Agenda item

Rheoli Lleoedd Disgyblion a’r Stad Ysgolion 2019/20

Ystyried adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar reoli lleoedd disgyblion a’r stad ysgolion ar hyd sesiwn academaidd 2019/20.

 

Siaradodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod am y lleoedd dros ben yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg a’r gostyngiad mewn ffigurau ar gyfer addysg Gymraeg mewn ysgolion cynradd a gofynnodd os caiff yr wybodaeth hon ei cynnwys yn y ddogfen ymgynghori. Dywedodd nad oedd nifer ddigonol o ystafelloedd dosbarth yn Ysgol Pen-y-cwm ar gyfer y disgyblion oedd yno eto roedd lleoedd gwag mewn ysgolion cynradd arall. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod y ddogfen ymgynghori yn dangos cyd-destun nifer a thueddiadau disgyblion Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Hi oedd yr unig ysgol gynradd Gymraeg bryd hynny ac mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am hyrwyddo galw a thwf. I ddechrau bu materion yn ymwneud â safonau a amlygwyd yn arolwg Estyn ond mae’r ysgol wedi gwella’n sylweddol ac mae nifer y disgyblion wedi cynyddu ac yn tyfu flwyddyn ar flwyddyn yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo gyda’r sector Blynyddoedd Cynnar i wella darpariaeth opsiynau gofal plant cyfrwng Cymraeg gyda golwg ar ddenu galw pellach yn arbennig yn y gr?p oedran meithrin a dosbarth derbyn. Bu’n daith wella sylweddol ac mae’r Awdurdod yn ystyried sut i reoli’r lleoedd gwag o fewn Ysgol Gymraeg Bro Helyg i sicrhau digonolrwydd yn y tymor canol i’r hirdymor yn unol gyda’r potensial am alw cynyddol.

 

Yng nghyswllt Ebwy Fawr, cynhaliwyd adolygiad o gapasiti ysgol Pen-y-Cwm ond gan fod nifer disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol a bod yr ysgol wedi gorfod ailweithio ei gweithgareddau, mae angen cynnal adolygiad pellach graddfa lawn o fewn yr ysgol i edrych ar ailgyflwyno’r amgylchedd dysgu a’r capasiti ychwanegol y gallant ei angen yn unol â rhagamcanion posibl. Datblygwyd dogfen ymgynghori gyda drafft ddyluniad a rhestr ystafelloedd i drin anghenion ysgol Pen-y-Cwm yn y tymor byr i’r tymor canol, byddai’r datblygiadau hirdymor yn cynnwys defnydd posibl agweddau o safle cynradd Ebwy Fawr. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt ac mae’r tîm yn edrych ar gyflwyno cynigion i gynyddu capasiti ac felly y gofod o fewn ysgol Pen-Cwm yn gynnar yn 2021.

 

Dywedodd Aelod y bu nifer o alw nag o leoedd ar gael mewn nifer o ysgolion flwyddyn ar flwyddyn, roedd rhai oherwydd mewnlif sylweddol o ddisgyblion o ddatblygiadau preswyl newydd yn y dalgylch a holodd os yw hyn yn cael ei drin ac a roddir ystyriaeth i gynnydd sylweddol mewn rhagamcanion disgyblion wrth ddylunio ysgolion newydd. Esboniodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg sut y cynhelir y rhagamcanion, mae fformiwla wedi sefydlu ac mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’r Adran Cynllunio i ffactora datblygiadau tai ac yn y blaen.

 

Y setiau rhagamcanion oedd:

·         Datblygiadau heb eu cymeradwyo eto (yn cynnwys edrych ar gyfraniadau datblygydd Adran 106 i ddarparu ar gyfer cynyddu capasiti)

·         Datblygiadau a gymeradwywyd (yn cynnwys ceisio sicrhau cyfraniadau Adran 106 gan ddatblygwyr i gefnogi cynyddu capasiti)

·         Data genedigaethau a thueddiadau.

 

Yng nghyswllt dyluniad ac ystafelloedd Ysgol Gynradd Glyncoed, roedd y tîm wedi gweithio’n agos gyda’r Adran Cynllunio ac ar hyn o bryd mae capasiti i ddarparu ar gyfer galw cynyddol posibl yn y dyfodol. Roedd hefyd gynllunio strategol yn cael ei adolygu’n rheolaidd i asesu unrhyw effaith bosibl i sicrhau y gellir darparu ar gyfer nifer disgyblion yn y dyfodol.

 

Dywedodd yr Aelod y defnyddiwyd Adran 106 yn fanteisiol iawn yn ysgol Georgetown ar gyfer offer chwarae newydd yn iard yr ysgol a hefyd yn y maes chwarae lleol a gobeithiai y byddai defnydd Adran 106 yn parhau.

 

Hysbysodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg yr Aelodau eu bod yn edrych ar gynnal adolygiad dalgylchoedd ac yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Polisi a Pherfformiad i edrych ar ddata i ystyried sut i adolygu’r dalgylchoedd ac yn gobeithio cyflwyno ymgynghoriad statudol yn nhymor yr haf o amgylch yr adolygiad o ddalgylchoedd ysgolion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am Adran 106 a sut y gellir ei ddefnyddio, esboniodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y caiff ffurflen asesu ei llenwi bob tro y cyflwynir datblygiad cynllunio. Defnyddid y fformiwla sefydledig yn seiliedig ar nifer yr anheddau ac effaith bosibl nifer disgyblion a fyddai’n deillio ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Cyflwynir y ffurflen i’r Adran Cynllunio i ystyried yr effaith bosibl ar ysgolion. Mewn rhai achosion roedd lefelau uchel o effaith ac mewn achosion eraill ddim neu fawr o effaith; caiff hyn ei fonitro drwy’r stad ysgolion. Cynhelir cyfarfodydd misol gyda’r Adran Cynllunio i edrych ar ddatblygiadau a’r effaith ar ysgolion ac edrych os oes materion hyfywedd ariannol ar gyfer datblygwyr a hefyd os oedd capasiti digonol ai peidio o fewn ysgolion i ddarparu ar gyfer y disgyblion. Awgrymodd y Swyddog y gallai ddarparu adroddiad ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol i roi manylion sut y gweithiai’r Gyfarwyddiaeth o amgylch datblygiadau Adran 106 i’w cynnwys i gynllunio lleoedd disgyblion ac o fewn prosesau trefniadaeth strategol ysgolion.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu’r adolygiad o’r dalgylchoedd gan y teimlai y byddai’n helpu i liniaru problemau digonolrwydd mewn rhai ysgolion ac yn helpu i asesu nifer y disgyblion sydd eu hangen mewn gwahanol ysgolion.

 

Yng nghyswllt Adran 106, cododd Aelod bryderon am ddatblygwyr newydd a’u cyfraniadau. Dywedodd y teimlai ei bod yn bwysig sicrhau fod pob datblygwr yn cyfrannu’n deg a bod cytundebau Adran 106 yn parhau.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg at y flaenraglen gwaith ac adroddiadau ar yr adolygiad o gapasiti yn Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm a Chytundebau Adran 106 a gyflwynir i gyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a  Dysgu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: