanaethau Plant a nododd y gallai rheoli’r grantiau hyn fod yn anodd weithiau; fodd bynnag, mae wedi paratoi taenlen o’r holl grantiau gwahanol er mwyn eu rheoli. Ychwanegodd fod telerau ac amodau yn diogelu nifer o ardaloedd yn dod gyda’r grantiau. Roedd y Rheolwr Gwasanaeth yn croesawu’r grantiau gan eu bod yn diogelu llawer o feysydd o waith y Tîm ac yn ei gwneud yn bosibl parhau â’r gwaith da.

 

Mae Pwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cael llawer iawn o gefnogaeth am y gwaith yng nghyswllt Blynyddoedd Cynnar a gobeithir y bydd y cynllun peilot yn parhau ac y caiff ei ymestyn ymhellach ar draws Blaenau Gwent.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar Opsiwn 1, sef bod Pwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystyried yr ymestyn arfaethedig a amlinellir ar gyfer 2021 ac yn nodi’r cynnwys.

 

Gadawodd y Cynghorydd G. Paulsen y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Dogfennau ategol: