Agenda item

Cynnig Ymgynghori ar Addysg Cyfrwng Cymraeg

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd a’r Cynghorwyr J.C. Morgan a T. Smith fuddiant yn yr eitem ddilynol ac ar ôl cael cyngor gan y Swyddog Monitro, fe wnaethant aros yn y cyfarfod. Felly cymerodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd J. Holt, y gadair.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a ofynnwyd i ofyn am farn y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yng nghyswllt y cynnig i ymgynghori ar greu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd gyda 210 lle yn ardal Tredegar/Cwm Sirhywi.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Byddai’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yn ymgyngoreion statudol ar y cynnig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod parthed y £6.2m a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y gwnaed y dyraniad ar sail ‘mewn egwyddor’ ac y cafodd ei glustnodi ar gyfer y cynllun hwn. Bu dialog ddiweddar gyda Llywodraeth Cymru yn dweud fod y dyraniad yn dal i fod ar gael i’w ddefnyddio o fewn Blaenau Gwent, yn amodol ar yr ymgynghoriad. Roedd gan yr Aelod bryderon, pe byddai’r ymgynghoriad yn mynd yn erbyn y cynnig, y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn am y £6.2m yn ôl. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y tîm Trawsnewid Addysg wedi gwneud llawer o waith i gael mynediad i’r cyllid cyfalaf, a’i bod yn amlwg yn flaenoriaeth o fewn y Cynllun Strategol Addysg Gymraeg i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i gyflawni goblygiadau statudol. Mae bellach angen gofyn yn ffurfiol am sylwadau rhanddeiliaid fel rhan o’r broes ymgynghori cyn symud ymlaen yn ffurfiol â’r cynnig.

 

Holodd Aelod os byddai’r ysgol yn cael ei adeiladu mewn cyfnodau gan mai dim ond 48 lle a ddefnyddid i ddechrau gan arwain at 210 lle dros y chwe mlynedd nesaf. Dywedodd y Cyfarwyddwr, yn amodol ar gymeradwyo’r cynnig, bod Gwasanaethau Technegol wedi dweud y byddai’n well o safbwynt cost cyfalaf i gael un contract ar gyfer adeiladu’r ysgol ac wedyn agweddau agored o’r ysgol wrth i’r capasiti gynyddu.

 

Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg bod cyfleoedd ar gyfer cyflwyno camau yr edrychir arnynt, ac yn amodol ar ganlyniad y prosesau statudol, ystyrid dadansoddiad manwl o amgylch y costau a’r buddion yn gysylltiedig gyda chyflwyno mewn cyfnodau a datblygu’r cynnig.

 

Yng nghyswllt y gwaith ymchwilio safle a wnaed eisoes, holodd Aelod am y gyllideb ar gyfer y gweithiau hynny. Esboniodd y Cyfarwyddwr y cafodd y costau hynny eu codi yn erbyn y rhaglen Cyfalaf Addysg a’u bod yn gostau isel iawn h.y. ymchwiliadau mwyngloddio ac astudiaethau bwrdd gwaith y byddid yn eu hail-godi i’r gost gyfalaf yn gysylltiedig gyda’r cynllun.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn cefnogi’r ymgynghoriad o hyn ymlaen a dim ond ar ôl rhoi ffeithiau gerbron Aelodau y gellid gwneud penderfyniad am y cynnig.

 

Dywedodd Aelod arall ei fod yn cefnogi’r ymgynghoriad a gobeithiai y’i cynhelid ar draws Blaenau Gwent gyda phob ysgol a staff a rhieni’n cymryd rhan. Dywedodd mai un peth yw adnoddau cyfalaf i adeiladu’r sector, ond roedd ganddo bryderon am gostau refeniw a’r effaith ar y Gyllideb Ysgolion Unigol.

 

Roedd Aelod arall hefyd yn cefnogi’r ymgynghoriad i gasglu barn y gymuned ehangach gan y byddai’r safle arfaethedig yn effeithio mwy ar rai cymunedau ag eraill. Gwnaeth y pwynt y bu adroddiad am yr ymgynghoriad eisoes yn South Wales Argus oedd wedi achosi rhai pryderon.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y byddai’r ymgynghoriad ar draws y fwrdeistref sirol gyda chyfle i fwydo sylwadau cymunedau lleol i’r ymgynghoriad a byddai hefyd yn cynnwys barn awdurdodau cyfagos gan fod darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar sail ranbarthol. Rhoddodd sicrwydd i’r Aelod na fyddai’r ymgynghoriad ffurfiol, os caiff ei gymeradwyo, yn dechrau tan 17 Rhagfyr 2020. Byddai’r erthygl yn y wasg wedi bod yng nghyswllt yr adroddiad oedd ar yr agenda ar gyfer heddiw.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr ymgynghoriad a holodd os y cynhwysid llywodraethwyr ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod ymgynghoriad gyda llywodraethwyr ysgol yn rhan allweddol o unrhyw broses ymgynghori statudol yn gysylltiedig gyda threfniadaeth ysgolion ac y gellid cynnal cyfarfodydd ymgynghori rhithiol yn ystod y cyfnod ymgynghori. Cadarnhaodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg, fel y manylir yn y ddogfen ymgynghori, y gellir trefnu unrhyw geisiadau ar gyfer sesiynau ymgysylltu rhithiol.

 

Yng nghyswllt y cyfnod ymgynghori o 20 diwrnod, holodd Aelod os byddai hyn yn cael ei ymestyn pe bai ysgolion mewn cyfnod clo ym mis Ionawr. Dywedodd y Cyfarwyddwr y rhagwelir y byddai Llywodraeth Cymru yn glir y byddai ysgolion yn agor yn swyddogol ym mis Ionawr, hyd yn oed os oeddent yn gweithio o amgylch dysgu o bell a dysgu cyfunol. Byddai ymgynghoriad yn wahanol y tro hwn oherwydd sefyllfa COVID-19, gellir cynnull cyfarfodydd wyneb i wyneb os yw’n ddiogel gwneud hynny. Fodd bynnag rhagwelid y byddai Ionawr yn amser anodd yn nhermau achosion COVID-19 ac y cynhelid y rhan fwyaf o gyfarfodydd yn rhithiol.

 

Ar ôl datgan buddiant yn yr eitem fel llywodraethwr ysgol, dywedodd yr Aelod os oes ymgynghoriad gyda llywodraethwyr ysgol yna y dylai fod ymgynghoriad gyda staff ysgolion a phenaethiaid ysgol o fewn y Fwrdeistref ac ardal Tredegar. Holodd lle byddai Aelodau yn sefyll yn yr ymgynghoriad yn y dyfodol gan fod yn Aelod Craffu ar y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a hefyd yn llywodraethwr ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr, o ymgynghoriadau blaenorol, bod Aelodau a fu ar y Pwyllgorau Craffu ac ar gyrff llywodraethu wedi cymryd rhan a chynnig eu safbwyntiau a’u barn am y cynnig. Roedd Aelodau wedi gwirio hyn gyda’r Swyddog Monitro cyn y cyfarfod a dywedodd na fyddai hyn yn eithrio Aelodau rhag cynnig sylwadau fel Llywodraethwyr ac fel cynrychiolwyr ar y Pwyllgor Craffu yn nhermau’r cynnig cyffredinol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef derbyn yr adroddiad, y ddogfen gysylltiedig a’r llwybr gweithredu.

 

Dogfennau ategol: