Agenda item

Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2019/20 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau fod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar yr ail adroddiad cynnydd blynyddol ar gynllun llesiant ‘Y Blaenau Gwent a Garem’.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth am yr adroddiad a dywedodd fod ‘Y Blaenau Gwent a Garem’ yn cwmpasu cyfnod 2018 i 2023 a bod angen i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus roi adroddiad bob blwyddyn drwy adroddiad cynnydd ar y camau a gymerwyd i gyflawni’r amcanion a nodir yn y Cynllun Llesiant. Dywedodd y cafodd Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2019/20 ei oedi oherwydd pandemig Covid-19, felly mae’r adroddiad yn rhoi manylion cynnydd a wnaed yn yr ail flwyddyn o  fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020.

 

Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi parhau i gwrdd yn ystod y pandemig ac ystyried yr effaith a gafodd Covid-19 ar ein cymunedau a chanolbwyntio ar raglen waith y Bwrdd.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr wybodaeth a roddir yn yr adroddiad cynnydd cyn y pandemig, fodd bynnag mae rhai manylion am ymateb uniongyrchol partneriaid i’r pandemig rhwng mis Mawrth 2020 a mis Awst 2020. Fodd bynnag rhoddir manylion llawn ymateb partneriaid i’r pandemig yn yr adroddiad cynnydd blynyddol nesaf sydd i’w gyhoeddi yn nes ymlaen eleni.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth amlinelliad pellach o gynnwys Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus  2019/20 fel y’i manylir yn yr Atodiad sy’n amlinellu’r cynnydd a wnaed yn ail flwyddyn rhaglen y Bwrdd ar gyfer cyflawni ar y Cynllun Llesiant dan bum adran allweddol.

 

Cyfeiriodd Aelod at gynllun peilot a gynhaliwyd ar y cydweithredu rhwng  yr Heddlu a’r Gwasanaethau Ambiwlans a Thân yn Abertyleri a gofynnodd os gellid cael canlyniad y cynllun peilot hwn.

 

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth roi diweddariad yn uniongyrchol i’r Aelod gan, er y cynhaliwyd cynllun peilot yn Abertyleri, byddai angen iddo ofyn am eglurhad os cafodd y peilot hwn ei ymestyn ymhellach gan bartneriaid a gymerodd ran.

 

 

Nododd Aelod arall y cais a theimlai y byddai o fudd i bob Aelod fod yn gwybod am ganlyniad y cynllun peilot a gofynnodd am iddo gael ei gofnodi fel cam gweithredu ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Codwyd pryderon am y diffyg cydnabyddiaeth yn yr Adroddiad Blynyddol i gyfraniad gwirfoddolwyr a’r trydydd sector yn ystod y pandemig . Nododd Aelod fod cymorth yn cynnwys dosbarthu prydau ysgol am ddim, dosbarthu parseli bwyd, cefnogaeth i’r bregus a phreswylwyr ar y rhestr warchod. Mae felly yn bwysig fod sôn am yr unigolion hyn gan fod eu cefnogaeth yn hollbwysig.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau fod yr astudiaethau achos a chanfyddiadau yn yr Adroddiad Blynyddol hwn hyd at fis Mawrth 2020, fodd bynnag roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi penderfynu cynnwys naratif byr am y gwaith ar ddechrau pandemig Covid-19. Byddai Adroddiad Blynyddol eleni yn sôn am ymateb gwych gwirfoddolwyr a’r trydydd sector. Nid yw’r darn byr yn yr adroddiad cyfredol yn adlewyrchu’n llawn rôl bwysig gwirfoddolwyr. Dywedwyd y byddai adroddiad blynyddol eleni yn canolbwyntio mwy ar waith partneriaid drwy gydol y pandemig.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y rhaglen Cyflogadwyedd a dywedodd fod y rhaglen hon wedi cael hyd at 1,000 o bobl i mewn i waith ac y byddai’r Aelod wedi hoffi gweld mwy o wybodaeth pennawd yn nhermau’r gwaith penodol a gyflawnwyd a’r effaith.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau y bu heriau wrth lunio’r Adroddiad Blynyddol oherwydd Covid-19. Roedd y tîm wedi cysylltu â phartneriaid perthnasol ar gyfer astudiaethau achos a nodau penodol/tymor hirach er mwyn dangos y gwaith sy’n cael ei wneud, fodd bynnag nodwyd y sylw a chytunwyd y gofynnir am yr elfennau penodol hyn gan grwpiau a phartneriaid perthnasol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar Opsiwn 1, sef nodi’r cynnydd a wnaed yn ail flwyddyn cyflawni ar Gynllun Llesiant Blaenau Gwent.

 

Dogfennau ategol: