Agenda item

Addysg – Strwythur Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cofnodion:

Ymunodd y Cynghorydd J. Hill â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 12, 14 a 15 , Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Mae’r adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i greu strwythur parhaol a threfniadau arweinyddiaeth ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg yn dilyn y penodiad i swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod egwyddorion yr adroddiad wedi eu seilio ar hybu strwythur cynaliadwy sydd â’r capasiti i gefnogi a chyflenwi gwell cyfleoedd bywyd ar gyfer plant a phobl ifanc, yn ogystal ag ystyried y newidiadau i’r portffolio Addysg yn gysylltiedig gydag ychwanegu y swyddogaeth cleient Hamdden.

 

Cafodd manylion pellach y strwythur arweinyddiaeth arfaethedig eu hamlinellu ym mharagraffau 2.4, 2.6, 2.7 a 2.8 yr adroddiad ac mae’r rhain yn cynnwys rôl newydd Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant, a fyddai’n gweithredu fel dirprwy i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ac a fyddai’n darparu capasiti gwella ysgolion ychwanegol. Rhoddwyd manylion swyddi Rheolwyr Gwasanaeth hefyd.

 

Yn nhermau’r ymgynghoriad, bu ymgynghoriad ffurfiol gyda’r undebau llafur a’r staff sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r trefniadau ailstrwythuro a chafodd barn ymgyngoreion eu hystyried o fewn yr adroddiad. Mae’r undeb llafur yn cefnogi’r egwyddorion strategol a amlinellir yn yr adroddiad ac mae’r staff wedi cydnabod yr angen i gryfhau’r arweinyddiaeth gyda’r Gyfarwyddiaeth Addysg ac yn llwyr gefnogol i’r strwythur a gynigir.

 

Nodwyd y cafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol ac wedi mynd drwy’r broses adolygu ‘gwirio a herio’. Yn ychwanegol, cafodd y strwythur arfaethedig ei feincnodi ar drefniadau arweinyddiaeth a rheoli tebyg mewn awdurdodau cyfagos a byddai’n rhoi arbediad net o tua £88,000 dros 5 mlynedd pe cymeradwyir y strwythur arfaethedig.

 

Ar hynny, gofynnwyd am farn Aelodau (a grynhoir islaw) a chafwyd ymateb y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg/Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Aelod Gweithredol Addysg.

 

-       Dechreuodd Arweinydd y Gr?p Llafur drwy ddweud nad oedd y sylwadau dilynol wedi eu cyfeirio at unrhyw un swyddog. Aeth ymlaen drwy ddweud fod ganddo amheuon dwfn am y strwythur arfaethedig a ymddangosai’n debyg i’r hyn oedd yn weithredol cyn 2015/16 (y flwyddyn y daeth y Cyngor allan o Fesurau Arbennig). Esboniodd fod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar yr elfen Cyfarwyddwr Corfforaethol, pan y dylai’r ffocws allweddol fod ar ysgolion o ran dysgu ac arweinyddiaeth. Ychwanegodd fod Estyn wedi canmol y Cyngor yn flaenorol am ganolbwyntio ar faterion craidd h.y. darparu addysgu a dysgu ar gyfer plant a dywedodd fod ganddo hefyd bryderon dwfn am gynnwys y swyddogaeth cleient Hamdden fel rhan o’r portffolio Addysg.

 

Daeth Arweinydd y Gr?p Llafur i ben drwy ddweud ei fod yn methu cefnogi’r adroddiad a dywedodd y byddia’n cyflwyno cynnig amgen ar yr adeg briodol.

 

-       Dywedwyd y cafodd cyfran fawr o gyllideb y Cyngor ei dyrannu ar gyfer dibenion Addysg a mynegwyd na chredwyd fod yr adroddiad yn ddigon pwysig i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu ac na aethpwyd drwy’r broses craffu. Dywedodd yr Aelod y teimlai fod hyn yn ymgais i arbed arian a gofynnodd i’r Aelod Gweithredol Addysg sut y byddai’r strwythur a gynigir o fudd i’r broses hunanarfarnu.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol fod angen a gydnabyddir i sefydlogi a chryfhau rôl gwella’r ysgol gyda’r arbenigedd perthnasol a bod Estyn hefyd wedi cydnabod fod hwn yn faes oedd angen ei ddatblygu ymhellach. Daeth yr Aelod Gweithredol i ben drwy ddweud y credai y byddai’r strwythur arfaethedig yn cyflawni’r nod yma.

 

-       Dywedodd Aelod y byddai mwy o angen ar gyfer y swyddi hyn pan fydd yr ymateb argyfwng i COVID-19 drosodd ac y byddai gan swyddogion yn sylweddol fwy o waith i’w wneud (yn arbennig y Rheolwr Gwasanaeth – Pobl Ifanc a Phartneriaethau) i helpu cefnogi plant yn dilyn effeithiau’r 9 mis diwethaf. Mynegodd ei bryder nad oedd y swyddi hyn ar raddfa uwch a theimlai fod hyn yn siomedig – dywedodd fod awdurdodau eraill yn defnyddio cytundeb tâl Soulbury.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y bu angen fel rhan o broses ‘gwirio a herio’ y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol i i feincnodi gyda swyddi tebyg o fewn yr awdurdod ac awdurdodau cyfagos. Yng nghyswllt swydd Rheolwr Gwasanaeth – Pobl Ifanc a Phartneriaethau, nid oedd unrhyw swyddi tebyg yn ardal ehangach Gwent, mae gan bob awdurdod lleol ei drefniadau pwrpasol ei hun ac nid oedd unrhyw swyddogion arall yn y rhanbarth sydd â chyfrifoldebau ychwanegol yn gysylltiedig gyda’r swyddogaeth Hamdden. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y radd cyflog a werthuswyd ar gyfer y swydd yn uwch nag ar gyfer swydd Rheolwr Ieuenctid mewn awdurdodau eraill cyfagos.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y rheswm pam na chafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yn y lle cyntaf, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y trefniadau adrodd democrataidd a amlinellwyd yng nghyfansoddiad y Cyngor angen i unrhyw adroddiad sydd angen cymeradwyo newidiadau strwythurol mawr gael ei ystyried gan y Cyngor. Defnyddiwyd yr un ymagwedd ar gyfer adroddiadau tebyg yn flaenorol. Ychwanegodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol na  chaiff newidiadau strwythurol i adrannau eu hystyried fel rhan o’r broses craffu, maent yn cael eu cyflwyno a’u hystyried gan y Cyngor fel bod Aelodau yn cael cyfle i drafod y cynigion yn llawn. 

 

-       Mynegodd Aelod arall hefyd ei bryder na chafodd Aelodau Craffu gyfle i ystyried yr adroddiad a gofyn cwestiynau. Dywedodd y dylai’r strwythur gael ei seilio ar ddarpariaeth dysgu effeithlon ar gyfer disgyblion yn cynnwys pwyslais ar Anghenion Dysgu Ychwanegol. Canmolodd staff addysgu am eu holl waith dros yr ychydig fisoedd anodd iawn diwethaf a dywedodd, cyn y pandemig, bod y bwlch rhwng prydau ysgol am ddim a darpariaeth ADY yn cael ei bontio. Fodd bynnag, yr adborth a gaiff yn awr yw fod disgyblion yn disgyn ymhellach ar ôl a bod y bwlch yn cynyddu – mae rhai teuluoedd yn cael anawsterau gydag addysg gartref. Daeth i ben drwy ddweud na chredai ei bod yn amser addas i ailstrwythuro, dylid cael data pellach fel y gallai’r cynnig hwn gael ei graffu yn gywir.

 

Cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol y sylwadau a wnaed gan yr Aelod a dywedodd ei bod yn flaenoriaeth i leihau’r effaith ar ddysgwyr yn ystod y sefyllfa bresennol. Ar hyn o bryd mae mwyafrif helaeth y dysgwyr yn derbyn dysgu o bell, fodd bynnag, cydnabuwyd y sylwadau am ysgol gartref/TGCh. Ychwanegodd y cynhaliwyd trafodaethau yn ddiweddar gyda’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) yng nghyswllt blaenoriaethau cynllun busnes y Cyngor a chadarnhaodd mai’r brif flaenoriaeth yw hybu cynnydd disgyblion.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei bod yn amserol iawn i ddod ag adroddiad ymlaen ar y pwynt hwn i sefydlu strwythur parhaol i greu ffocws cynaliadwy ar wella ysgolion a chynhwysiant gyda swyddog arweiniol penodol. Y ddarpariaeth arall fyddai strwythur heb fod yn barhaol am gyfnod o 18 mis.

 

-       Dywedodd Aelod arall y teimlai fod y cynnig yn fesur rhagweithiol i gefnogi ysgolion pan mae arfer busnes arferol yn ailddechrau.

 

-       Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod adroddiad Estyn 2015/2016 wedi dweud fod angen clir i ganolbwyntio ar addysgu a dysgu. Soniwyd am y sefyllfa bresennol yng nghyswllt achosion sy’n achosi pryder (h.y. cafodd dwy ysgol uwchradd eu gosod mewn Mesurau Arbennig ar hyn o bryd). Daeth Arweinydd y Gr?p Llafur i ben drwy ddweud y dylai arbenigydd addysg fod wedi ei benodi yn y lle cyntaf a gweddill y strwythur yn cael ei ddatblygu wedyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y strwythur arfaethedig yn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd gan y rheoleiddwyr ac yng nghyfarfod cyswllt nesaf yr awdurdod lleol gyda’r arolygwyr, oedd i ddigwydd ym mis Mawrth, cafodd diweddariad ar gapasiti gwella ysgolion ei gynnwys fel rhan o’r agenda hwnnw. Fe wnaeth hefyd ymateb i sylwadau a gafwyd mewn cyfarfodydd gyda Phenaethiaid Ysgolion ac ers ei benodiad roedd wedi hyrwyddo sicrhau capasiti ar gyfer gwella ysgolion. Nid oedd pwysigrwydd gwella ysgolion a hefyd gynhwysiant yn cael eu bychanu a byddai gan swydd newydd Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant gyfrifoldeb am y ddwy elfen yma.

 

Yn ychwanegol, oherwydd bod Estyn yn cymryd golwg gorfforaethol ar sut y caiff ysgolion a phobl ifanc eu cefnogi yn gyffredinol, byddai gan y swydd newydd hon rôl allweddol yn nhermau’r broses hunanarfarnu ar draws y Gyfarwyddiaeth Addysg ac yn cyfrannu at agweddau corfforaethol ehangach ar draws y Cyngor. Er bod 3 ysgol yn y categori ‘ysgolion yn achosi consyrn’ ar hyn o bryd, o gymharu gydag awdurdodau cyfagos, mae hyn yn dal i fod yn nifer cymharol isel a chadarnhaodd ei fod yn fodlon gyda’r cynnydd a wneir i fynd i’r afael â’r problemau yn yr ysgolion hyn. Fodd bynnag, nid oedd faint o waith sydd ei angen wrth symud ymlaen yn cael ei fychanu.

 

-       Ategodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei gonsyrn y dylai’r penodiad arbenigol fod wedi ei wneud yn gyntaf ac wedyn symud ymlaen gyda gweddill yr apwyntiadau yn cynnwys Cyfarwyddwr Corfforaethol. Dywedodd mai dim ond ar ddeiliannau seiliedig ar ganlyniadau mae ffocws ymweliadau cyswllt Estyn. Mynegodd bryder hefyd fod cynnwys y swyddogaeth Cleient Hamdden o fewn y gyfarwyddiaeth yn groes i argymhelliad Estyn o’r ymweliad monitro h.y. dim ond gyda swyddogaethau addysg y dylai’r portffolio ymwneud.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol na fedrwyd sicrhau capasiti gwell ysgolion ar sail interim, fodd bynnag roedd yn hyderus y medrid sicrhau penodiad parhaol pe cymeradwyid y strwythur newydd.

 

-       Dywedodd Aelod arall fod hwn yn adroddiad hollbwysig sy’n adlewyrchu perfformiad addysg a’r Cyngor yn gyffredinol. Mynegwyd pryder am gyflog y Swyddog Cynhwysiant newydd – rhagwelir Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd ym mis Medi ac roedd newidiadau mawr ar y gweill.

 

Dywedwyd hefyd y disgwylid i’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant weithio gyda phenaethiaid ysgol sydd â llawer o brofiad yn y maes addysgol,. Fodd bynnag, mae’r disgrifiad swydd yn dweud fod profiad ar lefel uwch yn ‘ddymunol’ pan oedd yn ‘hanfodol’ ar gyfer y swydd hon. Mynegwyd pryder bellach fod y ffocws yn cael ei roi ar arbedion posibl o £88,000, pryd y dylid gwneud buddsoddiad i recriwtio i’r swydd lefel uchel hon.

 

Yn ystod y cyfnod pan oedd y Cyngor mewn Mesurau Arbennig, roedd Estyn wedi asesu perfformiad ysgolion a sut y caiff ei drin. Dywedodd yr Aelod y teimlai nad dyma’r strwythur cywir ar gyfer trin ysgolion. Daeth i ben drwy ddweud fod hyn yn hollbwysig ac y byddai’n effeithio ar holl adrannau’r Cyngor ac os nad yw’r strwythur yn addas, gallai’r Cyngor unwaith eto gael ei ddodi mewn Mesurau Arbennig. Roedd angen ystyriaeth fanwl bellach er mwyn sicrhau fod y strwythur yn gywir ar gyfer y dyfodol.

 

Dechreuodd y Rheolwr Gyfarwyddwr drwy gadarnhau y cafodd yr un broses (h.y. y Cyngor Llawn yn ystyried adroddiadau) ei defnyddio’n flaenorol, pan fu newidiadau i strwythurau adrannol fel rhan o’r broses Adolygu Uwch Reolwyr. Yn ychwanegol, roedd y strwythur arfaethedig wedi mynd drwy’r un broses fewnol ag ailstrwythuro blaenorol er mwyn sicrhau y cymerwyd dull gweithredu cyson ar draws y sefydliad yn nhermau graddau cyflog a ddyrannwyd a lefelau cyfrifoldeb.

 

Bwriedid i’r strwythur arfaethedig drin y materion a godwyd yng nghyswllt cynyddu capasiti gwella ysgolion. Nodwyd y byddai’r ddarpariaeth ADY yn ffurfio rhan o gyfrifoldebau’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant. Daeth y Rheolwr Gyfarwyddwr i ben drwy ddweud fod Aelodau wedi ei gwneud yn glir yn flaenorol parthed yr angen i weithredu fel dull gweithredu corfforaethol un Cyngor a dywedodd fod gwella addysg yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol a’r Cyngor o hyn ymlaen.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei fod yn cefnogi’r dull corfforaethol ond nododd y dylai’r prif ffocws fod ar yr ystafell ddosbarth oherwydd y caiff y Cyngor ei farnu gan reoleiddwyr allanol.

 

-       Dywedodd Aelod arall fod Craffu yn anwleidyddol ac y dylai’r adroddiad hwn fod wedi mynd drwy’r broses graffu gywir i drin y pryderon a godwyd cyn i’r Cyngor eu hystyried. Roedd aelodau eisiau gwneud eu gorau glas ar gyfer plant Blaenau Gwent a symud ymlaen ar y cyd ar hyn. Dywedodd fod Arweinydd y Gr?p Llafur yn flaenorol wedi profi’r lefel o her pan osodwyd y Cyngor mewn Mesurau Arbennig, felly roedd angen brys i ganolbwyntio ar ddarpariaeth addysgu a dysgu ar gyfer plant.

 

Yn dilyn trafodaeth faith, dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur am y rhesymau a fynegwyd yn gynharach yn y ddadl na fyddai’r Gr?p Llafur yn cefnogi’r naill na’r llall o’r argymhellion a gyhoeddwyd gan fod y Gr?p yn parhau’n gryf o’r farn y rhoddwyd gormod o bwyslais ar yr elfen ‘Cyfawryddwr Corfforaethol’ yn y strwythur a dim digon ar yr elfen ‘Gwella Ysgolion’.

 

Roedd ychwanegu y swyddogaeth cleient Hamdden fel yr amlinellir ym mharagraff 2.4 yr adroddiad hefyd wedi achosi pryderon mawr ac yn anghydnaws gydag arolwg mawr diwethaf Estyn oedd yn canmol y Cyngor am dynnu swyddogaethau tebyg i arlwyo, cyllid ysgolion a chludiant ysgolion o’r gyfarwyddiaeth er mwyn canolbwyntio ar addysgu a dysgu.

 

Ar ôl cymryd rhan mewn brwydr hir i dynnu’r Cyngor allan o fesurau arbennig ni fedrai’r Gr?p Llafur gefnogi’r adroddiad, a chynigiodd argymhelliad amgen.

 

Bod yr adroddiad yn cael ei dynnu’n ôl a bod y Cyngor yn cynnal adolygiad gwraidd a changen o’r strwythur drwy weithgor traws-bleidiol, mewn cysylltiad gydag arbenigedd allanol i ddatblygu fframwaith gyda gwelliant ysgolion yn brif ffocws.

 

Eiliwyd y cynnig diwygiedig hwn.

 

Felly gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

O blaid y diwygiad - Cynghorwyr P. Baldwin, D. Bevan, M. Cross, P. Edwards, L. Elias, K. Hayden, H. McCarthy, J. Millard, J. C. Morgan, K. Pritchard, T. Sharrem, T. Smith, S. Thomas, H. Trollope, D. Wilkshire, B. Willis, L. Winnett.

 

Yn erbyn y diwygiad – Cynghorwyr J. Collins, M. Cook, N. Daniels, D. Davies, G. A. Davies, G. L. Davies, M. Day, D. Hancock, S. Healy, J. Hill, W. Hodgins, J. Holt, J. Mason, C. Meredith, L. Parsons, G. Paulsen, K. Rowson, B. Summers, B. Thomas, G. Thomas, J. Wilkins.

 

Ni chariwyd y bleidlais ar y diwygiad.

 

Felly cynigiwyd ac eiliwyd bod Opsiwn 1 (opsiwn a ffafrir) yn gael ei gymeradwyo a’i gefnogi. Gan nad oedd unrhyw Aelod a bleidleisiodd yn erbyn yr argymhelliad gyda diwygiad a gynigiwyd wedi ymatal rhag pleidleisio nid oedd angen pleidlais bellach wedi’i chofnodi a chariwyd Opsiwn 1.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud ag unrhyw unigolion, materion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) a gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw ymgynghoriadau neu negodiadau, neu ymgynghoriadau neu negodiadau a ystyrid, mewn cysylltiad ag unrhyw fater cysylltiadau llafur yn codi rhwng yr awdurdod neu Weinidog y Goron ac aelodau staff, neu ddeiliaid swyddi , dan yr awdurdod, a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

 

Cymeradwyo’r strwythur dilynol:

 

·         Sefydlu strwythur parhaol ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg fel y’i nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

·         Recriwtio i swydd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant ar unwaith.

 

·         Sicrhau trefniant tymor byr i gefnogi dyletswyddau swydd Pennaeth Gwella Ysgolion ar sail dros dro drwy drefniant neilltuol ar gyfer penaethiaid ysgol Blaenau Gwent.

 

·         Neilltuo’r swyddfa Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg a Phobl Ifanc a Phartneriaethau ac yn amodol ar weithdrefnau penodi Aelodau, yn unol ag egwyddorion SMR 1 & 2. Byddai arbediad refeniw net o tua £88,000 i’r gyllideb Portffolio Addysg.