Agenda item

Adroddiad Perfformiad Gwasanaethau Ieuenctid 2019 – 2020

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar waith y Gwasanaeth Ieuenctid, gan ddangos sut mae’r cyngor yn cyflawni ei ofynion statudol o ddarparu Gwasanaeth Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed a Gwasanaeth Cwnsela ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo, sy’n cynnwys diweddariad byr ar sut mae’r gwasanaeth wedi ailffocysu yn ystod pandemig Covid-19.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid a’r tîm ar yr holl waith a wnaethpwyd, yn arbennig yng nghyswllt y cymwysterau a enillwyd a’r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n dod yn NEET.

 

Dywedodd Aelod fod y Gwasanaethau Ieuenctid yn gwneud gwaith rhagorol yn yr amgylchiadau a chytunodd gyda sylwadau’r Cadeirydd ac ychwanegodd ei bod yn dda nodi rhan y Gwasanaethau Ieuenctid wrth gefnogi pobl ifanc i ennill cymwysterau.

 

Cododd yr Aelod bryderon am ddiwedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd a holodd os rhoddwyd ystyriaeth i ble i edrych am gyllid yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda gwahanol weithgorau i edrych ar gyllid yn dod o San Steffan i Gymru. Cynhelir trafodaethau gyda’r Gyfarwyddiaeth Adfywio a’r 10 awdurdod lleol ar draws Cymru fydd yn edrych am gyfleoedd i amlygu’r cyllid sydd ei angen a bod y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid hefyd yn cymryd rhan yn y trafodaethau hyn. Byddai cyllid yn dod i Gymru ond ar hyn o bryd mae’n aneglur sut y caiff y cyllid hwnnw ei flaenoriaethu. Teimlai ei bod yn bwysig cymryd rhan mewn trafodaethau rhanbarthol i gyflwyno’r ddadl am ba mor bwysig yw’r maes hwn o waith.

 

Yng nghyswllt colli cyllid o Gronfa Gymdeithasol Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd yn gyffredinol, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod hyn yn risg gwirioneddol. Mae Cyfarwyddwyr Addysg yn y 10 ardal awdurdod lleol yn unol â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae posibilrwydd amlwg y byddai’n flaenoriaeth fel rhan o’r Gronfa Rhannu Ffyniant yn y dyfodol. Er na chafodd hyn ei gadarnhau eto, gwyddai’r Cyfarwyddwr fod eiriolaeth yn digwydd ar y lefelau uchaf. Roedd colli cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn risg uchel ar Gofrestr y Gyfarwyddiaeth Addysg oherwydd y goblygiadau ar gyfer y Tîm Ieuenctid. Mae hefyd ar y Gofrestr Risg Corfforaethol.

 

Gan fod y Gwasanaeth Ieuenctid yn awr yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Hamdden o fewn yr Adran, gofynnodd Aelod os oedd gan Reolwr y Gwasanaeth Ieuenctid y capasiti i ateb galw’r llwyth gwaith ychwanegol. Yng nghyswllt capasiti o fewn y Gwasanaethau Ieuenctid, atebodd y Cyfarwyddwr Addysg y bu ailstrwythuro a chafodd swydd newydd, Pobl Ifanc a Phartneriaethau, ei chymeradwyo sy’n cwmpasu’r swyddogaeth cleient hamdden o fewn  Addysg. Byddai ailstrwythuro cam 2 fyddai’n galluogi capasiti i gefnogi’r Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid wrth drin ei phortffolio mawr o waith, gyda ffocws ar y bobl gywir gyda’r setiau sgiliau cywir i fedru rheoli’r Gwasanaethau Ieuenctid a hefyd y swyddogaeth cleient Hamdden.

 

Canmolodd Aelod arall yr adroddiad hefyd a theimlai fod y deilliannau dros y flwyddyn ddiwethaf gyda’r pandemig yn anhygoel, nid yn unig wrth gynnal y llwyddiant ond hyd yn oed ychwanegu ato.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu wedi ystyried ac yn derbyn yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd.

 

Dogfennau ategol: