Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg 2019/2020

Ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol yr adroddiad sy’n rhoi adolygiad gwrthrychol y Rheolwr Archwilio a Risg o system rheolaeth fewnol yr Awdurdod yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20, a barn archwilio blynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

Barn y Rheolwr Archwilio a Risg oedd bod system rheolaeth fanwl Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 wedi gweithredu i lefel sy’n rhoi sicrwydd rhesymol am ddigonolrwydd ac effeithlonrwydd cyffredinol fframwaith sefydliad llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth.

 

Wedyn aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, esboniodd y Swyddog y caiff yr atodiadau i’r adroddiad hefyd eu cynnwys yn yr eitem ddilynol ar yr agenda. Hwn oedd adroddiad blynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg, ac roedd ei barn yn seiliedig ar gyfuniad o waith a adroddwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor drwy adroddiadau cynnydd blynyddol y Cynllun Archwilio.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 2.2.3 yr adroddiad a theimlai y gellid camddehongli geiriad y paragraff, a dywedodd y Swyddog y byddai’n codi hyn gyda’r Rheolwr Archwilio a Risg.

 

Wedyn cyfeiriodd Aelod at adran 2.4.2 lle dywedodd ‘na amlygwyd unrhyw feysydd consyrn’, a dywedodd y byddai wedi credu fod bob amser feysydd lle gellid gwneud gwelliannau.

 

Mewn ymateb cytunodd y Swyddog fod bob amser feysydd ar gyfer gwella. Esboniodd fod yr adroddiadau cynnydd a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn gyffredin yn dynodi gwendidau a chamau gweithredu i Reolwyr i liniaru’r gwendidau hynny, ac wedyn cynhaliwyd archwiliad dilynol i sicrhau yr aethpwyd i’r afael â’r camau gweithredu. Fodd bynnag, yn nhermau barn y Rheolwr Archwilio a Risg ar gyfer 2019/20, ni ddynodwyd unrhyw dueddiadau neu feysydd consyrn a ddynodwyd fyddai’n effeithio ar ei barn archwilio.

 

Cyfeiriodd Aelod at ddatganiadau cyfrifon eraill blaenorol nad oedd wedi eu llofnodi a gofynnodd os digwyddodd hynny erbyn hyn.

 

Cadarnhaodd Swyddog Archwilio Cymru y llofnodwyd cyfrifon blaenorol Blaenau Gwent hyd at 2018/19 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 26 Tachwedd 2020; a chaiff Cyfrifon 2019/20 eu llofnodi yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ddiffyg Archwilydd TG, dywedodd y Swyddog y caiff hyn ei gydnabod a’i ddogfennu yn y gofrestr risg gwasanaeth. Nid oedd yn unigryw i Flaenau Gwent ac nid oedd gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol Archwilwyr TG arbenigol. Fodd bynnag rhoddodd sicrwydd fod staff o fewn y tîm sy’n gymwys iawn gyda TG.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chydnabod barn archwilio blynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg, fel y’i manylir ym mharagraffau 1.1. a 3.3, sef:

 

  • Bod  yr asesiadau archwilio a gynhaliwyd yn rhoi sylw i amrywiaeth o weithgareddau ac yn ddangosydd rhesymol o lefel y sicrwydd ar gyfer yr Awdurdod; fodd bynnag, ni allant roi sylw cyflawn a chydnabyddir nad yw’r gweithdrefnau sicrwydd ar eu pen eu hunain yn gwarantu y caiff yr holl risgiau sylweddol eu canfod.
  • Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r gwaith archwilio a gynhaliwyd yn ystod 2019/20 a’r gwelliant parhaus yn fframwaith llywodraethiant y Bwrdd a’r amgylchedd rheoli mewnol, yn fy marn i, mae system Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent o reolaeth fewnol yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 yn gweithredu i lefel sy’n rhoi sicrwydd rhesymol ar ddigonolrwydd ac effeithlonrwydd cyffredinol fframwaith llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth y sefydliad.

 

Dogfennau ategol: